Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Clepy Clawdd sef Clawdd Offa
Clepy Clawdd sef Clawdd Offa R [GAN YR HUTYN.] Y DE YRNAS. "-Dyina enw'r misolyn newydd gwrth-filwriaethus sydd wedi ym.- ddangos. Darbynnir cop'au lawer, fe ddeall- af, ar y Clawdd. Mae'n eglur oddiwrth ei ddiwyg allanol ac hefyd oddiwrth ei nod- weddion mewnol, mai nid Teyrnas o'r byd hwn .)rn ei gyrfa'n syra.1 ac ydyw hon. Mae'n cychwyn ei gyrfa'n syml ac ysmala, ac yn debyg o wella wrth fynd ym mlaen. Eglur yw nad yw'r ysgrifenwyr yn deall ei gilynd, ac nad oes fawr o 61 go lygyddu da ami. Ond y mae'n. sicr o wella, a bydd raid iddi wneud. Rhaid trefnu y materion yn well. Bydd raid i'r papur hwn fod yn ysgol er cyflawni ei neges yn ddeheig ac i bwrpas. Disgwylir yn eiddgar am yr ail rifyn. Mae gwir angen am Deyrnas o'r fath. Y CADFRIDOG D Y GH WELEDI G. Bu'r Cadfridog French yn ymweled a Gwrec- sam yr wythnos ddiweddaf, a mawr oedd y ffys a'r ffest. Y Volunteers a'r Scouts a ddaeth yn fwyaf neilltuol tan ei sylw. ac wrthynt y dywedodd eiriau canmoliaethus. Darbwvllodd y Volunteers pa rai aydd wedi dechreu aflonyddu tipyn, a dyrchafodd y Scouts i'r cymylau. Mae'r ymweliadau hyn o eiddo y prifion milwrol yn cynysgaeddu yr ysbryd milwrol yn rhyfedd yn y wlad. Bydd raid i Apostolion Heddwch eto, ar ol y rhyfel, ddod o aingylch i osod hwn i lawr. Cymer fwy i'w roddi i lawr nag i'w godi. Cewch weld. ■ DWY FILITVN AM GAU'R DAFARN. —Arwyddodd dwyfiliwn eu hewyllys i gau'r tafarndai yn ystod y rhyfel. Dyma lais croch gwlad gyfan. Nib gellir troi clust fyddar i'r fath gri. Clywais ddweyd o un y gobeithiai i'r rhyfel hwn barhau byth er cael cau o'r dafarn yn oes oesoedd. Mor hyfiyd. ar y Clawdd yw pasio tafarndy yn ystod oriau cau. Mae yna lyw dawelwch sanctaidd yn y lie, sydd yn aros hyd agor o'r drw-sef drws y fall, ac yna gwelir gwehilion yn heidio i'r lie. Teimlir yn union fod rhywbeth nefol wedi ffoi, a bod uffern yn nes. Ni ddaw byth drefn ar ein gwlad cyd ag y gadewir y llew rheibus hwn yn rhydd yn y tir, i larpio a sglyfio fel y myn. Mae'r dafarn yn gweithio i law'r Ellmyn,-un ydynt. HYT Y.M.C.A. YM MHOB r PEN- T REF.Gwna'r Huts hyn waith uwch can- moliaeth, a da fai cael un ohonynt ym mhob pentref ar y Clawdd yma gwedi'r elo'r rhyfel hwnheibio. Dylid eu cynnal gan y gwahanol enwadau crefyddol. Ad-dalent eu ffordd yn union, a derbynnid lies dirfawr drwyddynt. Gellid-a dylid-eu dwyn ymlaen yn an- enwadol. Beth pe bae'r Cynghorion Eglwys- ig ym mhob pentref yn cymryd y mater yma i fyny. Dyma, mi gredaf, un o'r pethau goreu y gellir ei bwrcasu er lies a budd y milwyr pan ddychwelant. Mae pob milwr wedi syrthio mewn dwfn serch a hwynt eisoes. Ceidw'r rhain ef oddiwrth ddrygau lawer. Yn awr yw'r adeg i benderfynu amynt heb golli amser Ati, bobl annwyl Y MILWR CYIVREIG, GAN Y GOL.