Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

L in cyn Loucyn

YSIAULI-L Y BtlRDD

0 LANNAU TAF. I

News
Cite
Share

0 LANNAU TAF. I i I WEDI llwyddiant mawr yr Eisteddfod yn Aberystwyth, nid rhyfedd fod cynifer o fannau yn y De yn ymgeisio amdani erbyn 1918. Yr wyf wedi clywed am bum lIe yn cael eu henwi-Castell N edd" Barry, Llanelli, Porthcawl a Llandeilo. Erbyn hyn, mae Llanelli wedi penderfynu apelio am 1920 yn lie 1918. Pan yn ei thlodi dygn, anodd oedd gan un dref wahodd yr Eisteddfod druan i'w chynteddau ond, erbyn hyn, pan y mae swn arian yn tincian yn ei llogell, mae'r gwynt wedi troi, a'r gan wedi newid. Yr hen stori, onite ? Amdanaf fy hun, credaf mai Castell Nedd gaiff yr Eisteddfod nesaf yn y De mae yn hen dref o gysylltiadau nanesyddol mae llawer o'r ysbryd Cymreig yn aros ynddi ac y mae yn fan canalog a chyfleus. Wrth gwrs, nid oes yr un graen yn hollol ar yr Eisteddfod yn y wlad weithfaol yma ag sydd yn y Gogledd. Mae syniadau Seisnig am bleserau yn gorlifo'r wlad a rhaid ymladd yn eu herbyn ddydd yr wyl. Y mae cynifer o bobl Seisnig uniaith hefyd yn bresennol, fel mai amhosib1 cael sylw'r dor; ar y cyfan at ddim ond canu. A dirywio wna'r Eisteddfod pan dry yn wy1 gerddorol a dim arall. « Galwyd fi yr wythnos ddiweddaf i roddi help llaw i Gymro ieuanc yn y lie oedd wedi ei anafu yn y Fyddin. Yr oedd wedi bod adref dros chwech mis, wedi bod yn ymladd yn y Dwyrain a'r Gorllewin, ac wedi aberthu ei ddwy droed dros ei wlad disgwylid arno gadw ei hun a gwraig a thri o blant bach am 25s. yr wythnos. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd wedi cael Ilythyr oddiwrth yr awdur- dodau yn ei hysbysu fod y tal wythnosol wedi ei dynnu i lawr i 12 /6. Nid wyf yn gwybod yr holl fanylion ond mae'r ffeithiau ariannol fel y'u cofnodwyd. Amhosibl i'r bachgen gael swydd fel clerc na dim arall gan na fedr ddarllen nag ysgrifennu ffaith arall awgrym iadol iawn ar adeg pan sonnir cymaint am addysg yn ein gwlad. Un peth sydd yn sicr o ddigwydd yn fuan, yn ol barn rhai a ddylasai wybod, sef yw y bydd yn rhaid i fechgyn a merched o'r 15 i'r 18 neu 19 fynychu'r ysgol- ion nos. Ymaepregethuwedibodarypwne am lawer o flynyddoedd bellach ond gynted yr aiff y rhyfel heibio daw gorfodaeth i mewn i setlo'r mater. iii Yn y llith olat addewais roddi peth o waith y diweddar James Thomas (Alawydd o Lywel), un o feirdd a cherddorion Merthyr Tydfil. Yr oedd ei waith bob amser yn dangos 61 crefftwr da; ac efallai mai fel englynwr y cofir ei enw yn y parthau hyn. Wele rai Y Llew. Arwr ar lu yr hirallt-yw mileinlew Melynlwyd ei gwnsallt Ban heriwr a'i ben hirwallt, Taran ei ru, teyrn yr allt. Y Fiwyddyn. Troad rhod pen darbdydd-ydyw blwydd Dadblyg drysor yr Elfydd Dwyn awdiau'r Albanau bydd Ar wys Awdwr y Sidydd. Yr Eingion. Angen gof, eingion gyfan—wyneblefn, AiJiyljlyg, llogt-lydan, Dyllog, onglog, a chynglan, A phig hir o'i phwyo can. Y Trydan (buddugol yn Eisteddfod Genedl aetho] Aberdar, 1885). Aw trwydol yw y trydan—chwai nodawr A chenadydd buan Uthr ei dwrf a ther ei dan Byd-weinydd, bywyd anian. Efallai fod rhai o eiriau'r hen fardd yn swnio'n ddieithr ond gallaf eich sicrhau fod pob gair yn ei le, ac y ceir ef yn ddiffael rhwng cloriau Owen Puw. Efallai y ceir rhagor o farddon- iaeth Alawydd yn nes ymlaen. iv Mae'r hen-frawd liwylus, loan Bydir, wedi ysgrifennu i mi dipyn o hanes ei fywyd. Rhof yr hanes hwnnw'r tro nesaf, os caf hamdden. Paham na fuasai loan wedi rhoddi tipyn o'r hanes fel rhagarweiniad i'w lyfr-Awelon o Faes yr Awenau ? Y mae defnydd un llyfr diddoro] ym meddiant pob dyn sef hanes gwirioneddol ei fywyd ei hunan. Ni raid ei fod yn allanol ram ant us y bywyd mewnol wedi'r cwbl sydd yn ein diddori fwyaf. Efallai y cawn gan loan ysgrifennu ei fywyd vn llawnach, a rhoi i ni o'r mewnol yn gystal a'r allanol. Mae ef yn ysbrydegwr selog a chydwybodol, ac erbyn hyn, pan y mae pobl fel Syr Oliver Lodge, Camille Flammaron, ac eraill, o ddealltwr- iaeth uchel, yn coleddu syniadau ysbrydegol, rhoddir gwrandawiad parchus i'r neb sydd ganddo brofiad personol i'w adrodd ar y mater. Fy marn i yw hyn—Os oes byd ysbrydol o gwbl, mae'n rhaid fod yna gysyllt- iad agos a'r byd a'r bywyd hwn ac y mae'n dra thebyg fod ysbrydoedd yr ym adawedig yn teimlo diddordeb tnawr ynom ni ar y ddaear yma. I mi, y mae ysbrydegaeth yn ymgais at ddadrys un o broblemau dyfnaf bywyd. Ond dyna rhagor eto, ni obeithiwn. S.

Advertising