Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

n 0 Lofft y Stabal.

News
Cite
Share

n 0 Lofft y Stabal. XVIII, MISTAR GOLYGYDD,—Wn i ddim ydach .hi'n cofio i mi dro 'n ol gyfeirio at hen lencyn o gyfaill mynwesol sy gennyf, a'r modd y pas- iodd o a minnau 'n unfrydol ein bod ni'n dau i gyf ri'n hunain mor anffaeledig a phobol erill hyd nes yr elo'r rhyfel heibio. Wel, ma'r eyfaill hwnnw'n para i alw yma'n awr ac yn y man, a da fydd ginni i weld o bob amser. Fel rheol, byddwn yn mynd am dro hefo'n gilydd hyd y caea, ond weithi a'n dwad am Ugwrs i'r Llofft ma. A phob tro y byddwn yn swarfod ein gilydd mi fydd gynno fo rhw iiwnc ne'i gilydd yn i ben. Wn i ddim am phwlosoffyddiaeth fy hun, fel tasa, ond mi fentrwn fynd ar fy llw, yng nghanol fy holl anwybodaeth, fod fy nghyfaill hwn yn dallt peth felly o'r top i'r gwaelod. Ond, yn wir, pan oedd fy nghyd-henlencyn yma ddiweddaf, mi ddeudodd un peth nath i xii deimlo nad oedd o ddim yn hawdd iawn i'w lyneu. Wyddoch chi beth, syr,mi ddeud- odd wrtha i, yn reit seriws, fod pob dyn byw yn wallgo Mi trawodd fi asyndod mawr iawn, a ehofiais am y Salmydd, yr hwn a ddywed- odd yn ei ffrwst fod pob dyn yn gelwyddog." Ond ni fynnai fy nghyfaill gydnabod ma'n deud peth ar ffrwst yroeddo, ond casgliad y daeth iddo wedi styriaeth bwyllog amaith. Meddwl di am y peth," ebra fo, ac mi gei weld 1Wd i'n iawn." Yn iawn," ebrwn inna, wrth ddeud fod pob dyn yn wallgo la," ebra fynta "ondmaeisiotipino lurh âdhefyd. Rhaid iti goiio fod graddau »iiawn gwallgofrwydd, ac amrywiol ffurfiau arno fo. Ma rhai'n wyllt ac anhydrin a pher. yglus yn i gwallgoirwydd. ac ma erill yn hollol ddiniwad, a'r rhan fwyaf o lawar yn ymddwyn mor resymol fel nad oes neb yn meddwl amdanynt ond fel pobol gall. Waeth iti yn y byd, Wil, ein. sicred a dy fod di'n pwyso ar y rhagddor yna, ma pob dyn, i rw raddau, yn orffwyllog. Dydi'rtrueiniaidsy'n j gwallgofdai ddim yn wallgo ar bob peth. Ma nhw'n meddwl a siarad cin galled a neb ar rw betha; a phan a nhw at rhw un pwnc neilltuol, fel rheol, y ma nhw'n dyrysu. Ma'r peth mor eglur a'r haul ganol dydd ac mo syml a'r ABC. Rydw i fy hun, a rhaid dy fod ditha hefyd, yn nabod pobol sy'n siarad ac yn gweithredu'n hollol resymol a doeth hyd nes y d6n nhw at rhw un peth, ac yna ma nhw'n mynd yn wirion boat. Ac yn teur gyflEredin, mae'r elfen wallgo sy miawn pobol yn rhan o'r gynysgaeth naturiol a gawson nhw ar y cyntaf. Er engraifft,-yr i anian i brydyddu, yr anian i ganu, yr anian ddeud clwydda, yr anian i dwyllo, yr anian 1 gario straeon, yr anian i gybydda, yr anian falch, yr anian i geisio clod, etc. Yn ddios, Wil, rwyt ti'n nabod pobol felly, a raid iti ddim ond i watshio nh w na weli di i bod nhw'n ymddwyn yn afresymol, felly'n orffwyllog, wrth gwrs, pan fo'u meddwl yn troi o gwmpas y petha neilltuol yna. Sylwa di dresot dy hunan." Wel, syr, a deud y gwir, prin roeddwn i'n teimlo fod cwestiwn fel hwn yn un i ddwad ag o i'r hen Lofft ma. Mi fydd un pwnc dyrys fel hyn yn y mhen i yn fwy o rwystr imi gysgu na thasa gant o