Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

o Big y Lleifiad. TystebjGenedlaethoI i Pedrog. Daeth cynhulliad cynrychioladol o Gymry'r cylch, o bob plaid ac enwad ddau tu'r afon, i'r Common Hall, Hackins Hey, nos Wener ddi- weddaf, i gydymdeimlo a r Parch. J. O. Will- iams (Pedrog) yn ei gystudd, ac i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth mawr ar hyd ei oes i grefydd a llenyddiaeth a barddoniaeth ei wlad. Etholwyd Mr. David Jones (cadeir- ydd y Gymdeithas Genedlaethol) yn llywydd y eyfarfod ac wedi gair cynnes iawn ganddo ef am Pedrog a'i waith, galwodd ar y Parch. O. L. Roberts i roddi'r achos gerbron. Cymeradwywyd y symudiad hefyd gan y Parchn. D Adams,B.A., D. Powell, T. Isfryn Hughes, D. Tecwyn Evans, B.A., Dr. Owen Evans, H. H. Hughes, B.A.,B.D., Mri. J. H. Jones, Job Jones, Evan Morgan, etc. ac wedi datgan y cydymdeimlad dwysaf a'r Prifardd yn ei gystudd, a dymuno'i adferi-ad buan a llwyr, pasiwyd i gychwyn Tvsteb Genedlaethol- iddo etholwyd Mr. David Jones yn llywydd y pwyllgor; y Parch. O. L. Roberts a Mr. R. Vaughan Jones yn ysgrifenyddion Mri. Robert Roberts, Y.H., a R. H. Morgan, yn drysoryddion ac addaw- wyd swm sylweddol iawn yn y fan a'r lie, a daeth tanysgrifiadau haelionus iawn i law ar ol hynny. Daethai gair oddiwrth y gwyr a ganlyi-i yngofidio'ii bod yn methu a bod yn y eyfarfod Mri. Wto. Evans, Y.H.,C.D., Jas. Venmore, Y.H., Arthur Venmore, J. G. Rowlands, B.A., Ellis Owen, Evan Roberts (West Derby), a'r Parchn. T. Price Davies a J. Roger Jones, B.A. Dowiswyd is-bwyllgor i lunio'r apel sydd i'w chyhoeddi yn y wasg ac i'whanfon i wyr amlwg y genedl, yng Nghym- ru a Lloegr ac y mae hawddgarwch Pedrog; a'r hoffter a'r serch dwfn a deimlir tuag ato gan e filoedd cydnabod ar hyd a lied y wlad a'r gymeradwyaeth ddieithriad sydd i'w waith a'i ysgrifeniadau ymysg pob dosbarth o ddarllenwyr llenyddiaeth Gymreig, yn rhwym o esgor ar amlygiad o'r serch hwnnw mewn cyfraniadau gwirfoddol a chyffredinol. An- foner y tanysgrifiadau'n syth i'r naill neu'r llall o'r ddau dryFlOrydd: Mr. Robert Roberts,Y.H., 36 Judges Drive, neu Mr. R.H. Morgan, Custom House Buildings, Canning Place, Liverpool. Daw'r apel a rhestr y tan- ysgrifiadau yn ein rhifyn nesaf. At fy Nghyfeillion. I ANNWYL GYFAILL.—Gwn y caniaoewch ofod imi yn Y BRYTHON i gydnabod caredig- rwydd y cyfeillion lluosog a anfonodd ataf fynegiad o'u cydymdeimlad âmi a'm hannwyl briod yn ein cystudd. Caraswn allu cyd- nabod pob cenadwri ar wahan, ond buasai hynny, ar hyn o bryd, yn fwy nag a allaiffy nerth. Cof gennyf imi, gerllaw y Southern Hospital, helpu chwaer i godi basgedaid o chips ar ei plien. Codwyd y baich yn gyntaf ar y railings, ac yna ar ben y wraig. Mor ddiolchgar oedd hi am y cymorth fel y gwyr- odd i wneuthur cyrtsi imi ond y gwaetb af a fu, fe gwympodd y fasged i'r llawr yn y bow! Drwy hynny fe cldymchwelodd 'y busnes y buasai hi a minnau yn ei godi. Go debyg fuasai'r canlyniad i minnau ped aethwn i'r llafur o ateb llythyrau cyfeillion bob yn un ag un-rhwystrid yr adferiad vr oeddynt oil yn ceisio'i helpu. A gallaf, yn gywir iawn, ddywedyd fod y geiriau caredig a dderbyniais, a'r gweithredoedd caredig a wnaed a mi, wedi bod o gysur a chymorfch uwchlaw pris ac erfyniaf ar fy nghyieillion i dderbyn, yn y ffordd hon, fyniolch gwresocaf i a'm teulu. Ni fedraf fynegi fy niolch fel y caraswn. Yr wyf yn credu fy mod i ar y ffordd i wella; ond drwg gennyf nad yw fy annwyl briod cystal y dyddiau hyn ag y bu trwy'r haf.