Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

0 Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

0 Big y Lleifiad. Hoelen Wyth y Babaeth I Cefais wahoddiad gan y Tad O'Connell, prif offeiriad Eglwys St. Nicholas^—sef prif eglwys Catholigion Lerpwl sydd yn ymyl yr Adelphi Hotel ar Copperas Hill-i ddod i'r oedfa arbennig oedd yno fore dydd Sul diweddaf i wrando apel y Tad Bernard Vaughan, tynfa fawr eu pulpud hwy yn Llundain, ar ran milwyr catrawd yr 8th Irish sy'n clemio mor llwm arnynt yng ngharcharau'r Almaen. GaneifodefynHoelenWythynei ffordd ei hun, ac yn Gymro o waed a hil, fe dderbyniais wahoddiad Father O'Connell, ac a geisiaf ddweyd gair am yr oedfa ;yr wythnos nesaf os ceir hamdden a lie i /'iyfyrdodau cymysg fel a gododd yn fy mron wrth wrando Papistyn mor hyawdl a phendant ei ffordd. Maen Llog Thornton Hough Cafodd Pwyllgor Birkenhead wahoddiad cynnes gan Syr Wm. Lever i weld y maen mawr sydd ganddo ar lawnt ei bias gorwych yn Thornton Hough—-maen a gludwyd yno o Ness, pentref dair neu bedair milltir ymhellach draw na Thornton, i gyfeiriad Neston, ar lan afon Caer, a maen y tybiai Syr William a wnaethai Faen Llog tan gamp i Orsedd Eis- teddfod Genedlaethol 1917,-sef yr wyl y mae ef' yn ben llywydd arni ac wedi ymserchu'n fawr yn ei swydd, goreu hynny. Aeth Mr. P. H. Jones, F.I.C., Mr. Isaac Davies, a minnau yno ddydd Sadwrn diweddaf, ac a'i cawsom yn garreg addas i'r dim, gryn dunnell a hanner o bwysau, ac yn ithfaen galed, ac' felly'ngarreg ddieithr i'r fro, canys y garreg goch feddal-y red sandstone barod i fynd yn siwrwd-sydd drwy'r pen yma i Sir Gaer. Ond nid felly hon a thybia Syr William ei bod yn un o olion Derwyddon Cilgwri'r hen amseroedd. Ceir gweld, canys bydd gwr cyfarwydd fel y Proff. Bosanquet o Brifysgol Lerpwl yn debyg o fedru penderfynu y pwnc hwnnw'n well na neb arall. Neidiodd pob un ohonom i'w phen, gan geisio bod yn dipyn o Ddyfed yr Archdderwydd am drqt i brofi'r garreg. Ac fe ddaliodd yr areithiau, er mor ymfflamychol hwy, heb gracio dim. Mentrais adrodd darn o Glyn Dwr yn annerch eifilwyr oddiar ei chorun, nes oedd yr hwyaid oedd ar lyn Syr William yn clegar eu hencor neu ynteu eu protest, prun ? Ie, yr oedd Mr. Eddie Davies, mab yr ysgrifennydd pybyr, yno, ac fe basiodd ef a ninnau ein tri fod y garreg yn garreg tan gamp, a'n bod yn cymell y Pwyllgor i dderbyn cynnyg caredig Syr William ar bob cyfrif, ac yn diolch iddo am gael ei benthyg, ac am ei chludo ol a blaen i'w lie. Bydd raid cael gris neu ddwy i fynd i'w phen, gan na fedr Pedr Hir, beth bynnag am Dyfed a'rlleill o'i acolytes, ddim rhoi hwb cam a naid i'w phen f el y mae hi. Gwr rhadlon'a hynod o hawdd siarad ag ef yw Yswain yr Hough,ac yn ail i Ddaniel Owen yr Wyddgrug am adrodd stori a'i cholyn yn ei chynffon. French a Ffreinig Y mae'n cymydog Dr. W. A. Lee, Rock Ferry-boneddwr o Sais dwfn iawn ei ddi- ddordeb yn iaith y Cymry a'r holl Geltiaid- yn awyddus i wybod sut y daeth Ffreinig i'w gydio wrth enwau planhigion ac anifeiliaid yn Gymraeg. Dyma rai enghreifftiau a ddyry mewn Ilythyr atom Berw ffreinig-garden cresses cnau ffreinig-walnuts eithin ffreinig- "greater furze jbulwg ffrengig-poppy llwyn cotymog ffrenglg-cottonweed; celyn Ff raine-butcher's broom mwyar ffrengig-buckthorn craf ffrengig- bear's garlic. There are similar usages