Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

-1 .-,:I! -AR GIP. I

News
Cite
Share

-1 AR GIP. I Ymae Mr. J. T. Davies wedi cael ei benodi'n brif ysgrifennydd Mr. Lloyd George, Gweini- dog y Rhyfel, yn ddilynydd Mr. H. J. Creedy. Lladdwyd Thos. Jones, gyrrwr y motor bus a red rhwng Pwllheli a Nefyn, ddydd Iau di- weddaf. Aeth y motor o'i afael yn y nos a'r glaw ar allt serth Bo dfean, ac a ddymchwelodd ar ol mynd yn erbyn y wal. Yr oedd priod Mr. Ellis Davies, A.S., yn un o'r teithwyr, ond diangodd pawb ond y gyrrwr gyda dim ond braw ac ysgytiad. Gedy weddw a phump o blant. Y mae'r Parch. R. Leigh Roose, Holt wedi ymneilltuo a mynd i fyw i Lundain, ar ol bugeilio diacldell Saesneg M.C. Bro'rMefus mn ddeng mlynedd ar hugan. Y mae Syr Watcyn Wyn wedi rhoddi byw- oliaeth Llwydiarth, Sir Drefaldwyn, i'r Parch. D. D. Williams, curad Llanfair, Dyffryn Clwyd. Ddydd Sadwm diweddaf, cleddid yr Hy- barch Archiagon D. R. Thomas, ficer Llan- drinio, Sir Drefaldwyn,-un o'r angladdau mwyaf a welwyd y ffordd honno ers talm, canys yr oedd yn wr mawr ei barch, yn ysgol- haig a hynafiaethydd rhagorol, ac yn eithriadol ei gyraeddiadau a'i ddylanwad drwy'r Esgobaeth. Dyma rai o'r llyfrau a geidw'i enw'n wyrdd am yn hir History of the Church in Wales, Life of Bishop Davies and I Wm. Salisbury, a History of the Diocese. Ffaglodd y gwair yn nheiai fferm y Rhos, ger Gwrecsam—ddydd Sadwrn diweddaf,gan dd bJd gwerth pum pant « bunnau. Yng Nghaemarfon, ddydd Sadwrn diwedd- af, dirwywyd glas-lencyn un ar bymtheg oed —Edwards o Ben y Groe&am feddwi'n chodi helynt. Yn atebiad i'r fainc, dywedodd yr Arolygydd Williaiha ei fod yn ceisio cael gwybod ymhle y cafodd ei ddiod. Cafwyd Mrs. Ann Evans, 47 High Street, Porthmadog-gweddw bymtheg a thrigain oed y diweddar Gapten Wm. Evaps-wedi ymgrogi ynllofft ei thy. Dywedir na fu hi  Dywedir na fu hi byth yr un fath ar ol colli ei mab mor dry- chinebus rai blynyddoedd yn ol. Ar ol deuddydd o chwilio amdano, caed o byd i gorff Walter Lowe-gweithiwr 37ain oed ar ystad Leighton Hall, Trallwng-yn llyn y Pare, a (Alioben o garreg yng nghlwm wrth ei wddf. Bu drwy ryfel De Affrica, a gedy weddw a chwech o blant. Yr oedd rhyw iselder arno ers tipyn bellach. Y mae rhyw wladgarwr a gar fod yn gudd wedi estyn deng mil o bunnau i'r Henadur Illtyd Thomas, at Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, a dau gyffelyb wedi eetyn pum mil o bunnau yr un at Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Bendith ar y kaelfrydigion anad. yma. Y mae'r Parch. James Charles, Dinbych, wedi dweyd wrth bobl ei braidd yn Ninbych Ii od yn ei fryd ymneilltuó fis Mai nesaf, ar -terfyn chwarter canrif o f ugeilio'r eglwys. Bfe oedd llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig; efe yw un o bregethwvr ac awduron mwyaf meddylgar ei enw ad ita nid rhyfedd hynny, canys yn IJanuwchllyn y'i ganed.a delw'r ardalhonno ar eigorff dwylath allathr- aidd. Y mae Mr. M. J. Williams wedi cydsynio i fod yn Faer Bangor am y pedwerydd tro'n olynol. Ym marwolaeth Mr. Joseph Roberts, coil- odd Caernarfon un o'i masnachwyr goreu a'r Bedyddwyr un 0\1 diaconiaid a'u colofnau cadarnaf, Yr oedd yn bymtheg a thrigain oed. Yr oedd Miss Edith Evans (19 oed), Treorci, yn treulio egwyl yn Aberystwyth gyda'i th aid, Mr. J. Daniel, Pentrebont ac yngweldci ar foddi yn yr afon, a