lygod mawr o gwmpas y Bgwely i. Ond rydw i wedi arfer rhoi pwys ar yr hyn fydd fy nghyfaill yn ddeud fel na fedrwn i'n fy myw beidio meddwl am y pisin diweddaf o phwlosoffyddiaeth a ges i gynno fo. A pheth arall, syr, po fwya ydw i'n feddwl am y peth. mwya rhesymol yr ym- ddengys hynny ydi, mwya tebig i wir. Beth bynnag i chi, mi ddechreuis i feddwl am bobol o fath y rhai a grybwyllodd yr hen lane wrtha i, a sylwi ar erill agvfarfyddwn ni. Mi gafodd y byd i weddnewid i mi pan eis i i geisio profi prun ai gwir ai anwir y fam am- dano fo,—fod pob sowl o'i fiawn, ar adega, yn wallgo. dd I ddeud y gwir, rhaid imi gyfadda i-rai ddechra fy sylw efo Pero,. rhw gi sy'n y teulu ma, ac yn cael croeso ffefryn i'r ty. Pan oeddan ni ar ganol brecwast, dyna Pero'n chwrnu'n ffyrnig, ac yn rhuthro i'r pantri, ac yn gneud y twrw mwya dychrynllyd wrth dymblo llestri oedd yno. Buan iawn yr oedd Mari'r forwyn ma ar i ol o,?ac mi fu'n dda gin Pero gael dianc allan. <( Bedi'r matar ar Pero, Mari ? gofynai mistar. 0, gweld y gath ddu ddaru o ac mae o'r un fath efo hi bob amsar," ebra Mari. "Diaist i, Mari," ebra mistar, "ma gynno fo rhw gasineb at greaduriaid duon, cin wired a mod i'n y fan ma. Mao o'n hollol dawal efo'r cathod erill. Ac rydw i wedi sylwi i fod o'n ffyrnigo miawn munud pan wel o gi die, ond yn pasio own o liw arall yn ddigon didramgwydd." Ac 'roedd mistras wedi dwad i'r gegin, ac ebra hi, Neno dyn, ond ddyla chi wbod fod Pero bach bob amser yn ffreuo efo'r gath ddu. Mi wyddoch o 'r gora'i fod o 'n rhedag fel ffwl ar ol brain. Dda gynno fo ddim gweld mochyn du na dafad ddu. Dyda chi ddim yn cofio'rhen swip hwnnw, dro'n ol, ddoth at y drws ma i ofyn am ddicd o laeth, pan ar i ffordd i'r Plas ? Grym annwl! mi ddylis i basa Pero wedi ladd o." "Wel," ebra mistar, wrth f godi i fynd allan, ac yn wincio ama inna, yr unig beth elli di neud, Mari, ydi gofyn i Wil chweitchwasio'r gath ddu, neu i phaentio hi'n wyn." Gofynwch iddo fo'ch hun, mistar," ebra Mari'n chwap, achos dydi o na gwas na mistar i mi-hyd yn hyn, bath bynnag." Ac mi ges y nhiclo'n arw gin yr hyd yn hyn yna. Ond mi lewyrchodd dysgeidiaeth fy hen gyfaill ar fy meddwl i mor danbaid fel y deudis i wrth yr holl lot oedd yn y gegin, Wel, coeliwch chi fine beidio, dyinar gwir- Ma perthynas agos rhwyngon ni a chwn a chathod. Ma Pero'n wallgo pan wel o gath ddu—ne rhw greadur du. Ac rydw i'n deud wrtho chi, yn y fan yma, fod pob dyn byw yn wallgo ar adega. Dydi pawb ddim yn wallgo yn yr un ffordd a'i gilydd, ond raid dim ond craflu na welir fod tipin o ffwl yn y dyn calla." Pan oedd Mistar a ninna'r gweision ar y buarth, roedd Miatras, Miss Jos, a Mari'n sefyll yn nrws y gegin, ac medda mistras, Rei, Wil, ydi'r merchaid yn wallgo hefyd ? Roeddwn i wedi troi'n sydyn i drychyd yn ol pan glywis i mistras yn galw, ond ynrhw gerdded yn wysg y nghefn efo'r lleill o hyd. A phan oeddwn i'n dechre egluro'r peth i'r merchaid, dyna fi'n baglu'n erbyn talcian cafn moch, mi syrthis ar fy hyd i ganol o. a phan godis i roeddwn i'n fwyd moch ar hyd