Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Tnt LIVERPOOL t w tJ-j.tø, Mf Mr fW f m M BIBM«V E 01.0 POST 0FFICE PL411 ( ™ ^^j jp^lABGBT mECTlS-IirapScE5 TELEPHONE 3075 ROYAL.
[No title]
YN 'OLWYSWR, BETH BY NNAG AM GRISTION.-Wrtli dclarllen argraffiad olaf y gyfrol felys honno, Dt. Johnson and his Circle, dyma ddod, ar draws y frawddeg a .ganlyn. Whether people discovered that Johnson was a Christian or not, they were quite certain to discover that he was a Church- man." Ac fe ellid dywedyd yr un frawddeg 'yn union am i y Welshman esgobaidd "i sy'n :sgrifennu'n awr ac eilwaith i'r Times a phapur- au melyn eraill y Brifddinas, er mwyn hysio'r rhagfarn ym meddyliau'r Saeson at y Cyirtry ac felly geisio baglu DadgysyUtiad ar ol iddo ,ddechreu cerdded fel Deddf y Wlad. WRTH SBIO DROS Y WELSH- AMER-TOAN.-Melys popeth o bell, oni bo'n newydd drwg adymagopoddwrt-hrliywi-in o'r Welsh American, papur Saesneg Cymry'r Taleithiau. Y peth cyntaf a welaf ynddo ydyw hanes dyweddio—ie, dyweddio, cof- iwch, ac nid priodi-mab i Mrs. Bell, sef chwaer y cliweddar hen gyfaill Gwilym Alltwen, Birkenhead, yr hon a fyddai'n gan- tores gontralto ar y llwyfan genedlaethol cyn ei myned o'r Hen Wlad. Y mae ei mab yntau'n fariton swynol, ac yn amlwg fod y reddf ganu a barddoni am ddal yn y teulu o genhedlaeth i genhedlaeth. Drwg clywed fod Mrs. Alltwen Williams, gweddw'r bardd a mam Madame Gladys Williams, yn dal mor wael. A dyma weld enw Ednyfed Lewis- un o blant Padarn Lewis a fyddai yn Bootle gynt, ond sy'n ganwr cyflogedig yn Eglwys St. lago, Philadelphia bellach, ymysg yrhysbysiadaucerddorol; ondmorchwithig, yn ei ymyl, ydyw gweld rhyw R. Tenorydd Roberts, Baritone. Po bl fedrus odiaeth yw'r Iancwys, yn medra bod yn denorydd efo llais bariton. Ond hwyrach mai cast ry gwalch ydyw i dynnu llygad y darllenwyr at ei adfertisment. PA WB 0'1 GO'Ysgrifennwr clihysbydd anwedd ydyw'r Hen Was, a'i lithoeddio Ir Llofft Stabal yn hafal i ddim a ddaeth o ddwylo Gwilym Hiraethog ym J.vlywyd'yr Hen Deiliwr a Llythyrau'r Hen Ffarmwr. Yn ei bedwaredd lith ar bymbheg, deil yn ddisyfl at yr hyn a honnodd ei gyfaill yn y ddeunaw- fed, sef fod pawb yn ffwl-ar rywbeth neu'i gilydd. Profi'r peth y mae ef yn Llith xix, ac yirdod ag enghreilffciau o fysg y beirdd, lie y dywed beth fel hyn Yn wir, mi glywis i Jac Jos 'yn deud na ¡ fu'r un gwir fardd erioed na fydda fo'n mynd o'i go weithia, a bod y rhai sy'n ceisio bod yn feirdd ac heb fod-yn wallgo bob amser I Wedyn, y mae'n symud i'r capeli a'r eglwysi, ac yn cael fod y bobl a fedr weddfo mor hir ac mor hwyliog, ac yna a fedrant ffraeo a phwdu mewn pwyllgor ar ol codi, wrth drin pwnc yr arian neu'r gosod seti, a rhyw betheu- ach eraill,—ie, fod y rheini ymhell o'u couau. Yr unig eithriad, ac heb fod yn wallgof, ydyw Mari'r forwyn, gallem feddwl arno. Sut bynnag, barned pawb ei ddamcaniaeth ysmala bore dydd lau nesaf. DOWOH, ATEBWCH !Gwir mai givedd ydyw team o geffylau yn Gymraeg ond pa beth a ddywedech am football team, ? Pam yr ydych mor hir yn ateb ? MYND A'I GYMRAEG GYDAG 0.