Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Beaty Bros Ltd. MILITARY TAILORS. OFFICERS'UNIFORMS OF EVERY KIND. ALL ACCESSORIES FOR FIELD SERVICE. LOWEST POSSIBLE PRICES. ONLY "DRFM]M Church St. and London Rd., LIVERPOOL. Close atl pl. wodao"a". Open all day Saturdays, OPhone-3925 Bank, » Sao Bootle, i. unite jiilitwy, flaval & Civil Tailors, 29S0UTH JOHN ST., LIVERPOOL AZAO 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Complete Military Outfits MFANIRt with Sword Knot J Nett. Send for Price List. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pothaun troi'n niwlog »c anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd lleihdod y llypd, a clflecla ga el eu bedrydi rhag blem eu gwaethygu wna'u heageulso. Gallwn ni, hofter gwyddonol, ddwoyd wrthyeb M oss arnoch angen gwydrau; ac 01 felly, eich cyflenwi A'r rhai a barai fwyaf o lea i chwi. Geweh hoddyw- ARCHER SONS Eyesiiht Specialists. 73 LORD STREET, Sdydlwyiiltf. LIVERPOOL. I MORRIS EVANS' Household Oil, IS STILL ahead of all other remedies FOR Bheumatism, Sciatica, ^UXXlbagO, and Wounds, of all kinds. In bottles 1/3 a 2/9 Grocers ct Chemists, or direct for above prices from MORRIS EVANS & Co., THB MAHCMOTOBY, WESTINIOGI Ni WALES. LIVERPOOL The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, .i. mUM from Limt tt. 4 Ctntral Stat NI. A First-olass Temperance Hotel. Moderate eh rok. SfaattMbury Hotel, L'pool." Phom I ASK FOR IDRIS Table Waters In Sypboaa tod Bottle*, eODA WATER, POTASH WATER, 6ELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER. ALB, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Sorthumberland St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS SON 221 Breck Rd,, and 9 Moss Sl,, L'poolJ Pianos & Organs by all the leading makers. From 81-per month. namoaM—4Mz totfitld A 3772 tOY AL. Athrofa Aberystwyth (UN O'B COLBGAU TM MHRIFYSGOL Crime). Prifathraw-T, F. ROBERTS, M.A., ;LL,D. DECHREUA'R Tymhor nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1016. Parotoir igx efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru C?nygir amryw e ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedigi Gymry) "y Rwydctyn boa. Cymer yr .1id Ie yn Aberystwyth &r y1geg o Fis Medi" 1916,1, Am fanylion pellach, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A. Gofrtstrydd
I Trem Mr. Asquith.I
I Trem Mr. Asquith. I RHODDODD Mr. Asquith, ar agoriad y Senedd- dymor presennol, dafod i argyhoeddiad calon a phenderfyniad diysgog yr holl wlad. Nid oes a warafun y 1300,000,000 a geisia i ddwyn y rhyfel ymlaen hyd ddiwedd y flwyddyn. Gwna hyn y cyfanswm at y rhyfel am y flwyddyn ariannol yn £ 1,350,000,000, ac o ddechreu'r rhyfel yn 13,120,000,000, swm haws i'w ddywedyd na'i ddychmygu, a mwy na threuliau'r Wladwriaeth am yr ugain mlynedd, 1894-1913, yn cynnwys cost rhyfel De Aff rig. Y wlad hon yw Atlas y Cynghreir- iaid, a dwg eu beichiau'n fodlon ar ei hys- gwyddau cadarn, am y gwyr eu bod yn unfryd yn cyd-ymdrech dros annibyniaeth y gwled- ydd a rhyddid y byd, yn erbyn trais y gelyn, a aeth yn feddw chwil ar ei