Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Clep y Clawdd

I Gorea CymFO, yr un Oddieartre

News
Cite
Share

Gorea CymFO, yr un Oddieartre COLLED CREWE.—A hi yn gyfnod mor ddu, yr ydym megis wedi ymgynefino a min y ddrycin, ac wedi disgyblu ein hunain i ddal pwys yr ystorm. Eto pan glywsom am farw o'r annwyl gymrawd W. V. Williams, teimlem eincalon ynrhoi 'a rhwygodan bwys y ddymod. Djraa'r ddyrnod drymaf a gawsom fel cenedl yn y dref hon ers blynyddoedd lawer, ac ni charem i'r amgylchiad prudd fynedheibio heb inni geisio cordeddu gair bach o deyrnged ar ddalennau'r BRYTHON, ercof am y brawdhoff. Brodor oedd y Lanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Daeth i'r dref hon tua 30 mlynedd yn ol, yn 4* llanc ieuanc gobeithiol, a'r dyfodol yn ymagor yn firain o'i flaen. Dechreuodd fel draughts- man gyda chwmni y L. & N.W., a chanddo ddoniau naturiol tuhwnt i'r cyffredin, buan y dringodd i safle o bwys ac anrhydedd. Man- teisiodd y Cwmni lawer ar ffrwyth ei athrylith Yr oedd wedi sugno'n helaeth o anianawd y peiriannydd. Gwyddai'n dda am gyfrinion pob peirianwaith, a dygodd allan ami i ddy- faisgywrain a erys yn glod i'w enw. Yr oedd hyd yn oed y Sais balch, cefnsych, yn gorfod gwargrymu iddo, a phan geir Sais yn cyd- nabod ei well mewn Cymro, gellir sicrhau fod y Cymro hwnnw'n dalach o'i ysgwyddau i fyny na rhelyw ei frodyr. Ac felly'n ddilys yr oedd. Ysytrrid !ef ifel un o'r dynion addietaf a thrymaf ei farn, amwyaf(ei;ddylan- wad ym myd y rheilffordd. Yr oedd swyddi uchaf y Cwmni'n hawdd o fewn ei gyrraedd, pe carasai roddi ei fryd arnynt. Ond yr oedd ei galon mewn pethau uwch, a dewisodd am hynny gyfyngu ei gylch a cliymhlethu ei fywyd ag eiddo ei frodyr lleiaf. Yr oedd yn Gymro o'i gorun i'w garn." Ymddorai ymhopeth'Cymreig, ac'ymegniodd trwy gydol ei oes i gadw'r tan Cymreig i losgi'n eirias yn ein plith. Efe oedd llywydd Cymdeithas Lenyddol !Gymreig y cylch, a phwy a all anghofio ei ddarlithoedd a'i anerchiadair coeth a brwd ? Yr oedd wedi ei drwytho yn belaeth o hufen lien Cymru, ac wedi olrhain camre'r hen genedl hyd ei chyfnod boreaf. Mynych yr ae a ni ar bwys ei ddarfelydd i fro ei febyd i rodio hyd lannau y Tawe, neu hyd lwybrau anhygyrcb y Tywi. Ac nid oedd odid domen fud, na chaer, na eharn" o Went hyd Ddyfed beD nad oedd wedi dad- lennu eu cyfrinach iddo. Llawer tro y bum ar wib gydag ef i'r gorffennol pell, a chyda'i got byw, dygai ger ein bron hen gymeriadau ei febyd gan gordeddu manylion eu hanes a nod- weddion eu cymeriadau nes gwneuthur ami i ramant hynod dlws. Gresyn na fuasai'r hen atgofion hyn yn awr ar goi a ch adw. Yr oedd eiliw yr hen dadau ar ei wynepryd, a swn eu llais yn hyotledd ei leferydd. Daliai eu delfrydau bob amser ger ei fron, ac achlesai eu traddodiadau'n eiddgar. Eto i gyd, medd- ai deithi meddwl mor gyfoethog fel y cadwodd ei hunaniaeth, ac y creodd arddull arbennig iddo'i hun. Rhodiodd yn ei nerth ei hunan,- ac ar hyd ei lwybr ei hun. Yr oedd hefyd yn Gristion mawr. Daeth yn un o golofnau cad- arnaf yr Achos Cymraeg bach yma bu'n fiaeno r ffyddlon am dros ugain mlynedd, ac yr oedd ei ymlyniad wrth yr Achos yn ddihareb. Ni adawai i ddim eiluddias rhag cael "cwmni r saint." Llawer pryd, pan fyddai ei orchwyl- ion yn ei alw ymhell o'i gartref, y deuai'n un swydd yn ol ar nos Lun, neu ar nos Fercher, er mwyn cael y Cwrdd Gweddi