Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

fO Bigyj ?L Heifiad.I

News
Cite
Share

fO Bigy ?L Heifiad. PWYLLGOR A NEWYDDION DA 'N EI AROS.—'G-wedi cryn fis o osteg, y mae Pwyllgor Gweithiol Eisteddfod Birkenhead i gyfarfod nos yfory (nos Wener) yn Ysgol Ganolradd Conway Street; a chan yr ysgrif- enyddion swp o lythyrau i'w darllen, f a newyddion da a chalonnog yn amryw ohonynt. Bydded pob aelod yno, os bydd modd yn y byd. NOSON «NANTLLE.—Unwaith y cymer pobl y Dyffryn hwn rywbeth yn eu pennau, fe'i dygant i ben a'u maen i'r wal ac y mae'r syniad o gael Noson Nantlle fel yr awgrym- wyd yn Y BRYTHON rhyw fis yn ol, wedi cydio a chael dyfnder daear yng nghalon ami un o blant Ohwarel a Chlogwyn. Mr. R. J. Griffit 1 Compton HOtbe, a'i syniodd gynt- af ac y mae ef yn berffaith barod i'w hyrwyddo ond gohebu ag ef. Rhyngoch chwi a fo b ellach NOSON YR HEN BENHILLION.— Dyna a gafwyd yn y Gymdeitha Genedl- aethol nos Wener ddiweddaf, sef i agor y tymor o flaen y pethau dwfn ac athronyddol sydd i ddilyn y misoedd nesaf. Rhaglen Gymreig drwyddi sydd eleni, a chan amryw o feibion a merched galluocaf a gloewa'u dysg yng Nghymru. Y Parch. T. Miles Jones, Treuddyn, oedd y darlithydd lieno ac oedd wedi trefnu dod a Mis-i Nanqi Richards (Telynores Maldwyn) gydag ef i'w ddilyn ar y delyn ond tarawyd hi'n wael y diwrnod cynt, a chafodd y darlithydd a ninnau siom go fawr. Methwyd a chael telynor yn ei lie ond drwy bybyrwch effr,) Mr. R. Vaughan Jones, ysgrifennydd y Gym deithas, llwydd wyd i gludo piano i'r Neuadd a chafwyd gan Mr. Evan Davies, o eglwy; Stanley Road, Bootle, i dd d yno i gyfeilio i'r darlith- ydd wrth iddo garu am ryw byd o'r ben ganeuon, a hynny mewn llais swynol a rliag- orol o glir ei gyixhaniad. Bu tipyn o boeri ato gan y culfarn a'r gor-biwritanaidd am iddo ef, ac yntau'n weinidog efengyl, ymhel a'r delyn a'i phenhillion a phethau felly; ond yr oedd ei awr a hanner o ddarlith heno yn daw effeithiol ar sen hurt ac anwybodus o'r fath, canys yr )edd hi'n hyawdl, yn eirias > selog dros iaith a lien Cymru, ac yn Ian a llednais bob gair. Clywsai un o gerddorion Cymru'n awgrymu dod a'r organ i'r ysgolion bob-dydd pob parch i'r offeryn hwnnw, ond os organ, dylid dod a'r delyn hefyd, canys gwell gan y plant hi o'r hanner na'r organ na pheth a byddai dod a'r hen benill ion diddan a da'u doethineb i'r ysgolion yn gampus o beth er mwyn cyfoethogi meddyl- iau'r t6 sy'n codi a'r hen lestri sy'n cadw gwin ein cenedlaetholdeb rhag colli a sychu. Yr oedd y cyfuniad o ddarlithio a chanu'n dygymod a bias y cyuhulliad cryf a ddaethai ynghyd; a diolchwyd ar y diwedd gan Mr. J. H. Jones a Phedr Hir. Mr. David Jones, cadeirydd hoff a haelfryd y Gym. deithas, a lywyddai; cyfeiriodd yn fyr ond yn deimladwy at y lliaws teuluoedd perthynol i'r Gymdeithas oedd wedi cael loesion trwy'r Rhyfel; cahmolodd wroldeb ardderchog y bechgyn a gwympasai; ac a glodd gyda dwyn Tysteb Genedlaethol y Prifardd Pedrog i sylw'r dyrfa. Y Proff. J. Morris Jones, M.A., Bangor, fydd y darlithydd nesaf Dewi Wyn fydd ei destyn a phwy na fydd yno ? ] GOFALYDD NEW fBRIGHTON.