Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Gfhoediwyr y Cymodj Y Saboth…

Advertising

Ffetan y Gol. I

Basgedaid o r Wlad. I

News
Cite
Share

Basgedaid o r Wlad. I ABDALOEDD IY WYDDFA. — Er gwaethaf y ddirwasgfa gyda'r fasnach lechi, eto gwnaeth y trigolion eu rhan tuagat ein milwyr a'n morwyr clwyfedig. Casglodd Llanberis yn unig yr wythnos ddiweddafdros ddeg punt ar hugain at Gymdeithas y Groes Goch. Ymaehefydnewyddgynnaleyfarfod cyhoeddus i wneud trefniadau i anfon wyau fires i'r gwahanol ysbytai. Daeth Miss Jones, morch Mr. Charles A. Jones, Caernarfon, yma i egluro popeth ynglýn b,r symudiad, achymer- wyd y gadair gan Mr. H. Ariander Hughes, L C & M. Bank. Cymrwyd rhan gan fonedd- ieesau a boneddigion y lie, ac addawyd pob cefnogaeth. Y mae ardal boblog Ebenezer yn anfon o chwech i saith gant o wyau i ffwrdd bob mis, ac ynbwriaduparhau yrAlAen gyda'r gwaith da yma. SEFYDLU Y PARCH. T. WYNN WILLIAMS YM MHEN PY BONT FA W R.-Nos Fawrth a dydd Mercher cyn y diweddaf, sefydlwyd y Parch. T. ,Wynn Williams yn weinidog eglwysi Annibynnol Pern y bont fawr a Llangynog, fel dilynydd y Parch. W. L. Evans, a ymddiswyddodd flwyddyn yn ol, ar ol gweinidogaethu yma am chwe blynedd a deugain. Teg dweyd fod Mr. Wynn Williams wedi gorfod rhoi'r weini- dogaeth yn Sardis, Llanwddyn, i fyny oddeu- tu tair blynedd yn ol, oherwydd afiechyd. Symudodd ac ymaelododd ym Mhen y bont, a bu'n gynhorthwy mawr i'r eglwys er pan ymddiswyddodd Mr. Evans. Llawen gan bawb ei weld wedi cael adferiad mor llwyr. Nos Fawrth, bore a nos Fereher, pregethodd y Parehn. S. Roberts, Llanbrynmair, a Talwyn Phillips, Bala. Prynhawn dydd Mercher, cafwyd rhes o anerchiadau j y Parch. W. L. Evans yn y gadair. Anerchwyd gan y Parch. Mr. Wm. Evans (Sardis), Mr. Hughes (Saron), Mr. R. D. Jones (Llwyn brain), Mr. Jno. Meredith (Llangynog). Sylw odd y cadeirydd y Parch. W. L. Evans) Mae'r cyfarfod hwn o ddiddordeb mawr i mi oblegid un cyfarfod t cyffelyb a gynhaliwyd ym Mhen y bont, o'r blaen, a hynny 46 mlynedd i Fedi dt weddaf, ac mae'r eglwys heddyw yn newydd f bron i gyd, na neb yn aros o'r rhai a gymerai I ran yn y cyfarfod hwnnw ond Dr. Owen I Evans (Lerpwl), a nnnau. Ni chefais i erioed alwad i Langynog yn wir, 3 oedd yn perthyn i'r eglwys pan dcleuthum i yma, a 5 oedd nifer y cwbl, gan gynnwys y gwrandawyr. Bum yn pregethu can oddeutu blwyddyn i'r nifer hynny ond heddyw, y mae yno eglwys hynod lewychus, a chapel cymharol newydd, ac yr wyf o'm calon yn dymuno pob bendith i chwi yn y dyfodol. Yna cafwyd gair ymhell- ach gan y Parchn. Evans, Sardis Rich- ards, Llanfyllin T. Well Jones, Croesoswallt 5 Deiniol Jones, Lhuirhaeadr a S. Roberts. "Diolchodd y Parch. Wynn Williams am y geir- iau caredig a chalonnog, s, fyddai'n help inawr iddo mewn maes mor eang, a chyda gwaith mor bwysig. Teimlai'n ddiolchgar am y geiriau caredig i'r ddwy eglwys. Cawsaigyfle i'w hadnabod am dair blynedd, He a'u cawsai yn hynod garedig. Yr wyf yn penderfynu 'gwneud fy ngoreu nid wyf yn credu mewn aberth gwael ar allor Duw. Os cat ufudd-dod yr wyf finnau'n addo i chwi ufudd-dod os ceir hynny, gallaf eich sicrhau y bydd hi'n jddrwg ar Satan yn yr ardal.-R, G. W. 4 CROESOS WA LLT.