Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Dyled Eglwys Loegr i Gymdeitfias…

PEL BO'R HWYL.

News
Cite
Share

PEL BO'R HWYL. SAITH A CHWEOH YN ORMOD.-Y mae'r Parch. R. J. Campbell wedi cyhoeddi llyfr saith a chwech i ddywedyd hanes ei daith feddyliol a diwinyddol o'r City Temple hyd i fynwes y Fam yng Nghathedral Birmingham. Ond y mae gan ddyn rywbeth amgenach i'w wneud a'i saith a chwech na'i afradu ar feddyl- iau morsimsan a chwidrog, canys er fod y dyn yn feddyliwr cryf ac yn draethwr swynol, y mae'n rhy chwit-chwat a di-angor i ennyn ymddiriedaeth neb ynddo ac ni synnem ni ddim nad y peth nesaf a ddaw o'i ddwylo,—sef ymhen rhyw bum mlynedd arall—;fydd cyfrol saith a chwech arall yn dywedyd hanes diwedd ei daith droellog, sef o Birmingham i Rufain-nefoedd a hafan pob merchedyn a ddaw dan hudlath a defosiynau a gwag- wychter gor-eglwysaidd. A phe newidiem y gyffelybiaeth, ac yr edrychem ar ei daith fel taith rheilffordd, fe waeddem ar blatfform yr orsaf ddiweddaf y disgynnodd ami:- Birmingham Junction Change here for Rome." + CAFFAELIAD Y NORMAL.- Y mae Pwyllgor Coleg Normalaidd Bangor wedi penodi Miss Elizabeth Lloyd i ddarlithio ar Gymraeg. Ac ymhle y caent ei gwell, os cystal ? Canys cafodd ei B.A. gydag anrhyd- eddmewn Cymraeg, a'i M.A. am eithraethawd ar Hanes yr Eisteddfod-traethawd a ddug iddi ddegpunt ar hugain o wobr hefyd yn Eis- teddfod Gwrecsam yn 1912. Dair blynedd yn ol, gwnaed hi'n Gymrawd o Brifysgol Cymru. Un o blant athrylithgar Ceredigion ydyw a'i darlith ar Y Mynach yng Nghymru yn rhyw gymaint o fynegai o helaethrwydd a llwyrder ei dysg, ac yn cael lei thraddodi o'r frest, a chan edrych i lygad ei gwrandawyr astud, ac nid ar dwmpath o notes hysbion a dieneiniad. A chyd ag y bom yn son am fynach, gadewch i ni geisio cofio, i gyd gyda'n gilydd yn awr, mai myneich yw lluosog y gair, ac nidmynachod. Os deil y Coleg hwn i gael rhagoro athrawon felhon, bydd yn aft-Normal toe. Y PARCH. AP QLASLYNYmae Mr. John Owen (Ap Glaslyn) bellach yn Bareh. canys y mae newydd gael ei dderbyn yn aelod o Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg, a'i waith dros y Symudiad Ym- osodol yn cael cymeradwyaeth ar bob Haw' Nid dadlu nac ymresymu a'r rhai cyndyn a gwrthnysig y mae, eithr eu canu i'r Seiat megis heb yn wybod iddynt. Byddai ei glyw- ed, yn nyddiau ei anterth fell leisiwr, yn canu Pa le mae fy nwchgen hoff ? Pa le mae'r Amen ? ac yn y blaen, yn toddi'r mwyaf anystyriol, a gyrru ei galon galed i redeg fel cwyr cannwyll. Ac un o'r pethau mwyaf Cymreig, a bias yr Wyddfa ar bob tudal. ohoni, ydyw cyfrol Gweithiau ei dad, Glaslyn, gan Cameddog. A welsoch chwi hi ? + DYWEDDI PETER HUGHES GRIFF- ITH.-Dywedir fo d Mrs. T. E. Ellis--gweddw prif anwylyd Seneddol ei genedl-wedi ei dyweddio i'r Parch. P. H. Griffiths, gweinidog hysbys Eglwys M.C. Charing Cross, Llundain. Os felly," ebe'r wlad, chwiled y Nef am bob bendith sydd ganddi i'w bwrw ar ben y ddau." Y hi'n chwaer Mr. J. H. Davies, M.A., Cwrt Mawr, arch-lyfrbryf Cymru yn chwaer hefyd i'r lenores gain, S.M.S., sef priod y Parch. J. M. Saunders, M.A., Penarth gynt, Adelaide bellach. Ac efe, sef Mr. Griff- ith, yn un o bregethwyr mwyaf fires a chy- riniol Cymru, a'i gyfrol Ltais o Lundain, yn frith o feddyliau na sych] mo'u sug ysbrydol am yr hawg. <» TOM BACH. Y mae ei mebyn hi-sef Master Tom Ellis-yn ddysgwr cyflym yn un o ysgolion y Brifddinas, ac yn ddwy lath a throsodd o daldra, ac yntau ond un ar bym- theg oed, nae wedi gorffen tyfu o ran corff a meddwl ac asbri dros ei wlad. Tipyn o gamp i Tom bach, er ei 6' x 3i". fydd tyfu'n dalach na'i dad yng ngolwg ei genedl. WRTH ALLOR LLANFAIR P.G.