allu milwrol, a'i hawl ddwyfol i drawsarglwyddiaethu ar bawb yn ol ei fympwy balch. Yr oedd trem Mr. Asquith ar y safle filwrol yn Asia, Affrig, ac Ewrop, yn galonogol, a'r arwyddion ymhobman yn obeithiol. Llesteirir cynllwyn- ion y gelyn, emddifedir ef o'i allu i ymosod, a gwelir arwyddion amlwg o ddirywiad yn ys- bryd ei filwyr. O'r ochr arall, nid oes ball ar ddewrder, dyenweh, a medr milwrol y Cyng- hreiriaid. Ffynna cyd-ddealltwriaeth per- ffaith, rhwng eu hawdurdodau milwrol, a chydweithrediad effeithiol yn eu hym- dnechion. Ni all y gelyn mwy ganolbwyntio ei alluoedd ble y mynno, gan fod ganddo fwy na Uond ei ddwylo ymhob maes. Ni faidd yn awr wanhau ei rengau'n Ffrainc i'w cryf- hau yn Rwsia, na symud ei finteioedd'o Facedonia i Dobrudja, nac o'r Carso i Tran- sylvania. Am yn agos i ddwy flynedd, gall- odd ef chwarae'r gamp hon a medr meiatr ond yn awr, rhaid iddo ddawnslo lie y mynno y Cynghreiriaid ganu'r crwth a'r delyn. Yn wyneb hyn, hawdd y gallasai Mr. Asquith ddywedyd nad amsor yw hwn i ddigalondid, nac i ansicrwydd mewn cyngor na gwamalrwydd mewn bwriad. Y mae rhyfel yn erchyll, ac nid oes a'i cyflawnhao ond amcan teilwng. Yn wyneb amcan, gwroniaeth ac aberth y Cynghreiriaid, ni ellir meddwl am heddwoh clytiog, ansicr, twyll- odrus, na fydd emgen heddwch mewn enw. Nid ewyllys neb ohoncaj yw parhau'r rhyfel hwn yn afreidiol am gymaint ag undydd ond hawlia aberth uchaf ein harwyr, blodau a gobaith y gwledydd, nad yrnleddir rnohono'n ofer. Nid yw amcanion y Cynghreiriaid nac hunangarol na dialeddol; ond rhaid iddynt hawlio iawn digonol am y camwri a fu, a sicr- wydd digonol am hawliau'r dyfodol. Ar hyn y gorffwys gobeithion goreu dynoliaeth. Aberthwn yn ddibrin bawb ohonom yr hyn a allwn leiaf ei fforddio eithr dim ond fel prid- werth drwy'r hwn y gall ybyd bwrcasu a sicrhau am flynyddoedd i ddod, amddiffyniad i'r gwan, goruchafiaeth lawnder ar drais, a datblygiad rhyddpob gwlad, boedhi fawr neu fychan, yn unol a'i hathrylith ei hun, a than amodau cyfiawn a theg i bawb. Y mae geiriau Mr. Asquith yn iaith calon tad, a wyr bellach trwy brofiad beth yw'r aberth mwyaf y gall neb ei roddi ar allor Ddwyfol rhyddid a dynoliaeth, ac yn iaith y gwladweinydd doeth a dewr na fyn brynnu heddwch am unrhyw bris, na bradychu pob egwyddor ddyxchafedig a gwerthu gwir heddwch am y deg ar hugain arian yn y fargen. Y mae'n amIwg erbyn hyn fod symudiad yn rhywle at geisio heddychu'r galluoedd gwrth- wynebol, a pherygl i'r gelyn ddianc yn ddi- gosb, a'i ollwng yn rhydd i ddechreu drachefn ar ei anfadwaith 0 dwyllo'r cenhedloedd a'u harwain i Armagedon gwaeth nag erioed. Nid yn fyrbwyll nac ar antur y Ilefarodd Mr. Lloyd George wrth America. Nid oes nemor le i ameu hiraeth yr AJmaen am hedd- weh. Llefa'r Sosialiaid yn y Reichstag am heddweh. Yr ydym yn mynegi'n ago red a chlir," ebe'r Sosialydd Scheidemann, sy yng nghyfrinach y Canghellor, fod ar y genedl eisiau heddwch. Llefaraf fel Sosialydd Ell- mynaidd i'r bobl Ellynynaidd." Y mae miliynau o wyr a gwragedd," ebe Haase, cynrychiolydd y lleiafrif o'r Sosialiaid, yn edrych