Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

..DYDDIADUR. I

Gyhaeddwyr y Cymud : Y Saboth…

Advertising

Family Notices

Advertising

DAU T U"R AFON, I

Basgodaid olp Wlad. I

News
Cite
Share

Basgodaid olp Wlad. I BAGILLT. Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus yng nghapel Bethania, gan Wesleaid Cymreig Ebenezer, Medi 27. Cyn. hulliad mawr, a safon y canu a'r adrodd yn uchel. Tipyn o anturiaeth yw cynnal Eis- teddfod y dyddiau hyn, ac anaml ydynt ond gweithiodd y pwyllgor yn egniol. Llywydd- wyd gan Mr. Waterhouse. Treffynnon, ac arweiniwyd gan Mr. Joseph Edwards Y.H., Beimiadwyd gan y rhain Cerddoriaeth, Mr. G. W. Hughes, G. & L.T.S.C., Lerpwl barddoniaeth y Parch. E. Lloyd; adrodd, y Parch. E. Lloyd a Mr. Goodman Edwards;' traethodau y Parchn. D. P. Hopkins a D. Meurig Jones. Traddododd pob un feirniad- aethau da ac addysgiadol. Cyfeiliwyd gan Mr. W. Nuttall, L.L.C.M., Mostyn. Enillwyd y prif wobrwyon fel hyn y Brif Gystadleu- aeth Gorawl: anthem, Lead, kindly Light (trefniad o gan Pughe Evans gan J. E. West, ac a ganmolid yn fawrgan y be"miad)-ym- geisiodd dau gqr, a chanasant yn neilltuol o dda y goreu, Fflint, o dan arweiniad Mr. Robert Parry. Ymgeisiodd tri phedwarawd, ac enillwyd gan Barti Mr. Hebson, L.R.A.M., organydd capel Pembroke, Lerpwl, a roddodd ddatganiad galluog o ddarn heb gyfeiliant. Yn y brif unawd, yr oedd Miss Alice Edwards, (Gronant)-Hear ye, Israel, a Mr. D. R. Jones (Gwrecsam)—It is enough, yn gyfartal. Cystadleuaeth gampus oedd hon, a chanodd y ddau oreu yn feistrolgar. Enillodd contralto y pedwarawd buddugol ar ddatganiad neill- tuol o deimladwy o Good Bye (Tosti). Gwnaeth Mr. Will Jones, Whetstone Post office, ysgrifeiinydd ardderchog, a haedda lawer o r clod am y llwyddiant.^—Sylwedydd. 0 BENMAENMAWR Priodi.-Ddydd Gwener diweddaf, yng nghapel Salem, Pen- m&enmawr, unwyd mewn glan briodas y Parch. R. J. Pritchard, B.A., Casnewydd, (gynt o Benmaenmawr) a Myfanwy, merch y rSweddar Mr. William Jones-Thomas, Rossett Avenue, Lerpwl. Gweinyddwyd gan y Parch. W. Keinion Thomas, Port Dinorwic, a chymerwyd rhan hefyd gan y Parchn. Caleb Williams, G. Owen (W.), a R. Dewi Williams (M.C.). Y forwyn briodas oedd Miss Annie Fox, o Market Harborough a'r gwas, y Parch. Jenkyn Lloyd. Cyflwynwyd y briod- ferch gan ei brawd, Mr. Alwyn Thomas. Ymadawodd y pâr i dreulio ychydig ddyddiau yn West" Kirby. 0 LAN FFESTINIOG.- Y mae Mr. a Mrs. Alfred Woolford, Pen y Bont, mewn l dyfnder gofid oblegid y newydd trist fod eu mab, Sergt. Philip Woolford, R.E., wedi cae [ ei ladd yii Ffrainc, arjyr 2fed or inis hwn.i yy., oedd yn y rhyfel ers tua dwy flynedd, wedi ymuno ar unwaith ac o'i wirfodd pan dorrodd y rhyfel allan yn llawn awydd o'r cyntaf i roddi ei fywyd i lawr os byddai raid ac wedi bo d yn yr yxnladd ers dros ddeunaw mis. Fe'i clwyfwyd deirgwaith ac a fu'n gorwedd fisoedd rai yn fisoedd rai yn ysbytai Ffrainc eithr gwellhai bob tro, ac a ail-ddechreuai ar yr ymladd Dim ond rhyw fis oedd er pan ddychwelasai gartref i briodi un o rianedd Deheudir Cymru ac y [mae ei weddw ieuanc a'i rieni yn ddwfn eu gofid am golli un o'r llanciau dewraf a mwyaf hoffus ar y ddaear, ac yn batrwm o siriol a diragrith ei foes. Y Duw da a'u cysuro yn eu hiraeth.

Advertising

IfO Big y ? ?r Lleifiad.