- Yng nghapel M.C. Llanfair P.G., ddydd Mer- cher diweddaf, priodid Mr. O. Pritchard (Mri. W. ac O. Pritchard, y contractwyr) â Mrs. Humphreys, Column View, o'r un lie. Y Parch. W. G. Williams yn selio'r cyfamod, a chryn hel ac edrych ar y briodas ac ar y domen pwyddion. + WRTH ALLOR SEION.—Ac eto fyth, yng nghapel M.C. Seion, Gwrecsam, yr un diwrnod, priodid y Parch. D. Ynyr Hughes, B.A., gweinidog eglwys M.C. Llanbedrog, Lleyn, a Miss Alyce Howell Hughes, merch hynaf y diweddar Barch. J. Howell Hughes, y Bala. Y Parchn. R. E. Morris, M.A., O. Lloyd (Caergwrle) a W. E. Williams (Llan- fairfechan) yn gweinyddu y Parch. Trevor Jones, B.A.,B.D., Stockport, yn was priodas, a Miss Minnie Hughes (chwaer) yn forwyn. Boed eu llwyb r mor sgleiniog a'u modrwy. -.0- WRTH ALLOR BRYN MENAI.—Yn enw dyn, pa beth sydd yn yr awyr, dwedwch ? canys dyma, briodas arall Ddydd Mercher diweddaf, yng nghapel Bryn Menai, Felinheli, priodid yr Henadur J. R. Pritchard, Caemar- fon, a Miss Beatrice J. Ball, merch y Sergt. Major Ball, o'run dref. Yr Henadur Grego ry yn was priodas, a Miss Gwladys Ball yn for- wyn ac os oes yna le i un rhagor o anrhegion areich bwrdd, dyma hi, o waith Tudno i ddau cyn addfwyned a chwithau bron :— Dewisaist ti dy asen,"—a'th Dduw wnaeth Ddau yn un yn Eden, Arddeled eich aur ddolen Drwy hyn o fyd i'r Nef wen. PENYD DROM.-Dywedir fod Mr. T. J. Hughes, Gors wen, Llanrwst, wedi ei anfon i garch ar am ddwy flynedd gan yr awdurdodau milwrol am wrthod mynd dan archwiliad meddygol am 6.30 y bore, a'i fod ar hyn o bryd yng ngharchar Wormwood Scrubbs,— hen enw atcas, na gronyn o drugaredd na barddoniaeth yn ei swn. 09- RHESYMAU AFRESYMOL.-Y mae gan y Parch. W. Samlet Williams, Briton Ferry, lythyr yn amryw o'r papurau Cymraeg yn erbyn cydio'r Gymanfa Ganu wrth yr Eistedd- fod Genedlaethol, a dyma'i esymau, pe rhesymau hefydj;— Mudiad crefyddol yn llwyr ac hollol yw'r Gymanfa Ganu. Nid yw'r Eisteddfod yn "sefydliad crefyddol. Ni.d achubiaeth eneidiau a chysuro credinwyr yw ei diben, er fod iddi amcan dyrchafu y bobl i feithrin llenyddiaeth yn ei wahanol ar- weddion. Y mae cysylltu'r Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod yn ieuad anghyd- marus. Yr ydym yn rhy barod i ddefnyddio llestri'r cysegr i yfed yr hyn hyn nad yw yn Ddwfr y Bywyd.' Nid da cymysgu y daearol a'r ysbydol, yr hyn a wneir yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma un o rwystrau llwyddiant. yr "Efengyl. Dyweddio yr eglwysi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda phob "parch, 'Dwylaw rhyddion oddiwrth y Gymanfa Ganu, ac hefyd, na chaner fel mawl i Dduw emynau y cysegr mewn teimlad eisteddfodol. Dyma ragrith yn ei dillad goreu. Os daearol yw'r Eisteddfod, onid goreu po fwyaf o Ddwr y Bywyd a lifo iddi i'w nefoleiddio ? Y mae tuhwnt i Mr. Samlet Williams, na neb arall, fedru hollti bywyd yn sacred a vectilar Duw a phob daioni, ebe'r hen air. WRTH DDARLLEN LLYTHYRA U'R LLANCIA U.