Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I Rhediad y Rhyfel.

News
Cite
Share

I Rhediad y Rhyfel. PAIR Rumania bryder i'r Cyngheiriaid y dyddiau hyn. Y gelynion yw'r ymosodwyr yno. Gorfu i'r Rumaniaid a'r Rwsiaid encilio o flaen byddin Mackensen yn Dob- rudja. Syrthiodd porthladd pwysig Con- stanza, gyda chryn anrhaith y mae He i ofni, i (ddwylo'r gelyn. A ehollodd Rwda a Rumania un o'r ffyrdd goreu a'u cysylltai. Collodd y Rumaniaid hefyd eu gafael ar bont fawr Cerna Voda, yr un bont a gysyllfcai Rumania briodol a Dobrudja dros y Danube, ond nid cyn chwythu un pen iddi i fyny, a'i gwneuthur yn ddifudd i'r gelyn. Eheiliodd byddin Rumania a Rwsia i'r gogledd, heb gynnyg croesi'r bont, adydd Sadwrn darllen- em fod byddin Mackensen rhyw 25 milltir i'r gogledd i'r bont enwog, ac Hirsova yn eu meddiant. Saif Hirsova ar lecyn y medr y gelyn groesi'r Danube heb ei Iesteirio a'r morfeydd a'r siglennydd sydd mor nodwedd- iadol o'r afon honno. Y cwestiwn ydyw, A faidd gynnyg croesi, ac o gynnyg llwyddo ? Beth hefyd am fyddin y Cynghreiriaid ? A fedr hi atal rhutur y gelyn ymhellach ac oni fedr, a all groesi'r afon yn uwch i fyny'n ddiogel ? Rhaid aros am ateb. Er pwysiced Dobrudja, nid yw 6 bell mar bwysig a therfynau Transylvania. Y mae'r newyddion o'r rraesnwn, pan jgprif- ennwn, yn dra chalonocol. Agos Allob. pwynt yma, caiff y Rumaniaid y goreu ar y gelyn. Y mae eu safle hwy beddyw'n llai peryglus nag oedd wythnos yn ol, a daw llwyddianfc y gelyn yn fwy amheua yn feu- nyddiol. Y mae deg o adwyau drwy'r Car. pathiaid yn eysylltu Transylvania a Rumania, -acheisiargelynouhennilligyd. Llwyddodd i raddau mawr ym mhedwar ohonynt, ac aeth drwy o leiaf ddau, ac i mewn tua chwe milltir i diriogaeth Rumania. Ond gyrrwyd ef yn ol ddyddGweneraruno'rpwyntiauhyn, ac er yr honna iddo ennill tir ar y pwynt arall, nid yw eto o fewn cyrraedd y ffyrdionnau olew a'r cyflenwad o fwydydd y mawr chwennych am. danynt. Pa fodd hynnag, hyd oni orchfyger y gelyn yma, ni fydd na phrif adnoddau na phrif ddinas Rumania'n ddicgel. Ceisia'r gelyn nid yn unig feddiannu olew, ydau, cig a braster Rumania, ond ymwthio rhwng byddinoedd Rwsia a Rumania. Pe llwyddai. yn hyn, gallai fynd tu ol i fyddin Letchitzky yn y Bukowina a chanlyniadau alaethus i'r holl linell Rwsiaidd i ddehau'r afon Pripet. Hynsy'n cyfrif am ymosidiad ffyrnig y gelyn ar lannau'r Bystritza, yn rhanbarth Donna Yatra, He y mae'r frwydr yn amhenderfynol. Er mor galonogol ar y cyfan yw'r newyddion o gyffiniau Transylvania, nid yw safle'r Cyng- hreiriaid eto uwchlaw pryder. Ond y mae I' amser o'u tu hwy ac yn erbyn y gelyn. Dar. llenem ddydd Sadwrn diweddaf am y cymorth cyfamserol a gafodd Rumania mewn 132 o awyrlongau, pedair ohonynt yn eiddo Pry- dain, a'r lleill yn eiddo Ffrainc. Heblaw amddiffyn Bucharest, a flinid yn feunyddiol gan awyrlongau'r gelyn, bydd y retain yn llygaid i fyddin Rumania, gan ychwanegu'n fawr at ei heffeitaiolrwydd. Wrth beratoi byddin i ymisod ar y Rumaniaid gwanhaodd yr Ellmyn eu rhengau yn Ffrainc a chanlyn- iadau alaethus iddynt. Collasant mewn pum awr yn ardal Verdun a gym rodd iddynt bum mis i.w ennill a chost enfawr. Ac y mae dau beth yn dra arwyddocaol. Gorchfygwyd pum adran o'r Ellmyn yn gymharol hawdd gan dair adran o'r Ffrancod a metha'r Ellmyn adennill modfedd o'r tir a gollasant, er eu hjrmdrechion ffyrnig yn hytrach, collant fwy o dir yn barhaus. Rhagolygon prudd sydd i'r gelyn ar lannau'r Meuse. tn.ill tir yn araf a sicr y mae'r Cynghreiriaid yn rhanbarth y Somme, er fod y tywydd yn eu herbyn yn fawr. Y mae'r rhanbarth hwn yn un siglen, a'r pyllau a wna'r bomau yn llyn- noedd dwfr. Gwir llythrennol yma yw dihareb y Sais, stuck in the mud. Tynnir milwyr o'r llaid pludiog ag anhawster, a gadewir eraill ynddo hyd amser mwy cyf- addas. Daw i ni o'r meysydd gwlyb a lleidiog alwad daer ar i'n merched tyner eu calon a medrus eu bysedd ddarpar dillad clyd i'n bechgyn dewr ar gyfer y gaeaf ac ni ddychwel yr alwad yno'n wag. Llwyddo a wna'r Cynghreiriaid ym Macedonia a'r Alpau. Erys yr ymdrech rhwng y Rwsiaid a'r gelynion bron yn ei hunfan ers tro yn y Go rile win a'r Dwyrain. Go dawel yw pethau ym Mesopotamia, ao ar derfynaw'r Aifft, Wedi ei fethiant hir i'n niweidio a'i longau tanforawl, Be i lawer ohonynt gael eu gwely yn y gwaelod, gwnaeth y gelyn gynnyg beiddgar nos Iau ddiweddaf i ddinistrio am dymor, os nad unwaith am byth, ffordd ddiogel ein trafnidiaeth dros y Sianel i Ffrainc. I'r perwyl hwnnw anfonodd allan ddeg o'i longau dinistriol, ac yn wobr sudd. wyd dwy ohonynt, a gyrrwyd y Heill ar ffo am eu hoedi. Ond collasom ni un llong ddinistr- iol, ac anafwyd un arall. Suddwyd hefyd y Hong transport waf, y Queen, ond achubwyd pawb o'r dwylo. Suddir nifer fawr p lQi,gau;r galluo^dd, amhleidiol yn y modd mwyaf didrugaredd gan longau tanforawl y gelyn ac y mae'r gelyn wedi gosod ei longau tan- forawl i warchae ar borthladd prifddinas Norway. Nid yw'n malio dim am hawliau dyn na Duw, os tybia eu bod yn rhwystr i'w raib a'i raid. Ei gyswynair ysbrydoledig yw, Nid oes i raid ddeddf." Ond daw amser y bydd yn rhaid iddo ef blygu i ddeddf. -0-

Clep y Clawdd I

Advertising