Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

n 0 Lofft y Stabal.

Eisteddfod Aberystwyth.I '…

News
Cite
Share

Eisteddfod Aberystwyth. I r 1 Beirniadaeth I TRAETHAWD 'Dylanwad Dr. T. Charles Edwards ar Addysg\a\Meddwl Cymru. 1, AR y testun uchod, dcrbyniwyd traethodau gan ymgeiswyr yn dwyn y ffugenwau can- lynol Monarddydd, Adgof, ac Un fu'n ddisgybl iddo. Darllenais y tri thraethawd gyda llawer o ddiddordeb a mwynhad. Yr oedd fy edmygedd o fy hen athro—Dr. T. Charles Edwards—yn peri fod dilyn rhawd ei fywyd ac ail Sylwi ar ei ddylanwad dyrchafol ar Addysg a Meddwl Cymru yn orchwyl prudd bleserus i mi. Yn yr ysbryd boddhaus hwn v darllenais y traethodau y tro cyntaf. Yna bu raid i mi newid i raddau fy wynebwedd tuag at' y cyfansoddiadau ac ymgymeryd a'r gwaith llai pleserus o'u beirniàduer m wyn penderfynu eu gwerth perthynasol. Fel y gellid yn naturiol ddisgwyl,y rnae 'r tri ymgeis- ydd yn cyduno yn eu mawrygiad edmygol o ddylanwad y diweddar Brifathro ar Addysg a Syniadaeth Cymru. Ond rhaid i mi ych- wanegu fod eu dull o ddangos hynny yn amrywio'n fawr. Y mae traethawd Monarddydd yn ar- ddangos llawer o graffter a nerth meddyliol. Cydolygwn yn llawn a'r oil, ymron, o'r hyn a ddywed am nodweddion a rhagoriaeth Dr. Charles Edwards fel dyn., fel y.Tolha;g, ac fei athro. Ond o'i gymharu ahawliau eglurder yn ei ymdriniad a'r testun teimlwn mai anffodus fu yn ci ddewisiad o'i gynllun i dra- fod y mater. Y mae'r defnyddiau amrwd yma, ond nid oes yn y traethawd brofion o gelf yr adeiladydd cywrain. 0 ddiffyg cyn- llun eyfaddas cawn ef yn ailadrodd yr un gosodiadau, ac yn aildeithio dros yr un llwybrau. Y mae'r cyfansoddiad 3nnhell o fod yn dyfiant naturiol fcl eiddo pren, ac yn fwy tebig i addurnwaith allanol. Ychydie- o werth i amcanion y testun yw'r Rhagair sydd yn cyfeirio at wrthryfel diweddar y Celt yn erbyn y Teuton, ac ynglyn a'r prif offerynau yn y gwrthryfel hwn," dywed yr ymgeisydd, rhoddir arbenigrwydd i weithredoedd a phersonoliaeth Dr. T. C. Edwards. Ymae y gallu wedi ei drosglwyddo o afael y Sais i ddwylaw y werin Geltaidd, ac y mae hyn i raddau mawr yn ff rwyth gwaith bywyd y prif- athraw." Ond yn nes ymlacn ar tud. 29, dywed a ganlyn Yn rheng Coleg y Brif. ysgol gwelir ysgolheigion gwyoha o brif ysgolion Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Ffrainc, a'r Almaen, yn broffeswyr ae yn ddarlithwyr sefydlog." Prawf y ffaith hon nad cywir y gosodiad blaenorol fod y prifathro yn Geltiad cul a gwrth-Deutonaidd; Wedi darllen rh annau o' r t raeth awd h wn droso dd a th ros odd teimlwn mai un o'i wendidau amlycaf yw tuedd yr awdur i wneud hacriadau heb un ymgais i'w'kprofi trwy englireifftiau o fywyd ac ysgrifeniadau yPrifathro ei hun. Er eng- hraifft, ar tud. 4, dywed Saif Dr. T. C' Edwards am feddyliau a ffeithiau, meddyl- ddrychau a dyheuadau yn hanes ei wlad." Ond niddilyniry gosodiad gan unrbyw brawf. Y frawddeg gyntaf yn adran II o'r traethawd yw yr un a ganljni Digwyddiad diddorol ynglyn ag Addysg yng Nghymru oedd gwaith y Brifysgol yn rhoddi'r gradd o D.D. i'r prif athraw argyfrif ej wasanaeth i Addysg a'i ragoriaeth fel Esboniwr y Testament Newydd." Gwneir y gosodiad yma cyn