Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offai [GAN YR HUTYN.] ADD YSO GANOLRADD Y CLAWDD. —Hysbysir fod Ysgol Ganolradd Gwraig Sam dan sang gan ysgolo rion-tros ddau cant o fechgyn a thri chant o enethod. Rhaid fod syched mawr yn y wlad am addysg, bryd y coflwn fod y tal yn uchel. A chyda llaw, sut, yn enw rheswm, y mae'r addysg yn yr ysgol hon yn costio cymaint, ag ysgolion cyffelyb da dan hanner y pris, ac eraill llawer llai na hynny ? Beth yw'r esboniad, os oes esbon iad ? ORI AM AROLYGESAU.-Galw am y rhyw deg a glywir yma eto. Mae eisiau women inspectors. Da iawn fai hynny. Onidoes eisoes athrawesau, apham lai arolyg- e3au ? Hefyd, merched, fe welir, sydd yn y mwyafrif mawr yn yr ysgolion hyn. Fe ddylai fod mwyafrif o arolvgesau. TORRI TIR NEWYDD MEWN ADDYSG.-Onid yw'n ddigon ar y dydd i dorri tir newydd ynglyn ag addysg r Paham y rhaid aros gy'da'r hen bethau o hyd, a llawer o'r rheiny'n hollol ddifudd ? Llai o ddysgu sydd eisiau, medd rhyw un,*a mwy a addysgu. Da iawn. Y peth pennaf i'w ddysgu mewn ysgol ydyw Moes. Esgeulusir h wn y dyddiau hyn. El y wlad yn ol o'rherwydd a pherygl yw addysg heb Foes. PREGETH A HYD YNDDI-A BLAS ARNI.-Pregethodd gwrhirwynt ar y Clawdd, yma pa fore Sul am awr a hanner. Syndod byd bryd y mae cymaint galw am anerch- iadau byrion nid pregeth, ond anerchiad nid awr, ond chwarter. Ond fore Sul di- weddaf, cawsant lawn gwerth eu harian yn y fan a'r fan gan y g#r a'r gwr. Nid gwiw dweyd pwy ydoedd. Ond syndod y syn- dodau Cyfododd un o'r blaenoriaid gan ddweyd, er mai'r bregeth hiraf a glywodd o bulpud erioed oedd, ei fod yn barod i eistedd dani am ddwy awr yn ychwaneg, heb flino dim. Ategwydhynny'ngyffredinol. Rhaid fframio'r 'gethwr a'r blaenor hyn, yn siwr i chwi. GWRGATHA AR Y CLAWDD.-Peth eyffredin iawn yw dyfod ar draws hogyn a hogen yn cwrcatha tua'r Clawdd yma ar nosweithiau. Ond nid gweddus yw. Onid oes modd rhoi pen ar hyn ? Mae'n un o'r pethau sy'n diraddio moes ein gwlad. Yn ami, fe fydd yr hogynos hyn yn ddigywilydd iawn yn llyfu wyneb y naill y llall yng ngwydd y rhai a ddigwydd basio heibio iddynt. Peth brwnt i'r golwg ydyw, ac nid llesol i iechyd ychwaith. Dylai'r cwnstabliaid wysio'r rhai hyn a'u gosod dan gosb fel public nuisances. Pasied pob ardal byelaw i'r perwyl yma, ac fe esgor ar les mawr. [Gwir, a gwir angenrheidiol iawn, a ddywed Yr HuJyn, ac y mae'n boenus i neb gwedd- ol lednais ei natur gerdded gyda'r nos drwy barciau Lerpwl yma, gan y gorweddian anniwair ei awgrym sydd gan gyplau ar bob Ilaw.-Y GOL.] YMBALFALU YN Y TYWYLLWCH. —Digwydd Uawer peth annymunol yn y tywyllwch y nosweithiau hyn, ac y mae hwn yn dywyllwch eithriadol; nid naturiol y w, ond cyfreithiol. Tarawodd gwr ei ben wrth lusern-bost y nos o'r blaen yr oedd golwg druenus arm yn cyrraedd gartref. Ami yw'r codymau hefyd a geir, oblegid ardal bur an- wastad i droed yw ardal y Clawdd. Mae'r cwestiwn i'w godi. A yw'n bosibl cael iawn am ddioddef fel hyn ? Dylid diogelu pobl mewn mannau peryglus ar nosweithiau tywyllion fel sydd eiddom yn awr. Y diogelweh pennaf ydyw yr Aelwyd Gartref." AELOD SENEDDOL Y CLAWDD.