Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

'J?JsL?? ?"? T0?*-< o Big…

News
Cite
Share

'J?Js L ?? ?"? T0?*-< o Big y ????j? V IS  Ma Lleifiad. 2 S'TORI SIESNEG.-Darllenwch hi, ac fe gydolygwch a minnau mai stori wedi ei nyddu'n dda eithriadol yw'r stori Saesneg sydd ar tudal. 4, ac mewn iaith goeth wedi ei hireiddio gan enaid Celt- aidd. STR HENRY JONES VNJVAITH ETO.- Bum yn gwrando Syr Henry Jones, Glasgow, yn darlithio ar Ddyletszvyddau a Breintiau Dinasyddiaeth gerbron Cymdeithas Eglwys Annibynnol Saesneg Rake Lane, New Brighton, nos Wener ddiweddaf, sef Cymdeithas o aelodau'r eglwys ac o drigolion eraill y cylch, bob cenedl, sydd wedi ei ffurfio i astudio prob- lemau cymdeithasol, yn enwedig y goleu a daflodd y rhyfel arnynt. Drwy ddylanwad rhai o fawrion y gymdogaeth, Uwyddwyd i gael ein cydwladwr hyglod yno i agor y pwnc a gosod pawb ar ben y ffordd cyn dechreu'i throedio a dyna osod a gafwyd Nid oes mo r lie i grynhodeb o'i sylwadau yr wythnos hon hwy ddeuant gynted y byddo lie ac y maent yn rhy ffres i lwydo pe baent yn y dror am fis a blwyddyn. Yr oedd yn,o frithiad o Gymry, ac yn porthi fel y medr y Cymry borthi." Arhosai'r darlithydd gyda Mrs. Mahler a'r teulu yn Sudworth, New Brightgn-tculu sydd wedi gwneud cymwynasau mawrion a Gogledd Cymru gyda choedio'n parthau moelion-(afiorestation)-ac yn y blaen. Da oedd gweld Syr Henry yn edrych mor dda, a'i gael mor llawn o'i bwnc ac o'i afiaith athornyddol ag erioed. Ymadawai ddydd Llun i ddarlithio'r noson honno ym Mhrifysgol Sheffield. Y mae ei dri mab yn y Fyddin un wedi ennill y D.S.O. am ddewrder yn Asia Leiaf un arall yn ffosydd Ffrainc a'r lall yn garcharor gan y Tyrciaid o Kut-el-Amara. MOR DDA GAEL Glfl"ELLA.-Da oeddgennym. weled Mr. W. Philip Jones, Sidney Road, Bo ) dydd o'r blaen, ac yn gwella'n foddhaol o.'r cystudd trwm a gafodd ers mis. Efe'n un o'n pregethwyr lleol mwyaf meddylgar a chymeradwy a phan adfero ddigon ar ei nerth, y mae yn ei fryd gilio encyd i lethrau'r Wyddfa, er mwyn cael ail-ana dlu awelon balmaidd bro'i febyd. DWRN MOEL YN ERBYN DUR A LLURIG —Heblaw cael oedfa Gymraeg iddynt bore dydd Sul yng nghapel Wesleaidd Wilson's Lane, y mae'r pwyllgor eflro sy'n darpar cysur a mwyniant i filwyr Cymreig Litherland a'u bryd ar gael cyfarfodydd iddynt yn yr un lie ar noson waith. Cafwyd y cyntaf o'r cyfryw yno nos Fercher ddiweddaf, pryd y cafwyd anerchiad gan Olygydd Y BRYTHON ar Y Cyniro fel Ymhddwr. Dechreuwyd gyda dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain, gan ddyfynnu atebiad yr hen bennaeth Brythomg hwnnw i Iwl Caiser a anfon- asai air ymlaen Haw i ddywedyd ei fod yn dod drosodd i orchfygu'r Ynys ac i dderbyn treth gan y brodorion. Gwna a fynnych, ond dan dy berygl." ebe'r hen Frython, mor odidog o bengryf a di gryn. Nid diffyg dewrder, ond diffyg rheidiau rhyfel (ammunition) a