atom ni i weled a gyfyd golewych heddwch o'n cydymgynghoriad. Tyf diodd- efiadau i gyfartaledd annynol, ac nid oes yn unman lygedyn o obaith. Ymae gwasg yr Almaen yn gyfangwbl yn llaw'r awdurdodau, ac onibai eu hawydd angerddol hwythau am heddwch, nid yw'n debyg y cyhoeddesid areithiau'r Sosialwyr a lef am derfyn y rhyfel. Ond y gwaethaf yw, na fyn yr Almaen gydnabod na all gael heddwch ar ei thelerau ei hun, ac y bydd yn rhaid iddi blygu i amodau'r Cynghreiriaid. Y mae heddwch dyfodol y byd, ac annibyniaeth y gwledydd, yn neilltuol y gwledydd bychain, yn gorffwys ar ddarostyngiad gallu trawsarglwyddiaethol yr Almaen. Dywedodd Haase yn y Reich- stag am y r Elhnyn: Ni sylweddolwyd mo'n breuddwydion yn y rhyfel hwn o arglwydd- iaeth dros y byd, ac nis sylweddolir chwaith." Rhaid i'r Cynghreiriaid ofalu na sylweddolir mo'u breuddwydion ellyllig, a gweled cad- wyno'r hen sarff a thynnu ei cholyn. Er caleted eu tasg, y mae'n eu gallu i'w wneuthur yn llwyddiannus, er, efallai, nad yn fuan. Y mae rhagolygon y Cynghreiriaid yn addawol. Enillodd yr Italiaid fuddugoliaeth bwysig ar y Carso, er cadarned amddifiyn- feydd creigiog y gelynion. Cymerasant dros wyth mil o'r Awstriaid yn garcharorion mewn deuddydd neu dri. Rhed y frwydr ar y Somme ei chwrs yn ddidrai, a gwthir y gelyn yn ol o amddiffynfa i amddiffynfa yn araf a sicr, heb allu ganddo i adennill dim a gollodd. Tebyg hefyd yw cwrs pethau ym Macedonia. Ymleddir brwydrau caled a chyndyn ar dueddau Rwsia ond yn nwylo'r Rwsiaid y mae'r gallu i ymosod. Amcana'r gelyn roi ergyd marwol i Rumania, ond nid yw ei allu, yn ol pob arwydd, yn gymesur i'w ddig a'i ddymuniad. Er syrthio o'r Rumaniaid yn ol yn Nhransylvania, nid yw'n debyg yr enillir oddiamynt adwyau Carpathia, ac y goresgyn y gelyn eu gwlad. Pery'r Cynghreir- iaid ar y blaen yn yr awyr, ac nid oes achos i ni bryderu mwy na mwy am allu llongau tanforawl y gelyn i ddinistrio ein trafnidiaeth. Parant yn ddiau golledion, ond nid llawer mewn cymhariaeth i'n llongau ar y m6r. Y mae Groeg mewn cyflwr tost, a'i brenin yn fradwr i'w wlad ac i'r Cynghreiriaid. Pa hyd y goddefir i ddespotiaid o'i fath ef felltithio'r byd ?
Y SYNOD WESLEAIDD.1 V SYNOD…
Y SYNOD WESLEAIDD. V SYNOD WESLEAIDD. I Talaith Gyntaf Gogledd Cymru. I HYDBEF 8-12, 1916. [GAN Y PARCH. R. W. DAVIES, SEACOMBE.] CYNHALIWYD yr uchod ym Mhrestatyn, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Felix Manchester. Dyma'r Synod gyntaf iddo ef fel Cadeirydd y Dalaith a chafodd groeso cywir a brwd. Cydnabu yntau mewn ychydig eiriau doeth a diweniaith. Hyderwn yn fawr y bydd i weinidogion ieuainc y Dalaith werthfawrogi ei awgrym iddynt fod yn rhydd a pharod i gymryd rhan yn y gweithrediadau a gwneud rhywbeth mae'n debyg heblaw reportio areithiau'r doethion a'r deallus Diolch yn fawr iddo am y cyfle. Gwnaeth y Gynhadledd Brydeinig yn ddoeth i ethol y Parch. Hugh Evans (Cynfor) yn Ysgrifennydd y Dalaith, oblegid cadarnhawyd hyn gan ei frodyr gyda brwdfrydedd. Gwyddant hwy'n dda am ei sel, ei ddoethineb, a'i hynawsedd, a chofiant gyda diolch am ei lwyddiant fel Ysgrifennydd y Gymanfa Wesleaidd am flynyddoedd. Hit oesaDuw'n rhwydd iddoynyswydd bwysig hon. Pregethwyd yng nghapeli'r Gylchdaith y Saboth, nos Lun a nos Fawrth, gan weini- dogion dieithr, a dywedir fod gafael ac enein- iad ar yr holl odfeuon. Profwyd blaen- firwyth y pethau da oedd i ddilyn. Nos Fawrth, Darllenwyd rhan or Ysgryt.hyr gan y 1 Parch. Hugh Evans, a gweddiodd Mr. Davies, y Wern Ddu, Gwyddelwem-gweddi patriarch ac arogl byd arall ami.