Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa [GAN YR HUTYN.] I COLLI EI FLAS AR Y CLA WDD.- Gofynnais i gyfaill y dydd o'r blaen os oedd wedi darllen erthygl A.G.G. y Sadwrn cynt. Na," meddai, y mas A.G.G. wedi colli ei flas i mi byth oddiar ei ymosodiad Irastlaidd ar Gymru a'r Cymro byd-enwog Llwyd o Wynedd." Tebyg fod hyn yn deimlad cyffredinol iawn ar y Clawdd, ac yn y tir. I lawr yr a pawb a ymesyd ar ein Siors ni, ac i fyny yr a efe er gwaethaf pob ymosodiad, CENHADAETH EGLWYS LOEGR.— Peth newydd yn hanes yr eglwys hon yw cenhadaeth. Maent yn eglur am ddiwygiad. Peth estronol iddynt hefyd yw diwygiad. Ceisiasant yn ami i ladd y diwygiad grymus diweddaf a ddaeth dros Gymru troisant i ddawasio yn lie gwedd.o, a thrwy hynny coll- asant lawer, ond dysgasant, wers i'w cxnfio. Heddyw, cyohwynnant eu hunain ar wneud diwygiad. Pob llwyddiant iddynt, ond rhy- fedd o anffodus ydynt wrth y gorchwyl. Ni fu dim mor newydd iddynt erioed. GLOYN BYW AR OLWYN.-Y uchod yw teitl drama Mr. Hemmerde, sef yj hen Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dinbych, ac hefyd nodweddaidol iawn yw'r teitl o Mr. Hemmerde ei hun. Daeth i'n plith fel math o loyn byw ektronol, ac ar ei olwyn y bu tra fu yma. Yr oedd rhyw fynd anghyff- redin ynddo. Nid oedd dim dichon ei atal, ac o'r cliwedd mynd oddiwrthym a wnaeth. Er cymaint y mynd oedd ynddo, gloyn byw oedd. Nid yw gloyn byw fawr o werth, lowyr byw. Daeth ei well ar ei ol. BRYTHONWR AR EI ADEN.-Maeun o fechgyn Pentre'r Brython yma ar ei aden yn Ffrainc. Cyfyd yn uwch uwch o hyd, mewn medr ac mewn bri. Mab ydyw i Mr. Wycherley, yr adeiladydd. Da gennym weld ein beohgyn yn esgyn. Hyderwn na fydd disgyn disyfyd byth yn eu hanes. Dymunwn bob llwyddiant i'r ehedydd addawol hwn. CILVVG AR Y GADAIR DDI WIN- YDDOL.—Nid pawb fedr lyncu'r syniad o .gael Cadair Ddiwinyddol yn y Colegau Cenedl- aethol. Nid oes fawr flas ar ddiwinyddiaeth fel y mae, ond mwy diflas fyth fydd o'i chael o'r Prifysgolion. Nid wyf ddiwinydd," -meddai rhywun yn ddiweddar, ac o'r hyn a wn am ddiwinyddiaeth nid oes ynof awydd am fod yehwaith." Dyna ergyd cefn dwrn, onite ? LLUNIAU'R 8GMME YN Y DREF.- Tyrra miloedd obJbl tua Gwrec-sam i gael cip ar alanastr y Somme trwy Cinema. Nid oedd le i gynnwys y ddegfed ran ohonynt mewn unrhyw adeilad. Dywedir fod yr olygfa ar y lien yn ddigon i yrru dyn i drwmlewyg. Ond befaiprofiadunofodyno ? Mae'r darluniau hyn yn rhoi rhyw syniad egwan o'r gyflafan oinadwy hon. Eto rhyfedd mor dawel y wlad. Nis gellir mewn ami i le gredu fod rhyfel yn bod. TROI'R CLOG IYN EI OL.