— Y mae yn y Drych (Utica) golofn o hanes gyrf a Iwyddiannus y Cymro ieuanc, Griffith R. ¡ Williams, brodoro Dal y sarn, Sir Gaernarfon, a ymfudodd i'r Taleithiau yn 1915, ac sydd I wedi dringo'n gyflym yng nghylchoedd y I gyfraith tua San Francisco, ac yn mynd ag iaith ei fam i fyny bob cam gydag ef. A DYMA LWCH GORONWY I-Peth arall sydd yn Y Drych ydyw Mr. David Lloyd, Maine, yn dweyd sut y cafodd hyd i fedd Goronwy Owen yn y Reedy Creek. Ebr ef, wrth ddibennu ei lith Daeth y dyn du gyda mi at y bedd ar gefn ei geffyl. Pan gyraeddasom yno, a gweled y fan lie y gorweddai y bardd, "daeth rhyw deimladau rhyfedd drosof <4\wedi ei gladdu mewn lie mor estronol, ac yntau yn canu bob amser am ardd wen i orwedd ynddi.' PERERINDOD SHANKLAND.—Ai gwir y si fod ym mryd y Parch. T. Shankland, Bangor, fynd dros y Werydd i chwilio olion Goronwy dfcosto'i hun, er mwyn cael ei holl helynt yn gywir i'w gofiant newydd o'r Bardd Du ? Byddai'nhaws gan ddyn gredu i sicrwydd mai llwch Goronwy sydd mewn gwirionedd dan y dorian pe'r elai'r arch- ieirniad Goronwyaidd yno i'w edrych, rhag mai wylo y buwyd uwchben llwch rhyw Negro diawen. Y mae'r llyfrgellydd o Fangor yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y ddau lwch. HWY A'U HARAETH FFIAIDD.- Rhaid i lane o Gymro crefyddol ddioddef llawer o bethau yn y Fyddin heddyw ond nid oes dim caletach ganddo'i ddioddef na gorlod gwrando'r iaitl-i hyll, aflednais, a ddaw beunydd a byth dros ddeufin rheglyd y swydd- ogion sy'n stiwardio mor bensych ar eneidiau canwaith coethach na hwy'u hunain. Ac nid y rheg, er mor gras, sy'n blino'n bechgyn f wyaf, eithr y llyfon fflaidd ac anniwair sy'n ddeifiol i bob lledneisrwydd. Dywedir fod Llywodraeth yr Eidal, clod iddynt, yn gwahardd pob llw a rheg yn eu byddin [hwy, CYSTUDD RHYS HUWS.—G resyn clywed mai dal yn wael ei iechyd y mae'r Parch. Rhys J. Huws, G]airman,—gwr a wnaeth gymaint dros y Gymraeg yn y De a'r Gogledd, ac Sy'n fardd a Ilenorrricr swynol a choeth ac yn bregethwr mor afaelgar. Efe oedd Apolos a phlannwr Eisteddfod y Plant lie bynnag y gwladychai, a rhaglen honno ym Methesda a Glanaman oedd yr oreu o beth felly a gyhoeddwyd erioed. Caffed adferiad buan a digon o hoen i ail ddringo'r pulpud sy mor hoff ganddo. Hyn a wn pe pre- ,yn a -n: pe pre. gethai pawb mor hudol ei Gymraeg, y codai ami i orweddwr swrth o'i wely, er mwyn y bregeth a'r darllen ar y bennod o'i blaen. Darllen iawn yw'r peth cryfaf o ddim am gael ymdreiglwr diog o'i wal fore dydd Sul. TALDIR AR DIR Y BYW.Daeth yma air ddydd Mercher diweddaf oddiwrth M. Jaffreimou (Taldir), sef y Llydawr llengar, a olygai Ar Bohl (papur Llydewig) cyn y rhyfel, ond sydd bellach yn yr jTnladd ers dwy flynedd, ond yn fyw a dianaf o drugaredd. Os bo'r Armagedon ar ben, diau y gwelir Taldir-" 0. M. Edwards Llydaw" fel y galwyd ef-yn Eisteddfod Birkenhead fis Medi nesaf; a dyna anerchiad gwerth ei wrando fydd ganddo oddiar y Maen Llog wrth draethu hanes Verdun a'r modd y torrwyd crib y Caiser wrth i ddewrderem cefndryd-y catrodau Llydewig—guro'r Prussian Guards draw. YlHELL Y BO'R LL I-Ai gwir fod rhai o ddandlaidd ddyfodiaid Pwllheli yn dechreu gweiddi am gael ei alw'n Brinepool, er mwyn cael gwared a'r 11 sydd yn y Pwll ac fod rhai o blant sychfonheddig a phen- chwiban y Bala yn dywedyd Let's go for a walk to the Mere yn lie Dowch am dro i'r Llyn ? 0 LANGOLLEN.