i'r ymgeisydd ddechreu ymdrin a hanes e was an aeth y prifathro i Addysg ac Esboniadaeth." Y mae gan yr awdur allu rhyfedd o arffcdus (a defnyddio'r gymhariaeth werinol) i osod y cart o flaen y ceffyl. Cawn yn y traethawd lawer o sylwadau cryfion a chywir o barthed i ddylanwad syniadaeth a theithi cymeriad y prifathro. Er enghraifft, tud. 14 "Credwn nad ydym yn arfer gormodiaith wrth ddweyd fod y prifathraw Edwards, a chymeryd pob- peth arei gilydd yn nyfnder ac eangder ei ddylanwad ar dduwinyddiaeth a JIenydd- iaeth, yn un o'r dynion mwyaf a gynyrchodd Cymru yn y ganrif ddiwcddaf." Gall hyn oil fod yn wir. Ond i gario argyhoeddiad o'i wirionedd i feddwl y darllenydd dylai'r awdur ymgymeryd a'r dasg o ddadelfcnnu ac egluro rhai o lyfrau'r Prifathro, gan ddangos eu mawredd a'u gwerth. Ond yn anffodus ni wnei r un ymgais at hynny. Hyn yw gwendid amlycaf y traethawd. 0 ran iaith ac arddull nid yw'r cyfansoddiad na chywir na choeth na chwaethus. Hawdd y gellir canfod ynddo frychau a meflau lawer, e.g. Cafodd y myfyr- wyr y fraint o weled yr esboniadaeth yn tyfu yn ci ddwylaw." Y mae gwylcidd-dra a pharch ym mhresenoldeb gwirionedd ysbrydol wedi myned ynllaw yn llaw." Clywsom un Pcdagog plwyf unwaith." Os digwyddai fod yn fwy tawel nag arfer, ni byddai yn dweyd pethau nad allasai neb eu dweyd ond perchen athrylith gref." Anaf arall ar ei arddull yw ei ddefnyddiad mynych o eiriau ac ymadroddion Saesneg pan y gellid yn hawdd amlygu'r ystyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft Dynion epoch-making- y rhai sydd yn creu cyfnodau." Yr insight yn troi yn foresight." Beth pe gallasai rhywun fwrw ei horoscope." Yr oedd y prif athro yn man of affairs.' Ar ol gwneud y dyfyniad a dangos ei fearing ar adnod ei destun." Yn ychwanegol rhydd yr, ymgeisydd i ni rai dyfyniadau lied feithion o'r Saesneg heb un ymgais i'w eyfieithu. Yn rhyfedd iawn, dyry i ni adnod o Esaia yn Saesneg, ac nid yn Gymraeg, heb unrhyw reswm am hynny. Oherwydd y diffygion a enwyd nis gallwn osod traethawd Monarddydd yn uchel yn y gystadleuaeth, er ei fod, fel yr addefwn, yn cynnwys llawer o sylwadau rhagorol a gwir werthfawr. Adgof.-Mae gan Adgof draethawd maith iawn. Rehnnir ef i saith o benodau yn dilyn ei gilydd, yn weddol naturiol, ac yn rhoddi mantais i'r ymgeisydd sylwi ar holl arweddion bywyd arnlochrog y prifathro. Yn y bennod gyntaf, dyry i ni hanes llawn a thra diddorol am ddechreuad a chynnydd addysg elfennol, clasurol ac uwchraddol yng Nghymru, hyd at y eyfnod yr agorwyd Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Wedi hynny, dengys yn fanwl y rhan amIwg gymerodd T. C. Edwards yn nygiad ymlaen y Coleg i'w sefyUfa o lwydd diamheuol. Yn yr ail bennod, ymdrinia a dylanwad y prifathro ar y myiyrwyr. Cyfeir 1 ia at ysylw a dalai, a'r pwysigrwydd a gysyllt- ai ameithrin ym meddyliau yr efrydwyr hoff- ter at y prydferth, yn y celf a-Li cain, mewn llen- yddiaeth, ac mewn cymeriad moesol da. Cywir, fel y gwyr llawer, yw y cyfeiriad at ei garedigrwydd i efrydwyr tlawd eu li amgylch iadau ynglyn a'r cyf nod yma cawsai'r prif- athrol weledigaeth mwy eglur na'r enwad- garwyr gorselog o barthed i wir berthynas y Colegau Diwinyddol