— Un byw iawn yw'r Seneddwr pybyr, E. T. John, a gweledydd digyffelyb. Mae ganddo 1 air yn ei le ar bob mater o hwjs o berthynas i Gymru, ac nid oes.drawst na brycheuyn yn ei lygad. Amheus iawn i'w olwg ef y lies a 1 ddeilliai oddiwrth Genedlaetholi'r Fasnach, sef y Feddwol. Crdd yn gryfy dylid ystyried ar ei phen ei hun; dyn ar ei ben ei hun yw'r Cymro. Nis gellir ei asio a neb arall. Felly y gwnaed ef.. Y WRA-TC, A SDD YWEDODD, "DEU- WCH, GWELWOH DDYN.Dy-made- tun dynes yn iin o bulpudau'r Clawdd y Sul diweddaf, meddir. Y mae dynion yn mynd yn brinion iawn y dyddiau hyn, a mwy o alw amdanyntmewn "maes" a thref nag a fn erioed. Ac 03 ri ymlaen fel hyn, peth anghyffredin fydd gweled dyn mewn gwlad o gwbl. Ond nid yw wedi dyfod i hyn eto, ac nid oes hyd yn hyn angen i'r un ddynes ddweyd, mewn syndod, wrth ei chydryw, "Deuwch, gwelwch ddyn." Ond dyn o ddynion, a dyn i ddynion, a dyn am ddyni m, oedd gan y bregethwraig hon y Sul diweddaf i'w ddangos, a gwnaeth hynny'n effeithiol iawn drwy hanesynnau a,c enghreifftiau dirif, nes oedd y .gynulleidfa fawr mown llawen fodd, a'u gruddiau'n wlybion. Caed hwyl anghyffredin, mi glywais. Gweinidog ar y Clawdd fu ei thad, nes ei alw i ogoniant. Bendith ar ei forwyn ferch LLUGHWR LLECHAU.-Curodd ys- torm arw ar y Clawdd derfyn yr (wyth. nos, a gwnaeth gryn dipyn o ddifrod mewn ami i le ac ami i dy. Lluchiai'r Ilechau o gopau'r annedd dai yn ddiseremoni, ac ambell i gorn simnau i'w canlyn. Diangodd hefyd ami i gopa gwalltog, nad oedd ond I trweh y blewvn rhyngddo a thragwyddoldeb. Ond beth yw Ilechi y wlad yma i'w cymharu a sheila v Cyfandir ? Y Nef a'n cadwo ni TOLI, Y LOFA.—Vn arall, druan, a gollodd ei fywyd yn y Ioia, sef glofaWynnstay,  yr wythnos ddiweddaf, oedd gwr ifanc dwy ar hugain oed a'i enw Wm. Meredith Jones,  Pen y cae, Sut y bu arno nis gwyddis yn iawn. Caed ef wedi anafu ei gefn yn arw ddydd Iau, a bu farw mewn canlyniad yn ysbyty Rhiwabon ddydd Llun. Mae'r dam- weiniau hyn yn digwydd yn amlach y misoedd hyn, sef misoedd y rhyfel, nag un adeg gynt ar y Clawdd. Garw hynny, ond pam ? Rhaid ymchwil i'r peth. j CADW'R FRAIGH RHAG Y FREOH. —Dywed adroddiad y Bwrdd Lleol nad oes gymaint o fufrechu ag a fu. Mae mwy na hanner y plant, meddir, yn ffoi rhag y, frech a phlg yr ellyn. Da iawn. Dyma war- edigaeth wir. Mae'r rhieni wedi darganfod fod ganddynt gydwybod yn y mater yma, a pha wr o synnwyr,heb son am gydwybod, a ymostyngai i beth mor wirion a chreulon, a, hynny ar blantos bychain, tyner, dinam Mae'r wlad yn graddol ddyfod i'w synnwyr. Bu gweinidog Efengyl ar y Clawdd yma rai blynyddoedd yn ol yn ymdrechgar iawn yn j agor llygaid pobl ar y mater hwn, ac yn eglur iawn mai nid yn aflwyddiannus y bu. Ca dal, yn awr wrth weld y wlad yn ei ddilyn,a chredu ei athrawiaetli,-y pryd hynny yr oedd pawb bron yn ei erbyn. Rhyfedd fel y mae'r byd yn troi WHIPPER IN MEWN PAIS.