-Bydd ami i fam a thad yn gofyn i ni daro golwg dros lythyrau'r llanc o faes y frwydr a chair ami un ohonynt yn anadlu penderfyniad i ddal ati nes trechu'r gelyn, ac yn peri i ddyn gofio geiriau Tudno yn Rhyfelgan Iolo GocK':—■ Mae genau'r dewr wrth gorn y gad, Ei ddolef rwyga'r nen A choron falch pob bryn drwy'r wlad Yw'r goelcerth ar ei ben Wladgarwyr dewr, diweiniwch gledd, Ymleddwch wrth ei garn a gwaed eich bron cysegrwch fedd Cyn bod i Drais yn sarn. Ambell lythyr arall llawn o hiraeth o Ffrainc a Salonika, yr Aifft a Phersia, yn mwmian bron wrtho'i hun wrth gadw sentri cyn dechreu rhuthro :— Er crwydro fel alltud ymhell o fy ngwlod, Caf edyn dychymyg i fwthyn fy nhad, A mynych ehedeg dros donnau yr aig I'r bwthyn yng Nghymru, fel gwylan i'r graig. Lanciau annwyl Mor chwith yw'r Hen Wd a'r hen aelwyd heboch. ;"0- YS U AM DDECHRP, U.-Dyfamwyd Ysgoloriaeth Pierce (£50) yng Ngholeg y Bala i'r Parch. Isaac Parry, Colwyn Bay, sydd newydd gydsynio a galwad o eglwys flint, ac wedi penderfynu dechreu ar ei waith bugeil- iol yn hytrach nag aros i efrydu rhagor- ABER YSTW YTHAEG.-Bu'n gryn gras- ineb yng Nghyngor Tref Aberystwyth rhwng dau o'r aelodau oblegid gwaith un o'r ddau yn gwrthod gweithredu ar bwyllgor neilltuol am fod y llall, ac yntau'n broffeswr yn y Brif- ysgol, wedi dweyd damned lie." Yr wyf yn ymddiheuro am arfer y gair," ebe'r Proff., I "ond y mae'n berffaith wir, serch hynny." Ymae rhyw ffrae a chodi gwrychyn o hyd yng Nghyngor Aberystwyth, beth bynnag ydyw'r rheswm. GWYLLIAID Y GLANNAU.-Qofal- weh gloi a bolltio'ch drysau, canys y mae yna haid o ladron craff eu llygaid ac ysgafn eu bysedd yn chwilenna o gwmpas y Rhyl a threfi eraill glan m6r y Gogledd, gan dorri i dai gefn trymedd y nos a mynd a hosan drom y cynhilion gyda hwy. Croeso iddynt o'm hosan i, canys y mae gormod o dyllau ynddi i ddal dim. HEN GORLAN EMRYS.—Gwelwn yn Y Golevjad fod Mr. O. R. Owen, B.A., Felin- heli, wedi cydsynio a'r alwad i fugeilio eglwys M.C. Trefnant, Dyffryn Clwyd, yn ddilynydd dau ieithydd o fri-Dr. Robert Roberts, yr Hebrewr hyddysg, ac awdur Rkyferthwy Itvrop, a'r diweddar Ambrose Jones (Emrys ap Iwan), awdur yr Homiliau, a Chymrejgydd tan gamp. Y mae Mr. Owen yn llanc disglair ei yrfa addysg enillodd Ysgoloriaeth Pierce (190) bedair blynedd yn olynol; ac ni allwn ddyxnuno dim gwell iddo na medruboddio bias y bobl a borthwyd gan Emrys a meddyl- iau aur mewn iaith arian. YN ERBYN, FWY NA HEB.-YG nghyfarfod Cymdeithas Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd yng Nghriccieth, ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, dywedwyd i'r dref honno gael ei chanfasio o dS, i dy, ac i 80 y cant o'r bobl arwyddo'u parodrwydd i ardystio fel y Brenin, a mynd ar eu llw na phrofent ddafn o'r ddiod felltigaid nes y dibenno'r rhyfel. Peth arall a ddywedwyd ydoedd hwn: na euogfarnwyd cymaint ag un o feddwi yno ers tair blynedd a hanner. Cafwyd trafodaeth ar Genedlaetholi'r Fasnach, y Parch. J. Glyn Davies, Plenydd ac eraill, yn cymryd rhan, ae'r gwynt yn ei erbyn fwy na heb. Y HI A'I MARJARIN.