i Cl-tolog au y Brifysgol; y cyntaf i gyfyngu eu sylw at ddiwinyddiaeth gan adael i'r Colegau Cenedlaethol y gwaith o baratoi'r efrydwyr trwy addysg glasurol ac athronyddol, ar gyfer y cwrs diwinyddol. Yna cerdd yr ymgeisydd rhagddo ij ddangos ymdrech y prifathro i unoli bywyd y genedl Gymreig. Dengys fod eangder ei gyd- ymdeimlad a'i ryddid oddiwrth bob culni a rhagfam enwadol yn ei gymhwyso i wneud hyn 0 wasanaeth tra angenrheidiol. Yn y cyfeiriad yma yr oedd y prifathro yn weled- ydd ac yn broffwyd gwirioneddol. Dadleuai dros un Coleg Diwinyddol i'r holl enwadau fel un o amodau sylweddoli'r syniad am Un Eglwysi Rydd Unedig. Yn y bedwaredd bennod, ymdrinia a'i ddylanwad fel diwinydd gyda chyfeiriad at ei Ddarlith Davies 11 ar y Duw-ddyn." Yny penodau dilynol cawn ganddo ymdriniad arno fel esboniwr ac fel pregethwr. Gorffennir y traethawd maith a diddorol hwn gyda nodi'r dylanwadau a fu'n ffurfio ei gyrneriad, a'r rhai trwy hynny gyfrif- ant am ei ddylanwad pell-gyrhaeddol yntau ar fywyd a meddwl ein cenedl. 0 ran cynllun ymae, vnfvmarni. vn rhaeori llawer a,r eiddo Monarddydd. Ar lawer golwg, y mae hwn yn draethawd gwir alluog. 0 ran ei gynnwys y mae'n hawlio canmoliaeth uchel. Ond prin iawn y mae gwisg lenyddol y gwaith yn deil- wng o'r corff o syniadaeth gref sydd yn ei nod- weddu. Yn sicr, nid oes yma yr uniad cym- harus rhwng y ffurf a'r mater sydd yn amod celfwaith prydferth. Ar adegau, ymddengys Adgof fel pe'n esgeulus a diofal iawn am gein- der a choethder llenyddol. Er enghraifft Ond er rhagored yr ysgolion hyn ychydig oedd yn eu mynychu ag eithrio plant y ben- defigaeth." Dyma yn yr un frawddeg ddau wall pwysig. Prin y disgwylid hyn mewn traethawd mor alluog. Eto, Carodd Griff- ith Jones ei genedl yn angherddol wedi dysgu cynnifer a 150,000 i ddarllen, a gadawodd £ 7,000 i gario y gwaith yn ei flaen." Eto I/ofrai'r delfryd hv;n o fewn uchelgais y genedl o ddyddiau Llywelyn hyd ddyddiau Syr Huw Owen." Syrthia i'r brofedigaeth o geisio Cymreigio geiriau Saesneg pan y gellid cael geiriau Cymraeg da i amlygu'r syniad; e.g., dwyn bywyd y gorffennol i fario ar fywyd presennol y genedl ond phauperisiai ef neb "I gasglu y remnant megis Ni pherthynai i Adda ac Efa ond posibilrwydd moesoldeb -,potential beings oeddynt"; "gosododd diwinyddiaetli ar front bywyd y genedl "nid pechod yn yr abstract ond pechod yn y concrete oedd nod ei saethau ef dysgai fod yn rhaid vitalisio gwirioneddau." Dyna rai o'r anafau llen- yddol sydd yn hacru wyneb y cyfansoddiad. Yn sicr dylasai'r ymgeisydd fod wedi gofalu am wisg ragorach i'w syniadau. Cydolygaf yn hollol a'r awdiirpan'yn ymdrin A,dylan-.vad y prifathro fel diwinydd ar feddwl Cymru. Cyfeiria at ei lyfr at y Duw-ddyn fel prawf. Ond yn sicr buasai'r prawf yn fwy boddhaol pe buasai'r ymgeisydd wedi dadansoddi'r llyfr neu roddi brasluno'i gynnwys. Yn llehynny ymfoddlona yn ormodol ar dystiolaeth eraill amdano. Amheuwn gywirdeb y sylw ddar- fod i'r prifathro ddwyn y wedd ddalblygol i athrawiaeth yr Ymgnawdoliad i sylw'r genedl." Ai nid oedd meddwl yr ymgeisydd yn hepian pan yn gwneud y sylw canlynol "I'r prifatbraw brenin-feddwl yr Apostol (yn yr Epistol at y