Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

 YSl Af[l- Y.-. [lROD!

Advertising

O Lofft y Siabal.I

News
Cite
Share

O Lofft y Siabal. I I xx I Mistab GoiiYGYDD.— Rydw i'n ddigon call —-er gwirionad ydw i-Ï wbod nad oes dim cynllun a threfn i'r llythyra a sgweimis i i'r Brython. Beth alia neb ddisgwyl o Lofft Stabal, deudwch ? Teb-ig iawn ydi fy fiordd i o sgwennu i ffordd Carlo'r ci ma o hela a rhedag ar ol y sgwamog a gyfyd gynta. Neiff Sgwarnog ddim rhedag ffordd y mynno'r ci, ond y ci ffordd y mynno'r sgwarnog. A dydw i ddim wedi cael y nysgu i gyfansoddi-fel y bydd prygethwrs a beirdd, sy'n mareio'i llwybyr yn gynta, ac yn gwbod y diwadd o'r dechreuad. Yn wir, mi fydda Jac Jos yn deud na fydda hi ddim yn anodd dallt beth ddeuda amball brygethwr oddiwrth i raniad o o'i destun, a rhai beirdd hefyd. Ond am dana i, druan. ohona i, wn i fy hun ddim beth fydd ffordd fy llythyr i ond fel y bydda i'n mynd ymlaen. Yn. hyn o beth rydw i'n debig iawn i'r hen batriarch y deudir i fod o wedi gadael i wlad "heb wbod i ble'r oedd o'n mynd. Ac eto, syr, ma rhw un teimlad dyfn ac angherddol yn y nghalon i, ac o dan a thu cefn i hoob llythyr a sgwennis i,—'awydd am i'r dosbarth rydw i'n perthyn iddo ddwad i'r gole iawn gyda golwg ar i gwerth a'u hurddas. Nid yn ceisio magu ysbryd hunanol a balch ynyn nhw rydw i, ond yr hunanbarch a'r annibyniaeth priodol i ddyn. Beth bynnag ddoth allan yn y llythyrahyn, 'doedd yroll yn ddim ond gwreichion o fiwrnais y teimlad yna, I fel tasa. Ma'n yr Hen Lyfr eiria tebig i hyn "iFab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt." Ond tydi'r drefn yn grand, miawn difri Neweh chi ddim llawar ohoni hi wrth siarad i lawr at ddyn. Yn wir, un o'r petha mwya effeithiol i suddo dyn anffodus yn ddyfnach i'w drueni ydi pentyrru areithia dideimlad arno fo. Mi greda i fod yr Hen Lyfr, wrth ddeud yn gynta Fab dyn, saf ar dy draed," yn taro trosol yn y graig sy'n syl- faen i wir gynnydd personol a chymdeithasol. Gydweithwyr annwyl gadwch i ninna, yn gynta i gyd, sefyll ar ein traed-fel dynion ymysg dynion, ac nid fel pe tasa rhw ddog- barth o bobol wedi i gneud chydig yn is na'r angylion, a ninna ddim ond chydig uwch na'r nifeiliaid. Safwn ar ein traed, yn ein gwerth a'n hurddas dynol, na ddarostyngwn ein hunain, ac na adwn i neb arall ein darostwng chwaith. ,&Cin wired a bod haul yn y ffurfafen, fedar y byd ddim gneud hebddo ni. Drychwch yn ol ar hanes y byd, ac mi welwch hyimy'n eglur. Mi fydda'r hen brygethwrs yn arfer dechra'u prygetha'n Eden," efo'n rhieni cynta ac mi greda i fod gynnyn nhw hawl i neud hynnu-fod y pwnc mawr oedd gynnyn nhw'n i drin yn gwreiddio'n y gorffennol pell yn rhwla. A'r un modd, ellwch chi ddim trin y pwnc o maethyddiaeth yn hanesyddol nad ewch chi'n ol at Baradwys. Mi ddeudir fod pechod wedi melltithio'r ddaear, ac ma ffrwyth melltith ydi drain ac ysgall a phetha o'r fath. Ac mi dysgwyd fi fod cosb ar ddyn ynygeiria, Trwy eh wys dy wymad y bwytei fara hynnu ydi, fod y blinder a'r boen sy miawn llafur yn gosbedigaeth ar ddyn. Newydd fod agos a lladd fy h-Lin wrth geisio profi fod pob dyn yn ffwl ar adega, mi orffen- wn fy hun pe dechreuwn i ar bwnc dyrys arall. Ond i'r fan yma rydw i'n disgyn ar unwaith— melltith a chosb ne beidio, ma'r alwedigaeth maethyddol ynddi i hun yn angenrheidio], Gwaith ein galwedigaeth ni ydi dadwreiddio cnyda melltith a phlannu cnyda bendith yn i lie nhw. Pan drychwch chi'n ol trwy'r Beibl, mi gewch fod ein gwaith ni'n y golwg ar hyd y ffordd, a phob gwaith arall yn rhw lechu'n i gysgod o. Wedi'r diliw mawr hwnnw, a chin i'r ddaear sychu tan draed Noa a'i griw, yr addewid gafwyd oedd y cai'r llafurwyr tir gylle'r tymhora i neud i gwaith hyd ddiwadd y byd. Rhwymyn amryliw am yr addewid i ni ydi'r enfys. A phan ddowch chi at Ddeddf Mosus, -mi allach feddwl nad oedd dim gweithiwrs yn y byd ond y ni, ne nad oeddan nhw ddim yn werth sylw. Cysidrwch y Deg Gorchymyn, ac fel ma nhw'n delio a gwaith. 