Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

DYDDIADUR,

Gfhoeddwyp y Cymod Y Saboth…

Advertising

[No title]

Advertising

Family Notices

Advertising

DAU T U'R AFON.

News
Cite
Share

Parhad o tudal 5. MARTIN'S LANE, LISCARD.—Dclydd Gwen- er diweddaf, ym mynwent Llanfachreth, Sir Feirionydd, cleddid y chwacr ieuatic addawol Miss A. Griffiths, a fu'n aelodo'r eglwys uchod am rai blynyddoedd. Gadawodd ei chartref, Penybont, Rhyd y main, yn ieuanc, a daeth i weini i South port, gan ymuno a'r eglwys Anni- bynol facli a gyferfydd yn London Street, a bu'n nodedig o ffydcllon a gweithgar yno. Bu'n arolygn'r Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a'r Ysgùl yn Uwyddiannus iawn o dan ei har- weiniad. Daeth i Liscarcl tua phum mlyîledd. yn ol, gafaelodd yn y gwaith yn union deg ar ol dod i Martin's Lane, lie y bu'n athrawes ffyddlon ar ddosbarth o blant a deirnlaiit chwithtod ar ei hoi. Yr oedd yn gymeriad prydferth, distaw a mwyn, yn berarogl yn ei chylch ac yn esiampl odidog i'wholl gydnabod Aeth y Parch. T. Price Davies i'r angladd i Ryd y main fel cynrychiolydd yr eglwys. Yr oedd yr eglwys wedi pasio penderfyniad o gydyrndeimlad a'i mam weddw a'r brodyr a'r chwiorydd lluosog (yr oedd hi yn un o loo blant). Cymrwyd rhan gan y Parchn. T. P. Davies, Parry (M.C.) a D. M. Harris, Rhyd y main, ac eraill. Daeth llu mawr i'r angladd, yn dystiolaeth uchel i'w chymeriad dilycliwin. Gwasanaethwyd yn yr eglwys gan y Parch. Harris, rheithor Llanfachreth, a bu'n ddigon rhydd i ganiatau i'r Parch. T. P. Davies ddweyd'gair ar lan y bedd, lie y rhoddodd anerchiad teimladwy, oblegid yr oedd Miss Griffiths yn gymeriad y gellid dweyd llawer amdani heb wenhieithio.— E.H.R. I Cymdeithas y Beiblau. I Y Beibl maith, yn ein hiaith ni, Yw'r haul sy'n rhoi'i oleuni." Dyma r wythnos y cy?elir tri chyfarfod blynyddol Cymdeithas y Beiblau ("Bren- I ? hines y Cymdeithasau "chwedl ei charedigion amdani) ar lannau y Mersey. Dyma gryn- hodeb o hanes Cangen Bootle, a gynhaliwyd yng nghapel Stanley Road nos Lun ddiwedd- af j— Llywydd, y Parch* R. W. Jones Mr. Robert Jones yn arwain y canu Miss L. Kyffin Williams wrth yr offeryn. Dechreu- wyd gan M.r J. D. Jones. Darllenodd y trysorydd, Mr. David Jones, adroddiad o r cyfrif ariannol am y flwyddyn ddiweddaf £58 17s. 2d. wedi ei gasglu, llai o 2 /3 na r flwyddyn cynt. Darllenodd y Parch. R. W. Ryberts, B.A.B.D., adroddiad o weithrediad- au'r pwyllgor. Mr. David Jones, Cremlyn, wedi ei ddewis yn drysorydd, a'r Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., yn ysgrifennydd am y flwyddyn nesaf, a nifer o gynrychiolwyr o'r holl eglwysi yn bwyllgor.—Cynhygiodd y Parch. Wm. Henry benderfyniad,-(a) yn diolch i Dduw am ei nodded dros y Gym- deithas, a'r fendith sydd wedi deillio drwy. ddi, yn enwedig gofal y Gymdeithas am y milwyr. Nid oes yr un wlad sydd yn y rhyfel hwn wedi rhwystro gweithrediadau'r Gymdeithas hon mae ei swyddfa yn agored yn Berlin. (b) Ein bod yn ymrwymo fel cynuileidfa aS eglwysi i wneud ein goreu i hyrwyddo'r Gymdeithas hon (c) Ein bod yn cadarnhau dewisiad y swyddogion a enwyd. Cefnogwyd gan Mr. Arthur Venmore, ysgrif- ennydd cyffredinol y Gymdeithas yn Liver. ohol, a'r hwn a lawenhai fod y casgliad yn dal ei dir. i Anerohwyd y eyfarfod gan gynrychiolydd y Pam-Gymdeithas, y Parch. A. Wellesley Jones, B.A.,B.D., ac ebr ef: Llongyfarchaf chwi ar eich ffyddlondeb irGymdeithas, a'ch gofal am y milwyr sydd wedi myned o'ch plith, trwy rannu cynifer o Destamentau iddynt. 