Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

Gorea Gymro, yr un Oddieartre…

IFfetan y Gol. I II

\ Fflint eto.

News
Cite
Share

Fflint eto. At Olygydd Y BRYTHON SYR,- Chwilio am air, a chael mwy." Fel y gellid disgwyl, gwerthfawr yw sylw'r hynafiaethydd craff, Ap Gwyddon, aryruchod yn eich rhifyn diweddaf. Anodd dyfalu beth yw priod ystyr yr enw hwn. Mae" ei ystyr ieithegol a daearegol mor gyf artal debyg yn y naill wedd a'r llall. Ni ddywed Owen Jones, Pennant, etc., ddim terfynol ynglyn a hynny. Eto, o safle iaith, mwy naturiol fuasai tybio mai'r enw Saesneg, fel y mae, sydd yn gywir, yn hytrach na'i fod yn llygriad o Fflintia, Ffluentum, a'u tebyg. Yn gyson a hynny, y gair o safle ddaearegol a ystyriwn fel yn wreiddiol gywir. Ar y llaw arall, fel y dywed Ap Gwyddon, mae seiliau eryfion dros dybio mai'r gair o safle iaith sydd gywir, ac nid o safle daeareg.- Yr eiddoch mewn tywyllwch, etc. CYBI

Advertising