Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Ffetan y Gol. I

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n at-fen ir Ffetan I mai dyma'r gair sydd at ei genau:— I NITHIO'K GAU A NYTIJU'II GWlIh I Cybi a'i anwybodaeth rhyfygus At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Yr hyn a ysgnfennais a vsgrif- ennais-a safaf ato. Nid siarad o dan fy nwylo yr ydwyf. Fel hyn yr ymddengys y njater i mi. Od yw ebwch y diwybod yn haeddu'r un syIw a barn y gwr hyddysg, pa ragoriaeth sydd i'r doeth, a ph ah am y treuliwn ein hamser ar yr hyn nid yw anwybodaeth ? Ni wyr Cybi ddim oil am y dyrysbwnc y cais ei drafod. Nid ywhynny yn ddirn bai ynddo. Ei fai ydyw ffugio dysgeidiaeth ac yntau heb ddysgu-vmyrretli a materion rhai ereill cyn deall ohono'r gwyddorion symlaf. Hen gyngor gwych yw hwnnw—" Na chymer arnat fod yn rhy ddoeth paham y'th ddifethit dy hun ?" Daw budd o wrando ar <&r cyfarwydd fel Ap Gwyddon ond pa werth, atolwg, sydd yn nlirsethiadau un a gydnebydd—ac a brawf-ei fod yn eistedd mewn tywyllwch ? Yn ddiffuant, EIFION W YN Derbyruasom yr Ol-Nodiad a ganlyn oddi- wrth E.W. ar ol darllen ohono ateb Cybi O.N,-Nid wyf fi yn awdurdodyin "maes dyrys Hynafiaeth." nac yn honni fy mod. Parod wyf i addef fod mil a mwy o bynciau nad wn i ddim. byd yn en cylch, a byddaf beunydd yn diolch i'm Duw am y synnwyr i wybod hynny. Ond un peth a wn i-gwn ragor rhwng doethineb ac ynfydrwydd, rhwng goleuni a'r hyn nid yw oleuni. Nid oedd dim a fynno helynt cywilyddus Cadair Criccieth â'm gwrthdystiad. Ymyrrais "o gariad at Y BRYTHON, ac eiddigedd dros ei enw da." Dywedaf eto, Syr, mai dirmyg ar ddealltwr- iaeth eich darllenwyr oedd paragraff penffol Cybi o dan y penawd Fflint eto," Onid oedd eglurhad Ap Gwyddon yn derfyn ar y mater ? Dywed Cybi fod helynt Criccieth wedi ei hen gladdu o'i ran ef. A fyn efe i m,i brofi ei fod yn fyw", mewn papur arall, inor ddiweddar a phum wythnos yn ol ? E.W. Hen Demyl Cydymdeimlad. I At Olygydd Y BRYXHON I Syp.Wele Gywydd a godais o album merch ieuanc rhyw ddeuddeng inlynedd neu well yn ol. Y mae enw Talfardd tano yn y copi gwreiddiol yn ei lawysgrif ef ei hun. Nis gwn ai ei waith ef ydyw ynteu rhywun arall, ac nis gwn ychwaith a welodd oleuni dydd ai peidio. Ni welais i mohono'n argraff- edig. Yr wyf yn ei anfon i'ch Ffetan; caffed yniddarigos neu baidio, fel y gwelwch yn dda.-Yn gywir iawn, IEUAN AP 10 AN CYW, YDD CWYN Bardd ingoedd broydd angau, A bardd o hyd i bruddhau, Bardd digysur cur i'm cau Ydwyf, a llawn gofidiau. Oer adeg wylo'r ydwyf 0 boen p'le bynnag y bwyf, Ni fedrais er a fydrwn 'Nabod hedd yn y byd hwn, Cysur, ni chaf er ceisio Funud awr o'i fwynhad o, Ow welw rudd wylo'r wyf Amddifad o dad ydwyf. Ha i'r unig. rhyw drywaniad, Mawr, yn wir oedd marw nhad Dofn archoll oedd ei golli, A saeth yn fy mynwes i. Ow! hiraeth mawr, aethum i Ar unwaith heb rieni; Af yn awr i dy fy nhad- Hen demyl cydymdeimlad Ow! unig ddistaw annedd,— Eilun byw o lan y bedd Araeth ddwys o hiraeth ddaw, 0 weled ol ei ddwylaw