Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I Gorea Cympo, yp ua Oddieartve

i 1 Basgedaid o'r Wlad. i

Advertising

Advertising
Cite
Share

Joseph Johnson, gr ymroddgar gyda phob achos da, a chefnogwr diail i'r Ysgol Sul. Talwyd gwrogaeth uchel iddo am waith y cyfarfod ac am y Roll. Y 'Ffeiriad ar y Briffordd.Dyrna beth newydd yn y Ile--hollol newydd ar y Clawdd, aef gweld ffeiriad yn ei grys ar y briffordd. Dnw'n rhwydd i giwrad Southsea. Hwdiwoh eioh Darlun.-Peth rhyfedd yw Aoi darlun i ddyn ohono'i hun ond felly y dangosoddswyddogion y WestminsterColliery eu. parch i Mr. Thomas Davies, Brynteg, uno'i eyd-swyddogioy, y dydd o'r blaen. Gan fod Mr.Davies yn yraadael,hwyraeh mai doethach M cadw'r darlun fel coffa ohono ond hwyrach fod darlun cyflawn ohono ymhob mynwes. Cyflwynwyd yr anrheg gan y goruchwyliwr newydd, Mr. Edward Davies, dilynydd y diweddar wr hynaws, Mr. Elis Ifans. Diolehodd Mr. Davies yn gynnes am y datganiad hwn o'u serch. Melys fo'i saib Well done Bryn Baw.-Dywedir fod gweithwyr y Gwaith Dur ym Mrymbo wedi cyfrannu tro& ddwy fil o bunnau at y rhyfe I, £2,319. Dyma swm anrhydeddus iawn. Qobeithio na fydd y cyfraniadau tuagat achosion erefydd yn y lie ddim yn llai o'r herwydd. Credaf na fyddant, oblegid ni fyddai hynny ond ysbeilio Paul i helpu Alexander. Pwy all gyfrif y ewbl sydd wede i gyfrannu at holl achosion dyngarol ynglyn a'r rhyfel ? Peidied neb mwy a dweyd nad oes anan yn y wlad, ac na all pobl fforddio rhoi at grefydd a phethau cyaylltiol. Fe chwardd y rhyfel presennol fil o wag-esgusodion allan o'r wlad. Gweilch y Gwyll.-Rhydd y tywyllwch presennol, drwy'r Lighting Regulations, gyfle a weilch yr ardaloedd ymhyfu yn eu hannuw. ioldeb. Ceir meddwon ar hyd y He yn defn- qddio iaith Gehennaidd ac yn berygl i'r trigolion, oblegid na ellir yn hawdd eu had. nabod. Wedi cau o'r dafam, tyrrant ynghyd ar yr heolydd, as anodd yw i neb fyned heibio heb ddyfod i gyffyrddiad perygl- us a hwy. Rhaid gweini cosb drom ar rai fel vgwers i eraill, Tra y megir glewion draw ar y maes, megir cythreuliaid yn y tywyllwch gartref. Anfri ar y Brenin.-Cyhuddir mynychwyr y Cinemas o anfoesgarwch at y Brenin Siors, trwy fod yn ddiystyr a difater o'r Anthem Duw gadwo'r Brenin, Dywedir na fydd neb yn y Cinemas yn arcs i'w chanu, ond y cyfyd pawb, gan wneud am y drws. Hwyrach mai said gweddaidd hyn, ond beth a ddisgwylir gan boblach o'r fath ? Ond, atolwg, sut y gwneir yn y Cysegr ar y Saboth, pan gyhoeddir y Fendith Apostolaidd ? Fel rheol, chwilir am het, a gwneir am y drysau. Onid yw hyn, bobl annwyl, yn anfri ar y Brenin Mawr ? Os diystyr ydym o fri y Brenin Mawr, pa iryfedd y cyll y brenhinoedd bychain eu parch ? Troi yn ei ol am (.?ro.- Cyfeiriodd y Parch. Gwilym Thomas, Brymbo gynt, ei gamre yn ei ol tua'i hen gynhefin yr wythnos ddiweddaf. Da oedd gan bawb ei weld. Rhyfedd fel y mae'r ymadawedigion yn leicio picio i'r hen le. Nid maith Tu arhosiad Mr. Thomas ar yr Clawdd cyn y croesodd, ond ca groesi'n ol o hyd. Brysied yma eto. Morgan Elis yng Ngharohar.