'Doe" dim eglurach na'i bod nhw a'i golwg ar y ffarmwrs, ei gweision a'i mrynion, a'i nifeil- iaid. Yn y gwaharddiad i weithio ar y Sul, fedrwn i'n y myw beidio ngweld i a Mari'r forwyn ma'n mynd heibio'n y cwpwl yma, "Na'th was na'th forwyn." Ond yn holl Ddeddf Mosiis i'r Israeliaid, ynghyleh gwaith bydol, y tir a'i lafurio oedd o dan bob peth. Ac rydw i'n credu fod Jac Jôs. yn iawn wrth ddeud y ba-sa'n dda i'r wlad hon heiddiw tasa cyfreithia'r tir wedi i gneud yn ol cynllun Mosus. Un o'r melltithion—gwaeth na drain ac ysgall—mwya ynglyn a, deddfa tir, ydi fod crafanga dynion marw'n medru cvdio'n ddi- ymolhvng miawn stadau helaeth, trwy gyf- rwng cyfreithia traws, a bod y bedd yn llywodraethu atngylchiada dynion byw. Ac ma'n hen bryd i'r bachagorthrymus hyn gael i datod am byth. Beth bynnag, ma mhwynt i'n eglur ddigon ymhob cyfnod yn hanes y byd—'does dim modd gneud heb lafurio'r ddaearhau a medi, plannu a chasglu. Miawn gwirionadd, rhw dendio union ni Y ma gweith iwrs erill—o leia, arnon ni y ma nhw'n dibynnu. Mi welis i lun y ddaear yn i chryn- swth yn faich ar war rhw "Atlas." ond dychymig plentynaidd oedd hwnnw. Ond nid dychymig ydi fod y byd dynoI yn dibyn- nu am i gvnhaliaeth ar y tir. Yn wir, rydw i wedi deud hyn gynifer o weithia, erbyn eofio, nes ma arna, i ofn i rai ddiflasu ar y peth ond, o'r tu arall, ma arna i ofn fod erill ag y mae eisio deud, a deud, a deud yr un peth wrthyn nhw cin y gollynga nhw fo i fiawn i'w penna. Heiddiw, yn anad un amsar, fe ddylai llafurwyrddeffro i'r fEaith i bodnhw'n'anghen- raid i fywyd y byd. Ma'r Annagedon fawr yn taranu'r ffaith hon ar glyw pawb. Wrth gwrs, ma cynnyrch y tir yn cael i werthfawrogi yn ystod y rhyfel yn fwy nag y cafodd o ers talwm o'r blaen, ond pan ma pobol yn son am yr adag pan gyhoeddir heddwch, ma nhw'n. unfryd unfarn y bydd raid rhoi mwy o le asylw i'r ddaear nag a wneid o'r blaen. Mi sonnir am i diroedd wast gael i trin, ac y dylid troi'r mynydd eang sy'n awr yn dir giam yn dir Ilatur Sonnir am drefnu gwaith ar diroedd i filwyr clwyfedig. Miawn gwirion- edd, ma maethyddiaeth wedi goroesi pob trychineb ac fel y bu iddi oroesi'r diliw dwr gynt, bydd iddi oroesi'r diliw tan presennol. Ma llawar crefft wedi darfod amdani yng nghwrs yr oesoedd, ond ma'n crefft ni'n mynd ymlaen, ac i barhau holl ddyddiau'r ddaear, At hyn hefyd, syr, ma rh vv s^n di «ygiad yn y gwynt gyda golwg ar gyflog a c'hyfiwr y gweision ffermydd, a bod y Llywodrseth yn bwriadu caniatau i'r ffarmwrs fwy 0 gefnog- aeth yn y dyfodol, fel y gallont fforddio gwell telera i'w gweision a'i mrynion. Ma son am sicrhau gwell tai i weision ffermydd, Mi fu'r son am well tai i'r gweithiwrs ers Ha war o fiya yddoedd, ond rwsut ne'i gilydd roedd. "IIofft y Stabal yn cael i a?ng Stabal yn cael i anghofio-fel y llecyn olaf i gyfiawnder a gwareiddiad roi i delw arno. A chin sicred a mod i, dyma son am fynnu safon benodol i gyflog gwas ffarm Mi fethodd Solomon pan ddeudodd o nad oes dim newydd dan yr haul. Beth bynnag, dyma beth newydd-fod yn bosibl i sryflog fod yn rhy isel i was ffarm Wrth gwrs, roedd y fath reol yn bod ers llawar dydd yngl$n ag agos bob math o weithwyr erill—glowyr, gwelthwyr haeam, seiri coed a cherrig, etc. Y peth newydd ydi fod son am safon i ni, weision a mrynion ffermydd, miawn cyflog- fod rhw bwynt. na chaniateir i'r cyflog fynd islaw iddo fo, Taid annwl, dyma beth newydd Ond, coeliwch chi fi, mae'r peth yn dwad. Ydi, ydi. 'Does dim sicrach nag y bydd y gweision ffermydd--yn gystal a gwerin y wlad yn gyffredinoI-yn dwad adra o'r rhyfal yn wahanol iawn i fel yr aethon nhw yno. Mi fyddan wedi dysgu sefyll ar i traed, a gloewi i dynoliaeth oddiwrth rwd gwaseidd-dra. Ond inni gael gras i beidio mynd yn afreolus a dibris o hawliau pobol eraill, ac ond inni feddu ysbryd heddychol, yna, mi greda, i syr, y daw cyfnod newydd a gwell i'r gweision ffermydd, oherwydd y bydd y gwag ff armqtvdi. d, y gwas ffarm j edi do sail sefyll ar i draed fel dyn. Ili, HEN ,V AS I ?: -o-

Itin Cenedl yn Manceinion.

Advertising