barodd i'r hen Gymry gilio-dyrnau moelion yn erbyn dur a Kultur y Caiser Rhufeinig A'r gwanna' ddyn, a gwain ddur, A dyr nerth a dwrn Arthur. Brasgamwyd dros y canrifoedd, gan ddangos syniad Milton amdanom—" An old and haughty nation, strong in arms." Sliakespeare-Beibl-anffaeledig y Saeson ar bob pwnc,-—yntau'r cyduabod fod swn traed Glyn Dwr yn gyrru ias o ofn drwy feingefn Lloegr. Soniwyd am y clod anfarwol a enillodd y catrodau Cymieig ym mrwydrau Cresi, Poitiers, ac yn y blaen, gyda'r Tywysog Du; am lyfr Cymraeg y milwr Elis Griffith sydd yn Llyfrgell Mostyn ac ynddo hanes mor werthfawr am ein rhan yn rhyfel- oedd Ffrainc; am orchestion y 23rd a'r 41st ym mrwydrau Fflanders dan y Due o Marlbro; i lawr hyd y Crimea a'r dyddiau hyn. Pe buasai'r R.W.F. a'r S.W.B., etc.. yn cadw cloch-sef gohebydd cil dwrn i ganu eu clod yn y papurau- buasai eymaint son amdanynt ag sydd am y catrodau Seisnig a Sgotig-yr olaf yn ben ar bawb am gael rhywun i glochtar dros y T wlad am bopeth a wnant, os gwneud hefyd. Na hidiwch, y mae'r hyn a ddywed Camden, yn ei Historia Briuonnum am Gymro'r dyddiau gynt, yn wir am y Cymro hedd- yw, a dyma fo The other remainder of the Britains, which retired themselves to the West parts, now called Wales, with like honour of fortitude, for many hundred yeares repelled the yoke both of the English and Norman slaverie. In which time how warlike they were, I wil use no other testimony than that of King Henry II in his letter to Emanuel Emperour of Constantinople The Welsh nation is so adventurous that they dare encounter naked with armed men, ready to spend their blood for their country, and pawne their life for praise.' Llywyddid gan Mr. R. Vaughan Jones caed gair hefyd gan y Parch. E. L. Roberts, Saltney, sydd yma'n gofalu am fuddiannau ysbrydol y bechgyn, ac a'u tynghedodd—beth bynnag a ddywedai swyddog- ion pensych y Camp yn erbyn y Gymraeg—am iddynt fentro'i siarad a'i harddel ymhob man, nad oedd yna'r un ddeddf yn unman i'w gwahardd. Caed detholiad coeth ar yr offeryn gan Mr. J. Whittington Hughes, a chan gan Mr. R. Vaughan Jones; a gair dros y gweddill gan un o'r milwyr. AIL GYCHWYN BENDITH BANKHALL.- Cofied y milwyr a'r morwyr Cymreig drwy'r holl gylch fod cyngherddau croeso ysgoldy Bankhall yn ail ddechreu nos Sadwrn nesaf, sef Hydref y jfed ac y bydd yn dda gan y pwyllgor eu gweled yno i'r te a'r lluniaeth dibrin a fydd ar y byrddau cyn y cyngerdd. Cynhelir y rhain bob pythefnos, fel y llynedd, a gofelir am ddau beth ymhob un-bwyd blasus a thalentau gwerth eu clywed. DARLITH r PERENINION.