Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CYMAWA GWYNEDDI

News
Cite
Share

CYMAWA GWYNEDD I [GAN UK A FU YNO DRW, VR I TRTDIAU.J YN y Bermo y bu R fintai fawr ddirwestol yn trafod pynciau byw yr wyfrhnos ddiweddaf Teimlid na chynhaliodd Cymanfa Gwynedd, ynghyd ag Undeb Dirwestol Merched y Gog- tedd. erioed eu cyfarfodydd blynyddol ar adeg mwy pwysig. Un o losg-gwestiynau'r dydd yw pa bath i'w waeud a Masnach y Ddiod. Cydnebydd pawb erbynhyn y difrod a achos a. Bear Bacchus bellach gan hi a fu'n ei addoli fel duw cwbl ddidostur pan mae'r wlad yn nydd ei gofwy. Myn arweinwyr y Fyddin, y Llynges, a'r cad-ddarpariadau, mai efe yw'r prif rwystrydd, ac mai efe sy'n gyfrifol am wmbredd o anffodion y rhyfel mawr. Gwell yw galanas y Fasnach ym Mhrydain i'r Caiser na chymorth miloedd o' i filwyr dowraf. Ymgynhullodd dirwestwyr eiddgar o bob cwr o Wynedd, ac ar wedd pob mah a merch arddangosiad a-mlwg o bwysigrwydd eithr- iaOOl y cyfle. Wrth ly w cyfarfodydd y meib ion eisteddai'r Barwnig o Fryn Gwenallt, a'i briod hawddgar mewn cyffelyb safle yng nghynulliadau lluosog y merched. Nid oes derfyn ar ddyled dirwestwyr i'r ddeuddyn hyn Ers blynyddau meithion bellaeh,drwy dymestl a hindda, glynant wrth y llestr, ac arweiniant hi i gyfeiriad hafan ddiogel. 0 Fon daeth y Parchn. David Lloyd, Caergybi Prys Owen, Llangefni Richd. Morris, Llanneroh y medd John Evans, Llangoed; a'r Mri. W. C. Parry, Thos. Evans, Miss Matthews o Amlwch a. Miss Grace Thomas o Bentraeth. 0 Arfon, Llew Tegid, y Parchn. Ellis Jones, Thomas Hughes, Hywel Cefni, a Mr. J. Paul, Mrs. W R. Jones, Mrs. Vaughan Davies, a Miss Jones, Hendreforion. 0 txç-n, y Parchn. G. Parry4" H itghes, Gwyddno Williams, Mri. W. Georgo Robyns-Owen ac Ap Plenydd. 0 Fflint Db. Williams, Y.H., a John Williams, Y.H.' y Parchn. D.Gwynfryn Jones, I; C. Roberts- Morgan. O Orllewin Dinbych Huwco Penmaerii Mrs. W. M. Williams, a Mrs. Owen Owens (Llanelwy). 0 Ddwyrain Dinbych y Parchn. E. K. Jones, Wynn Davies, W. R. Jones, J. Howell, Mrs. Wynn Davies, a Mrs. Robert, Jones. 0 Faldwyn Owain Ddu y Parch. E. Evans (Llangurig), H. Williams, Mrs. Cadwaladr Jones, a Miss Maglona Rees. 0 Lerpwl y Parchn. J. Owen, 0. Lloyd Jones, a Miss Davies. Cynrychiolaeth gref o Fanchester a Birmingham. Yr oedd Meir- ion yno ar ei goreu, fel mat ofer dewis enwau. O'r 11u mawr a ddaeth ynghyd, nid yw'r enwau a gofnodir ond rhyw un yma a thraw, er profi ansawdd cyfansoddiad y Gymanfa a'r seiniau cydenwadol a ohynrychioliadol a gly.wid drwyddi. Nid bob amsser y bydd gorymdaith yn Ilwyddiant, a phan feth, meth yn druenus. Ond er nad oedd y tyvvydd yn rhy ffafriol, yr awelon yn uchel, a'r cawodydd yn freision ac yn ami, eto ymunodd llu mawr o garedigion yr achos yn