—Hen gymer- ad ardderchog yng nghyffiniau'r Clawdd yw Morgan Elis! A o amgylch a'i enw a'i hanes yn argraffedig ar ei fynwes. Cymro glan gloew yw, wedi ei anafu yn dott, medd ef, ym rorwydrau De Affriea. Tyn sylw pawb trwy I -ei ystum herclyd a'i ddiwyg rhyfedd. Bu yn y Tloty y dydd o'r blaen dan driniaeth feddygol; ac ar ei ddyfodiad allan, talodd am ei le trwy faluno rhai o ffenectri'r adeilad. Gwysiwyd ef i garchar am ddeufis gyda llafur oaled. Dywedir mai hon oedd ei ganfed ym- ddangosiad gerbron y llys. Comisiwn y Meddyg.—Deallir fod Meddyg Jechfd y dref, set tref Gwrecsam, ar fin derbyn Oomisiwn yn y R.A.M.C. Bachgen ar i fyny yw'r Dr. T. W. Jones. Bydd, ac y rnae, yn gafiaeliad mawr yn y gyflerfan erchyll hon. ar Ar bwy y mae eisiau esgid ?—Gosodwyd ar Attendance Officer Gwrecsam i wneud rhe&tr o'r rhai ag arnynt angen am esgidiau i wynebu'r gaeaf. Da iawn. Hyfrydwch yw gweld fodpwyllgor addysg y dref yn edrych ar 101 dau ben yr ysgolheigrioa, nid yn uWg rhoi addysg yn eu pennau, ond hefyd esgidiau am eu -raed. Nid oes dim gwell na chael understanding da. Dau ym mhen un.-Brochir am fod llanc yn un o ysgolion y dref wedi cael ymosod arno gan ddau, sef y meistr a'r is-feistr. Codir y cwestiwn a yw hyn yn humane, rheolaidd a chyfreithiol. Ymchwilir i'r peth. Daw ad. roddiad, hwyraoh, maes o law, a cheir gweld sut y saif pethau. Rhaid tynnu'r llinell yn rhywle ar ddefnyddio y gwiail. Ond y mae pethau yn llawer gwell yn yr ysgolion heddyw na-? y buont. Cof cynnes iawn sydd gan yr Hutyn am a fu. l Uchelwyliau'r Clawdd.—Llangollen (M.C.) y Parchn. Thop. Williams, Caergybl, a W. M. Jones, IJansantffraid. Bhosrobin (A.), y Parchn. W. Thomas a J. T. Miles, M.A., Gwrecsam. Plas Benion (E.L.), y Parch. David Williams, B.A., Rhosymedre. Brough- ton (B.), y Parch. Thomas Morgan, yr Wydd- grug (M.C.), y Parch. J. B. Hughes, Moss. Cymau (M.C.), y Parch. J. Glyn Davies, Rossett. Gwrecsam (M.C.), y Parch. W. Wynn Davies, Rhos. Glanrafon (E.L.), y Parchn. J. W. Lloyd, Broughton, a Mostyn Davies, Gwrecram. Holt (M.C.), y Parch. Thos. Davies, Smithfield, Gwrecsam. a D. W. Elias, Gwrecsam. Eyton (Salem), y Parch. W. Bayley Roberts, Rhos. Penyffordd (M.C.), y Parch. W. Bayley Roberts, Rhos. Llen y Clawdd.-Coedpoet-h (M.C.)—As- tudir y flwyddyn hon y llyfr ar Berson Crist gan y Proff. R. Morris, M.A., Bala yr athro yw'r gweinidog, y Parch. W. J. Jones. Brymbo (C.)—darllenwyd papur rhagorol o flaen y Gyxndeitl, as Lenyddol gan y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, ar Ddylanwad y rhyfel ar yr Eglwysi. Llywydd, y Parch. Talwm Jones. Tanyfron (W.)-astudir y flwyddyn hon yr Epistol at y Philipiaid y gweinidog yw'r llywydd. (Cana)—caed pap- ur da ar Ffyddlondeb i dy yr Arglwydd gan D. Humphreys. Glanrafon (M.C.)-darllen- wyd papur gan Mr. Holmes ar y mater A yw rhyfel yn Uesiant ? cyfarfod llwyddiannus. Llangollen j traddododd Ap Collen anerchiad penigamp o flaen y Gymdeithas hon ar Natur ym Marddoniaeth Cyrrmi. Cadeiriwyd yn fedrus gan Ddewi Clwyd. ——o L T H N ;? O U", F ua i "i*2/S«r\d For CATALOGUE Fre