—Yr e'ddoch, etc. 1 PEDROG Y FENDITH -GOLLI I LLONDER anian, llawnder ynni,—oes ach,- Pa swyn sy'n rhagori ? g|| Ond prsio gwerth nerth i ni Nis gallwn nes ei golli.-PEDROG. OYFLE AR SYR HENRY JONES.- Nid mor fynych o lawer ag y dymunai dyn y ceir eyfle i weld a gwrando Syr Henry Jones, Glasgow; ond fegeir hynny, osbyw ac iach, wythnos i nos yfory (nos Wener, y 29ain cyfisol) yng nghapel Annibynnol Saesneg New Brighton, lie y mae wedi addo darlithio. A pheth arall, y mae wedi ateb cais Pwyllgor Birkenhead, y daw yno fis Medi'r flwyddyn nesaf i lywyddu un o gyrddau'r Eisteddfod. Rhyw lwyddo a chael y mae'r pwyllgor, bob cynnyg. WRTH, GOLLI HELEN ROWLANDS. -Y 14eg o'r mis nesaf, bydd Miss J. Helen Rowlands, B.A., Porth Aethwy (chwaer y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Laird Street) yn cefnu ar Gymrn gu, ac yn hwylio i'r India fel cenhades ac er yn mawrhau ei diofryd disyfl i gysegru ei hoes a'i hathrylith i waith mo r f endigaid, rhaid inni gael datgan ein gofid fod Cymru ar fin colli chwaer ieuanc a flagurai mor addawol fel Ilenores, ae a blethai Gymraeg mor gywir a swynol. Pan wrth ei swydd yn dysgu'r Ffrangeg yn Ysgol Sir y Drenewydd, ysgrifennodd amI lith lefn i'r BRYTHON 0 Odre Plunlumon eithr 0 Odre'r Himalaya y daw'r llithoadd maes o law a cheir gweld prun o'r ddau fynydd a drwytha fwyaf ar ei dawn, a phrun ai dwr y Menai a'r Hafren oer ai dwr y Ganges boeth fydd y gwlith goreu i w darfelydd toreithiog. Ond hyn sydd sier yr aiff hi a Sir Fona Sir Ann Griffiths gyda hi yn ei bron i Khasia bob cam, gan gryfed ei serch tuag atynt, ac y bydd yr Hen Wlad yn edrych yn odiaeth o dlws iddi drwy ddagrau'i chalon mewn bro mor bell. Tybed a dorrem ei chalon ac y'i caem i aros adref pe'r adroddem benillion dwysion Trebor Mai iddi ar N ewid Gwlad Digon anodd ydyw cychwyn, Gado'r bryn a'r bwthyn bach, Gado'r ffrwd a'r llwyn cysgodol, Yr hen ddol a'r bronnydd iash Cychwyn allan dros y trothwy, Ysgwyd Haw a mam a thad, Syllu'n ol yn hir trwy ddagrau— Dyna ydyw newid gwlad.. Ond na, ni waeth imii heb oedi i adrodd Y gweddill, canys er mor angorddol y car hi Gymru a'i mynyddoedd,. Nid oes son am Wyddfa mwyach- Onid ydyw Calfari Wedi mynd goruwch y bryniail Pennaf yn ei golwg hi ? chwedl Eifion Wyn. Dyma fel yr englynodd ei chyfaill Gwilym Williams-y bardd ieuanc gobeithiol a phur a laddwyd mor ofidus yn y rhyfel yn Ffrainc—i Miss Rowlands wrth feddwl am ei hymadawiad Draw i randir yr India—mae Helen Am hwylio o Walia O'n golwg ni, O gwylia Hi dros y dwr, Iesu da. YMWELD A'R ffllLWYR.-Y mae'r chwiorydd caredig a ganlyn wedi bod yn ym- weled amilwyr Cymreig ac eraill yn Ysbytai Lerpwl a'r cylch dros y Pwyl Igor sy'n trefnu'r Cyngherddau croeso yn York Hall:— Mrs.W. Thomas, Mrs. R. O.Williams, Mrs.W. J. Roberts, a Mrs. Myles Griffith. Gwel- som eu llythyrau at y pwyllgor, yn dweyd gair o hanes yr hyn a welsant ar eu hymwel- iadau a hawdd gweld mor werthfawr ydyw hyn oil gan y clwyfedigion, ac mor fawr yw'r dioddef ofnadwy yr allawer un o'n cydgenedl druain trwyddo. Y mae'r dyfyniad hwn o lythyr Mrs. Myles Griffiths yn enghraifft o weddill y llythyrau :— g Ymwelais a Westminster rload Hospital yn ystod y misoedd diweddaf, a gwelais yno amryw o glwyfedigion Cymreig, rhai o'r Gogledd ac eraill o'r De. Yr oeddynt ell wedi myned twry brofiadau rhyfedd, "ac amlwg oedd