wyr, gwragedd a phlant, yn fforddol- ion trefnus tua chapel Caersalem. Miss M. C. Ellis o Fanceinion a eisteddai yn y gadair, a'r Parch. Tho's. Morgan, Wvddgrug, a anerchai y plant a'r gynulleidfa mewn iaith gymwys. Oherwydd caredigrwydd pobl Lerpwl yn 19r5 yn clirio ol-ddyled y Gymanfa, cafodd y trysorydd, Mr. Wm. George, yr hyfrydwch cwbl eithriadol eleni o orffen y flwyddyn gyda phedwar gini o arian mewn Haw. Ni phetrusai ddyweyd ar yr un pryd mai prin yr oedd cyllid o rhyw ddeucant a hanner o bunnau yn deil- wng o ddirwestiaeth y Gogledd. B yddai.' ri bur hawdd gwario ychwaneg, a thrwy hynny gyflawni gwaitb rhagorol, ond cyfyngid oher- wydd prinder yr arian a fwrid i'r Drysorfa. Y fa,rn gySredin yw y byddai'n amhosibl cael ysgrifennydd amgen na'r eiddo Cymanfa Gwynedd. Gwna'r Parch. Glyn Davies e'i waith yn drwyadl, ac amryfal ddiderfyn yw'r gorehwyliona hawlir ganddo. Ceir rhyw syniad am hynny pan welir iddo ysgrife mu tair mil o lyfchyrau, ac annerch llu mawr o gyfarfodydd, yn ystod y flwyddyn. Mae'r olwg drefnus sydd ar yr holl Gymanfa, a'r ysbryd byw a dreiddia drwyddi, ynglodgan mwyaf i ynni a medr yr ysgrifennydd. T-Tyf t-VJ hefvd y w defnyddio ia'th'gyffelyb am ysgrifennydd (nid ysgrifenyddes, os gwelwch yn dda) Undeb y Chwiorydd. Tystiai Miss Pritchard fod nifer y Canghennau tros ddau gant, a'r aelodau yn ddeunaw mil-lefain heb ei faith i buro cartrefi Gwynedd. Galwai'r Parch. Wynn Davies, sylw arbennig at adrodd-' iad yr ysgrifennydd,' ac argymhellai ef i areithwyr dirwestol fel ystorfa ddigymar o ffeithiau a fiBgyrau newydd a diweddar, y gellid dibynnu'n gyfan arnynt. Credai y byddalastudlaeth ohono yn lladdfa i ambell araith ddirwestol henafol sydd wedi ei throt- Ian allan am flynyddoedd lawer. I Mair Roberts, Llaiif tchretli, yr aeth medal arian yr arholiad. Nid yn fynych y ceir presenoldeb pedwar Aelod Seneddol. Yn ychwanegol at y llyw- ydd, rhoddid derbyniad croesawgar i Mri. Ellis Davies, Haydn Jones, a Caradog Rees. Cyflawn arfaethodcl Mr. E. T. John fod gyda'r iluoedd, a chlywyd swn siom oherwydd ei absenoldeb yn y genadwri werthfawr a anfon- odd. Parodd llyt.hyr yr henafgwr, y Parch. Daniel Rowlands, sydd ar drothwy deg a phedwar ugain oed, ddiddordeb teimladwy. Eglurai ei absenoldeb trwy ei fod bellaeh yn dechreu teimlo henaint yn dod." Yn y cyswilt hwn llongyfarchwyd un arall o'r arwyr a edrychai'n hoew a heinyf-y Parch. Ishmael Evans, iar gyrraedd ohono jiwbil ei weinidogaeth. Er y siom o golli ei wyneb rhadlon, parodd gohebiaeth Puleston hefyd gynhesrwydd a gwen gyffredinol. Testyn galar blin oedd absenoldeb ysgrifennydd pybyr Cymanfa Ddirwestol Meirion, y Parch. O. Lloyd Owen. Galarai'r Gymanfa glywed am ei afiechyd, ac anfonwyd cydymdeimlad tyner