Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

..DYDDIADUR. I

Gyhaeddwyr y Cymud : Y Saboth…

Advertising

Family Notices

Advertising

DAU T U"R AFON, I

Basgodaid olp Wlad. I

Advertising

IfO Big y ? ?r Lleifiad.

News
Cite
Share

Parhad o tudal 5. TUSW BRITH—- Na ddiffoddwch yr Ysbryd oedd testun pregeth gyfoethog, feddylgar, y Proff. J. Oliver Stephens, B.A.,B.D., Coleg Caer- fyrddin, yn Clifton Road, Birkenhead, bore dydd Sul diweddaf. And his prayer was a banquet," ebe'm cyfaill wrth dalu gwrogaeth uchel i'r weddi a'r bregeth ar y diwedd. Diolch hefyd am ysbryd mor hawddgar, am weddeidd-dra mor ddiorchest, ac am Gym.- raeg mor lan rhag Saesneg stryt. Agorir tymor gaeaf y Gymdeithas Genedl- aethol nos yfory (nos Wener) gan y Parch. T. Miles Jones, Treuddyn, sef yn traethu ar y pethau melys a hen ffasiwn hynny—penillion telyn efe'i hun yn eu canu cystal a thraethu arnynt, a Thelynores Maldwyn chwim ei bysedd yn eu cwafrio ar y tannau. Diau y bydd yno dyrfa a hwyl tuhwnt. Diau hefyd y bydd i'r hysbysiad am Eis- teddfod Queensferry, ar tudal. 8, godi blys mewn ami i ganwr ac adroddwr fynd yno i sythu am glod a gwobr yn yr her-gystadlu sydd i fod yno y noson gyntaf o'r mis nesaf. Da gweld pethau cu'r Hen Wlad yn codi eu pennau o 'r newydd yn y cyrion lie buont dan ddwr ers cyd. Y mae'r Parchedigion R. Aethwy Jones, M.A., aD. Tecwyn Evans, B.A., yng Nghaer- dydd yr wythnos hon, yn pregethu a chymryd rhan yng nghyrddau Undeb Eglwysi Rhydd- ion Cymru. Gwelir oddiwrth yr hysbysiad fod y Parch, D. Tecwyn Evans yn darlithio'i ddarlith hyglod ar Lyfr Job yng nghapel Mynydd Seion heno (nos Iau) ac y disgwylir Mr. Wm. Venmore, un o Gymry hawddgaraf a mwyaf haelfryd Lerpwl, i fod yn y gadair. Anfonwyd y penillion a ganlyn o Ffrainc i Ystafell y Beirdd Pedrog ond hwylusaeh eu dodi yma. Teymged ei gyfaill a'i gyd- ymladdwr Lance Corp. R. Williams, ydynt i'r diweddar Private Glyn Gough Williams, Birkenhead, a laddwyd yn Ffrainc Awst 19, 1916 Do, collais fy ffrind yn y frwydr, Ac wylo yr wyf ar ei ol.; 'Chadd Glyn ddim ond diwrnod o'r ffosydd, Daeth angel ei Arglwydd i'w nol. I'w nol o swn erch y ddrycin, O'r llaid a'r dioddef a'r drin, J heddwch plant Duw yn y cyfnos. I wlad sydd yn dawel ei hin. Daeth yma a'i fynwes lawn gobaith Am wneuthur ei ran yn y gad Ond gwelais ef neithiwr yn gorwedd Ymhell o swn gelyn a'i fradi Yn gorwedd a'i wen ar ei enau, Fel un wedi cyrraedd yr hedd, Fel bachgen yn gorffwys 'rol blino, Heb ddim ol y s ie h ar ei wedd. Cyn hynny ynsiarad y buonl Am Gymru a chartref a mam, A Son am ein mamau a yrrai Ein calon gan gariad yn fflam. Cu oeddyt gennyf, fy nghyfaill, A'th fiwsig a'th wen oedd mor fwyn Pam drylliwyd dy delyn mor gynnar ? Pam tawodd dy gAn gyda'i swyn ? Wel, huna yn dawel, Glyn annwyl, Cei fyned i wvddfo d. dy Dduw, Am iti roi bywyd mor wertlifawr, Er mwyn i'th rai annwyl gael byw. Nos Sul ddiweddaf, dewiswyd y rhain yn flaenoriaid yn eglwys M.C. Saesneg Willmer Road, Birkenhead Mri. G. Johnson, T. H. Jones, A. J. Rankin, a Hugh Williams. Y Parch. J. Talog Davies a Mr. Hugh Griffiths o Catherine Street yno'n cynorthwyo, a'r bregeth yn un odidog ar Wyliedydd, beth am y nos ? Clwyfwyd mab y Parch. J. O. Williams (Pedrog) yn Ffrainc, a gorwedd y mae mewn ysbyty yn Sgotland; mab y Parch. Isfryn Hughes yn gorwedd yn glwyfedig yn Havre; a'r Preifat W. Brinley Davies, mab y Parch. Joseph Davies, Birkenhead, yn gwella mewn y4bytty yn Bombay. Cof gan ein darllenwyr am yr hanes a fu drwy holl bapurau'r deymas flynyddoedd yn ol am y bust o un o offeiriaid Iris-scf delw farmor Roegaidd, o'r ganrif gyntaf, a ddar- ganfuwyd yng Nghorwen gan Mr. John Williams, Dee View, a'r unig un o'i bath a gafwyd erioed yn y wlad hon. Bu hynafiaeth- wyr mwyaf hyddysg Prydain a'r Cyfandir yn ei hedrych. Y mae'r ddelw ddiddorol i'w gweld yn Arddang sfa Cymdeithas y Groes Gochfa gynhelir ar hyn o bryd yn Lerpwl.