-Mae Ilawer llai o swn am droi'r cloc yn ei ol nag oedd pan wbhiwyd ef ymlaen. Eto hawddach oedd ei wthio na'i droi, a mwy manteisiol hefyd. Niweidir llawer o glociau ac oriaduron drwy eu troi yn ol, a bydd dwylo y repairers yn llawn gwaith am fisoedd o'r herwydd. Daeth yr anghofus i'r oedfa y Sul diweddaf cyn yr aroser priodol,—rhai na fuont mewn pryd k erioed o'r blaen yn eu bywyd. G .vnaeth hyn Jes iddynt. Gwrthyd eraill droi y cloc yn ei ol. Nid oes gan ddyn, meddent, hawl i ymyryd ag amser. Pobl ryfedd yw'r rhain, ond byddai y byd yn ddwl iawn hebddynt hwy. SGOLOR Y SGWLYN.-Mae mab tair ar ddeg oed ysgolfeistr Johnstown, ger Rhiw abon, wedi pasio arholiad y Central Welsh Board. Dywedir mai efe yw'r ieuengaf a wnaeth hyn. Rhaid ei fod wedi ei eni yn ieuanc iawn, fel ei dad. Llwyddiant iddo LIWSIFFER ZEPP I'R LLA WR.- Llawen floedd a glywir ar y Clawdd am ddis- gyn un arall fel Liwsiffer i'r llawr. Mae gyr- wyr y Brifddinas wedi mesur eu maint i'r blewyn ac fe'u. dygir i lawr yn awr yn ddilol. Digon tebyg, mal y dywedai Lloyd George yr wythnos ddiweddaf, mai ond dechreu y mae Prydain Fawr eto. Ond y cebystr yw ein bod wedi b)d cyhyd cyn dechreu. Pe buasem wedi dechreu'n gynt buasai'r rhyfel trosodd erbyn hyn, a miloedd o'n milwyr wedi eu harbed rhag bedd anamserol. Ond da gweld y diwedd yn agoshau. SWN STREICS.—Swn streic y trens oedd yr wythnos ddiweddaf, ond nid cynt nag oedd honno wedi ei hosgoi nad oedd swn streic arall yn disgyn ar ein clyw, sef yw honno, streic llelrioh. Cyfyd y gwerthwyr y pris, a chyfyd y prynwyr eu dwrn. Hyderaf a gobeithiaf mai disgyn ar y pris wna'r dwrn, ac nid ar ben y gwerfchwr druan. Neu gwae fo, YSGOLION GAEAF.-Egyr y rhai hyn yr wythnos nesaf, ac y mae llu ohonynt ar y Clawdd. Cyrchir iddynt gan fechgyn a gen- ethod Jawer, a gwnant waith da odiaeth. Dyma'r unig gyfle pellach am addysg i gan- noedd lawer o fechgyn y gweithfeydd. Dring ami un ohonynt yn uchel iawn drwy- ddynt. Y maent gymaint eu pwys—yr ysgolion hyn—fel y mae yn llawn bryd codi adeiladau cymwys a phwrpasol ar eu cyfer. Daliwch ar eich cyfle, ieuenctyd! ac na fydded i'r canol oed fod yn ddifater yehwaith. Dylid gorfodi bechgyn anystyriol y stryd i fynychu'r rhai hyn. CANTORESAU Y CLAWDD.-Dafydd gan bawb ddeall am Iwyddiant y cantoresau cladus Mari Von a Lora Prisiard, yn ennill yr A.R.C.M. Hyfforddwydhw-yntgan y Doctor Car. Roberts. Mae miwsig yn llais a bys y rhai hyn. Ewch yn eich blaenau nes canu yr A.B.C. i gyd. CLEMICR YSGOLION.—Bu cryn dwrw ar Down Counsil Gwraig Sam y dydd o'r blaen o berthynas i addysg y plant a chlemio'r ysgolion. Haerai rhai nad oedd digon o athrawon yn yr ysgolion i'w cynnal, tra yr haerai eraill fod yno fwy na digon. Eglur yw fod yna ddiffyg mawr yn addysg rhai o wyr y pwyllgor. Dywedodd un Counsilor beth rhyfedd iawn, sef fod dosbarth o blant mewn ysgol neilltuol a'r rhan fwyaf ohonynt heb agor eu genau am dyddiau. Da iawn fai i ychydfg o'r pla hwn ddisgyn ar y pwyllgor. MYND AR YR YSGOL.