neu'r Seiat. Ac 0 'r wledd os byddai yno Gresyn na ellir adgynliyrchu'r gweddiau meddylgar a weddiodd, a'r profiadau blasus a draddododd, Yr oedd yn wr Duw, a delw'i Feistr ar ei holl arweddau. Yr oedd yn fyfyriwr dwfn, ac yn ddarllenwr mawr. Nid oedd un wyddoreg nad oedd wedi trosi ei choluddion, a phan siaradai hawdd oedd canfod fod ganddo ystor ddihysbydd o wybodaeth wrth ei gefn. Pan ogleisid ef, dylifai ei eiriau fel ffrydlif loew, gan gludo meddyliau ffres a newydd. Eto nid oedd ei efryd ond llawforwyn i'w grefydd. Hyhi oedd prif gydym aith ei fywyd. Amdani hi y siaradai, y meddyliai, ac y breuddwydiai. Ffarwel, gyfaill tirion. 0 na chawsem dy gymdeithas yn hwy. Daeth y groesffordd lawer yn rhy fuan, a chwerw iawn yw'r'ysgar- iad. Ond diolchwn i'r Nef am dy weled, a'th glywed, a'th adnabod, a thra bo calon Gym- reig yn curo yn ein plith ni'th anghofiwn byth. Erys gwawl o gylch dy enw glan a fydd fel y goleuni yn llewyrchu fwyfwy hyd ganol dydd. Cymerwyd rhan yn yr angladd gan y Parchn. R. Lewis (cyn-weinidog yr eglwys) a W. Pen- rhyn Williams (y gweinidog presennol). WARRINGTON Oangen Ddirwestol y f erched.-Cafwyd cyfarfod amrywiaethol ynglyn a'r uchod Medi 18, a'r rhaglen felhyn Ton gynulleidfaol; adroddiad, Pwsi Ffals, Megan Price can, Little Mary, Dorothy Griffiths; rhangan, The Temperance Hosts are coming now, aelodau'r Gobeithlu adroddiad, Y Garreg Ateb, Glyn Parry Jones deuawd, Y Rhosynnau, Misses Nellie a Bessie Thomas can, Tears, Mrs. W. T. Williams bu raididdi ail ganu, a llonnodd ni a Merch y Melinydd. Dymunol gweld rhai wedi eu donio'n uchel fel y chwaer hon mor barod i wasanaethu bob tro y gofynnir iddi. Adroddiad, Y Ddafad ben- llwyd, Mr. J. H. Jones rhangan, A Song for Water Bright, aelodau'r Gobeithlu. Gwnaeth y cwbl eu gwaith yn ganmoladwy. Teimlwn yn ddiolchgar i Mr. Robert Roberts a Mr. Arthur Woodward am eu gotal a u diddordeb gyda'r Gobeithlu. Mae ffrwyth eu llafur yn amlwg. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mrs. R. Parry Jones, a chafwyd sylwadau byr a phwrpasol ganddi. Diolchwydi bawb a gym- rodd ran gan y Parch. R. Parry Jones"a Mrs. John Jones, a dibennwyd trwy ganu HenWlad fd Nhadau a Duw gadwo'r Brenin Mr. A. Woodward yn arwain.-S.G. ASHTON-IN-MAKERFIELD.-Marw: Chwithtod dwys yw cofnodi marwolaeth Mammie, ail ferch Mr. a Mrs. Rowland Parry, 262 Bolton Road, Ashton, Medi 25, yn yr oedrantynero ddeunawmlwydd. Brodeuyn tyner yn ei lawn flagur oedd Mammie, a'i chymeriad yn berarogl Crist ond daeth y darfodedigaeth i ymosod arni, ond ni ddarfu iddo yn ei maith gystudd ond gwneud y cymeriad prydferth yn addfed iawn i'r nef," gan iddi ei ddioddef yn dawel a dirwgnach. Bellach y mae wedi myned i ardd nad oes yr un blodyn yn marw o'i mewn, ac a fydd yno'n perarogli am dragwyddoldeb. Cleddir hedd- yw (dydd Iau), a chawn anfon hanes ei hangladd yr wythnos nesaf. Mae cyd" ymdeimlad Cymry Ashton a'r teulu galarus yn eu dwfn drallod.O.H.J. BURIVLEY,-Cylillallocicl Cymgy Burnley a'r cylch eu cyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn a'r Saboth cyn y diweddaf. Cynull- iadau da, ac eneiniad amlwg. gwasanaeth- wyd eleni eto gan y Parch. R. Parry Jones, Warrington. Hwn ydoedd y chweched tro dilynol iddo wasanaethu'r wyl flynyddol, yr hyn a brawf ei fod wedi gwneud He cynnes iddo'.i hun yn y cylch.

Advertising

Ffetan y Gol.

Advertising