- Mae canmoliaeth araith y Gol. manyl-ddysg ar y Milwr Cymreig wedi cyrraedd eisoes hyd y Clawdd. Mae yma awyddu am ei chael yn gyflawh, ar ddu a. gwyn, ar dudalennau'r BRYTHON. Bryd ei ceir, Olygydd syber ? Neu dowch yma eich hun i'w thraddodi, yna ceir eich llun, eich llais, a'ch lien. Ni fydd taw arnom nes cael. TOLL Y MEDD&GON.—Hwyrach nad oes meddygon mewn unrhyw ardal wedi cyf- rannu cymainttuag at y rhyfel hwn a medd- ygon Gwrecsam. Maent i gyd bron wedi rhoi o'u meibion. Mae amryw ohonynt wedi syrthio eisys, eraill wedi eu clwyfo yn arw, ond erys y gweddill yn gadarn yn yr wrthffos. Bendith ar y meddygon a'r llanc iau dewr. CILDDWRN Y BUGAIL.-Ffarwelio yr oeddis yn yr HoP nos Iau a'r hen fugail, y Parch. R. L. Roose. Dywedwyd geiriau tyneradaamdano. Bu'nffyddloni'wbraidd am lawn deugain mlynedd. Yr oedd offSiriad y lie ac esgobion y cylch yn bresenncl. Gollyngwyd yr Hen Was i'w ffordd i Lundain at ei fab, nid yn waglaw, ond rhoddwyd iddo gildwrn da, o bunnoedd lawer,—y cildwrn mwyaf, hwyrach, a gafodd erioed. Yr oedd dagrau yn cracio lleisiau pawb oedd yno, a thyner iawn oedd geiriau diolch yr hen frawd. Tywalltodd. y Fendith Apostolaidd ar eu pennau, a throdd ei gefn gan wynebu'r West. Dan fendith Nef y bo nes cawn gwrddyd draw, tu draw i'r lli. CYMDEITHASAU CYNHILO.-Cyfyd y Cymdeithasau hyn fel bwyd y barcud (mushrooms) ar frest y Clawdd. Cred y Llyw- odraeth fod aur ac arian yn dylifc. i'r Clawdd ac anfonir dynion o Lundain yrna i siarad ar Gynhildeb, ac i ffurfio Cymdeithasau. Mae'r capelau, y clybiau a'r ysgolion yn cydweithio yn egniol gyda'r peth. Disgwylir i gannoedd o bunnau yn fisol gael eu hanfon i helpu'r Llywodraet,h. Rawddbethibroblsyddeisoes wedi rhoi eu plant yw rhoi eu harian. Daw hefyd blantoa yr ysgolion dyddiol a'u ceiniog- au'n ddiball bob dydd i'r drysorfa. Ni edy'r Clawdd yr un garreg heb ei throi er ennill y frwydr ac arbed y bechgyn a'r wlad yn Cyffredinol. DROS EICH PEN A CHW-[!-Caed hwyl nid bychan ddydd Llun diweddaf yn yr ymdrochfa gyhoeddus yng I Ngwreesqw. Daeth nofwyr ieuanc yr ysgolion elfennol ynghyd i wneud eu campau, ac i ymgais am y gwobrau. Yr oedd rhai o'r hogiau mor chwimwth a chwiaid, ar y dwr ac odditano. Dylai pob hogyn ddysgu nofio, nid yn unig er lies iddo'i hun, ond hefyd er budd eraill, a ddichon fod,unrhyw adeg mewn enbydrwydd. Dylid cefnogi'r campau hyn er calonogi'r bechgyn. M ae'n bosibl gwneud llawer mwy o ddefnydd o'r ymdrochfeydd hyn mewn llawer He nag a wneir. Da gweled Gwraig Sam ar y blaen. Cwac cwac eto Y TRIBUN YN DWYN EI SHYFER. --Oherwydd i Dribun Gwraig Sam ddwyn chauffeur y meddyg R. Ifans oddiarno, gorfu arno roi rhan o'i waith i fyny fel meddyg a buchfrechydd. Dyma i chwi dri mis o rybudd meddai wrth y Cownsil. Chwiliwch am arall. NL allaf fi. Yn awr, gan fod y buchfrechydd yn rhoi i fyny, fe aabedir ami i fraich dyner rhag ei frath a'i eltyn. Hwyra-ch fod yna aanryw o anti-vace-inationi-st8 ar y pwyllgor. Pwy a wyr ? A T A LI WCH MliJDD S W YDDF A RHYFEL.