Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Clep y Clawdd

I Gorea CymFO, yr un Oddieartre

Advertising

Ffetan y Gol.

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Ciftd fciib fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- Nithio'r GAU A NYTHU'R GWIR. Yr Ymchwil i'ddirgelwch Cinmel. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Beth amser yn ol,rbu Cymru'n pro testio yn erbyn symud y] Cadfridog Owen Thomas o Kinmel, ac ynhawlio ymchwiliadi'r pa fodd y dygwyd hynny oddiamgylch. Er yr adeg honno nid oes dim cyhoeddusrwydd bron wedi ei roddi i'r achos yn ein newydd- iaduron, ac ofnodd rhai fod yr achos wedi ei fwrw o'r neilltu dros byth. Ond nid felly y mae. Hysbys ddarfod i Mr. Lloyd George, ar ol derbyn swydd Ysgrifennydd Rhyfel, ddod a Mesur gerbron y Ty (a llwyddo i'w baiso) i'w alluogi i wneud ymchwiliad neilltuol i achosion ynglyn a'r Fyddin ac o'r pryd hwnnw hyd yma bodlonodd Cymru i gredu y dygid achos y Cadfridog Thomas o dan ym- chwiliad yn ol darpariadau'r Mesur. Bydd yn dda gan y cyhoedd ddeall fod hynny ar fin digwydel ac er na ddisgwyliwn y caiff y Cad- fridog ddychwelyd i Kinmel, hyderwn y bydd yr ymchwiliad yn f:>ddion i egluro'r hyn a fu mor anesboniadwy. Dymunem apelio'n daer at yr Aelodau Cymreig i geisio caelhawli rhyw nifer ohonynt fod yn bresennol pan ddygir yr achos gerbron. Nid achos y Cadfridog Owen Thomas ydyw bellach, ond achos Byddin Cymru. Pan ddaeth yr achos gyntaf o flaen y cyhoedd, cwynai rhai o'r aelodau Cymreig nad oedd y manylion wedi eu hanfon iddynt, ac mai dyna pahaiii. na ddygasant yr achos i sylw'r Ty. Yn awr, dyma gyfle ardderchog iddynt ddod i wybodaeth o'r holl fanylion, a disgwyliwn yn hyderus yr achubant y cyfle fel ag i w galluog11 ddadleu hawliau swyddogion a Byddin Cymru. Beth am yr addewidion teg a roddwyd i Gymru pan apeliwyd ati am ddynion ? Onid y ffaith yw fod y cwbl wedi eu torri, a bod Byddin Cymru a'i swyddogion yn parhau i gael eu hamarchu yng ngwydd yr holl wlad ? Nis gallant hwy sydd yn y Fyddin godi eu lief o gwbl yn erbyn yr anfri a'r cam a wneir a hwy,ac felly y mae rhwym- edigaeth ein Haelodau Cymreig yn fawr,oher- wydd trwyddynt hwy yn unig y gellir gobeithio am feddyginiaeth. Pan wnaed Mr. Lloyd George yn Ysgrifennydd Rhyfel, disgwyliasom na fuasai neb o hynny allan yn meiddio amharchu Byddin Cymru; ond, ysywaeth, fel arall y mae pethau. Clywais am flaenor yn un o ardaloedd y chwareli oedd hefyd yn swyddog yn y chwarel lie y gweithiai rhai o'i gyd-flaenoriaid, ac yr oedd mor ofalus yn ei holl ymwneud a hwy yn y gwaith rhag ofn i neb ddwyn cwyn yn ei erbyn ei fod yn rhoddi ffafrau iddynt fel ytrddd y gofal hwn- nw yn gamac yn anghyfiawnder i'w gyd- flaetioriaid druain. Tybed fod Mr. Lloyd George yn fwy o swyddog nag o Gymro, ac fod arno ofn estyn cyfiawnder i Fyddin Cymru rhag i rhywrai ei gyhuddo o estyn ffafrau ? Y mae Cymru'n haeddu ffafrau oddiar law y Llywodraeth os oes rhywun, ond rhaid i ni bob amser ymladd hyd yn oed am gyfiawnder.. Nid ymosod ar yr Aelodau Cymreig yw fy am can. Y mae gennyf y parch dyfnaf iddynt, ac yr wyf o dan rwymau mawr i ddiolch i amryw ohonynt am y cymorth parod a rodd- asant i bob apel a wnaed atynt ar ran ugeiniau o fechgyn Cymru yn eu helbulon wrth ym- restru. Apelia Cymru atynt ar hyn o bryd i fynnu eglurhad llwyr ar y tor addewidion a'r amharch parhaus a deflir ar swyddogion a Byddin Cymru.—Yr eiddoch, Anfteld, 26.9.16 W. O. THOMAS Y Goleuad 'A Y Goleuad" a'r Bedyddwyr. Olygydd Y BRYTHON ANNWYL Syit,-Crefaf am gongl fechan o'r BRVTHON i wneuthur, os gallaf, wenwyn Y Goleuad yn ddiniwed gyda golwg arnaf fi a'm h enwad. Galwo dd golygydd Seren Cymru fy sylw at y orawddegau canlynol ynY Goleuad mewn cyfeiriad ataf fi:" Dywedodd mai ym- ladd dros egwyddorion yr oedd y Bedyddwyr, tra mai'r Corff oedd fwyaf sectyddol. Trueni nas gallai ddweydhynny yn rhywle heblaw'r Deheudi r, oherwydd y mae ymddygiad eglwysi Bedyddiedig y JDeheuair yn dweyd mai hwynthwy biau'r goron am sectyddiaeth, a 'does neb am warafun iddynt ei chadw." Ni ddywedais o gwbl yr hyn a briodolir imi, ac yr oedd yn amhosibl i neb a'm gwrandawai gamddeall fy ngeiriau. Defnyddiais ymad- rodd cryf i fynegi sel a ffyddlondeb enwadol (nid sectyddol) y Methodistiaid dywedais yr edmygwn hwynt am hynny, a'u bod yn bat- rwm i'r Bedyddwyr yn hynny i'w hefelychu. Rhoddais glod i'r Methodistiaid, nid anghlod, ac nid oes esgus dros yr anwiredd noeth a ddyfynnwyd, neu a luniwyd, gan y Goleuad. Y mae cymal cyntaf yr ail frawddge yn wirion- ffol, a'r gweddill yn llawn gwenwyn sect- yddiaeth." Gwna'r Goleuad y peth hwnnw y condemnia, fi o'i wneuthur. Daw'r hyn sydd bechod ynof fi yn rhinwedd a gras ynddo ef- Fe ddywedir wrthyf y parheir i ymosod arnaf yn Y Goleuad, ac yr aiff ei fran ddu yn dduach o hyd. Ni fu'r ymosodwyr yn ddigon moes- gar i anfon i -mi'r!Gole,uad, ac oni buasai i eraill fy hysbysu, ni allwn amddiffyn fy hun. Hawdd gennyf gredu naddangosodd fy nvhyfeillion ymlilith y Methodistiaid mo'r ymosodiadau i mi am fod arnynt gywilydd ohonynt. I D. POWELL j

Advertising