Y dillad wedi llwydaw, A chnwd o rwd ar ei fraw Wel, wel. dyma ymweliad A thy heb na mam na thad, Yn y llwm hen fwthyn llwyd Oer wylaf ar ei aelwyd. Eisteddfod a Chymanfa Ganu etc I At Olygydd Y BRYTKON I BYR,-D a iawn gennyf am y sylw a wnaefch- och o lythyr y Parch. W. Samlet Williams parthed y mater uchod. Beth ar wyneb y ddaear hon sydd wedi dyfod dros ei feddwl, i b3ri iddo ddyrnu mor anhrugarog yn erbyn y syniad o gysylltu'r Gymanfa Ganu a'r Eis- teddfod ? Yn sicr ddigon, fel yr awgrym- wch, ni ddeil y rhesymau a rydd yn ei lythyr ddwr o gwbl. Gwan iawn yw ei lith o'r dechreu i'r diwedd ac os nad oes ganddo resymau amgenaoh na'r rhain dros gadw'r Gymanfa a'r Eisteddfod ar wahan, gwell fuas- ai iddo fod heb ysgrifennu o gwbl. Dywed Nad yw'r Eisteddfod yn fudiad crefyddol." A fedr ef brofi fod yr Eisteddfod fel mudiad yn wrth -grefyddol ? Onid ffurf ar grefydd fore'r Cymry yw'r Eisteddfod ? Tybiwn i bob amser fod yr Eisteddfod wedi tarddu o Dderwyddiaeth. Pwy oedd y Derwyddon ? Onid arweinwyr y genedl mewn crefydd ac ymhob celfyddyd ? Felly ofer dweyd nad yw'r Eisteddfod yn fudiad crefyddol, gan fod ei gwreiddiau yng nghrefydd y genedl; ac hyd y gwelaf, y mae'r Eisteddfod wedi cael ei datblygu *yn fwy ar hyd llinellau crefyddol a chenedlaethol na dim arall. Peth arall, arweinwyr crefyddol Cymru, o bob enwad, yw arweinwyr yr Eisteddfod. Y mae'r Eisteddfod yn nwylo crefydd, o dan nawdd crefydd, a chrefydd sydd yn cael y He uchaf yn ei gweithrediadau. Ewch dros ad- ran lenyddol y testynau, a gwelwch y lie a ga crefydd yno. Ewch dros yr adran gerddorol, drachefn, a gwelwch fod rhyw ffurf ar gref- ydd yn cael lie anrhydeddus yno hefyd. Gwir mai nid achub eneidiau yn ystyr bendant y g yw amcan yr Eisteddfod ond atolwg, ai dyna unig amcan crefydd ? Onid oes a wnelo crefydd a phob gallu a thalent a fedd dyn yng nghyfeiriad pob celfyddyd a gwyddor ? Dywed Mr. Williams mai o fewn cylch yr Eglwys, fel y cyfryw, y mae'r Gymanfa Ganu, air Eglwys yn unig." A yw'r Eisteddfod y tuallan i gylch yr Eglwys, nid enwadaeth, ond yr Eglwys ? Os ydyw, y mae hynny'n beth newydd i mi. Dywed rhai mai sefydliad cenedlaethol yw'r Eisteddfod. Onid ffurf neu agwedd ar grefydd ydyw cenedlaetholdeb ? Fodd bynnag, y mae arweinwyr eprefyddol Cymru wedi bod yn pregethu hyn ar hyd y blynyddoedd. Yn sicr, nid yw cysylltu'r Gymanfa a'r Eisteddfod yn ddim amgen na symud ymlaen i grefyddoli a -,aTict-eiddior Eisteddfod. Y mae'n symudiad hefyd i feithrin mwy o undeb rhwng cyrff crefyddol Cjanru, yn rhwymau crefydd a chenedlaetholdeb. Ac onid dros y ddwy wedd yna i fywyd y dylem sefyll 1 Os felly, paham eu cadw ar wahan ? Da gennym weled fod y Gymanfa Ganu wedi mynd yn rhy ddwyfol a chysegredig i arcs yng nghragen enwadaeth, a'i bod ar fin dyfod yn rhywbeth cenedlaethol a thrwy hynny ddod yn argyhoeddiad yrn my wyd y genedl o fyd yr ysbrydol a'r tragwyddol. Pwy a wyr faint o eneidiau a faethwyd yn y Gymanfa yn Aber- ystwyth ? A hyderwn yn fawr y gwelir yr un peth eto y flwyddyn nesaf, yn Birkenliead. Yr ydym yn sicr fod y Parch. W. Samlet Williams yn hollol onest a chydwybodol yn ei wrthdystiad yn erbyn uno'r dd-r, ac nid yw ein parch iddo fymryn yn llai ond y mae dwy ochr ar y mater hwn, fel pob mater arall.