—Derbyniodd Tribunlys Gwroc- sam bellebr o'r Swyddfa Rhyfel yn dweyd wrthynt am atalou llaw rhag anfon ychwaneg o amaethwyr i'r Fyddin nes ceir gair pellach. Gyrrwr ofnadwy yw'r Tribun hwn, ond dyma stop arno am ennyd, ta beth. Cymrwch eich gwynt, frodyr DIRWEST YN Y RHOS.—Mne r sel ddirwestol yn gryf yn y Rhos yma. Caed cyfarfod brwdfrydig y nos o'r blaen yn Ysgol- dy Bethlehem, pryd yr anerchid gan ddau o'r prifon, sef y Doctor I-Lugii Jones, Dolgellau, a'r Parch. D. Gwynfryn Jones, Fflint. Y ddau yn eu hwyliau goreu, a chaed areithiau peni- gamp ar agweddaat corffol a moesol dirwest. Gorymdeithiwyd trwy'r lie cyn y cyfarfod gan y Drum and Fife Band. Y mae'r Doctor Preis i'w faw.r ganmol am ei holl ymdrechion gyda'r gwaith da hwn. Yr oedd llwyddiant y cyfarfod i'w briodoli yn bennaf iddo ef. Da oedd gweled amryw o weinidogion y lie yn bresennol, ac yn rhoi cefnogaeth i'r achos da. Gwneir mwy dros dirwest yn y Rhos nag ami i fan. Well done 'STEDDFOD ETO.Caed un. o'r fath oreu yng Nghoedpoeth pa nos, yn Neuadd y Plwyf, Yr oedd y Neuadd fawr, eang, yn orlawn. Dan nawdd y Wesleaid yr oedd yr Eisteddfod, ahynny'ngolygu fod mynd ar bethau. Becligyn a chryn lawer o'r liush ynddynt yw'r Welsh Lions. Yr oedd yr ymdrech yn llwyddiant mawr, a boddhawyd pawb, a gwnaed ceiniog dda o elw. Next, please RECHABIWR BRYN BA W.—Rhodd- wyd i Mr. J. M. Edwards, Ben Rechabiwr y Dosbarth, bum cyfrol hardd o Eiriadur Hastings am ei fawr wasanaeth gyda'r achos. Gwr da yw J.M., a ffyddlon. Teilwng y gwnaed hyn iddo. Yr oedd yn uehel wyl gan y Rechabiaid yng Nghaer, ac yno yr anrhyd- eddwyd y g-ar o Fiymbo. Hir ddydd iddo i astudio'r cyfrolau erwerthfawr a chynhwys- fawr hyn. Cynhwvsant erthygl wych ar y Rechabiaid. Darllened hon yn gyntaf. Hynny a wna, bid sicr ORIA WR PR NURSE.—Bu Nurse Griff- iths ym Mhentre'r Brython am tua deng mlynedd. a mawr oedd ei bri ond fe briod- odd, fel y rhelyw o'i rhyw, a rhoddwyd iddi, gan ardal ei serch,oriawr aura chadwyn arian fel arwydd o'u hedmygedd mawr ohoni. Dywedwyd llu o bethau da am y nyrs gan luaws oedd yno, ac ateboddhithau a'i phriod mewn geiriau teimladwy a phriodol. Trwm yw'r teimlad o'i cholli, a hir y byddid cyn ceir ei thebyg. PARA TO I ERBYN Y GAEAF.-Felly y gwna'r Parch. Wyn Defis yn fedras iawn gyda'i ddosbarthiadau yn y Rhos. Torrir tir pwysig allan i'w astudio. Bendithiol iawn yw gwersi fel y rhain. LIwyddiant i'r class. HWDIWCH EIOI-I ARIAN YN EU HOL.—Mae Eisteddfod Bwlchgwyn wedi ei tharo yn ei phen. Poenus hyn hefyd, oblegid glew yw boys y Bwlch am Steddfod Hefyd y maent mor onest ag ydynt o lew, a phender- fynant estyn pob ce-n;ng yn ol i'r rhai a bwr- casodd docvnau. Nathorrwch eich calonnau fechgyn. Rhaid cael Eisteddfod eto. Nid grwiw yw rhoi hon yn gwbl i fyny yn y Bwlch. Paratowch un ddiguro ar gyfer y dyfodol, a mynnweh Olygydd mwyn Y BRYTHON yno i roi shine ami. Nid oes hafal iddo ef. COC-A-DWDL-DW!