eu diolchgarwch fod Cymry Lerpwl yn teimlo diddordeb yn- ddynt. Da gennyf allu dweyd fod y profiadaii y maent wedi myned drwy- "ddynt wedi dyfnhau eu hysbryd cref- yddol., a chredaf fod dyfodol disglair i'r eglwysi Cymreig pan ddychwela bechgyn Cymru gartref o faes y frwydr." '1 Wele lun un arall o Gymry ieuainc Lerpwl sydd wedi ei ladd yn y rhyfel, sef y Private C. G. Williams, mab y diweddar Mr. John William51. Cilan, Oakfield Fe'i lladdwyd yn Ffrainc, Awst 22, ac yntau'n dair ar hugain oed. Yr oedd yn aelod o eglwys M.C. Saesneg Oakfield, ac y mae chwithtod amdano gan ei holl gydnabod. Cyn ymuno a'r Fyddin, yr oedd yn efrydydd gyda Mr. Barlow, dentist, Rodney St. Per- thynai i'r Liverpool Pals, ac y mae ei frawd, L'Corp. R. Tudwal Williams, gyda batalion arall o'r un gatrawd, ac yn y rhyfel. Aeth y ddau i Ffrainc yr un mis, sef mis Tachwedd diweddaf. Brawd arall iddynt oedd y diweddar Ddr. O. T. Williams, sydd mor gu ei goffa gan bawb a'i hadwaenai a Mrs. Eilian Owen yn chwaer iddynt. Y mae Miss Will- iams, chwaer arall, yn yr Ysbyty Milwrol yn y Rhyl. TUSW BRITH- Ymgasglodd nifer o filwyr Cymreig Lither- land i faes gerllaw (Peter's Field) nos Fercher diweddaf, i ganu nifero donau allan o Lawlyfr Cymanfa Aberystwyth Mr-R. Vaughan Jones yn arwain Mr. J. W. Hughes wrth yr offeryn y Parch. James Jones, Waun Fawr, yn dy. wedydgair, a'rParch. E. L. Roberts, Saltney, ei ddilynydd fel ymwelydd a Chymry'r gwer- syll, yn dibennu drwy weddi. Yr oedd yno nifer o Gymry o'r eglwysi yn bresennol, a buasai rhagor onibai ei bod hi'n dywydd mor oer a gwyntog. Y mae Mr. a Mrs. Edward Hughes, Maid. wyn, Birkenhead, wedi cyflwyno llestri cymun (pawb-ei gwpan) yn rhodd i eglwys M. C. y Rock, ger Meifod, yn gof am eu merch, Dilys, a'u mab, y Lifft. T. Maurice Hughes, a ladd- wyd yn y rhyfel. Cyfarfu Mr.Alfred Jones, Carrington Street, Birkenhead, A'i ddiwedd mewn modd enbyd ddydd Sadwrn diweddaf. Wrth ddychwelyd adref, efe a Mr. Venmore, y cyfreithiwr, daeth llanc ar motor-cycle ar eu gwarthaf cyn iddynt allu neidio o'i ffordd. Niweidiwyd y ddau, a bu Mr. Jones farw yn yr ysbyty ymhen dwy awr. Yr oedd yn aelod o eglwys M.C. Laird Street, yn saith a thrigain oed, ac yn wr crefyddol iawn ei ysbryd. Y mae'r trenghol- iad wedi ei oedi hyd ddydd Llun nesaf. Cleddir heddyw (ddydd Mercher) yn Flay- brick Hill. Yr oedd y 2nd Lieut. Ithel Jehu Davies, R.W.F., Trallwng, a laddwyd yn y rhyfel, yn nai i Dr. R. O. Morris, Birkenhead. Fel hyn yr englynodd Gwilym Mathafarn i'r diweddar Glan Alwen:— Un na fagodd genfigen-ydoedd Lloyd,- Haeddol wr digynnen Ei dymer dda, gyda gwên, Lonnai olwg Glan Alwen. Dyma sylw gwerth ei godi Nid lladd ydyw y peth dyfnaf ym meddwl ein milwyr, ond achub, a dyma i chwi brawf o hynny pan orchmynnir iddynt ymosod a mynd ar warthaf y golyn a gwn a bidog, hwy wnant hynny'n ddewr, ond nid mewn hyfrydwch; ond gofynnwch iddynt pwy a el gJlan i nol milwr clwyfedig sydd yng nghyrraedd y t an a rhutlirant bob un ac am y cyntaf y naill o flaen y llall. Y mae'n gymaint gwell gan- ddynt gael achub na gorfod lladd..—Mrs.Bruce Qlasier, priod alluog yr Arweinydd Llafur. Dyma beth arall a ddywedodd hi yr un tvoson, a pheth ofnadwy sef fod bleiddi aid y 11 ——— Balkans a'u cenawon yn dewach eleni nag y buont erioed, a hynny oherwydd pesgi ar gelaneddau cynifer o wyr, gwragedd a phlant, a adawyd yn llwybr gwaed y rhyfel uffemol.

DAU T U"R AFON.

Advertising