—-Y mae'r Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Laird Street, Birkenhead, wedi cydsynio a chais eglwys New Brighton i fynd yno i fugeilio'r Achos. Nos Fercher ddiweddaf,. cynhaliwyd ymgomwest i'w groesawu ef a. Mrs.lRowlands Mr. Thos. Jones yn y gadair Caed gair gan Mr. Aneurin Rees ar ran New Brighton, a chan Mri. David Evans a W. Thomas ar ran Laird Street. Hefyd, canodd Miss Phillips, Miss Williams, a Mr. E. Edwards; Miss.Alwena Roberts, A.L.C.M., yn cyfeilio iddynt a diolchodd Mri. Rowland Roberts a J. W. Roberts i bawba gymerodd ran, ac i'r chwiorydd da am ddarparu lluniaeth mor amheuthun. ARDDELIAD WATERLOO. Bu y Parch. D. Cwyfan Hughes, B.A., Bryn du, Mon, a'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Birkenhead,yn cadw cyfarfod pregethu eglwys M C. Waterloo nos Sadwrn a'r Saboth di- weddaf ac yr oedd grym a graen y pre- gethu, a Iluosowgrwydd ac astudrwydd y cynulliadau, yn rhywbeth i'w goflo ae i fod yn ddiolchgar amdano. Daeth ugeiniau lawer o feahgyn y khaki yno o'r Sriiggery a Lither- land; a mawr oedd eu mwynhad wrth glywed cenadwri mor fendigedig mewn iaith mor swynol rhagor y llyfon atcas a glywant yn y gwersyllfau. Cyfeiriodd Mr. Tecwyn Evans I yn oedfa nos Sul at y gwyn a glywid am iaith ac agwedd anghwrtais y swyddogion at y Cymry. Gair yn ei bryd ydoedd, ac a ddaeth i fewn yn sgil darn o'r testyn—" heb absennu a'i dafod." A phan derfynOdd y gyfres a'i ryferthwy hyawdl a? eneiniedig ar y Bymthegfed Salm, fe deimlem yr un fath yn union ag y teimlai'r dyn a ysgrifen- nodd yr unfed adnod ar bynitileg o'r drydedd bennod ar hugain o Lyfr y Diar- hebion :—■ Fy arennau a grychneidiant pan draetho dy wefusau di gyfiawnder." I "lVly reins shall rej oice," ebe'l' Saesneg ond y mae yna rywbeth yng ( £ nghrych- neidio 'r hen Gymro nas ceir yn rejoice y Sais, er cystal hwnnw: Hyfryd oedd gweld degau o'r milwyr yn mwynhau'r danteithion blasus a ddarporid iddynt ar ddiwedd y moddion gan aelodau caredig yr eglwys; a'u hwynebau mor ddiolchgar am gael cMeso ac odfeuon mor ysbrydol-c?n troi at waith rnor wahanol. YMWELYDD AG AWDURDOD GAN. Z)DO.—Bu Syr J. Herbert Roberts yn cwes- tiyno Ty'r Cyffredin ddydd Ian diweddaf parth y cwynion a glywid am gamymddwyn at y cannoedd Cymry sydd yng ngwersyllfau Lloegr, yn Litherland yn fwyaf arbennig a'r diwrnod cynt-sef dydd Mercher—bu'r Cyrnol Gaplan John Williams (Brynsieneyri) ar ymweliad a'r gwersyll hwnnw, i chwilio'r cwynion drovsto'i hun, gan alw heibio'r huts, cael y gwir o lygad y Synnon gan y bechgyn eu hunain, ac nid dibynnu ar glywedion oddi. allan. Mynnodd gael gweld y prif swyddog* ion, a go swta a Simplyd yr oedd y rheiny ar y cyntaf; ond pan gawsant ar ddeall,a hynny a gair plaen a diofn, fod Mr. Williams yno fel cennad a chwiliwr awdurdodedig oddiwrth Mr. Lloyd George, yr Ysgrifennydd Rhyfel, fe swatiodd pawb yn sydyn, ac a ddaethant atynt eu hunain ac yn nes at yr ymwelydd hefyd, canys cyn iddo droi draw i fynd a'i adroddiad i glust ei gydwladwr yn Llundain, cafwyd eu gair yn bur hawdd a diymdroi y byddai pethau'n well ac yn iaWlllnaeS o law. —Mawr y tyrru sydd i'r oedfa Gymraeg bob bore Sul yn Litherland a'r Sul nesaf, am naw ar y gloch, bydd y Parch. J. Williams, B.A., yr efengylydd blasuj a charuaidd ei ysbryd o Garno, yno'n pregethu, a Mrs. Herbert Jones (Miss Dora Rowlands, B.A.) yno'n canu a'i gwefr a'i harddeliad hysbys led y wlad. Cofied y milwyr hefyd fod cyngerdd croeso yn eu haros ym Mankhall nos Sadwrn nesaf, a'r arlwy'n hafal i'r un a fu o'i blaen. CYMANFA'R PYMTHEG YN SGUB. OR FFRAINC.-Dynia damaid o lythyr y Preifat D. C. Evans o Ffrainc, at ei rieni yn Glenart, Birkenhead, yn dangos fel y mae emynau'r Cymry'n gwneud eu rhan i ddi- ddanu'r bechgyn yn lleithter a Ilanastr yr Armagedon Cawsom ganu yn yr ysgubor amryw nos- weithiau yr wythnos ddiweddaf. Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd yn ardderchog. Methu cael digon ) galon yn y canu yr oedd y diweddar Mr. Harry Evans yn y Sun Hall onite ? gyda'r don non. Wei, dyma y lie iddo. Nid oedd ryfedd i bobl y pentref gasglu ) gylch y dnvs a gwrando. Nid oedd ond pymtheg ohonom. Dau Sais yn ein mysg, ac un yn gofyn am Sandon ar Lead, kindly Light." A beth pe clywsech chwi hwy'n canu And I am far from home, lead Thou me on." Dyna'r Cymry'n rhoi calon yn y canu. Llygad pwy na leithia wrth ddarllen pytiau fel y rhain ? LLONNFR CL TV YFEDIG.-YN Ysgoldy Capel y Weleaid yn Claughton Road Birken- head prynhawn ddydd Gwener diweddaf, rhoddwyd te croeso rhagorol i dros ddeugain o filwyr clwyfedig o ysbytai'r dref. Wedi'r te cafwyd cyngerdd gwirioneddol wych dan lywyddiaeth y Parch. D. Tecwyn Evans B.A. Buwyd yn eithriadol o ffortunus yn y doniau a gymerodd ran. 0 dan ofal Miss Myrtle Jones, Prenton, y gantores ddisglair ei thalentau a enillodd ar yr Unawd Contralto yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor y llynedd, yr oedd trefniadau'r cyngerdd. Canodd hi'n wefreiddiol droeon, ac adroddodd Madame Gladys Williams amryw weithiau nes dywedyd o'r llywydd na chlybu ef gyffelyb adrodd meistrolgar erioed. Hefyd canodd Madame Josephine Williams, a ddaeth i mewn gyda'i chyfeillion, a hithau ar ei thaith i Ie arall, yn odidog. Canodd Miss Ferguson hefyd, a chanwyd y piano gan Mrs. Mann. Traddododd Mr. Wm. Evans, Grange Road West, araith bert a phwrpasol, a rhwng popeth mawr fwynhaodd y bechgyn eu hunain Ysgrifennydd y mudiad oedd Mrs. Henry Jones, Prenton, a Mrs. Tecwyn Evans yn drysorydd. Y DDARLITH GENHADOL. Tra- ddododd y Parch. J. H. Morris ei ddarlith hysbys ar y Genhadaeth Dramor yng nghapel Chatham Street nos Fercher ddiweddaf. Cadeiriwyd a'i medr arferc I gan Miss Williams (Grove Street) dangoswyd y lluniau ar y lIen gan Mr. J. W. Davies, Talgarth, Waterloo caed gair gan Miss XHelen Rowlands, B A.; ac wrth ddiolch ar y diwedd, dywedodd y Pare h R R Hughes, B A, iddo glywed Mr Morris yn traethu mewn llawer math ar gyfarfod, ond nid erioed yn well na heno. Yr oedd yn benigamp a dyna'r gair a ddeuai i'w feddwl wrth ei wrando Y mae efe yn gwneuthur pob peth yn dda." CYCHWYN AM YR INDIA -Bydd Miss Aranwen Evans a Miss J Helen Row- lands, B.A., ar y Landing Stage 1.45 ddydd Sadwm nesaf, i groesi am yr East Float Dock Birkenhead, i hwylio. ar fwrdd y City of Marseilles am eu maes cenhadol yn yr India. Daeth gair fod Capt. J. R. Williams, King's Liverpool, wedi marw o'r clwyfau a gafodd ym mrwydr St. Quentin, Awst 11. Bu farw mewn ysbyty Germanaidd. Y r oedd yn fab y diweddar Henadur W. H. Williams, Arglwydd Faer Lerpwl, a Mrs. Williams, Moss Bank. Rhoddir gair uchel i'w wroldeb; canys pan orweddai'n glwyfedig, fe'i gwelid yn chwyfio'i law a chalonogi ei ddynion yn yr ymladd Dyma un o fechgyn mwyaf hawddgar a gobeithiol eglwys M.C. Princes Road wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc, sef y 2nd-Lieut. R. H. Jones, unig fab Mr. -a Mrs. R. H. Jones, 48 Selborne Street, ac yntau ond un arhugain oed. Cafodd ei addysg yn y Liverpool Institute; a phan ymunodd a'r King's (Liverpool) fis Medi, 1914, ymrodd o ddifrif i feistroli ei ddyletswyddau, a safai'n uchaf un o'i gwmni, ac yn drydydd drwy'r holl fatal- win, yn yr arlioliadau milwrol wrth gael com- isiwn. Aeth i'r ymladd Chwefrol 1915 cafodd ei gomisiwn fis Gorffeniiaf fe'i clwyf- wyd; ac a fu'n gorwedcl yn Belfast beth arnser. Gwellhaodd, a dychwelodd i'r ymladd eilwaith, gan gael ei glwyfo drachefn, ac yn rhy dost y tro hwn i gael gwella. Daeth llythyrau oddiwrth swyddogion y gatrawd yn rhoddi'r gair uchaf iddo am ei ddeall cyfiym, ei sirioltleb gwastadol, a'i ddewrder disyfi i gyfarfod pob 0alw arno.

I DAU T UPR Arm