-Deil y ceiliog o hyd i ganu. er mai'r ieii svdd yn cael y sylw pennaf y dyddiau hyn. Caed darlith odidog gan y Chwaer Miss DavieSf V.A.D., yn y Drill Hall, Caergwrie, yr wythnos ddiweddaf, ar Ffowls, a'r sut i'w trin. Un rheswm dros brinder wyau ydyw fod yr ieir yn mynd i ganu yn lie dodwy. DRUM AND FIFE Y DOCTOR,- Er na chred y Parch. Pedr Preis mewn seinio ei utgorn ei hun, eto cred yn seiniau'r ffeiff, mi gceliaf, oblegid y mae wedi cychwyn Sein- dorf Dabwrdd a ChwibanogI" ynp'lvn a'i eglwys. Da iawn fai cael Drum and Fife Band ynglfn a, phob eglwys—y drum i'w chadw yn effro, a'r fife i roi tipyn o wynt ynddi. Un llyratgraff yw'r Doctor. Beth ddywed Ifan Roberts y Diwygiwr am hyn, tybed ? Dy- munwn lwyddiant mawr i Seindorf y Doctor. CENHADON Y CYNHAEAF.—Rhiw- abon (P.M.) y Parch. A. F. Slater (Rhiwabon) a Mr. D. D. Pierce, Acrfair. Yr Wyddgrug (W.M.), y Parch. W. Morris Jones, B.A. Gresford (E.L.) y Parch. S. E. Williams, ficer Gwersyllt (E.L.), y Parchn. D. Star ley. Davies, Rhosddu, a J. W. Lloyd, Broughton. Pen y cae' (P.M.), y Parch. Tfan Rywel, B.A., B.D., Rhos, a Mr. E. Edwards, Rho.:o. v medre (E.L.), y Parch. A. Abel. Minera; (O.M.), y Parch. W. B. Jones. Erbistoc (A ), y Parch. W. B. Jones, Pen y cae. Gwrecsam (W.), y Parch. Charles Jones (M.C.), y Parch. Glyn Davies, Rossett. Broughton (P.M.), y Parch. J. Grainger, Wrecsam. Brymbo (A.), y Parch. T. G. Davies, B.A.,B D.. a Mr. Allen Lettsome Llangollen; (E.L.), y Parchn. D. Edwards Davies, B.A., ac Evan Joner-t (yr Wyddgrug) (W.), y Parchn. H. H. McCullagh, B.A., a F. C. Ashton, Cefn y bedd (M.C.), y Parchn. Edwin Jones a Glyn Davies, Rossett. Minera (E.L.), y Parchn. L. J. Harwood Davies a D. T. Jones (Minera). Rhos (W), y Paschn. T. Isfryn Hughes a J. Roger Jones, B.A. (E.L.), y Parchn. D. D. Thomas, B.A., a D. T. Eilian Evans, B.A. (B.), y Parch. H. James, B.A..B.D. (Llan. gollen). Rossett (E.), y Parch. J. LI. Jones (Caer).
I Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. Cofied tau-b fc'r ctji r i't Fletan mai dyma'r gair'sydd ar ei genau: NITHIO'R GAU A NYTHU'R OWIIt. Fflint eto. ANNWYL MR. GOL.-Dwbl ryfeddajs atoch yn gollwng cawdel benffol Cybi i mewn i'ch ffetan. o dan y peuuawd uchod. Onid yw'n llawn bryd i bapur o safle'r BRYTHON gau ei ddrws yn erbyn yr humbug llenyddol hwn ? Cais ddadrys y dyfnion bethau cyn gwybod ohono'r gwahaniaetli rhwng dau airmorsyml a daearegol a daearyddol Cais oleuo eraill, a'rgoleuni sydd ynddo ef ei hun yn dywyllweh pur! Da chwi, nithiwch allan y gau o'ch ffetan. 0 gariad at eich papur ac eiddigedd dros ei enw da. I EIFION WYN. I
! V ? *y ?*? '9? ??' '?"?…
