Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

fO Bigyj ?L Heifiad.I

I DAU T UPR Arm

News
Cite
Share

I DAU T UPR Arm I TECWYNAR L?FR JoB."—Daet.h cyn- hulliad rhaorol i ysgoldy eang Mynydd Seion, nos Iau ddiweddaf, i glywed darlith enwog y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., ar Lyfr Job. Cafwyd cadeirydd campus ym inherson y gwr bonheddig hael a gwlaclgar, Mr. William Ven- more, ac oddeutu iddo ar y llwyfan yr oedd y Parchn. Dr. Owen Evans, Edward Davies. a li. W. Davies, Mri. Edward Lloyd, Y.H., a John Jones (Devonshire Road). Er ei lafur mawr ac amryfal, cafodd Tecwynhwyl ragorol i draethu'i len ddysgedig a diddorol ar Lyfr Job. Darlith ydyw hon sy'n taflu goleu ar syniadau, hanes, a thraddodiadau'r cynfyd pell, ac yn llwyddo yn ei hamcan i osod llyfr hynod Job a'i awdur athrylitligar yn eu lie priodol yn syniadau'r eglwys a'r byd. Diolch- wyd yn gynnes iddo ef a'r darlithydd am eu gwasanaeth g werthfawr. c KINGSTON YN OAKVALE.—Cynlialiwvd cyngerdd nos Fercher ddiweddaf gan ein eyd- wladwr enwog, Mr. E. Kingston Jones, vil ael ei gynorthwyo gan ei briod dalentog Prif beth yr arlwy oedd adrodd Enoch Arden Tennyson. Clywsom amryw yn rhoi recital o'r dernyn poblogaidd hwn ondyn ddibetrus Kingston, ti a ragoraist amynt oil." Yn yr ail ran, yr oedd ei ddisgrifiad o gyfnod absenoldeb Enoch, ei ddychweliad, a'i ymgom a Miriam Lane, yn orchestol, a'r effaith yn drydanol. Er iddo gymryd awr ac ugain munud i fynd drwyddo, cadwodd ddiddordeb y gynulleidfa ar hyd yr amser, gan ennyn banllefau o gymeradwyaeth. Yn y I rhannau amrywiaethol a ddilynodd, megis Love's Garden of Roses (Haydn Wood) a There's a land (Francis Allisten), rhoddwyd clap fyddarol. Ac nid llai cymeradwyol oedd y Ileill, a'r cwbl yn profi gallu dihafal i symud mor sydyn o'r digrif i'r dwys. Tyst. iolaeth unfarn y cynnulliad oedd na threulias. ant rouser mwy difyr a dyrchafol erioed. Profai hyn eiriau y cadeirydd Herbert T. Ellis,Ysw.) fel yr oedd Kingston yn dringo yn edmygedd y cvhoedd. Diameu y gellir hyderu oddiwrth nifer y cynnulliad y ceir elw sylweddol oddiwrth y cyngerdd, a chalondid i'r eglwys ieuanc weithgar yn Oakvale. Eiddunir iddi hi a'i gweinidog twymgalon, y Parch. Houghton Thomas, bob llwyddiant. SIGNALLER DEWI MASON.-Wele un arall o fechgyn y cylch wedi cwympo yn y rhyfel. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Mason (Grugog) a Mrs. Mason, 34 Florist Street aelod o eglwys Grove Street, ac ysgrifennydd yr Ysgol Sabothol. Brawd hoff ydoedd Dewi, caredig, a hoffu, gan bawb o'i gydnabod. Cyn ymuno a'r Fyddin, yr oedd yn ffirm R. Jones & Sons, Duke Street, a phrofodd ei hun yn fachgen diwyd, a rhagolygon disglair o'i flaen. CYMDEITHAS LENYDDOL DOUGLAS ROAD. —Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor nos Wener ddiweddaf, ac er gerwined y tywydd, daeth nifer lluosog ynghyd. Canwyd deu- awdau gan Misses Doris Williams a Gwen Jones, ac unawd gan Miss Cissie Parry. Yna ymneilltuwyd i'r ystafell gerllaw, Ile'r oedd gwledd wedi ei darparu, treuliau yr hon a ddygid gan frawd a ddymunai gadw'i 'enw'n gudd. Ar ol y wledd, cafwyd anerchiad hynod ddiddorol gan y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., ar Hobby a phe byddai i r rhai oedd yno fabwysiadu ei sylwadau, byddai argoel am gyfarfodydd da yn ystod y tymor. Y llywydd oedd yr hynaws Mr. Joseph Bellis.-R.J.J. Daeth gair fod dau eraill o fechgyn eglwys M.C Stanley Road wedi eu lladd yn Ffrainc, Pte. Arthur Pritchard, brodor o Gam Dolbenmaen, a Pte. Wm. Henry Jones, brodor o Rosgadfan. Gair uchel i r ddau gan eu cydnabod, a chydymdeimlir yn ddwys a u holl berthynasau. Mae bellach naw o aelodau r eglwys uchod wedi mynd yn aberth i'r rhyfel. Ffarwel y Cenhadon. Nos Wener, yng nghapel Stanley Road, cyn. haliwyd cyfarfod i ganu'n iach a r ddwy gen- hades sydd yn mynd allan i'r India Miss Aranwen Evans, yn dychwel yn ol ar ol ychydig fisoedd o seibiant, wedi treulio saith mlynedd ar y maes a Miss J. Helen Row- lands, B.A., yn mynd am y tro cyntaf. Yn y prynhawn caed cyfarfod i r chwiorydd, dan lywyddiaeth Mrs. Dr. Leggate. Caed anerch. iadau gan amryw chwiorydd, yn dymuno'n dda i'r ddwy genhades, ac atebwyd yn briodol ganddynt hwythau. Pasiwyd y penderfyn- iad canlynol, ar gynhygiad Miss A. C. Williams (Grove Street) a chefnogiad Mrs. Griffith Ellis :—" This great war in which our country is. engaged is a fight for the weak against the strong, for freedom against tyranny, for equity against force, and for truth against falsehood. It touches us all in a greater or lesser degree. We have all relations or friends on the field of battle, we are daily hearing of the death or injury more or less severe of some one connected with us or with our friends, and our sorrow is stirred up, and our sympathy goes out to them in their grief and sore trial. We are mourning for the loss ot our many young soldiers, the hearts of fathers, mothers, sisters, brothers, and some very dear friends, are called upon to suffer such agony of grief, and only those who have experienced a similar sorrow can realise the magnitude of the sorrow to our friends. But it must be a source of great consolation to them to know that our young men have been ready to meet death in such a grand under- taking. They have entered this fight with cheerful spirits, with courageous minds, with brave hearts which have been quickened in the face of death, that has taught them to scorn danger, and to make light of suffering, in their efforts to defend their country, and succeed in vanquishing the enemy. We should not be honouring their memory if we did not partake of somfe of their enthusiasm, and bear ourselves with fortitude in the face of our losses. Yr oedd chwiorydd Stanley Road wedi trefnu te am bump ar gloch. Am saith, cyn- haliwyd cyfarfod cyhoeddus, dan lywyddiaeth y Parch. John Owen Miss L. Kyffin Will- iams wrth yr organ Mr. Robert. Jones yn arwain y canu. Dechreuwyd gan y Parch, (Y gweddill ar tud. 6) V