112 mlynedd yn ol, mewn adeg debyg i hon, y sylfaenwyd y Gjmideithas ac y mae Cymdeithas y Beiblau yn meddu ar-- fantais i wneud gwaith mewn cyfwng fel hwn. Mae ugain o genhedloedd yn ymladd a'i gilydd, yn siarad 50 o ieithoedd, ac mae i'r Gymdeithas ei chynrychiolwyr yn eu mysg i gyd. Paham y mae'r rhyfel hwn yn bosibl yn yr 20fed ganrif ? Lie mae'r Eglwys wedi bod ? Credaf mai y rheswm yw ein bod wedi cau ein crefydd mewn compartments, ac nid ydym wedi cymhwyso gwirioneddau'r Beibl at fywyd y cenhedloedd yn gyffredinol. Nid oes unman yr awn i droi ato ond Eglwys Dduw. Mae celfyddyd a phob gwyddoniaeth ac addysg ar eu goreu wedi eu troi i gynyrchu offerynau i ddinistrio dynion. Nid oes ond yr Eglwys i droi ati, ac y mae'n rhaid i ni geisio cymhwyso'r gwirionedd. Beth yw'r rheswm fod yr Eglwys mor ddiymadferth ? Daeth gair oddiwrth Feibl-gludydd o China yn dweyd ei fod yn methu gwerthu dim un Beibl. Pan gynhygiai hwy, gofynnai'r Chine- aid iddo "Paham yr ydych yn cynnyg eich llyfri ni i'n dysgu i earu'n gilydd ? Edrych- woh argenhedloedd Cristionogol yn Ewrop, pa fodd y maent hwy yn caru ei gilydd. Paham nad ewch chwi a'ch llyfr adref i ddysgu'r Cristionogion sut i fyw ?" Dywed y Japaniaid na allasent adeiladu ymerodraeth ond ar athrawiaeth lybeibl. Beth ddywedant hedd- yw, wrth edrych amom yn Ewrop ? Beth yw'r rheswm ein bod fel hyn,? Wel, r]; aid i ni addef nad ydym wedi byw Cristionogaeth. Mae rhai yn ei byw mae'n wir, ond ychydig iawn ydynt. Mae deugain miliwn o Grist- ionogion yn y byd, ac nid oes ganddynt ond ugain mil yn ceisio Efengyleiddio wyth can miliwn o baganiaid. Beth pe caem ysbryd Paul ? Ni fuasai dyn ar wyneb y ddaear heb glywed s6n am lesu Grist. Mae gennym drigain mil o'n heirydwyr yn ymladd yn y rhyfel: miloedd wedi eu lladd daw miloedd yn ol yn cynics ao yn anffyddwyr ond daw eraill yn ol wedi eu deffro a'u gwreiddio mewn ffyddtyn Nuw. O'rrhain migredaf y codir dynion i ysgwyd ein gwlad, ac y cawn weled ein heglwysi wedi eu deffro. Mae mwy o weddio heddyw nag erioed. Mae, eglwysi Firainc yn llawn bob dydd o wragedd a phlant yn gwedd- So ar Dduw. Ffrainc ddi-Dduw Ac y maent yn dechreu clywed Duw yn myned heibio. Mae *enedl Rwsia wedi eu huno a'i thoddi i'w gilydd ond beth am Brydain Fawr ? Y Cyfarfod G-weddi wedi ei roddi heibiö mewn llawer eglwys. Awn ymlaen, fel y dywed Admiral Beatty, felarfer, yn ber- ffaith fodlon arnom ein hunain. 'Ond ymae mwy o dadrHen y Gair nag erioed; mae'r bechgyn yn awyddus am Destament i fyned gydahwyi wyiiebu'rperyglon. A^wyddahyn yn dda y cawn ddeffroad Huan. Sylwodd y llywydd ei fod yn ialch o don yr Rllerchiad. Bu mewn cyfacfodydd lie y candemnid pob math o feirniadaeth ar y Beibl. Mae yna ddamau o'r Salman a'r Efengyla* y sallwn gael maeth ac ysbrydoi- iaeth ynddynt heb igyxicirtli dim ond Ysbryd Duw ond mae rhannau eraill y mae yn rhaid i ni wneud ymdrech a llafur a chost i'w deall. Dywedir nad oes gelyn mwy anghymodlawn i feirniadaeth ar y Beibl na'r Caiser. Gwel ddarntiu o'r Hen Destament yn cyineradwyo ei erchyllwaith, ac a yinlaen yn ol ei fympwy ei hun. Diclchwn am feirniadaeth ar y Beibl er mwyn i ni ei ddeall yn ei lawn ystyr. Yr wyf fi yn credu mai camgymeriad mawr fu ynilid y Beibl o'r ysgolion dyddiol. Gwn am ardaloedd yng Nghymni lie y megir y plant yn baganiaid cyn belled ag y mae eu gwybod- aeth o'r Beibl yn mynd. Cynygiodd y Parch. R. W. Roberts fod diolchgarwch gwresccaf y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i gynrychiolydd y Fam Gymdeithas a'r cadeirydd. Cefnogwyd gan Mr. Job Jones Daw hanes y ddau gyfarfod arall yn Edge Lane, Lerpwl, a Birkenhead, yn ein rhifyn nesaf.