V ? *y ?*? '9? ??' ? "? ?*? Li cyn, Loncyn 1 ? y PW Y YDYW'R HION T-F^,S' ?—.Nid yw'r I gvvrgwledig sy'n anfon IJit-lioedd Llofft Stabal yma o herfedd yr Hen Wlad, yn malio ffeuen am glod nac anghlod ac felly fe anturiwn ddywedycl wrtho, heb ofni y cyll ei belt, fod Uythyrau ar lythyrau yn cyrraedd yma, sef o ganmoliaecfh- digymysg i'w ddullgwreidd- iol a chartrefol o draethu ei feddylian I a'i deimladau. Deuant oddiwrth fonedd a gwreng, dysgedig ac annysgedig, fel ei gilydd ac nid oesdmi moddpeidio a chwerthin amben ffyrdd troellog a chastiog liawer un o'u mysg i geisio llithio dyn i ddywedyd pwy ydyw. Ni waeth i chwi h eb, wir. Dawei Ugeinfed LIith yr wythnos nesaf, sef ar ddeddfau'r tir a'r giam a'r ffordd i gael y gwas ffarm i sefyJl ar ei draed fel dyn. Y MALD W YNIAID YN DARFOD.— Dywedir fod rhifedi trigolion Sir Drefaldvyn wedi lleihau bum mil yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf. Gresyn hynny, canys y mae hi'n Sir mor braf i fyw ynddi, a rhywbeth yn ffordd ei phobl nas ceir yn hollol ym mhobl yr un Sir arall. Beth yw'r rheswm, Ap Gwyddon ? LLURGUNIWR ANN GRIFFITHS.— A'i farnu oddiwrth adolygiad y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., arno yn Y Cymro, gresyn i awdur y eyfieithiad newydd o Emynau Ann Griffiths i'r Saesneg gyhoeddi'r llyfr. canys y mae'r fath newid a chwymp ar ei meddyliau nefol nes bod yn esgus i bob ethnig a philistyn edliw nad yw'r hyn yr ymffrostiwn gymaint ynddo ddim ond ysbwrial a pheis- wyn. Peiswyn, wir! Dyma rawn ysbrydol nad oes mo'i ail yn Emynyddiaeth y byd, pe gadewsid iddo yn iaith Ann Griffiths ei hun. Os mynnech andwyo teileidion llenyddiaeth Cymru, cyfieithwch hwy. NAl'R ARCHDDERWYDD.—Y mae'r Parch. Emrys Rees, B.A., a urddid gan Esgob Tyddewi yn Aberystwyth y dydd o'r blaen, .vth y dydd. o'r blaen, yn nai i'r Archdderwydd Dyfed. BWYD Y BWGAN.-D-g.-y gwnaeth Dr. Bryan, proffeswr Mathematig Coleg Bangor, yn galw sylw pawb yn y cyffiniau hynny at hyn sef fod yna fwy lawer nag arfer o'r chwyn gwenwynig Caws Llyffant (Toadstool) yn tyfu ar feysydd y wlad eleni, ac fod un tamaid ohono'n ddigon i ladd y cryfaf. Mor fynych y gwelir hanes plant, ac ereill hyn, yn camgymeryd y llysieuynhwn am ei debyg--y mushroom, yn union fel y camgymerir y Cegid angeuol am y Berw Dwr diniwed. Bwyd y Bwgan, Caws Ellyll, a'u tebyg—dyna rai o enwau'r hen Gymry ar y llysiau hyn, ac enwau gymaint cywirach a llawnach o awen na'r amanita phalloides a ddyry'r botanegwyr arnynt. Byddaf yn bur hoff o'r myshrwm, ond ofn am fy mywyd wrth eu bwyta rhag fod Caws yr Ellyll yn llechu yn ei gysgod. Un o bethau rhyfeddaf y Cread yma ydyw fod i bopeth ei chwyn a'i efelychydd ynddo a hynny'n ddrych a dameg o'r fel y mae'r Drwg yn dynwared y Da, er mwyn baglu'r blysig anochelgar. Fe fuasai'n dda anwedd gen i weld Pedrog neu Eifion Wyn neu Dyfed yn llunio englyn 1—1 'r Myshrwm Gwir 2, I'r Myshrwm Gau, i'w ddodi ar bob llidiart cae sydd yn y byd, moesol a matero], fel yr arbedai ami i fywyd maes o law. WEDI EU LLADD YN Y RHYFEL.