—-Yng nghyfar- fod Gwarcheidwaid Ffestiniog, sylwai Mrs. Casson ei fod yn wastraff cywilyddus talu swllt a saith y pwys am ymenyn i dIod. ion y T pan allid caeI marjarin llawn cystal am swllt. Ond ebe'r cadeirydd, iechyd iddo Nid ydym fel Gwarcheidwaid yn barod i ddi- sodli ymenyn a marjarin. Yr ydym i gyd am i'r hen bobi gael bias ymenyn ar eu brechtan. + RHESTR JOHN DAFIS.—Llyfrbryf diwyd a hoff o'i waith yw Mr: John Davies, Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, ac yn eirias ei sel dros Gymreigiwch y sefydliad hwnnw. Y gymwynas lenyddol olaf a wnaeth ydoedd casglu rhestr o'r holl lyfrau a argraffodd ac a gyhoeddodd John Ross yng Nghaerfyrddin rhwng 1763 a 1807. Sais ydoedd Ross, a wladyehodd ym Mro Myrddin ac a ymrodd i fod yn un o'r argraffwyr goreu a mwyaf cefnogol i lenyddiaeth Gymraeg. Y mae cyfrolen John Davies yn brawf o ysbryd anturiaethus Ross ae o'i sel dros ei wlad fabwysiedig, ac yn glod i lafur a dyfalwch John Davies ei hun. Diddorol anghyffredin ydyw teitlau rhai o'r trichant llyfrau a gyhoeddodd Ross. Hwdiwch ddau neu dri 15. Rhai Rheolau a Chyfarwyddiadau A gynnygwyd er cynnyddu Cyfeillach Grefyddol ym mhlith Crist'nogion. Ynghyd a Hymn ar Dymmer Lonydd. 0 Waith y Parchedig Mr. Lewis Rees. Caerfyrddin, Argraphwyd gan I. Ross, 1771. 24 tud. Ys gwn i ai o ddifrif ynteu o fregedd y canodd y dywededig Lewis Rees ei Hymn ar Dymmer Lonydd yn y fath gyswllt aw- grymiadol? Tybed a ydyw hi'n ddigon da a phriodol i'w dodi yn y LIyfr Emynau Cenedl aethol y pwysir am ei gael y dyddiau hyn ? Eto 17. Rhybudd cyfr-drist i'r Diofal a'r Difraw Neu Gywir Hanes am Gyfiawn Fam Duw a oddiweddodd Ystafellaid o Ynfydion anystyriol yn ninas CaerUeon Y rhai ar ganol eu Difyrrwch a chwyth- wyd i'r Awyr gan Bowdr Gwnn Ar Ty lle'r oeddynt a wnaed yn gyd-wastad a'r llawr. At yrhyn y chwanegwyd Pregeth Oddiwrth y Geiriau hynny Eithr onid edifarhewch chwi a ddifethir oil yn yr un "modd,' Luc xii, 3. Gan y Parchedig Mr. Evan Evans." Onid tipyn o estyn go wybodus ar yr adnod oedd chwi a ddifethir oil yn yr un modd ? Bywyd Duw yn enaid dyn, dyna deitl ar- dderchog un o lyfrau cyfieithedig Ross o'r Saesneg. Cri8t ym mreichiau'r Credadun ebe teitl tlws un arall ond goreu i gyd yw Griddfanruau'r Credadun am Berffeithrwyydd ac AnUygredigaeth, gwaith yr hen Forgan Rhys. Gair godidog yw griddfannau," a diolch am wybod tipyn am ei ystyr a'i nerth yn y galon ac nid yn unig mewn geiriadur. Dioldi yn fawr i chwi, John Dafis, am eich rhestr ac am eich sel yn hel y pethau da a diddan hyn at ei gilydd. GRIMALDI DAVIES. Da gennym glywed mai y Canon Grimaldi Davies, D.D., ficer y Trallwng, sydd wedi cael ei benodi'n ddilynydd y diweddar Barch. D. R. Thomas, M.A.,F.S.A., fel Archiagon Maldwyn. Bydd hwn yn benodiad poblogaidd iawn, canys y mae'r Archiagon newydd yn wr cymeradwy a hoff gan bawb, tufewn a thuallan i'w Gyfun- deb, ac at hynny, yn Gymro cynnes a chanddo gariad at iaith a phopeth cu Cymru, megis y dylai fod yng nghalon pawb sydd am ei chadw'n Eglwys Genedlaethol. Graddiodd yr Archiagon newydd yn B.A. yng Ngholeg Iesu,Rhydyehen,yn 1878, ynM.A. yn 1881,ac yn D.D. yn 1909. Yr oedd ei fab-y Parch. Ivor A. Davies—yn gurad yn Eglwys St. Saviour's, Birkenhead, pan dorrodd y rhyfel allan ac yn groes i orchymyn yr Archepgob, ymunodd a'r Fyddin, sef a'r Yorkshire Hussars, ac a glwyfwyd yn yr ymladd yn Ffrainc. Ar ol hynny, fe'i penodwyd yn gaplan. Nid oes dim lediaith ar Gymraeg y Parch. Grimaldi Davies a hyderwn y bydd llai o hynny ar y sawl a fo dano o hyn ymlaen. Y mae eisiau rhai o'i fath i gadw'r barrug Seisnig rhag ymdaenu'n gen mor oer a marwol dros Sir Ann Griffiths a Mynyddog, S.R. a Gwallter Mechain. -<&- Y CELT ANNIFFODD.