-Dyma raglen Cym- deithas Lenyddol Llangollen, a ddeil mor llewyrchus bob gaeaf i gadw drysau'r sluice Saesneg rhag lleibio a gorlifo'r dref Hyd. 13-Trwy Ddrych Atgof, Pedrog; 20~Natur ym marddoniaeih Cymru (par- had), Mr. E. Abram Jones; 27-Nofelwyr Cymru, Mr. Ifor Evans. Tach. 3-Rhagor- iaethau a gwendidau y Celt, Mr. William Owen I 0--Bun-dd y Penodiadau a'i Waith, Mr. Silyn Roberts, M.A. 17-Ben Bowen, Dyfnwal; 24-Eglwysi Cadeiriol Cymru, y Parch. D. T. James, M.A.. Rhag. 1— Geiriau anghynefin y Beibl, y Parch. Rhys Jones; 8-- Dewi W yn o Eifion, Mr. A. Parry Morgan, A.C.P. 15—Cymru a'r Yswisdir, Mr. R. O. Davies. 1917—Ion. 19 Thomas Charles y Bala, y Parch. T. Shank- land 26-T. E. Browne, Mr. R. E. Rob- erts. Chwef. 2—Lie y ferch ym mywyd cyhoeddus yr XXfed ganrif, Mrs. R. Llewel- yn Hughes; 9~Arluniaeth, Mr. Allen Lettsome 16-Emynyddiaeth Cymru, Mr. W. P. Williams, G. & L. ;t23--Amaethydd- iaeth, Mr. T. J. Edwards. Byddai'n dda gennym gael vhaglenni'r Cymrodoroin, o Dde a Gogledd. LLENOR LLANDEBIE.-Gofidus iawn ydoedd clywed farw Mr. T. W. Mathews, M.A., Llandebie,—gwr a garai Gymru'n angerddol, ac agyfrannodcllaweri'wphapurau a'i chylch- gronau-Cymru'n enwedig-ar y celfau cain ac ar arlunwyr Cymreig. Teithiodd lawer yn Ffrainc a'r Cyfandir, a ffrwylh yr ymchwil hwnnw ydoedd ei gyfrol Welsh Records in Paris, sef cyfrol ar Owain Glyn Dwr yn ben- naf. Cyhoeddodd Gofiant Saesneg i John Gibson y cerRunydd, a chanddo ddeunydd cofiant wedi ei gasglu i'r arlunydd Penry Williams hefyd. Yn Dail y Gwanwyn-cyfrol o len gwerin a gasglwyd, dan ei gyfarwyddyd ef, gan blant ysgol Pengam, ceir stori hert Tedi Ber. o waith Mr. Mathews ei hun. Yr oedd yn wr cain ei lygad ao os Ilun, mewn llyfr ac arall, mynnai un da a chelfydd, ac nid dim o'ch drychiolaeth dychryn plant i'w gwelyau fel a geid yn y papurau a'r cylch- gronau Cymreig mor fynych cyn ei amser ef a Syr O. M. Edwards. Yr unig nam ar ei waith oedd ei Gymraeg-nid oedd ei fagwraeth wedi bod yn gyfle na mantais iddo ei hysgrifennu nes codi blys i fynd ar ei ol pie bynnag yr elai. Y mae gan y Gymraeg hudlath, ond cael gafael arni, y gellwch reibio a syfrdanu'r mwyaf pendew o'ch darllenwyr i ddechreu cosi ei ben a gofyn, Besyginhwn, deudwch ?" YR IDDEW BARUS I AM I BUNT.- Gwelsom hanes Iddew bach yn cael ei holi yn Llys y Methdal yr wythnos ddi- weddaf ac a deimlem unwaith eto hil mor ystwyth eu gair a barus am bunt yw'r hil Hebreig. Natur brolio a balchio yn ei gastiau oedd yn hwn, yn hyfcrach na chywilyddio o'u plegid. Y mae ocraeth ac usuriaeth yng ngwaed yr hen genedl er yn fore, canys clywch.beth ,a ddywed Deut. xxiii, 19, 29 :— Na chymer ocraeth ,gan dy frawd,- ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano. Gan estron y cymeri ocraeth, ond na chymer ocraeth gan dy frawd." Y mae yna dipyn o naid o sgrifennwr y Deu- teronomium i'r Bregeth ar y Mynydd, canys "gan estron y cymeri ocraeth," ebe'r D gan gystal ag awgrymu i'r Iddew hwn ac eraill y caent bluo'r hen Gymry gwirion faint a fynnent heb bechu dim yn erbyn ei Feibl a'i Ddeuteronomium. Ac mi adwaenem Iddew duwiolfryd yn Lerpwl yma ddyddiau iu a froliai mai hyn oedd ei gred bob bore wrth agor ei siop fenthyg arian :— I believe there's a fool born every day and that it is my duty to jfind him