Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Ffetan y Gol. I

tin tedl ym Maneeinion.

----- IBasgedaid o'r Wlad.I

News
Cite
Share

I Basgedaid o'r Wlad. I WRTH ALLOR PONT LLYJM.—Ym Mhonl; llyfni, Hydref 17, priodwyd y Preifat J. M. Roberts Llanllyfni (ar hyn o bryd yn y Werddon) a Miss F. A. Roberts Braich melyn, athrawes yn Ysgol Gyngor Bryn aerau y Parch. D. Davies (B.) yn gweinyddu. Yn bresennol yr oedd y Parch. H. M. Roberts, Rhiw, Rhuthyn Mr. W. Roberts (tad) a Mr. Isaac Roberts (brawd), De Cymru Miss M. Owen, Penrallt Miss M. Ivey, Mr. G. Llew. Griffith, Mr. H. Hughes. Wedi'r seremoni, mwynhawyd y wledd brioclas yn nhy Mr. R. Ivey, llyfr-rwymydd, Pen y groes. Os yw'r oerwynt ar y mynydd, Os yw'r barrug ar y ddol, Nid yw cariad byth yn ofni, Nae am gilio cam yn ol. .Blin i'r Ilane fu swn y rliyfel Yn rhyferthwy'r Ynys Werdd Ond nid ofnodd ef mo'i dynged, Ac mae heddyw'n ber ei gerdd, Gwybu hithau, ffrynd fach annwyl, Beth oedd byw mewn pryder mawr Ond ni pheidiodd a gobeithio, Ac mor lion yw hi yn awr. Bellach, ffryndiau, byddwch lawen, Clyd a chynnes fo eich nyth Derfydd dydd y blinder trymaf, Cariad sydd i fyw am byth. —'Mailt Williams. ABERPORTH A'R CYLCH.—-Yr wythnos ddiweddaf, ymwelodd Mr. John Robinson, Pwllheli, ag amryw leoedd yn y cylch hwn i draddodi ji ddarlith boblogaidd ar Richard Owen yDiwygiwr a'r Parch. Thomas Hughes, Machynlleth. Nos Fawrth, Hydref 10, yr oedd yng Nghastellnewydd Emlyn; nos Fercher ym Mryn sion, Aberporth nos lau, yn Hen Gapel, Aberporth nos Wener, yn Llangranog anos Lun, Hydref 16, yn Rhyd- cymerau, Sir Gaerfyrddin. Cafwyd cynull- iadau lluosog yn yr holl leoedd uchod, a gwledd o'r fath oreu. Yr oedd y disgrifiad byw o'r ddau b regethwr li yno d, ac yn enwedig ei waith yn adrodd darnau o'u pregethau, yn effeithiol dros ben. Yn sicr, colled i bobl ieuainc eglwysi Cymru ydyw bod heb glywed y ddarlith odidog hon. Deallwn i Mr. Robinson fod yn Nhregaron, Tabernacl, Aberteifi, Blaencefn a Llechryd ym mis Mai diweddaf, taith a drefnwyd gan Dr. Moelwyn Hughes trefnwyd y daith ddiweddaf gan y Parch. J. U. Jenkins, Aberporth.—T.J. O'R HEN SIR, SEE SIR PON.- Cwrdd Misol i'w gofio gafwyd yn Llanfaethlu, pregethau ag eneiniad arnynt, yn arbeimig rhai y Parch. J. E. Hughes. Dywedid y caed yno ddafnau breision o'r glaw mawr, a hyder- wn nad oedd y cwbl ond ernes o'r gawod nefol a ddaw i lawr cyn hir. Ni bu erioed eisiau mwy c adfywiad ym Mon ambell i oedfa mewn llawer m an yn farnol o galed a sych.