in other Celtic languages, e.g., Irish Luch fhranncach—a rat (French mouse) cearc fhranncach—a turkey (French hen); cno fhranncach—a walnut ucas fhrann- each-dwarf mallow aiteann franncach 11-co arse furze lus na Frainnce—tansy. Manx—-Cro-rangagh—-a walnut conney frangagh—furze. The significance of Ffrancach in Irish appears to be some- what broader than merely French, and this is shown in an alternative name for furze, which is sometimes called Aiteann Gallda or Foreign furze, and in Ireland the expression Frenchy sometimes means simply Foreign or Continent- al. My Welsh friends cannot find any evidence 'of such a usage in Wales, but my difficulty is For what reason are these species named Ffrengig,' assuming the meaning is French ? The species so named did not in all cases come from France. The English word 'walnut' is derived by some from Walsh Nut- Fo eign Nut." Y mae Mr. J. Glyn Davies, M.A., Prifysgol Lerpwl, yn ychwanegu y rhain at restr Dr. Lee Clwy ffreinig, ffa Ffreinig, llygoden ffreinig. A fydd ein darllenwyr hyddysg cystal a chwblhau y rhestr, drwy anfon eng- hreifftiau eraill o'r enwau ffreinig hyn a ffreinig arall a glywir hyd heddyw ar lafar gwlad ? „ Cyfrolen Palmer Lewis i H t U-oreu cot, cot ilytr dyna gred ein cy- .mydog Mr. G. Palmer Lewis, goruchwyliwr y Banc yn Stanley Road,ac uno aelodau eglwys Bousfield Street (B.), canys y mae wedi cyn- null ei hoff feddyliau o'i hoff awduron yn llyfr (typewritten) dan y teitl Simple Facts for Simple Folks, a rhoddi cwpled hysbys Brown- ing ar yr wynebddaleri God's in His heaven, all's right with the world. God, Thou art love I build my faith on that. A dyma sy'n rhyfedd, Mr. Lewis, fod rhai o'n pobl ni yn ein cartrefi clyd ym Mhrydain yma yn methu'ii lan a chredu'r cwpled wrth ddarllen am y brwydro ond fod y milwyr sydd yn y brwydro, ac yn gweld yr uffern 0' waed a dialedd yn llifo rhwng dwy dorian y Somme, yn ei chvedu'n fwy nag erioed. Y mae yma 61 darllen helaeth ac amrywiol ar eich cyfrol, a hwnnw'n ddarllen trefnus ac 'i bwrpas, yn lle'r desultory reading andwyol hwnnw y byddai Dr. Lewis Edwards y Bala yn rhybuddio'i efrydwyr i beidio ag ym- ollwng iddo. Os yw'r darnau hyn yn fynegiad o'ch daliadau. y mae eich gorwel ddiwilayddol yn Ilyda-n iawu--i Gymro, ond buasai'n haws eu dilyn pe buasech wedi eu hargraffu'n well ac yn fwy ar wahan. Nid oes mo'r lie, onite dyfynasem y las-onnen a geir yma i bawb, mewn byd ac eglwys, a hysiodd Ewrop i ryfel. Tysteb Genedlaethol Pedrog I Lyxartu is-bwyllgor y mudiad hwn yn Boardroom Mri. Elder Dempster & Co., bryn- hawn dydd Gwener diewddaf; Mr. David Jones yn y gadair, a'r rhain yn bresennol y Parchn. D. Powell, D. D. Williams, D. Adams, B.A., O. L. Roberts, Mri. Job Jones, J. Jones (Devonshire Road), R. Vaughan Jones, R. H. Morgan, A. R. Fox, J. H. Fox, J. H. Jones. Hysbyswyd fod tua £ 200 eisoes wedi eu haddo, ac fod llawer mwy yn y golwg. Cy- meradwywyd yr apel oedd i'w chyhoeddi yn y wasg Gymraeg, ac i'w hanfon draw ac yma drwy Gymru a gellir talu'r cyfraniadau'n syth i'r London City & Midland Bank neu ynteu'u hanfon i'r trysoryddion, Mri. R. Roberts, 36 Judges Drive, a Mr. R. H. Morgan Custom House Buildings, Canning Place, Liverpool. Rhoed ar Mr. J. H. Jones i anfon at olygydd Y Drych (America) i erfyn arno ef hyrwyddo'r dysteb ymysg y