—YT oedd hi'n gylchwyl flynyddol Wesleaid Oakfield nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf, pryd y pregethai y Parch. P. Price, Coed poeth, nos Sadwrn a phrynhawn a nos Sul; a'r Parch. J. Roger Jones, B.A., yn traethu'n rymus yn Saesneg yn oedfa'r bore. Nos Lun, darlithiai Mr. W. Caenog Jones, Coed poeth, ar Czvmni'r Pererinion Mr. O. J. Hughes yn y gadair y Parchn. R. W. Jones a P. Price yn diolch amdani ar y diwedd a'r darlithydd-yn mynd a'r gynulleidfa luosog am awr a hanner ddiball o dro gyda Bunyan a phrif gewri pereriniol y Puritaniaid. BENDITH ARNOGH !-Dyna a ddywed pawb o'u miloedd cydnabod yn y ddinas a'r wlad am briodas Major Herbert Williams a Miss Ethel K. Thomas, a gyfamodwyd wrth allor eglwys Charing Cross, Llundain, ddydd lau diweddaf, ac felly'n plethu dau deulu hysbys a pharchus iawn yn Lerpwl a Mon. Mawr oedd rhif y pwyddion a phawb yn dymuno i'cwlwm ddal hyd y bedd ond hwdiwch ddymuniad gwell a hwy na hwnnw :— Er i angau fynd rhyngoch, Wedi y bedd ynghyd b'och. Islwyn ai dymunodd i ddeuddyn mwyn o'ch tebyg. ARWYDDION CrMERADWr AETH. Nos Lun yr wythnos ddiweddaf, yn Neuadd Dref Bootle, buwyd yn anrhegu Mr. Wm. Williams ar ei ymadaw- iad o* Lyfrgell Rydd Bootle i fod yn is-lyfrgellydd yr Athenasum, Church Street, Lerpwl. Mr. J. S. Tumil- ty, Clerc y Dref, yn y gadair; ac wrth gyflwyno'r rhodd-bureau dderw-a dalodd wrogaeth i lafur ffyddlon Mr. Williams am un mlynedd ar bymtheg. A sylwai Mr. C. H. Hunt-y prif lyfrgellydd—mai ei brif nodwedd oedd y gellid dibynnu ar bopeth a wnai ac a ddywedai Mr. Williams. Dilynwyd gan Mri. Colquhoun, Bulmer, a Small, gan gyfeirio at ei gwr- teisrwydd boneddigaidd bob amser wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Diolchodd Mr. Williams am y rhodd ac am y teimladau caredig a amlygwyd tuag ato. DYMA'N TEIMLADAU ATOCH.—Yr oedd Miss Myfanwy Lloyd Jones (merch Mr. a Mrs. P. Lloyd Jones, Stanley Road) yn brifathrawes Ysgol Cyngor Mynydd Isaf, ger yr Wyddgrug, ers wyth mlynedd, ond y mae wedi ei phenodi'n ben ar adran ragbaratoawl Ysgol Ganolradd y Merched dan Bwyll- gor Addysg Bootle a nos Iau ddiweddaf, wrth adael Mynydd Isaf, anrhegwyd hi a silver plate hardd a chostus ar ran goruchwylwyr ac athrawon a phlant yr ysgol; ag anrhegion eraill ar ran eglwys M.C. y lie a'r Gobeithlu a Chymdeithas y Bobl Ieuainc ac a llyfrau gan ei gweinidog, y Parch. J. H. Williams. Cadeirydd y cyngerdd ymadawol oedd Mr. Peters, Y.H., a chafwyd noson ddiddan iawn o ganu ac adrodd wrth fiarwelio. rN r CYFARFOD MISOL.-Hwn yn un pedwar-misol, ac a gynhelid ym Mharkfield nos Fercher ddiweddaf. Am 3.30, cyfarfod y pregethwyr, dan lywyddiaeth y Parch. W. O. Jones a'r Parch. G. W. Griffith, B.A.,B.D., yn agor trafodaeth ar Y Pregetbwr fel Proffzvyd. Am 5.30, cyfarfod y b aenoriaid, a Mr. Hugh Roberts (Bootle) yn darllen papur ar r Byd i Grist, a Mri. J. J. Thomas a J. Williams, Wigan, yn dilyn. 