Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

 YSlAfFLL Y BEiRDD

0 -UNNAl TAF.I

ILAOD BYDDIN CYMRU! I

News
Cite
Share

ILAOD BYDDIN CYMRU! I Llethu ei Hymneilltuaeth. I Ffeithiau i'w cofio, I CYFLAWNODD Gwerin Cyniru wronwaith ynglyn a'r Rhyfel. Cyfrannodd Cymru fwy o'i meibion i'r Fyddin niewn cyfartaledd i'w phoblogaetli nag a wnaeth unrhyw ran arall o'r deyrnas na'r ymherodraeth. Gwnaeth ei bechgyn, ar faes y gad, wrhydri na churwyd mohono gan eiddo unrhyw genecll dan haul. Gwnaedhyn ollgan gymhelliad ysbryd gwlad- garwch a theyrngarwch. Addawyd iddi Fyddin Gymreig, gyda swyddogion Cymreig, yn meddu'rhawl i ddatblygu ho 11 nodweddion cenedl y Cymry mewn ymarferion cymdeith- asol a chrefyddol. Eithr pa fodd y cyflawn- wyd yr addewid, ac y cydnabuwyd aberth Cvmru ? u Lladd y Fyddin. I Lladdwyd Byddin Cymru. Gy rrwy d deg au o filoedd o fechgyn Cymru, pan ymunasant gyntaf a'r Fyddin, i gatrodau Seisnig, Ysgot- aidd, a Gwyddelig, yn groes i'w hewyllys. Ni cha Cymru ddim o'r clod am yr hyn a wnaetb y dewrion hyn. Rhoddir llawryf eu dewrder hwy i genhedloedd eraill. Gwaeth na hyn. Wedi i'r Cadfridog Cymreig—Owen Thomas -yn wyneb llawer o rwystrau ffurfio bataliynau Cymreig, difodwyd hwynt gan y swyddogaeth filwrol. Nodaf ddwy enghraifft abrennig Bataliwn 20 a 22 y Royal Welsh Fusiliers. Adnabydclir yr olaf yn well wrth yr enw Gwynedd Battalion." Yr oedd y rhai hyn mor nodweddiadol Gym- reig fel y rhaid eu drilio yn Gymraeg peth na bu o'r blaen er dyddiau Owain Glyn Dwr Heddyw, mae'r ddwy Fataliwn wedi diflannu Lladdwyd hwynt,—nid gan y gelyn, ond gan swyddogaeth filwrol Lloegr! Gwasgarwyd y dynion a'u cyfansoddent yrnhlith bataliynau eraill,—estronol o ran gwlad, iaith, arferion, a chrefydd. Yno gwawdir eu gwlad, gwaherdd- ir eu hiaith, anwybyddir eu crefydd Pam ? Nid angenrhaid milwrol, ond mympwy swydd ogol a alwodd am hyn. Gallasai Byddin Cymru fod mewn bod heddyw ar faes y gad pe'r ewyllysiai'r awdurdodau milwrol hynny. Cymerer Canada mewn cyffelybiaeth Can mil (100,000) o wyr a gyfrannodd Canada i Fyddin Prydain. Cedwir Catrodau Canada ar wahan yn y Fyddin hyd heddyw. Lleinw Canada y bylchau yn eu rhengoedd wrth raid. Cyfrannodd' Cymru yn agos i gymaint deir- gwaith ag a wnaeth Canada. Gallasai fod wedi llenwi pob bwlch yn y rhengoedd wrth raid. Eithr difodwyd ei bataliynau mwyaf arbennig genedlaethol. Yr hyn na feiddiasid byth ei wneud a'r Canadwyr, 'a wnaed a'r Cymry. Llethu Ymneilltuaeth y Fyddin. I Casglwyd bataliynau Cymreig i Bare Cinmel. Cymraeg oedd eu hiaith, Ymneilltu- aeth oedd crefydd y mwyafrif mawr ohonynt. I gyfarfod a'u hangenion, casglodd enwadau Ymneilltuol Cymru filoedd o bunnau i godi Neuadd Ymneilltuol yno. Ar y cyntaf gwen- odd yr awdurdodau ar y mudiad. Gwnaeth- ani lawer i'w hyrwyddo. Caniatasant iddo ffafrau. Rhoddasant 'iddo eu nawdd. Ond —daeth tro ar fyd. Daeth dylanwadau gwrth-Gymreig, gwrth-Ymneilltuol, i'r maes. Erbyn heddyw, mae'r addewidion a wnaed mewn ysgrifen gan yr awdurdodau milwrol i awdurdodau'r Neuadd Ymneiiltuol wedi cael eu torri. Mae'r breintiau a ganiateid gynt wedi cael eu tynnu yn ol.. Hyd oedd yng ngallu rhai o'r sawl a feddai ddylanwad gwnaed, a gwneir eto, Neuadd Ymneilltuol Cinmel yn fethiant. Gyrrwyd y bataliynau mwyaf Cymreig a mwyaf cryf eu Hymneilltu- aeth ar wasgar i fataliynau Seisnig ac estronol. Cadwyd yn Kinmel y bataliynau mwyaf Seis- nigaidd, a'r rhai agynhwysei leiaf o Ymneill- tuwyr. G^rymdeithia'r rhai hyn bob Saboth i sain pob offeryn cerdd, i wasanaeth Eglwys Loegr, yn brawf i'r anwybodus mai gwir ddy- wedodd Esgob Llanelwy fod tri o bob pedwar o filwyr Cymru yn Eglwyswyr A'r Ym- neilltuwyr Cymreig yng ngwlad yr estron, yn dywedyd 1: Pa fodd y canwn gercld yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr ? J BERIAH/J. EVANS.

Basgedsid or Wlad I

Advertising