—Dal ati i gann y mae j Miss Gwenohwy Griffith, Nefyn. Yr oedd y Saboth diweddaf yng nghapel Wesleaid Saes- neg Croesoswallt, a gadwyd yn ddydd o ym- J ostyngiad mewn mawl a diolch. Y capel yn | llawn 0 filwyr. Y nos Fawrth ddilynol, canai yn y gwersyll i'r Royal Welsh Fusiliers, ac nid oedd ball ar ei hufudd-dod mewn ail a thryd- ydd ddod ymlaen, a mawr gamnolid hi. Dywedodd un o'r prif swyddogion wrthi Snai yn un o golegau y Brifddinas y dylasai fod gyda llais mor odidog. Deallwnei bod yn awr tan ddisgyblaethJMr. Wilfrid Jones, R.A.M., Gwrecsam. PEN Y GROES.Nos Sadwm y 7fed> ehedodd ysbryd yr hen chwaer annwyl a gwreiddiol, Mrs. Jane Roberts, Llwynfryn, Pen y groes, tuhwnt i'r lIen; a hi yn 70 mlwydd oed. Nodweddid hi gan fitrae hineb diymhongar a chof nodedig:(o"rafaelgar. a mwynhad digymysg i r cymdogion a r per- thynasau oedd gwrando ami n adrodd ad- nodau mor ddigryn, ac yn gwau hen emynau Cymreig yn ei (hystudd trwm diweddaf. D'oddefodd fisoedd o gystudd yn dawel a dirwgnach, ac yr oedd ei sylwadau ar adegau fel gwen yr haul, yn sirioli pawb a ymwelai a hi. Cafodd angladdparchus a theimlid fod arogl peraidd ar y gwasanaeth wrth y ty.ac ar Ian y bedd. Boed wyrdd ei choSadwriaeth yn hir. Chwaer garuaidd, chwythed awe] I Dyner dros wyrddlesni'th fedd jj Nis gall dagrau atgof heddyw Ddeffro'th olafhûn o hedd. Y mae Mrs. James Owen Walton, Liverpool, I yn ferch iddi; ac er i Mrs. Jane Roberts gyrraedd oedran teg eto i gyd fe deimla'r plant wagter a chwithtod hir ar ei hoi. EBYRTH Y RHYFEL. Y mae'rLifft. G. Osborne Jones, Swydd Ffymion, Ystrad Meurig, wedi ei glwyfo'n dost braidd;: a'i frawd ieuengach, Noel, ar goll er rrrs Mai diweddaf. Y ddau'n neiaint Mr. Artemus Jones, y bargyfreithiwr hysbys ar gylchdaith y Gogledd.* Lladdwyd Sergt. H. E. Harris, mab ceid- wad Adeiladau Sirol yr Wyddgrug, Hydref 2, yn 31 oed, ac wedi dod drosoddoCanada i'r yrnladd. Y mae Lieut. Lionel Williams, mab Dr. J. H. Williams, Y.H., Fflint, wedi ei ladd a dywedir mewn llythyr at Mr. J. H. Davies, Trallwng, i'w fab, y diweddar Gapt. Ithel Davies, ladd tri o Germaniaid cyn cael ei ladd ei hun gan y pedwerydd o'r iintai fawr oedd o'i gwmpas pan gwympodd mor ddewr. Y mae Syr O. M. Edwards wedi cael gair fod ei fab, Ivan ab Owen, yn gorwedd yn bur wael o glefyd ar y Cyfandir. Duw a'i har- bedo a daeth gair i'r Bala fod Capt. Morris, Glan Llyn, wedi cael ei ladd wrth achub clwyfedigion o gyrraedd y tan. Yr oedd wedi cludo tri llwyth ohonynt, ac a laddwyd wrt;h gludo'r llwyth olaf oedd ar y elwt. Y mae mab i Mr. Porter, Y.H., Colwyn Bay, wedi ei ladd yn y rhyfel. Yr oedd yn llanc gobeithiol iawn yn ddysgwr cyflym, ac yn paratoi ei hun gogyfer a bod yn fargyf- reithiwr. I-lysbysirmarwolaoth Lieut. W. M. Jenkins yn Ffrainc. Efe'n fab Mrs. Jenkins, Port Talbot; yn bump ar hugain oed, ac a fyddai'n mesur tir yn y Rhyl, Llanelwy a Phrestatyn. Y mae Mr. T. O. Charles, sylfaenydd a golygydd The Druid-papur aesneg Cymry r Amexica--wedi marw, yn ddeuddeg a deugam oed. Brodor o Frymbo ydpedd, a newydd- iadurwr pur fedrus. Cafodd Syr Osmond Williams bar o fenyg gwynion yn Llys Chwarter Meirionydd yn y Bala ddydd Mawrth yr wythnos hon, gan nad oedd yno'r un achos na chyhiiddiqd, i ddod gerbron. Y Proff. David Williams, M.A., Aber- ystwyth, a'r Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, a gadwai gyfarfod pregethu M.C. Bryngwran, Mon, yr wythnos ddiweddaf. Y mae clerigion Caergybi yn cael eu galw ynghyd i ystyried y pwnc o hawlio codiad yn eu cyflogau i gyfarfod dmdaniaeth y bwyd.

Advertising

I DAU T UPR Arm