6.30, cyfarfod unedig o'r pregethwyr a'r blaenoriaid, y Parch. J. Owen yn ymddiddau a blaenoriaid y lie, a bu sylwi ar rai prof- edigaethus ac am y bechgyn o'r gwahanol eglwysi oedd wedi cael eu clwyfo a'u lladd yn y rhyfel. Cyfarfod cyhoeddus am 8, a'r Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., yn traddodi anerchiad meddylgar ar Addewidion Duw (2 Cor. i, 20) ond rhan fwyaf y cyn- rychiolwyr wedi dianc adref oblegid y tywyllwch. Darparwyd gwledd hael o luniaeth i'r holl gynrych- iolwyr, a diolchodd y llywydd (Mr. J. Bellis) i'r chwiorydd am eu caredigrwydd mawr. GOHEBYDD EDGE LANE.-Diolcl-i i ohebydd caredig eglwys M.C. Edge Lane am y crybwyllion a ganlyn Y mae'r Parch. D. Jones wedi dychwelyd i Gymru, er mwyn ymadfer yn gyflymach o'r afiechyd a'i gorddiwes. Bu mor iach hyd yn hyn, nes mai dim ond un tro mewn un mlynedd ar hugain y methodd fynd i'w gyhoeddiad. Nos Lun ddiweddaf, cafwyd cyfarfod er cof am y diweddar Preifat R. J. Lewis, y Parch. J. H. Morris yn llywyddu, a Mri. R. J. Ellis (ei athro), G. Davies, J. Ceredig Jones, a Henry Davies, yn dwyn eu teyrnged i'w gymeriad hoff a glan. Canwyd Pwy yw y rhai hyn dan arweiniad Mr. R. O. W li ams, a dibennwyd drwy weddi gan y Parch. S. G. Evans, B.A. Ofnir am ddiogelwch y Preifat D. J. Morris, Nantlle gynt, ond a fyddai yma cyn ymuno, ac yn hynod wasanaethgar gyda'r canu yn y capel a'r Ysgol Sul a Theml G-xalia. Dyma lythyr at Mrs. Lewis am ei hannwyl fab :— 2.R.W.F., 33 Division. DEAR MRS. LEWIS,—I am informed by Mr. J. E. Jones that you have had no particulars about the death of your son, Pte. R. J. Lewis. This I deeply regret, and it can only be explained by the fact that the officer commanding this company is at present away. I did not know your son personally, not being with this Battalion at the time, but from all account I can gather he was a mdst promising soldier, and died a very gallant death. He was wounded in both legs while acting a Brigade Orderly at a very hot part of the line, and died late at the casualty clearing hospital. He was specially commended by an officer for taking a message through a>very heavy bombardment. Trusting this may be of some small consolation to you and tendering my sincere sympathy,—I remain, Yours sincerely, R. GREAVES, Lt., A .0 C, A. Coy. MARWOLAETH MR. JVM. PATTON.-Drwg gennym glywed am farwolaeth y cyfaill cu a'r blaenor ffyddlon, Mr. Wm. Patton, wedi misoedd 0 gystudd. Cleddir ddydd Sadwrn nesaf ym mynwent Anfield a daw gair helaethach amdano yr wythnos nesaf. I Cymdeithas y Beiblau. Cafwyd hanes cyfarfod Cangen Bootle yn ein rbifyn I diweddaf wele grynhodeb o hanes cyfarfod Lerpwl a Birkenhead CYFARFOD EDGE LAN E- I Cynhaliwyd hwn nos Fawrth, yng nghapel M.C. Edge Lane y Parch. D. Powell yn dechreu drwy ddarllen a gweddio y Parch. J. Owen (Anfield) yn llywyddu, ac yn cyfeirio at afiechyd y Parch.D. Jones, a'i fod yn well ac wedi dod adref; fod trysorydd y Gangen, Mr. Owen Evans, yntau wedi bod yn wael ers amser, ond yr oedd ei dad (Dr. Owen Evans) yn bresennol, ac yn tystio y disgwylid ef yn ol yn fuan