cannoedd cyfeillion ac edmygwyr sydd i Pedrog drwy'r Taleithiau a Chanada. Cydymdeimlid a'r bardd gan bawb o'r pwyllgor yn y brofedig- aeth o golli ei briod. Daw'r apel a nifer o'r tanysgrifiadau yn ein rhifyn nesaf. Angladd Mrs. J. O. Williams I Y mae'r ddinas a'r wlad yn ddwfn iawn eu cydymdeimlad a'r Parch. J. O. Williams (Pedrog) a'r teulu'r dyddiau hyn, canys yn ychwanegol at ei gystudd ef ei hun, dyma'i annwyl briod yn huno yn yr angau ddydd Iau diweddaf, gwedi saith mlynedd o gystudd parhaus a ddioddefwyd mor siriol ac amyn- eddgar. Cleddid ddydd Llun diweddaf ym mynwent West Derby, lie y llywyddid y gwasanaeth gan y Parch. O. L. Roberts, yr hwn a daliodd wrogaeth i gymeriad a grasusau Mrs. Williams, ac a fynegai deimlad pawb o'r I dyrfa wrth amlygu'u gofid na allai ei h annwyl briodfod yn yr angladd, canys eriddo gael codi am rai dyddiau, bu raid cilio eilwaith i'r gwely, ond tystid ei fod th yn well nag y bu, er dyfned ei loes. Cymrwyd rhan yn y ty gan y Parchn. J. J. Roberts, B.A., Clifton Road, a Phedr Hir yng nghapel y fynwent gan y Parchn. O. L. Roberts, T. Price Davies, a Dr. Owen Evans ac wrth y bedd-y bedd lie y gorwedd eu hannwyl fab ynddo ers rhai blynyddoedd bellach-gan y Parchn. D. Powell a J. Owen (Anfield). Wele rai o fysg y dyrfa oedd o amgylch y bedd y Parchn. Albert Jones, B.A.,B.D., J. Houghton Thomas (Oakvale), J. Roger Jones, B.A., H. R. Roberts, Mri. Adoniah Evans, Rd. Williams, Robert Davies, Evan Evans, Job Jones, J. H. Jones, A. R. Fox, Mrs. O. L. Roberts, etc. Daethai gair oddiwrth y rhain yn gofidio'u bod i ffwrdd ac yn methu a bod yn yr angladd y Parchn. D. Adams, B A J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., a G. J. Will- iams. Y rhain oedd y prif alarwyr:- Mri. Henry a Llewelyn Williams, rneibion: (y ddwy ferch, Misses Williams, gartref gyda'u tad y mab, Private Gwilym Robt. Williams, gyda'r fyddin yn Ffrainc a'r ferch hynaf, Mrs. Holliday, yn Ottawa); Mr. Wm Griffiths, Mrs. Edward Griffiths, Mrs. Rob- erts a Miss J. Jones (Pwllheli). Cludid yr arch a'i gweddillion ar ysgwyddau blaenor- iaid eglwys Kensington Mri. R. L. Roberts, D. R. Jones (Alaw Madog), John Evans, a J. R. Jones a daethai wreaths oddiwrth y rhai a ganlyn :—Ei phriod a'r teulu Mr. Wm. Griffiths a'r teulu Mr. a Mrs. Arthur Griffith; Willie a Nellie," Edge Lane; Mrs. Homewood Elsie a Harold (wyrion) Mr. a Mrs. J. Rhydwen Jones Mr. a Mrs. Kingston Jones Mr. a Mrs. Evans, Empress Road Mr. John Evans a Ted, Esher Road Capt. Davies ac oddiwrth y Cymdeithasau perthynol i eglwys Kensington. Daeth i Pedrog a'r teulu lu mawr, rhy luosog i'w henwi yma, o lythyrau cydymdeimlad oddi- wrth bersonau ac eglwysi pob enwad fel ei gilydd a da gennym dweyd, ei fod yn dal y loes cystal a'r disgwyliad, er yn gorfod cadw i'w wely eto am beth amser. Noson Nantlle. I Y mae degau ar ddegau o drigolion Nantlle a godre Silyn wedi gwladychu am rhyw gy- maint yn Lerpwl a Birkenhead y misoedd hyn, oherwydd y clem am waith yn yr ardal honno ac yn gweled fod y Parch. Morris Williams, Baladeulyn, i bregethu yng nghapel Crosshall Street y Sul diweddaf, cyrchasant yno o'r gwahanol eglwysi, a ri) awr fu'r ysgwyd llaw a'r cydgyfarch ar ddiwedd oedfa'r nos. Yr oedd map y clogwyni ar eu hwynebau, a rhain ant mynydd a llyn yn eu llygaid. GobeithJo na chollant mo hwnnw