—Yr eiddoch yn gywir, Treuddyn T. MILES JONES Llanarmon a i Cheiriog At Olygydd Y BRYTHON SYR, Ar ymweliad diweddar ag ardal Ceiriog, cefais ar ddeall fod yna, gryn awydd ym mhobl Llanarmon i gael rhyw arwydd o'r meddwl mawr sydd ganddynt amdano wedi ei godi yn y pentref lle'i ganed, a'r lie, ar bob eyfrif, y dylai fod rhywbeth i ddangos ei gysylltiad a bro'i febyd. Y mae pobl Llanarmon yn cofio fod yna Neuadd Goffa iddo ef a Chynddelw a Huw Moras yng Nglyn Ceiriog islaw, ac yn cydnabod fod honno'n neuadd hardd a champus ei bwriad a'i chwblhad; ond yn dal yr un pryd mai chwith a gwrtliun o beth ydyw meddwl fod ei bentref ef ei hun heb ddim i ddangos mai yno y gwelodd ein Prifardd Telyn oleu dydd. Da gennyf ydoedd clywed fod y gwr a biau Pen y Bryn—hen gartref Ceiriog-yn mynnu i'r ffermdy gwled g gael ei gadw'n union fel y byddai, ac yn gwrthod caniatad i newid dim arno, tuallan na thufewn. Y mae yna dabled-goffa am Ceirlcg yn eglwys y plwyf, y gellir ei gweled pan fo moddion ynddi, Bum yn siarad a Mr. Llewelyn Vaughan Roberts, postfeistr Llanarmon, a dywedai wrthyf fod ganddo ddegpnnt mewn Haw at yr amcan y soniaf amdano, a gasgl- wyd rai blynyddoedd yn ol pan oedd mud- iad felly ar droed-mudiad a aeth i'r gwellt oblegid troi at Neuadd Goffa Beirdd y Berwyn yng Nglyn Ceiriog. Rhoes Mr. Roberts y degpunt yn echwyn rhyfel frvar loan) y Llywodraeth, gael iddo dyfu tipyn yn hytrach na sefyll yn ei unfau fel cynt. Ei deimlad ydyw fod yn bryd i'r mudiad gael ei ail gychwyn, ar linellau cenedl- aethol. Credaf i Ap Gwyddon, -Caersws, Arwyddfardd yr Orsedd-alw heibio yno, a'i fod ef yn bur bleidiol i'r betb. Haf acti y mae ynagolofn i Tom Ellis yn y Bala; i Daniel Owen yn yr Wyddgrug i anfarwolion Bro Hiraethog yn Llansannan i Daniel Rowlands yn Liangeitho i Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a pham, yn anad neb, nad i Ceiriog yn Llanarmon ? Gweddus iawn, hefyd, fyddai ei chael o ddwylo celfydd ddiail Syr W. Goscombe John, modd y byddo'r golofn a'i gwrthrych mor anfarwol a'i gilydd. Diau gennyf y byddt.i Syr Vincent Evans yn bur barod i gael cefn- ogaeth y Cymrodorion ac awdprdodau'r Eisteddfod ymhlaid y mudiad; dyna'r Cymdeithasau Cenedlaethol hefyd draw ac yma, Dde a Gogledd; Cymdeithasau Cymru Fydd trefi Lloegr a mil edmyg wyr y Prifardd drwy'r wlad a'r byd, gan gynnwys Cadfan, a wnaeth gymaint o blaid hyn ar y cyntaf, ac sy'n ddigon selog i ail gydio ynddi eto. Byddai'n dda gennyf gael cynhorthwy'r BRYTHON a'i ddarllenwyr i ddwyn hyn i olwg y genedl, ac a ddiolchwn i chwi am, ei hy rwyddo ymhob modd dichonadwy. Dichon y dywed eraill eu barn.—Yr eiddoch yn gywir, R. VAUGHAN JONES 52 Hertford Road, Bootle. I

tin tedl ym Maneeinion.

----- IBasgedaid o'r Wlad.I

, Gorea Cymro, yr on Oddieartre…

Advertising