bellach i'w gynhefin iechyd fod Mrs. Ellis Jones, Holyrood House (un,o aelodau'r eglwys yn y Ile, ac un o garedigion mwyaf haelionus y Gym- deithas) wedi marw ac fod Mr. Wm. Patton (un o aelodau'r Cyfeisteddfod ac un o ddilynwvr difwlch y cyfarfodydd ar hyd y blynyddoedd) yntau'n llesg ei iechyd. Amlygodd y cyfarfod ei gydymdeimlad. Syiwodd Mr. Owen, ymhellach, nad oedd y plant ddim bob amser yn dilyn esiampl dda eu rhieni drwy danysgrifio'n flynyddol at y Gymdeithas, ac mai dyna oedd eisiau-ceisio am danysgrifwyr newyddion i lenwi lie y rhai a gollid drwy farwolaeth. Caed adroddiad y trysorydd a'r eiddo ei hun gan ysgrif- ennydd y gangen-Mr. Arthur Venmore-fel y canlyn :—Gwelir fod 44 o eglwysi wedi cyfrannu yn ystod y flwyddyn. Ceir cynnydd mewn 23, a lleihad mewn 14. Mae'n hyfrydwch mawr gennym weled fod 4 o eglwysi wedi cyfrannu o'r newydd. Cyfanswm y casgliadau eleni ydyw L331 gs., o'i gyferbynu a £ 363 19s. 7d. y llynedd. Mae hyn yn golygu £ 32 1 os. yd. o leihad. Ond pan gofir fod casgliad eglwys Princes Road yn 1915 yn cynnwys rhodd arbennig o £ 50 oddiwrth gyfaill dienw, try'r Ileihad yn gynnydd o £ 17 9s. 5d. ag ystyried y casgliadau arferol yn unig. Bu raid gostwng y Rhad Rodd i'r Fam Gymdeithas o £300 yn 1915 i L275 yn 1916, ond hyfryd gennym eich hysbysu fod y Cyfeisteddfod, ar ol gweled y cyfrif blynyddol, wedi penderfynu anfon swm ychwanegol o £25 allan o'r gweddill mewn llaw i'r Fam Gymdeithas yn Llundain, gan felly ddwyn ein cyfraniad am y flwyddyn i'r un swm a'r llynedd- £ 300. Y mae'r Taliadau eleni yn llai o £ 8 155. na'r llynedd, er ein bod wedi dosbarthu Testamentau i filwyr a morwyr ein heglwysi. Er pan ymgymerwyd a'r gwaith hwn, y mae dros 1,200 o Destamentau wedi eu cyflwyno trwy ein gwahanol eglwysi i'r milwyr, a thros 1,000 wedi eu rhoddi at wasanaeth y milwyr Cymreig yn Litherland. Yn ystod y fiwyddyn, 15adawyd cymunrodd o f 500 i'r Gymdeithas trwy ewyllys y diweddar Mr. Wm. Jones, Seacombe, a chyfran sylweddol o'r Residuary Estate o dan yr ui ewyllys. Y mae gobaith y daw tua £ 700 i gronfa'r Gymdeithas. Datganwyd Ilawenydd mawr wrth glywed adrodd" iad mor gryno a gwych a chalonogol ei ffeithiau j diolchwyd i holl swyddogion y Gangen am eu llafur dyfal a selog dros yr achos; ail etholwyd hwy at y flwyddyn nesaf, a chymeradwywyd y ddau adrodd- iad ar gynhygiad y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., yr hwn a amlinellodd waith y Gymdeithas.mewn araith fer, fyw, a digwmpas. Sylwodd mor gyfieithadwy oedd y Beibl rhagor clasuron eraill y byd. Ni ellid cyfieithu Plato byth heb i Plato golli llawer o'i ragor- aeth ond daliai y Beibl ei droi i bob iaith heb gym- ylu gogoniant ei feddyliau, ac yr oedd mor fires yn Gymraeg ag ydoedd yn y Roeg a'r Hebraeg. Pwys- odd am i bawb, er caleted yr amseroedd, ddyblu'r casgliad, gan fod y Gymdeithas dan drymach