and fool "him. tar-is# Hi A phiwy a ,fedrai dynnu llun y traetnawd o fwynhad oedd yn llygad yrlddew hwnnwwrth rawioi'i sofrins melyn, ffrwyth ei ocraeth a'i grocbris—i'w ddror gyda'r nos ? Ac y mae'n cydwladwr, y Proff. Sayce (yr Assyriologist bydenwog) yn profi yn un o'i lyfrau dyfnddysg ar yr hyn a ddaeth i'r goleu wrth durio ad- feilion Babilon/mai camsyniad oedd meddwl fod yr hollflddewon wedi ■ dychwelyd o'r gaethglud i'w cartrefi ym Mhalestina. lNa! ddo, ebe Sayce, canys gwelsom oddiwrth yr enwau oedd y siopau a'r adeiladau oedd. ar eu traed dan y ddaear mai Iddewon oedd yn cadw'r banciau ac yn moneylenders yno ymhen Uai na chan mlynedd wedi'r Gaethglud. Dyna hwy i 'r dim Ac os mynnech weld mor ddwfn y mae'r anian hon yn eu gwaed, hel- iwch hynny o adnodau condemniol ar ocraeth ac usuriaeth sydd draw ac yma drwy'r Hen Destament. Hyn oil yn neidio i gof dyn wrth ddarllen hanes yr Hebrewr ocrol ac usuriol oedd o flaen Llys y Methdal yr wythnos ddiweddaf, ac a edrychai gymaint dan ei guwch ac a atebai ei gwestiynnwr mor yslywenaidd ac anodd ei ddal. -0
Am Gampy Genethod, sef Athrowesou'r…
Am Gampy Genethod, sef Athrowesou'r Ys- gol Sir. I Dod at ei gilydd-ac at Dduw —yn Nhowyn Meirlooydd Unwaith, dwywaith yn y dydd Tyr ei galon ar y moi-fin;, Oni wyr y gwymon crin ?4 Oni wyv y gro a'r cregin ? SWYN y mor a ddenodd enethod yr Ysgolion Sir i Do wyn eleni. Yr oedd Camp arall yn Llanidloes ac un arall ym Mhen y clawdd yn y De ar yr un dyddiau—sef yr wythnos gyntaf yn Awst-ond nid oedd dim mor yn y naill na'r llall o'r lleoedd hynny. Y mae'r Welsh County Schoolgirls', Camp Movement yn dod yn fwy adnabyddus yn yrYsgolion Sir o flwyddyn i flwyddyn, a degau o enethod ac athrawesau a'u tystiolaeth yn unfryd unfarn fod wythnos o'r Camp yn gweddnewid blwyddyn gyfan. Oni ddaw yn union wedi helbul a mirir chwilio pen a chwalu piniwn arholiadau" Central Welsh Board ? Yma'r anedlir yn rhwydd ac y teimlir eu hunllef wedi ymado. Y mae ysbryd chwilotgar y Latin Prose a byganod eiddigus y French Irregular Verbs a'u coesau ceimion yn cael mud-ddawnsio faint fyw fyd fyn eu calon yn limbo y pethau a fu. Y mae gan Camp ryw hudlath sy'n swyno y da a'r melys a'r bywiol tuag ato ond a. geidw draw bob elfen a gais aflonyddu ar feddwl iach mewn corff iach. Y mae'r mudiad yn chwech oed eleni. Am y blyn- yddoedd cyntaf yn ei hanes arbrawf oedd pob Camp a gyfarfu ond bellach y mae a'i draed yn ddiogel dano a'i le yn dyn yn serch genethod yr Ysgolion Canol a'i ddylanwad yn drwm ar eu bywyd. Ac y mae'r athrawesau a'r efrydwyr a ddaw'n swyddogion mor danbaid a'r genethod o blaid Camp ac nid rhyfedd hynny, oblegid gwyddant fod byw fel hyn hefo'r genethod am wythnos yn dod a hwy yn nes at ei gilydd, yn dangc.s agweddau yn eu personoliaeth na freuddwydiodd y naill na'r llall ddim amdanynt y tu fewn i furiau ystafell y dosbarth, nac hyd yn oed allan ar gae y chwarae. Y mae pob rhagfur i lawr yma, ac athrawesau a genethod yn dod i wybod am agosaeh ac uwch cymdeithas a'i gilydd nag erioed o'r blaen. Byth na ddarffo einioes y Camp oni ddelo angylion, Iwysion lu Llym naws a Human lesu Dyma'r rhai a ofalai am y genethod: Miss Wilson, M.A., Ysgol yr Wyddgrug, oedd y Caplan a Miss Gwen Davies, M.A. (merch