—— Yng nshwrdd chwarter yr Annibynwyr yn y Tal- wrn,etholwyd y Par,h.Trpf.)r Jones, Llaiineich y medd, yn llywydd. Dyna anrhydedd i'r teilwng, oblegid nid oes wr melysach na mwynach ei ddawn ym Mon, ac a wyr beth yw cael ami a blin gystuddiau. A'r Parch. T. Evans, Ainlwch, yn datgan ei fwriad o rdddi i fyny ei swydd fel ymwelydd dros y Genhadaeth Dramor ag eglwysi y Sir, ar ol bod wrthi am ddeunaw mlynedd ar hugain. ——Gair yn cyrraedd am farwolaeth y rhain yn Ffrainc y Preifat R. Jones, eilfab i Mr. a Mrs. R. Jones, Wrexham Street, Beaumaris, ynugainoed a'r Rl-.ingyll Wm. Jones o'r un dreflan, mab i Mrs. Jones, Glan y don. Daethai efe ddewryn da trosodd o Canada. Bro Goronwy dan y cwmwl du o golli y Preifat Owen Williarns,-oeddyn y ffrynt ers blwyddyn. Ei dad, Mr. Edward|Williams, yn fyw i ddioddef y loes, ond ei fam dan y dorian. Pentraeth yn griddfan am golli'r Sec.-Lieut. R. James Roberts. Efe'n fab y Fferam Gorniog a Mrs. Roberts, 5 Pare Terrace, Amlwch, yn c -)Ili ei mab ieuengaf, y Sergt.Wm Roberts. A beth pe gwelem aelwydydd Mon i gyd,—gynifer o gadeiriau gwag a chalonnau toredig. Dywanydd deall fod y Parch. R. P. Williams, Caerg Yb i. Hen Dabernaol, ar ol dwys ystyried cais taer yr eglwys, wedi penderfynu aros yno.Cafodd gweinidog t Presbyteraidd Caergybi, y Parch. W. E. Roberts, alwad i fugeilio Eglwys y Drindod, Aberdar. Teifi y De ei hudlath ar yr hen Sir, ac ambell aderyn pluog yn cael ei swyno i fudo yno. Y dydd or blaen, tywyllid heol- I ydd Caergybi gan gysgod angladd Mrs. Nicolson Jones, mam y Parch. E. Nicholson Jones, Hwlffordd, a chwaer i'rbrodyr rhaeadr- ol eu doniau, ond sydd bellach wedi tewi, y Parchn. Wm. Nicholson, Grove Street, a Thos. Nicholson, Llunadin. Mae swyn di- ddarfod yn yr enw Nicholson. "-Llygad Agored. COEDLLAI.—Diolchgarwck, Hydref 16' f cynhaliodd Eglwys y Wesleaid Saesneg eu cyfarfod diolch am y cynhaeaf y Parch. Roberts (W.), Llanarmon yn lal, yn pregethu. Oedfa rymus a phregeth ffres. Hyd. 18, unodd yr Eglwysi Cymreig i gynnal Cyfarfod Gweddi yn Seion, Coed Talon, am 10 y bore, yng nghapel y Wesleaid Cymreig am 2-hwn yn gyfarfod i'r plant Mr. T. G. Jones, prif- athro Ysgol y Cyngor, yn llywycldu" a Mr. D. Jones, Hart sheath, yn annerch. Cyfarfod- ydd yr hwyr-pawb yn ei Ie ei hun. Casgl, wyd at yr Ysbytai.——Taflwyd yr ardal i gyffro mawr tro'r oedd cyfarfod y bore yn mynd ymlaen, drwy i eneth ieuanc o'r enw Davies syrthio i hen bwll glo yn agos i gapel Seion, Coed Talon. Aeth Mr. Edward Jones, yr agent o'r Wyddgrug, oedd mewn swyddfa gerllaw, i lawr i'r pwll wrth raff, ondsyrthiocld a boddodd. Caed y cyrff i fyny ymhen ycli ydig amser. Cynhaliwyd trengholiad, ond ar hyn o bryd mae'n ohiriedig. Claddwyd | gweddillion Mr. E. Jones yn yr Wyddgrug I ddydd lau, a gweddillion yr eneth ym Mhont blyddyn., ddydd Sadwm.

, Gorea Cymro, yr on Oddieartre…

Advertising