hithau'n nofiedydd tan gamp, plymiodd ato, ond a iu foddi ei hun, druan, gan gryfed oedd y llif. Yr oedd Mr. R. E. Owen, Garthmyl, Sir Dref aldwyn, agleddid ddydd Mercher diwedd af, yn un o'r beirniaid craffaf ar geffyl yn wlad. Yr oedd ynddo rhyw reddf ryfedd i weld man gwan a man cryf pob anif ail a ddeuai dan ei lygad. Y mae Syr J. Pritchard Jones, Llundain a Niwbwrch, wedi prynnu'r TwthiU, Caernarl on gan Ystad y Faenol, i'r diben o gyflwyno'r bryn yn rhad rodd i'r dref, sy'n meddwl y byd ohono, sef oblegid yr olwg ddiguro sydd ar dir a mor a mynydd o'i ben. Bethbynnagafoar bobl y dref-curyn y pen neu gur yn y f ron--i gorun y Twthill yr ant i gael gwared ap ef, i'w oll wng ymaith gyda'r chwa sydd bob amser yn barod i gl-udo pob anhwylder drosodd i Aber Menai. Ond y mae yno rai pethau cyndyn yn y trigolion na, f edr gwynt Twthill, er ei, gryfed ambell dro, mo'u diwreiddio yn eif yw, mwyaf gresyn. Dywedodd rhywun wrth y Parch. Philip Jones, Llanelli,—"Mae eich gwallt yn newid ei liw yn gyflym iawn, Mr. Jones." "Gwell gennyf iddo newid eiliw na newid eile.frawd," meddai'r gwr ffraeth. Yn y De yn ddiweddar priododd merch 24 oed a gwr oedd yn 63. "Mae cariadfel y mor, A'i (treigliad f el y Ili', A daw a'r twenty four I gwrdd a'r sixty three; Un rhyfedd yw y byd— Pe rhoed hwy gefn yng nghefn, Nid yw y ddau ynghyd Yn ddim ond eighty-seven. Dyna ddau bwt o Fasgedaid Gregin Huwco Penmaen yn y Rhyl Record. Ac ebe rhai o f eirdd y Darian, mewn cwrdd ljongyf arch yr un ar ddeg o Gymry Glannau Am an a enillodd yn Eisteddfod Aberystwyth I deulu llwydd dwylawllon,—heno rown BI aen res y goreuon Ein broydd gan wobrwyon O'r brif wyl s'yn torri bron. Goncwerwyr,—pwy gawn a'u cura,—gemau Yr hen Gymoedd yma Nis gwelwyd yn oes Gwalia Un ar ddeg erioed mor dda. OJj what a feat to afford—now to our District and Ammanford For winning, breaking the record, Prize the eleven, and praise the Lord. -0- COLEO 5Y iBBIFYSGOL, ABER YST- WYTH.-Mewn cyfarfod o'r Senedd, a gyn- haliwyd Medi 25, dyfamwyd yr Ysgoloriaeth- au a ganlyn ar bwys yr Arholiadau a fu'r wythnos cynt Emrys D. Owen, Ysgol Sir Ebbw Vale—Ysgoloriaeth ago red, 130 Thos. C. Jones, Ysgol Sir Dolgellau,—Ysgoloriaeth Clarke, £30; Elwyn A. V. Peers, Ysgol Sir Llandilo, Ysgoloriaeth y Commercial Tra. vellers, £ 20 Idris Herbert, Ysgol Sir Ebbw Vale, Ysgoloriaeth agored, £ 20; Sarah B. Williams, Ysgol Sir Towyn—Ysgoloriaeth Alfred Jones, £ 20 Arthur O. Roberts, Ysgol Sir y Bermo, Exhibition agored, ilO; ElunedGriffiths. YsgolSirPwllheli- Exhibition agored, XIO; Dd. J. Davies, Ysgol Sir Tre- garon—Ysgoloriaeth R. IR. Richards, £ 20 Wm. Clifford Lewis, Ysgol Sir Llandeilo- Ysgoloriaeth Joseph Thomas, £15 Eliz. M. Micah, Ysgol Sir Machynlleth,—Ysgoloriaeth Humphreys-Owen, £ 20. Dyfarnwyd Exhib tions o 15 i'r rhai a ganlyn Gertrude Mo- Breeze, Ysgol Sir y P rth Mavis I. Emery, Uch-Ysg 1 y Merched, Mynwy Eliz. M. Evans, Ysgol Sir y Barri Valinai B. Evans, Ysgol Sir Aberystwyth EnidM. John, Ysgol Sir Llanelli Dorothy V. Jones, Ysgol Sir Pembroke Dock Hilda M. Richards, Ysgol Sir Ceredigion. Cyhoeddir eto enillwyr Ys- goloriaeth Caerfyrddin Alfred Jones, ac Ysgoloriaeth Cynddelw. Gall holl enillwyr Ysgoloriaethau ac Exhibitions sydd ar waith rhyfel oedi dal yr Ysgoloriaeth hyd derfyn y hyfel. j

11 EWNO DF G HOLIG \ - ._.,.…

Advertising