llywydd y Gymanfa Gyffredinol) yn Adjutant; ac yn eu cynorthwyo yng ngwahanol adran- nau y gwaith yr oedd y Misses Carrie Lewis a Lucy Lewis (Hawarden), Miss Lockwood, M.A., o Ysgol yr Wyddgrug Miss Myfanwy Morris, L.R.A.M., gynt o Ysgol y Bala Miss Nest Jones, B.A., o Goleg Bangor; Miss Elined Prys, B.A. (merch y Prifathro Prys) o Goleg Aberystwyth, a minnau'n dipyn cen- hades. Trwy garedigrwydd y llywodraethwyr a'r boneddwr Thomas Jones, Ysw., B.Sc., y prifathro, rhoddwyd yr Ysgol Sir at ein gwas- anaeth a chawsom bopeth wrth ein bodd. Teimlem yn berffaith gartrefol o dan arolyg- iaeth tadol Mr. Jones a gwen foddhaus John Williams, ceidwad yr ysgol, wrth fwynhau ein hafiaeth. Yr oedd tair a deugain bhonom yno yn fawr a man aphob bore, ymdrochioeddypennaf peth ar raglen pawb bron. Cafwyd tywydd perffaith, gwres mawr a dim glaw-dim diferyn—a'r dwr yn gynnes ac yn hudol. Gwaith ychydig funudau oedd cydrhwng yr Ysgol a bod ynghanol y m6r. Dysgodd amryw nofio'n bur dda, trwy ddygnu ati bob dydd. Gwlad hyfryd sydd o amgylch Towyn. Ceir gweld Bau Aberteifi a'i arddunedd o bob man bron. Dacw Enlli, draw acw, welwch chwi a rhywle ffordd yna hefyd y mae Sam Badrig, a chwynfan y tonnau dros ei chreigiau twyllodrus wedi llithio llawer Hong i'w dinistr, fel y clywais fy nhad yn adrodd droeon Glywch chwi glychau Cantre'r Gwaelod ? j Clychau siniarus Na chlybu dyn Eu mwynach erioed Mewn llesmair na hfln. Pwy fedr ein tywys i ogof Owen Glyn Dwr ? Mor glir ydyw Aberystwyth heddyw Dyna'r Coleg onitê? Llygad cyfarwydd sydd wedi gweld gellwch bendenynu. Dilynir sweep y Bau i'r fan yr ymayll yn y tarth caredig. Y fath dlysni sydd wedi ei afradloni yma. Am Feirdd y M or, newydd a hen, y difyr-chwilia'r galon a dyma Sasiwn -Sasiwn y Môr! Sasiwn felys a Sasiwn ofn- adwy! a rhasfcr y pregethwyr yn faith, o feirdd y cynfydhyd yn Eifion Wyn. A dyma genadwri'r pregethwr olaf :— Mae y Cread yn ymestyn At berffeithrwydd, at y Wawr; Ac yn nhrai a llanw'r oesau Cwblheir Un Amcan mawr. Edrychai pen uchaf yr Assembly Hall yn gysurus iawn pan dyrrem beunydd ar ol te gyda'n gilydd i ganu a chlywed canu a chy- meradwyo canu. Y mae doniau adrodd ac actio faint fynnir yma, a phrydyddion ddigon wrth eu gorchwyl ddydd a nos yn anfarwoli'r Camp—ei breswylwyr, ei ddi- gwyddiadau a'i ddywediadau. Heno cyfan- soddir can yfory dacw bawb o'r Camp wyr yn ei llafar-ganu. Nid oes yr un wyneb nad oes wen arno, yr un llygad nad oes chwarae a direidi ei lond, a nwyf a melyster ieuenctid yn y cyfan. Da i'r genethod ydyw dod at ei gilydd fel hyn, oherwydd cofier fod yma gyn- rychiolaeth o un ar ddeg o'n Hysgofion Sir sef y Bala a'r Wyddgrug a Phorthmadcg, Hawarden a Wrecsam, y Drenewydd a Llan- idloes, Presteign a Builth, Gowerton ac Aber- gafenni a dyna Dde a Gogledd a Pherfedd- wlad, onite ? Ac yn yr un fan yn union lie y buom ych- ydig o oriau'n 01 yn perfformio mor hwyliog ac yn chwerthinmor galonnog, cyfarfyddwn bob nos i son wrth y genethod am y Peth Hwnnw sy'n ffynnon llawenydd. Clindarddaeli drain a fai'n chwerthin a'n hafiaeth onibai am y peth hwn sydd yn eisancteiddio yn ei darddle. Gwna bob un o'r swyddogion ei rhan a'i holl galon ar yr ochr ddyfnaf hon i'r Camp, megis y gwna ar yr ochr chwareus. Fe