- Lifft. Norman Evans, mab y Parch. Owen Evans (W.), Llanrwst. Preifat Morris, West End Stores, Pwllheli. Preifat Benmon, Ber- llan, Llanfechain. Preifat A. Griffiths, Melin Ci'O 3wydd, Ti-allwr-g. Lance-Corp. D. Prit- chard, Dyserth, mab un o hen ymladdwyr y Crimea. Lieut. H. E. Jones, Brynhyfryd, Croesor, a > ynsiopwr yn Llandrindod cyn yi-n uno. Capt, Summers, unig fab y diweddar Mr. J. W. Summers, A.S., Sir Fflint, "argon." Preifat Aled Roberts, Prior Street, Ruthin, wedi marw o glefyd, a chael ei nol i'w gladdu gartref. Preifat Burd, Llanrhydd, wedi marw mewn ysbyty. Preifat F. Flanagan, mab casglwr trethi Porthmadog, ac enillydd Groes Filwrol, wedi marw o'i glwyfau. OYMRY CASNEWYDD.-— Ymae y Cym. rodorion am fynnu cadw Sir Fynwy yng Nghymru os oes modd, drwy gadw'r iaith yn fyw lie y mae cymaint o sathru ami gan y Juggernaut o Loegr, canys dyma'i swyddog. ion a rhaglen ci darlithiau at y gaeaf hwn:— Llywydd, H. Parry Jones, Ysw., M.A., Caer- lleon Is-lywydd, W. Williams, Ysw., Llis- werry trysorydd, J. INrillayns, Ysw., Clyffard Crescent ysgr., J. O. Davies. Hyd. 3- Cymru a'i I-liaith, R. Silyn Roberts, M.A. 18--Rhamant Genhedloedd Bychain, Huw J. Huws, Caerdydd 31--Is ilfoniitouthsh;re in Wales ? J. Kyrle Fletcher; T ach. 14-Beirdd Dyngarol Cymru, y Parch. W. Rowland Jones, B.A. Rhag. 1- Y Gadair Wichlyd, J. H. Jones, Ysw. (Gol. Y BRYTHON) 12—Emyn- yddiaeth Pantycelyn, D. Arthen Evans, Ysw., Barri. Ionawr 2-Emrys, y Parch. R. J. Pritchard, B.A., Mynydd Seion Ion. 16-Y Nofelydd Cymreig, J. N. Crowther, Caerdydd 30-Atgofion am rai Cerddorion adu'aenwn ni yin Mynwy, D. Bowne, Y.H., Abecarn, pryd y datgenir amryw donau gan barti o'r Gym- deithas dan arweinaid Mr. J. Thomas 13-D ram a Ar y Groesffordd (Berry) gan aelodau o'r Gymdeithas. Mawrth I-Gwyl Ddewi 13-Y Ddrama Gymreig, y Parch. W. E. Daniels, B.A., Maindee. GYMRY GYMREIG ABERHONDDU, Dyna fel y geilw'r Gymdeithas Genedlaethol hon ei hun, er mwyn gwal).aniaethu oddiwrth y lliaws anghymreig sy'r ffordd honno, mae'n debyg. Dyma'u swyddogion a'u harlwy hwy :—Llywydd yr Athro John Evans, B.A.; is-lywyddhn, y Fones D. G. Owen, Madog Fychan (Maer Aberhonddu) trysorydd, yr Athro John Evans, B.A. ysgrifennydd, y Bonwr Roland Thomas, M.A. pwyllgor y Fonesig E. Godsell, y Prifathro Thomas Lewis M.A.,B.D., yr Athrawon Joseph Jones, M.A., B.D., aD. Miall Edwards, M.A., y Parch. Edgar Davies, M.A., y Bonwyr R. T. Jenkins, M.A.,L1.B., a W. H. Jones Parry. B,yd.. 20-Bri,ddoniaeih Geltaidd y Chwarter Canrif d-iwedda -Llydaw, yr Alban a, r Iwerddon yr Athro T. Gwynn Jones, M.A. Tach." 2—Special English Meeting Lecture, The Desirability of founding a County His- torical Society, Mr. Evan E. Morgan, Brecon. 