Corinthiaid) oeddCyfamod, ac yng ngoleuni'r gwirionedd hwn yr edrych efe ar holl wirioneddau yr Efengyl. Gwyr y cyfarwydd fod hyn yn hollol groes i sylw pen- dant o eiddo'r prifathro yn ei Ragair i'w esboniad. Dyma ei eiriau "The conception of a mystical union between Christ and the believer, as it is the pivot of the apostle's entire theology, so it is the key to the intrica- cies of this epistle." Yn syn,- ni sonia'r un o'r ymgeiswyr yn bend ant am yr elfen o gyfrin- edd a nodweddai fywyd a syniadaeth ddiwin- yddol y prifathro. Fel hyn, Ueiheir gwerth y traethawd rhagorol hwn gan ryw ddiofalwch esgeulus a brychau llenyddol y gellid gyda gofal yn hawdd eu hosgoi. Un fxCn (-Idisgybl iddo.-O ran cynllun nid oes lawer o wahaniaefch rhwng y traethawd hwn ac eiddo Adgof. Yn y bennod gyntaf rhydd i ni hanes tyfiant graddol darpariadau addysgol Cymru. Gwneir hyn ganddo gyda medr un sydd yn hollol gyfarwydd a'r maes. Yn yr ail bennod cawn ganddo fraslun o hanes gyrfa addysg T. C. Edwards, a'r camrau gymerodd Addysg Cymru tra yr oedd ei yn ymbaratoi at gyfer gwaith ei fywyd. Yn y drydedd bennod olrheinir dylanwad T. C. Edwards yn y cymeriad o Brifath ro Coleg Aberystwyth. Ei brofiad yno yn dangos iddo yr angen am berffeithio cynlluniau Addysg Cymru trwy sefydlu Ysgolion Canolraddol a Phrifysgol i uno'r oil. Yn y penodau dilynol ymdrinir a dylanwad y prifathro ar feddwl Cymru,yn addysgol, yn foesol ac yn ddiwin- yddol. Ond prin y gall y braslun anghyfiawn uchod gyflwyno un syniad, heb son am syniad cyflawn a chywir, am nodwedd yr ymdriniad a'r cwestiynau y cyfeirir atynt. Y mae gwy- bodaeth gyffredinol yr awdur o hanes foreuol a diweddar Cymru yn tailwg yn ei ddull meistrolgar a threfnus o ymdrin a holl ar- weddion y testun. Nodweddir ei arddullgan swyn sydd yn hud-ddenu'r darllenydd i ddarllen rhagddo gyda mwynh ad dibaid. Fel dernyn o lenyddiaeth mewn Cymraeg priod- ddulliol anodd ei ganmol yn ormodol. Fel crynbodeb o Hanes Addysg yng Nghymru o'r oesau boreuaf hyd ein dyddiau-ni anodd cael ei ragorach. Ac fel teymged o barch i ysgolheigdod, llafur a chymeriad y prifathro y mae yn gwbl rydd oddiwrth yr ormodiaith sydd yn fwy o anf antais nag o- fantais i'r un a orfolir. Yn ei fam o barthed i'r rhan a chwareuodd y prifathro ynglyn ag addysg Cymru a'i ddylanwad dyrchafol ar feddwl ei oes y mae'r ymgeisydd hwn yn fwy cymesur ac addfed na'r un o'i gydymgeiswyr. Y mae traethawd Adgof yn dwyn profion o wybod- aeth eang a llawer o nerth 1 eddyliol. Yn ei gyfeiriad at rai o nodweddion meddwl a chymeriad y prifathro, megis ei hoffter o'r I prydferth mewn celf a llenyddiaeth a'i awydd am argraffu pwysigrwydd hyn ar feddyliau'r myfyrwyr, y mae'n rhagori ar eiddo Un fu'n ddisgybl iddo; ond fel cyfanwaith celfydd V mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt Pe'n edrych yn unig ar gynnwys y ddau, fel hanes addysg Cymru, nid yw'rgwahaniaeth yn rhyw lawer ond fel llenyddiaeth y mae'r pellter rhyngddynt yn ddirfawr. Wedi darllen ae ailddarllen y tri thraethawdgaJluog anfonwyd i'r gystadleuaeth, nid wyf yn petruso datgan fy mam initi eiddo Un fu'n ddisgybl iddo yw'r goreu, a'i fod yn llawn deilwng o'r wobr. D. ADAMS.

Advertising