genir emyn- au godidog yr annwyl St. Patrick a St. Francis o Assisi, ac yng nghwmni eu hysbryd fe ddileir y cannoedd blynyddoedd a ymestyn rhyngom ni a hwy. Miss Wilson, y Caplan, sydd yn y gadair, a sieryd un o'r swyddogion yn syml ond o ddifrif am yr hyn sydd yn gwneud bywyd pob dyn, a bywyd cymdeithas, a bywyd teyrnas, yn werth ei fyw. Oher- wydd y mater am yr wythnos ydyw Cym- deithas (Fellowship). Y noson gyntaf am gymdeithas yn y Camp hefo'n gilydd ac am ein cyfeillgarwch rhyfedd y soimir. Yr ail noson fe eir ymlaen i ddangos sail y gym- deithas honno, sef Cymdeithas a Duw. Ac felly o noson i noson, fe ddangosir y pethau yn ein gwlad ein hunain sydd yn rhwystr yn ffordd gwir gymdeithas rliwng dynion a'i ll,-a,s r l iwn g dyii i on d'i gilydd. Fe osodir problemau'r slum ger ein bron, a'n dyled i bawb na chafodd ein breint- iau. Sonnir am ddwyn ysbryd y Gymdeithas Fawr i'r Ysgol, i'r Cartref ac i'r Eglwys. Ar noson goffa cyhoeddi'r Rhyfel, datguddiwyd i'r genethod y rhwystrau sydd ar ffordd cym- deithas rhwng gwledydd Ewrop a'i gilydd, a'r ffordd y symudir y rhwystrau hynny. Arwain hyn ni erbyn nos Sul at £ World-Wide Fellowship," a dangosir angen y gwledydd paganaidd, India a China, Japan ac Affrica, am y gymdeithas hon,, a'n cyfrifoldeb ninnau ltuag at y gwledydd hyn. Araith gloi gan y Caplan geir y noson olaf, yn annog ufudd-dod i bob gweledigaeth a gawsom yn y Camp, megis yr ufuddhaodd y Cenhadwr Mawr o Darsus. Am ba achos, o Frenin Agrippa, ni bum anufudd i'r weledigaeth nefol." Pwy na wel yn y Camp un o foddion y Gwar- edwr Mawr i ennill genethod yr Ysgolion i feddwl ei feddyliau Ef ac i wneud a allont gyda brwdfrydedd a grym ieuenctid i wirio'r Ddau Ddyhead. Deled Dy Deymas, Gwneler Dy Ewyllys." Fe ddaw cenadesau'r dyfodol allan o'r Mudiad hwn, gewch chwi weld. Ond pa un bynnag ai gartref ai oddicartref y mae gwaith y genethod i fod, eu hennill i arwriaeth Teyrnas yr Arglwydd Iesu ydyw'r prif amcan. Dyma fo megis y'i ceir ar y rhaglen "ObJect of Camp To bring school- girls together for a happy, healthy week's holiday, and to present before them the high- est ideals of Christian life and service." Mi gwelaf nhw'r funud yma fel yr oeddynt o fy mlaen pan yn ceisio dweyd gair wrthynt-y mwyafrif yn eistedd ar lawr ac yn pwyso'n ol yn gyffyrddus ar y rhai oedd yn y rhes cadeiriau'n hanner cylch. Lie caech wran- dawiad mwy astud ? Y mae-nt yn ymawyddu i wrando ac i ddeall, ac y mae' -eyfle yn rhy werthfawr i golli dim amser ond mynd yn syth at y pwnc. Pwy fedr fesur effaith y Camp ? Y mae pob llinyn mesur yn rhy fyr, a diolch am hynny. Yr oedd wyth yn Nhowyn wedi bod yn rhyw gamp neu'i gilydd droeon o'r blaen ac yn deall ei ystyr i raddau helaeth bellach, a'n hymlyniad wrtho yn cryfhau bob tro. Rhai fel hyn oedd y chwe Junior Officer. Rhoisant eu goreu i wneud y Camp yn llwyddiant ar y ddwy ochr. Gwir oedd yr ymadrodd a rodd- wyd mewn can gan un o'r prydyddion:- We run the Camp," said the six J.O.'s. Hwy oedd ei enaid i raddau helaeth iawn. Un diwrnod ceir ni yn y tren bach a ddring yn ara' deg i fyny i Abergynolwyn. Yno disgynnwn a cherddwn ar hyd y ffordd yr elych i Dal y Llyn. O'n deutu cwyd y bryn- iau heirdd wedi ymwregysu a hyfrydwch. Y dolydd a