treuliau oherwydd drudaniaeth papur i argraffu a lledr i rwymo ac yn y blaen. Dilynwyd gan y Parch. Weslleley Jones. Drwg gennym nad oes ofod i'w chyhoeddi'n llawn,—dim ond nodi dau neu dri < bethau a ddywedodd r-Er gwaethaf y rhyfel, cyf- rannodd Cymru £ 1,000 yn fwy at y Gymdeithas eleni na'r fiwyddyn cynt. Cwestiwn mawr Ewrop heddyw ydoedd hwn Prun ai Corsica ai Calfaria, Mahomet ai Crist, sydd i drechu ? Yr oedd y Mohametaniaid ya cashau'r Beibl a'i Grist a chas cyflawn; eu hysgol- heigion yn cyfieithu'r Koran i ieithoedd lawer; y gref- ydd hon oedd gelyn cryfaf Cristionogaeth, ac ar oi y rhyfel, byddai gan Brydain fwy o ddeiliaid Mohamet- aidd nag oedd o Gristionogion drwy'r byd i gyd. Ceisiodd y Caiser castiog ffaglu rhyfel sanctaidd drwy gael Mohametaniaid yr India a gwledydd eraill y Dwvrain i ymuno yn erbyn y Cynghreiriaid ond diolch i Dduw, fe fethodd yn ei ystryw; a heddyw, y mae'r rhwyg sydd yn y gwersyll Mohametanaidd yn argoeli bod yn fwy o fendith i lwyddiant Cristionog- aeth na dim a welwyd cyn y rhyfel. Nid oedd yr Eglwys Gristionogol ddim wedi bod yn ddigon deffro o lawer i ragflaenu ac atal y cenllif Mohametanaidd a orlifodd .Affrica a'r mannau lie y blodeuai crefydd Crist mor odidog gynt, a'r lie y cododd Tertulliaa a llawer un arall o'i phrif ddiwinyddion ac amddiffyn wyr. Ond diolch ni fu erioed y fath werthu a darllen Gair Duw gan Arabiaid a chenhedloedd Mohametanaidd ag a fu yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf ac 0 am gael yr eglwysi o ddifrif ym yr ymdrech i achub y maes cyfoethog hwn i Grist. Caed gair ar y diwedd gan y Parch. Dr. Owe* Evans a'r Parch. O. L. Roberts. CANGEN BIRKENHEAD.—Cynhaliwyd ei chyf. arfod hi nos Fercher ddiweddaf, yng nghapel Cliftoa Road. Y Parch. J. J. Roberts, B.A., yn llywyddu'n effro a deheig, yn lie y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., oedd wedi cael ei hysbysu fel cadeirydd, ond oedd i ffwrdd yn Llandeilo. Dechreuwyd gan Mr. Edward Jones (Woodchurch Road); caed adroddiad campus o ddarn priodol gan Mr. Evan Evans (Laird Street); adroddodd dwy eneth o Clifton Road hefyd caed anerchiad haywdl a blasus iawn gan y Parch. Welles- ley Jones, am yr hwn y diolchodd y Parchn. O. J. Owen, M.A., a Joseph Davies ac i swyddogion y Gangen-ac yn arbennig i Mr. Rd. Roberts, yr ysgrif- ennydd, am ei lafur ffyddlon bob blwyddyn. Dangos- ai ei adroddiad fod casgliad y Gangen yn fwy 0 £ 4 na'r llynedd a phan ddaeth platiau'r casgliad i fewn o'r llawr heno, fe gafwyd peth tlws a chalonogol iawn ar un ohonynt, sef papur pumpunt heb enw neb i ddy- wedyd pwy a'i rhoddodd. Ond er na wyddom ni, fe wyr y Nef yn eithaf pwy ydyw'r Anad. grasol ei galon, ac a dal iddo fel y talodd hi i wr y Pum Talent-drwy eu dyblu a'u gwneud yn ddeg. Cyn- hulliad rhagorol, a chyfarfod gyda'r goreu a gafwyd y tu yma i'r af on.

DAU TU'R AFON.