a dymuniadau gweddigar ato. Bu peth son yn gyhoedduS am genedl- aetholi neu brynnu y Fasnach gan y Wladwr- iaeth, a dichon fwy o siarad yn finteiøedd ac wrth fwrdd y te ond ni thybid fod yr adeg wedi dod i ddwyn unrhyw benderfyniad ffurfiol ar y mater gerbron y Gymanfa. Trwy glust-ymwranclo, cwbl hawdd casglu mai bychan oedd yr awydd i setlo cwestiwn y ddiod yng Nghymru ar y llinellau hyn. 0 ganlyniad, teimlid mai afraid oedd profi barn y Gynhadledd. Gwyddid fod rhai o'r arweinwyr yn gogwyddo, neu o'r hyn lleief yn barod i ddadleu o blaid, cadwmedciwl agor- ed, ac yn wir i gredu nad oedd yr un pris yn ormod i'w dalu po ceid ymwared a'r felltith. Ond ofn a feddiannai'r.lliaws mai nid pwreas er dinistrio a fyddai, ond yn hytrach er elwa ac mai'r camsyniad uniongyrehol fyddai parchuso, cryfhau, ac efallai fytholi'r Fasnach Rhoddes y Parch. Thos. Hughes y cwestiwn gerbron mewn anerchiad teg a gochelgar. Ber fu'r drafodaeth. Un peth ellid ei fynegi'n ddibetrus, mai arwyddair digamsyniol y Gymanfa ydoedd y pwyslais adnewyddol a roddid ar hawl Cyrnrn i benderfynu tynged y Fasnach drosti ei hun. Dyma'r sain a glywid bron ymhob anerchiad. Pa beth bynnag a wneid yn y wlad tuhwnt i'r Goror, fod Cyirmt yn aeddfed i fesur Dewisiad Lleol. Teimlid tod angen llawer mwy o oleuni argyhoeddiad cyn y gellicl meddwl am adael yr hen iwybrau. Mown gwahanol gyfarfodydd gwrandawyd ar auerchiadau byw a chyrhaeddgar gan Prifathro Prys, y Proff. Levi, a'r Aelodau Sen- eddol. Nid yn fuan ychwaith yr a brawddeg au effeithiclMiss Edith Thomas, Criccieth, yn anghof. Anerchiad edy ei 61 oedd eiddo Mr. Wm. George, ar Sut i fanteisio ar Wersi'r Rhyfel ynglyn a Dirweit. Cyhuddai'r Fasnach o fod yn elyn pennaf effeithiolrwydd cenedl- aethol, a mynnai fod yn rhaid cael deddf Seneddoli atal ei rhwysg. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd yn y cylch nos Fercher. Bu Mrs. Vaughan Davies a'r Parch. Wynn Davies yn Nolgellau, y Parch. Gwynfryn Jones yn Nhowyn, Ellis Davies, A.S., a'r Parch. John Owen, Anfield, a Mrs. Robert Jones yn Aber- dy.fi,' a chaed rhai cynulliadau lluosog a chyf- arfodydd grymus ac argyhoeddiadol. Siriol- wyd y Gymanfa gan unawdau meistrolgar gan Mrs. Wynn Davies a Mrs. Edwin Jones. Nid gwiw rhoddi'r ysgrifell o'r Haw heb ddatgan, gyda boddhad, firiau mawl yrholl dditidiriaid i gyfeillion y Bermo am eu darpariaethau cyf- lawn a'u caredigrwydd mawr. Bydd yn llonder ysbryd i'r Parchn. Edwin Jones, Afon- wy Williams, a Gwynoro Davies, Mri. T. Martin Williams, Y.H., Rhys Jones, a Rees Jones, ddeall eu fod wedi cael rhan flaenllaw yn nhrefniadau un o'r CJymanfaoedd mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd yn nhalaeth Gwynedd. o

, 6 fl, , '0'< I I I- 11…

Advertising