Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

'J?JsL?? ?"? T0?*-< o Big…

DAU TU'R AFON.

News
Cite
Share

DAU TU'R AFON. Medi 25, ar faes y frwydr, Uaddwyd Capt. Norman L. Watts, Compton House (a blwydd. yn i'r un diwrnod bu farw ei frawd Lieut. Tom Watts), meibion i Lieut. Col. Luther Watts, V.D., ac wyrion yr Henadur W. H. Watts, Allerton. Nid oed ond 28 oed, ac wedi ei ddyweddfo i Miss Dorothy C. Jones, Colwyn Bay. Yr oedd yn hynod boblogaidd yn y masnachty enwog, ac allan era deunaw mis. Y mae yn loes fawr i'w dad a'i fam. Y mae'r trydydd mab yn paratoi yn Cambridge.-R.J.G. ERLWYS GROVE STREET.—Nos Fercher, Medi 279"* cynhaliwyd Gwasanaeth Coffadwriaethol yn yr eglwys uchod i'r diweddar John Evans a fu'n ddiacon ffyddlon yno am chwe mlynedd a deugain. Dechreu- wyd yr oedfa gan y Parch. O. L. Roberts, TabernacI, yn dynei a theimladwy iawn. Datganwyd 0 rest itt the Loid yn feistrolgar gan Madame Eunice Evans. Chwaraewyd y Funeral March a'r Dead March in Saul" ar yr organ gan Mr. Baiker. Traddodwyd pregeth gan y Parch. D. Adams, B.A., ar y geiriau Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Sylw- odd mai prif nodweddion yr ymadawedig oedd cref- yddolder ysbryd, ffyddlondeb eithriadol, a haelioni tosturiol a thyner. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Mr. Edward Lloyd, Y.H., a'r Hybarch Ddr. Oweit Evans yn datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresennol. Daeth cynhulliad da ynghyd, ac ystyried yr amgylchiadau, i amlygu eu parch i ua oedd mor haeddol ohono. Bydded i Dduw pob diddanwch fod yn dyner yn ei ofal o'r weddw yn ei thristweh a'i hunigedd.-Cytaill. Clwyfwyd Private W. Alun Jones yn Ffrainc, ddydd Llun wythnos i'r diweddaf. Gorwedd yn awr yn un o glafdai Manchester. Disgwylir nad yw ei niweidiau yn ddifrifol iawn, ac y caiff adferiad buan. Efe yn fab ieuengaf Mr. a Mrs. William Jones, 36 Cambridge Road, Bootle; yn un o blant Stanley Road fel y'u gelwir, ac wedi bod yn llawn gwaith ynglyn ag Ysgol Sul York Hall pan adref. PRIODI MAJOR HERBERT WILLIAMS A MISS ETHEL THOMAS.—Ddydd Iau diweddaf, unwyd y ddeuddyn uchod mewn glan briodas yng nghapel Charing Cross Road, Llundain. Gweinyddwyd gaa weinidog y priodfab a'r briodferch, y Parch. R. R. Hughes, B.A., Chatham Street, Lerpwl, a chymer- wyd rhan hefyd (yr holl -wasanaeth yn Gymareg) gaR y Parch. P. H. G iffiths. Y forwyn briodas oedd Miss Audrey Thomas, Garreglwyd, Caergybi; a'r gwas, Mr. W. J. Thomas, Paris a Llundain. Cyf-. Iwynwyd y briodferch gan ei brawd, Mr. R. J. Thomas, Caergybi a Wimbledon. Yn y cwmni bychan oedd yn bresennol, gwelid Mrs. Lloyd George » Miss Olwen Lloyd George. Hyd yn ddiweddar, mae'r Uch-Gapten Herbert Williams wedi bod ya gofalu am nifer o vsbytai, a channoedd lawer o filwyr clwyf edig yn y ddinas hon ond ar hyn o bryd, y mae gyda'i gatrawd yn y R.A.M.C. yn Aldershot. Hyder, (Y gweddill ar tud. 6)