16^—Gweriniaeth Cymru, y Bmwr Howel T. Evans, M.A., Caerdydd 30—Y Gadair Wichlyd, y Bonwr J. H. Jones (Gol. Y BRY- THON) Rhag. 14-Dr. Price, y Bonwr Rol- and Thomas, M.A., Aberhonddu Ion. 11- Y" Greal Santaidd, yr Athrawes Magdalen Morgan, M.A., Abertawe Chwei. 1—Y Sant a Chymru, yr Athro John Evans, B.A., Aber honddu 15--Ambrose Lloyd, Tanymarian, a Gwilym Gwent, y Bonwr Tom Price, G. & L.T.S.C., Merthyr
Advertising
Madame Annie Leigh — receives Pupils Voice FroiSuctlor, SSngliig, Pianoforte. 123 BELMONT ROAD and CITY STUDIO. Madame Annie Leigh's Ladies' Choir. Good voices wanted. Rehearsals Crane's, Han- over Street. Full particulars, 123 Belmont Rd., Liverpool. Ccmpon Rhad-Yswiriaetb (Peidier ,j hollti'n rhrdd), BYDD !'A" 6RESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House, Poultry LONDON. E.C. dalu £100 (can punt) i gymyoMolydd cyfreitbtc a phe?sono. y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, OB y bo iddo fo nen hi cael eu !iadd yn hollol ac yn union gyrchol drwy ddamwain 0 fewn ? Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwmni Reilftordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedig a Llô, yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei gludo fel teithiwr tooyn a chlud, yn ddarostyng edig bob amser i'r amodan arbennig a ganlyn sydd i'w ystyried fel than a chyfran o'r cytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deng niwrnod ar nugain wedir ddamwain (b) fod rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas o fewn saith niwmod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyfiwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (4) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, Sc inc yn y lie darparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag on person parth mwy nag un coupon yn y papar hwn Ita r un cyhoeddiad arall (f) na bo'r ys. wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonac tan ddeuddeg na tliros-ddeg a thrigain oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod c 12 o'r gloch y dydd y'i codir. Amtyddnod y Daliwr frigfod I Danysgrifwyr, Raid i dderbynwyr cyson r papur hwn ddim arwyddo'r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbi sicrwydd a phrawf ei fod yn cael 8U anfon iddynt yn ddifwich. Eisteddfod Genedlaethol 1911 i'w chynnal yn BIRKENHEAD. Rhestr y Testynau YN AWR YN BAROD. I'w eael gan y Llyfrwerthvryr nen oddiwrth y Cyhoeddwyr. Pris 6ch. Drwy'r Post 71c. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r Brython." Dwain Glyndwi DRAMA GAN PEDR HIR. PRIS Is. DRWY'R POST Is. Ig I'w gael oddiwrth yr Awdur, 21 Wadham Llyfrou Cyfrifon Ysgol Sui. LLYFR YR YSGRIFENNYDD, gyda da- lennau byrion i wasanaethu am flwyddyn beb ail ysgrifennu yr enwau, dwy golofn ar gyfer pob Sul; crynhodeb ar ddiwedd pob chwarter, a nifer o ddalennau ar y diwedd i gadw cofnodion. Rhif I-Ar gyfer ysgolion yn cynnwys 20 o ddosbarthiadau 1/V Rhlf 2-35 0 ddosbarthiadau 2/8 Rhif 3-50 o ddosbarthiadau 3/- Oludiad gyda'r Post 4c. LLYFR CYFRIF Y DOSBARTH, wi ei gyfaddasu i wneyd am 12mis heb ail ys grifennu yr enwau i gyfateb i Lyfr yr Ys- grifennydd. Llyfrau i gadw Cyfrifon o tonawr i Ragfyr neu o Ebrill i Fawrth Pris 1/- y dwsin. Cludiad—Un dwsin 3c., a cheiniog y dwiiir ar ol hynny. HUGH EVANS A'I „F £ lBtON 156 358 Stanley Road, Lhrarpeol ¡ W. 'J.. 'f ilL;" ¡f.. Estate Agents & VQW'¥,:r 200 SCOTiANn D., f.v^rpt* }!í\£]IJ':O;J; c i216 RC'j";¡,Ä I H!3se,.  ALLAN LINE To CANADA P ERFOOL, GLASGOW, LONDON BAYNO TO CANADA, NEWFOUNDLAND U.SA. ALLAN'S, 11 James St., Liverpool; H Coc:kFpaI St., S.W., and 10S Leadaahall St., London, B.C. G. w. RUGHESTO. & l.T.S C (Arvoinvdd p Oil- Nehavel M.O. Frinm Mectf Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arfaolwr. Paroloir Tmgeiawyr at Dycf?apn/'aM wtkttt Co? v So?n. HeR Nodiant a isc?«. 70 KINGSLEY ROAD LERP" ■ ■ ma iwmmmi—n.n ——— 1,, J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, he. 6 Lord Street, LiYerpotl raiMPwoMM «ua HARTLEY & CO., Liverpool 202 LONDON ROAD. RALBS BY AOOTION EVERY VU1SDAT AND PBIDAY AT OSK. BATVZDJtE NIGHTS AT SEVEN, VALUABLB HOlSEHOlD PCBNITPBB OF A.13 DBSOBIPTIONS MAGNIFICENT NNW ARM SSOOND-HAND PIANOSOBTBS.I.ARGR VARINS-E. OF BBD8TXADS. BEDDING, &0, MVERY NECESSITY POB HOUSERREPING. ATTEND THESE tALES AND 8AVB AT LBAJIV, to FRa OENT. A MAGNIFICENT 8ELEOTIOB CF SUPERIOR PUBNITUB1 IS ALWAYS KEPT lit ITOOK AND ANYTHING MAY BE PURCHARED BY PRIVATE TREATY. GOODB STORED. On view 8.30 a.m. to 9 80 p.m.; Saturday I telephone 1793 Royal. OONSIGNUHNTS (EiTHEB LABGB OR INA OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR TEXIS, SALES. BEST BESUIiT GtTABANTBBD. If you want The most Comprehensive j POLICIES AIB THE BEST TERMS write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices Bead Office I I Branch Office t St. Mildrods Houe. 0 14, Exchange a' ld a Poultry. LIVERPOOL LONDON. B.C. J JAMES B. SCOTT, GaDeral Manager Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Beat Electro-plated Spoons gives to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEFOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw, TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, 21c, HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6c. CystaJ a'r goreu a gwell na llawer a fybaeddtsr yn Saetneg. Cyhoeddedig yn S-%vyddfalp Brython." 356, 358 Stanley Rd., Liverpool. Bootle Auction Roonta, 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE, W. H. Butterfield a Co. holds Weekly Sale at their Rooms every Friday Evening, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kin fccngh for prompt easb. Telephone 1299. Beotle.