—Cafwyd adroddiad or Genhadaeth Gartrefol gan y Parch. A. Lloyd Hughes, ac i gyfarfod a'r dreth drom sydd at y Gronfa, penderfynwyd assessio'r cylchdeith. iau o'r newydd yn ol rhif yr aelodau ym Mawrth diweddaf.—Gwrthodwyd y grants arferol i amryw o gylchdeithiau, a throiryr arian am dro at ameanion gwell- !—Rhoddwyd caniatad i Leigh (Cenhadaeth Lancashire) gael lag agent ar yr amod nad yw ei gyflog i fod o dan £60, a chaiff Cylchdaith Llanfair iS e grant ar yr amod iddynt godi cyflog y gweini- dog y flwyddyn hon.—Da iawn oedd gan y cyfarfod glywed am y babell gyfleus a godwyd gan y Cyfundeb Wesleaidd ar Bare Cinmel. i fod yn gysur ac yn gysgod i'r bechgyn annwvl sydd yno, a gwell fyth oedd deall fod yr enwadau eraill yn ein diIyn ynhyno beth. Ac fel prawf o fawrfrydigrwydd a ffyddlondeb yr Eglwys Wesleaidd i bob symudiad da, y mae Mr. Owen Evans, y Rhyl, eisoes wedi sicrhau £ 100 at gynorthwyo i gael pabell arall yn y Pare. DeaHwn fod y Parch. Hugh Evans hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Unedig. a'i galon fel arfer yn y gwaith. Cymhellwyd i'r Cylchdeithiau gasglu at gael llenyddiaeth, etc., i'r milwyr, ac i anfon enwau'r bechgvis fydd yn ymuno a'r Fyddin i'r Parch. A. Lloyd Hughes. Y mae llawer o'n becbgyn vn ysbytai'r wlad, yn glaf neu'n glwyfedig; a theimlai'r cyfarfod raddau o bryder yn eu cylch, a ydynt yn cael y swcwr a'r cynhorth. wyahaeddant, yn eu blinder a'u poen Gwneir popeth a ellir, mae'n ddiau, gan ysgrifennydd y Cyfundeb, y Parch. J. H. Bateson, i wybod ymha le y mae'r bechgyn, ond diolcha r gweinidogion Cymreig yn gynnf g iawn am bob cynhorthwy a all cyfeillion a pherthynasau ei roi iddynt. I Dydd Mercher. Dechreuwyd gan Mr. George Jones, Wrex- ham. Safai'r cynrychiolwyr ar eu traed tra darllenai'r ysgrifennydd yr hyn a ganlyn Fod y cyfarfod hwn yn datgan eydynideim lad dwfn a gweddigar a'n pobl yn ein Talaith sydd wedi colli rhai annwyl yn y Rhyfel. m yn gweddio ar i Dduw eu cysuro yn eu trallod, a'u cynnal ynghanol pryder meddwl. Datganwyd cydymdeimlad dwfn iawn hefyd
Advertising
l —————=======——————.——— DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S A TT r\D C FOREMOST 1 /ilL(Ul\.a, MAKE UP YOUR MIND TO PLACE YOUR ORDER EARLY FOR THAT NEW SUIT. ———— PRICES AS USUAL. Suit to Measure from 30/» charges; FIT GUARANTED. IT WILL PAY YOU TO SEE OUR f I d8 S Suit to 40/ Famous Indigo Serge measure 1:1 TZOTE ADDRESS, 8 LONDON RD., LIVERPOOL Manager: JOHN JONES, Also 95. 10s, 165Grange Rd., B'bead "Cymroambyth." at 226 High Street, Bangor, j LADIES COSTUMES 23 Tiope Street, Wrexham, I to order from SO/. -and throughiout the Ktogdom.