-Torrodd dau hogyn drwg ffenestr i ysgol yn Nhref Gwraig Sam yr wythnos ddiweddaf, ac ymguddiodd cwnstabl yn yr un ysgol ar brynhawn Sul. Gwelir fod mynd anghySredin ar yr ysgol hon. Yr oedd y tri yn y llys ar y Llun y cwnstabl yn cyhuddo'r hogiau o ladrad. Mae llawer hogyn yn dod allan o ysgol yn rhy one-st lawer iawn, gan adael y cwbl ar ei ol. BALM WYL OERDDOROL.Mae Capel Saesneg M.C. Acerfair ar y blaen i bawb ar y Clawdd yn hyn. Hon yw eu seithfed yr oedd hon eto o'r fath oreu. Arweiniwyd yn fedrus gan y Proff. David Ifans, Mus.Doc., Caerdydd. Yn y prynhawn caed cyfarfod arbennig i'r plant. Yr oedd Cerddorfa hefyd yn bresennol, ac yn gwneud ei rhan yn gampus. Cafwyd dydd i'wgofb, a'r arwein. ydd wedi ei foddhavi'n anarferol. ERGYD YR YSGOLFEISTR.-Collodd Mr. Parry, ysgolfeistr adnabyddus a gweitll- gar Acer" air, ei annwyl fab, Clifford, ar faes y gwaed. Efe'n ieuengaf o dri yn y Fyddin. Clwyfwyd y ddau arall hefyd, sef Dyfed a Nathan, a'r ddau yn Lifftenants efo'r R.W.F. Llenwid y Sgwl Hows a galar. Bechgyn da a dewr oeddynt. Daw pob diddanwch a gysuro y tad a'r fam a'r gweddill. GWYL Y CYNHAEAF.-Mae'rGwyliau hyn yn dyfod yn fwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn, a phrydferthir yr adeiladau yn ddieithriad bron ar yr amgylchiad a jlodau ac a ffrwythau o bob math. Bydd pob capel ac eglwys fel rheol yn orlawn gan bobl. Wythnos y gwyliau hyn fu'r wythnos ddiweddaf yma ar y Clawdd. Anfonwyd llawer llwyth o ffrwythau o'r capelau i'r ysbytai. Daeth rhai o brif bregethwyr Gogledd Cymru y flwyddyn hon i'n Clawdd i'n harwain mewn mawl. TROSED DA LPR DYDD.-Drwg yw can- fod fod troseddau o bob math ar gynnydd y dyddiau hyn yn yr ardaloedd yma. Llenwir y papurau a chronicl o'r hanes. Mae lladrad a meddwdod ar gynnydd mawr, a'r cyntaf fel rheol o herwydd yr olaf. Beth ddaw ohonom? PREGETH WYR G W Y L I A U' R CLA WDD.-Gwreesaan (M.C.)—y Parch. Glyn Davies, Rossett Coedpoeth (A.)—y Parch. E. Hywel, B.A.B.D., Johnstown Nant (M.C.)-y Parch. J. J. Morgan, Wydd- grug Caergwrle (M.C.)—-y Parch. Talog Davies, Lerpwl; (P.M.)—y Parch. C. C. Goodall, Wigan; Southsea (M.C.)—y Parch Glyn Davies, Rossett Llangollen (M.C. )-y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid Summer Hill (M.C.)—y Parch. M. R. Owen, Gwrecsam; y Parchn. Ward Williams, Gwrecsam W. S. Jones, M.A., Amwytliig J. H. Howard, Colwyn Bay R. G. Jones, Liscard J. Lewis Jenkins, Lerpwl Gresford (W.)— y Parch. H. H. McCulloch, B.A., Mr. Chas. Dodd, Gwrecsam. --0-

Gorea Gymro, yr un Oddieartre…

IFfetan y Gol. I II

\ Fflint eto.

Advertising