wisgir a defaid a'r bryniau a orchuddir ag yd. Am hynny y bloeddiant ac y canant," Ac am hynny y bloeddiwn ac y canwn ninnau,oherwydd ceir atsain i'w mawl- gan hwy yng ngharreg ateb calon pob un ohonom wrth droedio yn ddi-frys rhwng gwrychoedd tlysion Meirion. Aroglwn ber- sawr y gwair a ddaw'r awel fwyn inni yn llond ei dwylo. Swn y peiriant yn lladd y gwair ddaw o bobman na nemor bellach o weld y Pladurwyr gwyr miniog wedd Gwyr y maes a'r grymusedd. Egyr wanaf gywreiniol, Rhed ei ddur ar hyd y ddol, A'i bladur gaboledig Glaer wawr yn goleuo'r wig. Pan yn eistedd wrth y llyn ger ty ffarm tlws yn ei unigrwydd, a chymryd ein lluniaeth, gwelem wraig y ffarm yn paratoi i ymuno a dyn oedd eisys yn gweithio yn ei chae gwair. "Dyma ni griw ohonom wedi dod yma am fwynhad. a dyna'r rheina yn f yr o ddyn- ion." Ufuddheais i symbyliad y foment a lawr a fi atynt. Wedi ei chyfarch, cynhygiais wasanaeth rhai ohonom i'r wraig. Derbyn, iodd ef yn groesawus, a dyma redeg i fyny at y lleill i alw am volunteers i'r gwair Cododd pymtheg. Yr oedd y wraig a'i mab wrth eu bodd. Eisteddai ef ar ben y gribin fawr, a thywysai un o'n genethod ni ben y ceffyl iddo, a chan nad oedd gribin fachi bawb, heliasom y gwair a'n dwylo. Mor hapus oeddym wrth weld y gwair yn cael ei bentyrru mor fuan. Daw'r drol i'w gario yn y man. Ca pedair ohonom y fraint o fynd i ysgawnu yn y. cowlas (newydd i ni oedd y gorchwyl a'l enw). Safwn yn y ty gwair a derbyniwn y gwair drwy'r ffenestr, ac yna ei luchio ar hyd lawr a'i fathru. Beth pe n gwelid ni, tua diwedd y prynhawn, wedi i'r gwair i gyd gael ei fforchi i mewn, yn cydio yn nwylo ein gilydd, ftc er mwyn ysgawnu 'r gwair yn ber „ ffeithiach, yn gwneud y goose-step ol a blaen air hyd y llofft. Dyna hwyl! Ond bellach dyma hi'n bedwar ar y gloch, ac wedi gweithio ers un. Y mae gennym oed a'r lleill o'r fintai a gerddodd o amgylch y llyn, i'w cyfarfod am de yn y pen uchaf iddo. Pnawn da, Mrs. Jones. Diolch i chi am adael inni helpu yn y gwair." Pnawn da i gyd, a diolch yn fawr. Mae'n siwr gen i mai'r Brenin Mawr ddaru'ch anfon chi yma hedd. yw Mae'n reit siwr i chi, Mrs. Jones Pnawn da." Pnawn da, a brysiwch yma eto." Ddydd arall ceir ni ymysg yr ami ogof a rhaeadr sydd tua Dolgoch, a thro arall yn darganfod prydferthion Aberdyfi. A dydd arall cawsom groesawu rhai.o gyfeillion twym galon Towyn. ac wedi cypaned o de ar y lawnt,buwyd yn ceisio egluro amcan deublyg y Camp, a diolch yn bersonol i'n gwahodd- edigion am y croeso cynnes a roisant inni. Ond yr oedd yn amlwg fod gweld y genethod yn ddigon o eglurhad ar y Camp ganddynt hwy. Diddorwyd hwy yn hawdd a phwt o gan a rhyw dipyn o berfformiad. Ymhlith y rhai oedd yno yr oedd Mrs. R. H. Morgan a Mrs. Bynner (sef mam Haydn Jones, Ysw., A.S.). Dywedwyd gair byr o longyfarch a chalonogi gan y Parchn. W. Bynner a Robert Davies. Y mae atgofion am Camp o flwyddyn i flwyddyn ymhlith. ytrysorau anwylaf, aphwy a wyr na cheir Girls' Camp yn India cyn bo hir iawn. Fe gofir yn hir am y canu a'r chwerth- in, y tennis a'r ymdrochi, y gwrando dwys, y gymdeithas wirioneddol a gafwyd gyda'n gilydd a chyda'r Gwr oedd yn y canol. Ac yn y gymdeithas hon y cawsom y weledigaeth yn nydd Gofwy ein Gwlad. Fe fydd gan y genethod hyn eu rhan i helpu cyfieithu'r weledigaeth honno i fywyd a phroflad y dyddiau anodd a ddaw arnom Drqnnoeth y Güfwy. Follow the Christ, the King. Live pure, speak true, follow the King, Else wherefore born ? J. HELEN ROWLANDS