-PeTiod- wyd dynes o'r Rhos yn whipper in ar blant ysgolion y cyleh gan Bwyllgor Addysg y Sir, sef Miss Jennie Phills, Dywedir mai y hi yw'r cyntaf yn y grefft mewn pais. Ni synn- wn i ddim nad swydd i aros ydyw hon yn nwylo gwragedd. Bydd yn anodd cael y merched allan o'r jobsach hyn wedi'r rhyfel. Nid hawdd fydd i famau esgeulus daflu llwch i lygaid y merched hyn gwyddant y triciau'n rhy dda. JAO CORNWAL YNG NGHYMRU.- Rhyfedd fel y mae Jac Comwal wedi gafael yng Nghymru. Cesglir yn yr ysgolion dydd bres yn symiau mawrion drwy law plant Cymru tuag at y drysorfa. Nid oes ysgol ar gyffiniau'r Clawdd heb wneuthur ei chyfran. CASGLIADAU MAWRION Y RHOS.- Mae'r Capel Mawr yn dal i wneud pethau mawr o hyd, yn neilltuol gasgliad mawr. Casglwyd y chwarter cyntaf £ 109 yr ail, £ 106, a'r trydydd £ 111. Dyma dros dri chan punt mewn tri chwarter. Da iawn, Gapel Mawr, ac y mae capelau eraill yn dilyn wrth ei sawdl. Bechgyn y Rhos am com- petitions. SEIAT Y SAITH.-Cynhaliwyd Seiat y saith eglwys ym Mhen y cae yr wythnos ddi- weddaf, pryd yr ymgynhullodd eglwysi Meth- odistaidd y cyleh i'r Groes i bwrpas cyfeill ach. Ni ellid dyfod at y Groes mewn gwell ffordd, ond trwy ddyfod yn anenwadol. Beth pe ceid seiat fawr ym mhob ardal o aelodau'r gwahanol enwadau ? Gwnai hyn les mawr. A ddichon hyn cyn y Milflwydd- iant ? Mae'r rhyfel mawr hwn wedi dynesu'r Milflwyddiant yn rhyfeddol. Dyma beth gwerth ei gael. Amdano, ynte TANAU AR Y CLAWDD.-Torroddtin allan yng Ngwreesam uwchben siop y Cown- silor Stanfford. Llwyddwyd i'w ddiffodd cyn iddo ennill fawr tir a chael gafael gref ar yr adeiladau. Tafarndai oedd y nesaf i'r Ile, a llosgwyd tipyn ar hwnnw. Torrodd tan allan hefyd tuallan i'r dref yn y Rhos Ffarm, a gwnaeth ddifrod mawr ar yr adeilad a'r gwair--y golled tros hanner mil o bunnau. Gwnaeth y Tan Prig ad ei gorou ac yn gan moladwy yn y naill amgylchiad a'r llall. Gresyn fod cymaint o ariliwylustod ynglyn. a'r dwfr mewn achosion enbyd fel y lit am. Rhaid cael Dwfr Frigad cyn y bydd pethau yn iawn. DIM BLAS AR Y FFRANGEG.— Dywed y Glep nad oedd neb am ddysgu'r Ffrangeg yn ysgolion nos Gwraig Sam y flwyddyn ddiweddaf, Yr oedd rheswm da, mi gredwn, am hynny. Ond gallai'r ysgol- heigion ddysgxi'r iaith lion lawer yn well a chyflymjach ar yr ystryd trwy ymddiddan ac ymgyfeiilacl-u a'r Belgiaid ? Nid dim yn erbyn yr iaith, mi gredaf, oedd y rheswm ond z; F ,ii. Gyda Ilaw, oii i d yn erbyn y modd i'w dyagu. Gyda llaw, onid gwastraff ar amser ac amynedd yw dysgu French yn yr Ysgolion Ganolradd megis ei dysgir i,ii lieddym, ? Byddai'n llawer mwy buddiol i'r plant pe dysgent rywbeth arall. Ni fydd dim a chyn lleied o angen amdano oddigerth i'r rhai a fwriada fynd yn athrawon yr iaith euhunain, ac un o fil ydyw'rrhai.liyn. Dysger moesau i'r plant, yn lle'r pethau di- werth hyn. GAMDRIN Y CWNSTABL.