- Y mae gan Mr. E. T. John, A.S., ysgrif gref ar Enter the Celt yn y Scottish Review, cylchgrawn a'r frawddeg ddewr ddiamwys hon mewn Ilyth- rennau breision ar ei dalcen :— A quarterly Journal devoted to the cause of the Independence of Scotland." Ac obe'r Golygydd, ar ddechreu'r ysgrif :— The entry, or rather re-entry, of the Celt on the great stage of European politics "has suggested to us the formation of a symposium in which current opinion as to that matter in each of the three Celtic countries shall be adequately voiced. In our trilogy, we gladly assign the place of honour to Wales, whose greater devotion to national fundamentals en- titles her to take precedence, in this respect, of either Scotland or Ireland. Y mae'r ysgrif yn un gref a goleuedig, ac yn gosod achos Ymreolaeth Cenhedloedd Celt- aidd Prydain ar seiliau cedym anatebad- wy. Nid oes ofod i ddilyn ei phwyntiau, eithr dyma'i chnewyllun :— We believe that the development of the present British Parliament into an Im- perial Parliament with Oversea represen- tatives, together with the relegation of purely English, Welsh, Scotch, Irish and Ulster concerns to subordinate assemblies involves the solution of endless squabbles between Celt and Saxon, and is the next "necessary step towards a secure and efficient Empire. Teitl da yw Enter the Celt, er y buasai Re-enter the Celt yn fwy cywir canys fe fu 'r Celt, adeg go bell yn ol, yn bendynarrannau mawr o Europ ac er fod cryn lawer o BrwsiaethSacsonaidd yn y wlad hon nad yw'n deall dim ar y Celt, ac yn benderfynol o'i fyuu drwy chwalu ei Fyddin o Cinmel i Litherland ac yn y blaen, nid ffordd yna y medrir ei ddiffodd. Ni wna hynny ond peri iddo frochi a sythu fwy fwy dros ei hawl i lynu wrth ei neilltuolion cynhennid, ac i ddod i fewn yn helaethach nag erioed i fywyd yr Ymherodr- aeth gwedi y terfyno y rhyfel. .4- GAELIAID ISCOED CELYDDON.Ar gefn y Scottish Review, y mae hysbysiad a ddengys fod hen iaith Ysgotland yn fyw a'i llenyddion am ei pharhau AN ROSARNACH.-The aim of An Rosarnach is to publish specimens of the best Prose and Poetry of which con- temporary Gaelic literary craftsmanship is capable. An Rosarnach will consist of at least 260 pages of text (Gaelic through- out), and will be charmingly illustrated. The gentlemen whose mpnes here follow have kindly promised their literary assistance in the production of An Ros- arnach Lachlan MacBean, The Rev. Donald MacCallum, John MacCormick, T. D. MacDonald, Hector MacDougall, "Angus Henderson, The Rev. Donald Lamont, J. G. MacKay, The Rev. Neil Ross, Angus Robertson, Neil Shaw, and Donald Sinclair. It is hoped to obtain the literary assistance of other gentlemen whose parts, as Gaelic writers, are justly esteemed. It is hoped to make An Rosarnach an annual publication. The price of An Rosarnach will be Ten Shill- ings per copy. Dyna dipyn rhagor o brawf mor anniffodd yw'r Colt, er cymaint o ddwr Llund»in a deflir drosto.

Advertising