Advertising
Or EVERY WOMAN Should send a stamps for oar 3 a page Illustrated Book w comt&inicg valuable information how ail h?sulsTttiM and Suppresemae may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent PhyaictM, at the only Safe, Sure and Senume Remedy. Never iail Thousands of Testimonials. Established 1868. Mr. PAUL BLANCHARD3 set montilfievu.tdalaten Liar, LONDON Madame Annie Leigh receives Pupils Voice Production, Singing, Pianoforte, 123 BELMONT ROAD and CITY STUDIO. Madame Annie Leigh's Ladies'Choir. Good voices wanted. Rehearsals Crane's, Han- over Street. Full particulars, 123 Belmont Rd., Liverpool. LADIES BLANCHARD PILLS Iti ucrivalied got all Irrcgatarltiea, &a., tbey ipniitj afford follef and pavor tali to aUsvlate all Bcflnifnp. Sfeey #»par«ed« Pf1 Ooefeia, Bltt..r Appk, 40 BLAMCHARffS art the best of all Pill for Women," aold ib box", 1 fll by BcOU" firantbaa, nmt'C Branthu, and all Ohemisk, or pmi trft, soms price, fets Lit. Chemiat..34 Divatcc Lane. Leedom Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Sale. by auction on owners' premises. t GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, 27 Newington, Liverpool; 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road. Liscard Tel. 646 Royal. Coupon Rhad-Yswiriaeth (Feidier a'i hollti'n rhydd), [BYDD fti GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House, Poultry LONDON* B.C. dalu £ 100 (can pant) i a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, 08 y bo iddo fo neu bi gael eu, lladd yn liollol ac yn uniongyrohol drwy ddamwain 0 fewn y Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwmni Reilflorda, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedig a LlOg yi yr hwny bo'r daliwr yn cael ei gludo fel teithiwr- tocyn a ohlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd i'w ystyried fel rhaia a ohyfran o'r cytundeb— (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deag niwrnod ar bugain wedfr ddamwain (b) fod rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas o fewn saith niwmod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain; (c) fod y c ryw* dystiolaeth rea- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyfiwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn; (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, oyn i'r ddamwain ddigwydd, ino yn y lie darparedig gogyfer a hynny («) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag an person parth mwy nag un coupon yn y papur hwn na r un oyhoeddiad arall; (/) na bo'r ys., wiriaeth hwn ddim yn gaftaeladwy i bersonaa tan ddeuddeg na thros-ddeg athrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 or gloch y dydd y'i codir. Arwyddnod y Dali" f,rigfed I Danyagrifwyr, Raid I dderbynwyr oyson y papur hwn ddim arwyddo'r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf el fod yn cael eu anfon iddynt yn ddifwlch. FRD Radiators, new pattern, oils and greases tubes and tyres.—Wholesale Factors, JAIl" Cuzw and Co., 58 Paradise St., Liverpool.