—Bu farw cwnstabl glew o dref Gwrecsam yn yr ysbyty y dydd o'r blaen, o'r enw Dafydd Lewis, a hynny drwy iddo gael ei gamdrin gan ryw anghenfil o'r lie dro mawr yn ol. Ciciwyd y cwnstab! ganddo yn ei goluddion, ac ni chafodd adferiad llwyr o'i archollion. Bu 1 farw mewn canlyniad yr wythnos ddiweddaf. Cywilydd os eaiff y mwrddwr hwn ddianc yn 1 ddigosb, er fod yr amser wedi rhedeg ymhell. Rhaid diogelu'r heddgeidwaid, SAETHU'R OADNAW.-Cododd rhyw sniper ei ddryll, a gosododd ei drwyn yng nghyfeiriad cadnaw tua Llangollen y dydd o'r blaen, a saethodd ef yn y man. Dywedir mai peth dieithr yw gweled cadnaw pedwar troed y dyddiau hyn, ac ni welir hwn mwy- ach. Hwyrach y cred y giwed y gallant ymlwybro'n well ar ddeutroed; o'r hyn lleiaf, mae Ilawer o'r math yma yn y wlad, ac nid oes eisiau crocsi i'r Almaen amdanynt. Ond ) pam, atolwg, y saethir y rheiny ac nid y rhain? O'r un rhyw ydynt, a'r peryclaf y rhain. Cedwch eich gwn ar eich ysgwydd, frawd bydd ei eisiau'etoj nid yw hwn ond y cyntaf. WAR BONUS A BU GEILIAID~Pen- derfynodd Wesleaid Llangollenfddal i roi war bonus i'w gweinidogion. Nid oes fawr neb yn gofalu cymaint am angen y gweini- dogion a'r Wesleaid, ac y maent i'w mawr ganmol. Ar ei ennill y bydd yr enwad o hyn, a gwyr hynny. Cofied yr enwadau eraill am eu bugeiliaid yr un modd. Y gweinidog o bawb sydd yn dioddef fwyaf yn yr helbull cyfandirol hwn. Rhyfedd cyn lleied sy'n I gweled hynny !$ CAETHIWO'R 'GETHWR.-Deallaf fod I y Parch. Edwart Dafis, "frr Duw, 0'1' Lodge, ¡ efo chwi yn Lerpwl, Mr. Gol., dan driniaeth lawfeddyg yn un o ysbytai'r ddinas. Bydd wch dirion wrtho gwr glew ydyw. Hyderir ei weled yn ol yn fuan gyda'i gynhefin. wedi cael adferiad llwyr a chyflawn wellhad. Y SABOTH. Na wna ynddo ddim gwaith."—Mae'r Llywodraeth wedi ymgym- eryd a thincro tipyn ar y Gorchymynion, gan gychwyn gyda'r uchod, trwy ddweyd Na wna ynddo ddim gwaith, ond dan amgylch- iadau neilltuol, pan fo galw." Atal dy law, tydi Llywodraeth eofn, oddiar Lech Sanct- aidd yr Anfeidrol. Gwae'r neb a ychwanego ddim at y Llyfrhwn. Cadwer y Gorchymyn yn ei grynswth. J GWYLIAU'R CYNHAEAF. — Adwy'r Clawdd (W.), y Parch. G. T. Davies, Gwrec sam. Johnstown (A.), y Parchn. J. T. Miles, M.A., Gwrecsam, a George Jones, Rhos. Rhosrobin (E.L.), y Parchn. R. C. Pembridge, a C. E. Austin, M.A., Farndon. Rhos (RL.), y Parchn. Herbert Ifans, Cerrig y drudion,; D. T. Silian Ifans, B.A., Rhos y medre, ac F O. G. Pritchard, Capel Garmon. Lodge (U.M.), y Parch. H. R. Jones, Penarlag. Rossett (P.M.), y Parch. H. P. Fell, Caer, a Mr. A. E. Crease, Gwrecsam. Caergwrle (C.M.), y Parch. J. Lewis Jenkins, Lerpwl, Ffrwd (P.M.), y Parchn. D. Ward Williams, Gwrecsam, a Job Evans. Gresfford (E.L.), y Parch. F. C. D. Lewis, Caplan y 4th Reserve Battalion, Lancashire (E.). Pen y cae (E.L.), y Parchn, J. Lewis Williams a'r Canon Lewis, Rhiwabon. -1

Clep y Clawdd sef Clawdd Offai-

Advertising