ar ol dod i'r ddinas yma, y hi a'i mwrllwch. Cafwyd pre- gethau rhagorol, nos o bore, a'r gweinidog yn caelnerth acysbrydiaeth ychwanegol o astud- rwydd a gwrandawiad serchus defaideigorlan sydd ar wasgar hyd nes y terfyno'r Armaged- on. Tlws iawn oedd y tiriondeb a amlygid o 'r ddeutu,a hynny'n brawf mor gymeradwy yw'r naill gan y llall. Soniodd un ohonynt am gael reunion-sef Noson Nantlle arall, ar noson waith, gael i holl frodorion y Cwm cynnes gael cyfle i gwrdd a chyfeillachu am brynhawn tan fondo rhyw gapel neu ysgol yn rhywle. Gwelsom Llew Deulyn yno, sef hen sgrifennwr Ghwarel a Chlogwyn Y BRYTHON am flynyddoedd cyn y rhyfel, bardd a lienor da; ac un o adroddwyr goreu Cymru, Dde a Gogledd, a'i orchwyl ar hyn o bryd yng ngwaith mawr milwrol Shotton, ar lannau Dyfrdwy, He y ca gyfle mynych i gywiro syniad pob rhyw ethnig rhagfarnol yn erbyn y Cymry sy'r fan honno, a'r gwef r "Sydd yn ei ddau lygad yn batrwm o fyw rhagor yr hurt- rwydd cleiog sydd yn llygad lloaidd gwyr y gwastadedd. Tusw Brith. I I Tenorydd a roes fwynhaddigymysg i dyrfa fawr o'r RoyaliWelsh Fusiliers mewn cyngerdd yn Neuadd Y.M.C.A. eu gwersyll yn Bebington y nos o'r blaen oedd Mr. Tom Williams, Colwyn Bay gynt, Birkenhead bellach. Can- odd yn Gymraeg a Saesneg nes oedd y bech- gyn wrth eu bodd, ac yn curo am encor bob tro. A Chymro dyfal tuhwnt am jhela'r doniau goreu yw trefnwr y cyngherddau hyn, sef Mr.- Joseph Jones, 35 Woodchurch Road,—sbardynwr a hwyliwr mor bybyr yn ochr Birkenhead i'r afon ag yw Mr. R. Vaughan Jones yn ochr Lerpwl iddi. Bach a wyddoch nac a feddyliwch faint yw llafur parod a di-dal deufrawd fel y rhain. Gwelais ami i athrylith ar ei sodlau," cyn hyn, a drych o dristweh oedd edrych drosto." Ond y tro cyntaf erioed imi weld D.Litt. yn hel insiwrans oedd ddydd Iau diweddaf, canys gwelwn D. Litt, Insurance Agent ar ddrws siop yn un o heolydd y dre. Y mae un o wasanaethyddion mwyaf hawddgar a phoblogaidd Mri. Allanson, Grange Road, Birkenhead, wedi ei ladd yn y rhyfel, sef y Preifat D. G. Williams (" Mr. Lloyd," fel yr adnabyddid ef yn y siop). Brodor o Drawsfynydd, ac aelod yn eglwys M.C. Parkfield. Llanc siriol a hawddgar dros ben, a ffefryn gan gwsmeriaid a phawb o'i gydnabod. O'r ddau ddwsin neu fwy o fechgyn Allan- son a ymunodd a'r Fyddin, yr oedd tuag ugain yn Gymry, canys llanciau'r Hen Wlad sydd oreu gan y ffirm hon o neb drwy'r deyrnas. Yroedd y Private R.H.Thomas, P.P.C.L.I., Machynlleth—a laddwyd yn y rhyfel yn Ffrainc—yn frawd i'n cymydog Mr. J. Evans- Thomas, y cyfreithiwr; yn dair ar ddeg ar hugain oed ac wedi bod drwy y brwydro caletaf ar hyd y pedwar mis ar ddeg er pan aethai i'r An-nagedon. I Priodid Miss Edna Jones-ail ferch Mr. a Mrs. Robert Jones, Ashlands, Birkenhead, a Mr. Hugh Lloyd Jones, Lerpwl, yng nghapel Annibynnol Seisnig Prenton, ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf a dydd Mercher diweddaf, yng nghapel Woodlands (B.) priodid Miss M. G. Lloyd (Ty'r Capel) a. Mr. J. Pritchard, Thorneycroft Road, Lerpwl Bardd Cadeiriol Eisteddfod Aberystwyth sydd i bregethu fore a hwyr y Sul nesaf ym mhulpud Great Mersey Street- Da gennym glywed fod y Parch. D. Jones, Edge Lane, wedi gwella digon i allu dychwel- yd gartref. Cyrhaeddodd ddydd Sadwrn diweddaf, ac yn bur siriol ei ysbryd er gwaethaf ei lesgedd.

DAU T U'R AFON.