v nghefn. Fuo rioed y fath helynt ar y mben 1. Ond roedd Mari'r forwyn efo mi miawn munud, a welsoch chi rioed mor fuan y clir- iodd hi bob mymryn o fwyd moch odrliwrtha i. Ar y diwadd, ebe mistar, yn gnaiaidd, Wel, Wil, ymha gyflwr y mae dyn pan fydd o'n gorfadd miawn cafn mochyn ? Mi fflachiodd llgada Mari'n y fan, ac ebra Wil, "03 oedd bai ar rywun, mistar, ar mistras roeddo, achos yhi ddarustopio Wil ari ffordd at i waith." Ac mi geisis inriaegluro i mistar ma damwain, ac nid anian, nath i mi orfadd miawn cafn moch. Beth bynnag, mi ges i fodlonrwydd i mi f'hun fod helynt Pero a'r gath'ddu'n cadamhau peth ar farn fy nghyfaill phwlosoffyddoJ-fod pob dyn hefyd yn dipin o ynfytyn, fel tasa. Pan eis i ddechra sylwi ar ddynion fum i ddim yn hir heb gael cryfach profion i mi fy hun o'r gwirionedd o wallgofrwydd cyffred- inol na dim a fedrai ctfn a chathod i roi imi. Mi fum yn watshio'r teulu ma bob un, yn bur fanwl, ond yn ddiarwybod iddyn nliw, wrth gwrs. I ddeud y gwir, syr, Mari'r forwyn ma ydi'r unig un ohonyn nhw i gyd na fedra i'n y myw gael gwall yni hi. Rydw i wedi dal ar i golwg hi, i siarad hi, i wisgiad hi, i gwaith hi, a'i holl ymddygiada 1 mhob modd, ond fedrwn i'n y myw gredu y galla hi fod yn wahanol i fel y ma hi a bod yn naturiol a gweddus. Falla, er hynnu, ma wrth ddewis gwr y gneiff hi amlygu i gwendid-fel y gnath flawar un o'i blaen hi. Ond am y gweddill o'r bobol sy ar y ffann yma—mistar, mistras, Miss J 6s, a phawb—rydw i wedi dal nhw'n deg, ac yn gwbod i sicrwydd ar ba lein y mae'i meddwl nhw'n dyrysu. Mae nhw bob un yn wallgo ar adega, ydyn wir. Ma fy mysadd i'n ysn, syr, isio rhoi disgrifiad manwl i chi ohon- yn nhw, bob yn un agun. Imi, ma gwallgof- rwydd y bobol hyn yn eglurach o lawar hag eiddo Pero. Ond y cebyst ydi na feiddia i ddim cyhoeddi fy marn, er bod ffeithia sicr o tani hi. Fedran nh w ddim dallt y gwahan- iaeth rhwng gwaith phwlosoffydd yn casglu ffeithia am ddynoliaeth a gwaith athrodwr yn rhoi enwa drwg ar bersona. Chymrwn i ddim welai" i a galw mistar a mistras yn ffyliaid ond ma gwahaniaeth rhwng hynnu a'r n6d rydw i'n ceusio nelu ato fo. Ma pobol wedi mynd yn groendena gyddeir- iog yn ddiweddar, fel ma hi'n berig bywyd i chi ddeud dim amdanyn nhw ond i brolio nhw. A does gin i ddim tryst, taswn ni'n deud y mam wrth mistar a mistras am i cyflwr nhw, ac nad ydyn nhw ddim yn gall bob amsar, na fasa nhw'n digio'n bwt, ac falla fy sacio i. Er, a deud y gwir, ma'r gofid mwya i Ini fasa gorfod gadal Mari'r forwyn ma—os basa hi'n aros ma ar f'ol i hefyd Falla bydd rhywrai'n meddwl mod i'n ymdroi efo'r pwne dan sylw ond rydw i-Dna'n teimlo fod y pwnc yn un mor bwysig fel y rhaid bod yn ara a gochelgar iawn efo fo. Hawdd y gallswn i alw mlaen lu mawr o engreifftiau i brofi gosodiad yr hen lane fy nghyfaill, ond rhaid imi gael chwaneg o amser i ddethol a disgrifio'n gynnil a didramgwydd. Cofiwch chi ma nid matar dibwys ydi haeru nad oes undyn byw ar y ddaear nad ydio'n wallgo ar ryw lein -0 HEN WAS. I

Eisteddfod Aberystwyth.I '…

Advertising