Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Tnt livE. R POOL. HUB——-II 4k Jm ^T^mMBE mm MM MM S BmM OLD pOST OFFICE PLACI e 0" eJ!"oø $!BI.) LARGEST 50LECIJON-UWCTPglCES TELEPHONE 3075 Roy AL Eisteddfod Genedlaethol ——— 1917—— i'w chynnal yn BIRKENHEAD. Rhestr y Testynau YN AWR YN BAROD. llw eael gan y Llyfrwerthwyr nen oddiwrth y Cyhoeddu-yr. Pris 6ch. Drwy'r Post 7 te. Oyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBIONG Swyddfa'r 11 Brython."
n 0 Lofft y Stabal.
n 0 Lofft y Stabal. XVIII, MISTAR GOLYGYDD,—Wn i ddim ydach .hi'n cofio i mi dro 'n ol gyfeirio at hen lencyn o gyfaill mynwesol sy gennyf, a'r modd y pas- iodd o a minnau 'n unfrydol ein bod ni'n dau i gyf ri'n hunain mor anffaeledig a phobol erill hyd nes yr elo'r rhyfel heibio. Wel, ma'r eyfaill hwnnw'n para i alw yma'n awr ac yn y man, a da fydd ginni i weld o bob amser. Fel rheol, byddwn yn mynd am dro hefo'n gilydd hyd y caea, ond weithi a'n dwad am Ugwrs i'r Llofft ma. A phob tro y byddwn yn swarfod ein gilydd mi fydd gynno fo rhw iiwnc ne'i gilydd yn i ben. Wn i ddim am phwlosoffyddiaeth fy hun, fel tasa, ond mi fentrwn fynd ar fy llw, yng nghanol fy holl anwybodaeth, fod fy nghyfaill hwn yn dallt peth felly o'r top i'r gwaelod. Ond, yn wir, pan oedd fy nghyd-henlencyn yma ddiweddaf, mi ddeudodd un peth nath i xii deimlo nad oedd o ddim yn hawdd iawn i'w lyneu. Wyddoch chi beth, syr,mi ddeud- odd wrtha i, yn reit seriws, fod pob dyn byw yn wallgo Mi trawodd fi asyndod mawr iawn, a ehofiais am y Salmydd, yr hwn a ddywed- odd yn ei ffrwst fod pob dyn yn gelwyddog." Ond ni fynnai fy nghyfaill gydnabod ma'n deud peth ar ffrwst yroeddo, ond casgliad y daeth iddo wedi styriaeth bwyllog amaith. Meddwl di am y peth," ebra fo, ac mi gei weld 1Wd i'n iawn." Yn iawn," ebrwn inna, wrth ddeud fod pob dyn yn wallgo la," ebra fynta "ondmaeisiotipino lurh âdhefyd. Rhaid iti goiio fod graddau »iiawn gwallgofrwydd, ac amrywiol ffurfiau arno fo. Ma rhai'n wyllt ac anhydrin a pher. yglus yn i gwallgoirwydd. ac ma erill yn hollol ddiniwad, a'r rhan fwyaf o lawar yn ymddwyn mor resymol fel nad oes neb yn meddwl amdanynt ond fel pobol gall. Waeth iti yn y byd, Wil, ein. sicred a dy fod di'n pwyso ar y rhagddor yna, ma pob dyn, i rw raddau, yn orffwyllog. Dydi'rtrueiniaidsy'n j gwallgofdai ddim yn wallgo ar bob peth. Ma nhw'n meddwl a siarad cin galled a neb ar rw betha; a phan a nhw at rhw un pwnc neilltuol, fel rheol, y ma nhw'n dyrysu. Ma'r peth mor eglur a'r haul ganol dydd ac mo syml a'r ABC. Rydw i fy hun, a rhaid dy fod ditha hefyd, yn nabod pobol sy'n siarad ac yn gweithredu'n hollol resymol a doeth hyd nes y d6n nhw at rhw un peth, ac yna ma nhw'n mynd yn wirion boat. Ac yn teur gyflEredin, mae'r elfen wallgo sy miawn pobol yn rhan o'r gynysgaeth naturiol a gawson nhw ar y cyntaf. Er engraifft,-yr i anian i brydyddu, yr anian i ganu, yr anian ddeud clwydda, yr anian i dwyllo, yr anian 1 gario straeon, yr anian i gybydda, yr anian falch, yr anian i geisio clod, etc. Yn ddios, Wil, rwyt ti'n nabod pobol felly, a raid iti ddim ond i watshio nh w na weli di i bod nhw'n ymddwyn yn afresymol, felly'n orffwyllog, wrth gwrs, pan fo'u meddwl yn troi o gwmpas y petha neilltuol yna. Sylwa di dresot dy hunan." Wel, syr, a deud y gwir, prin roeddwn i'n teimlo fod cwestiwn fel hwn yn un i ddwad ag o i'r hen Lofft ma. Mi fydd un pwnc dyrys fel hyn yn y mhen i yn fwy o rwystr imi gysgu na thasa gant o lygod mawr o gwmpas y Bgwely i. Ond rydw i wedi arfer rhoi pwys ar yr hyn fydd fy nghyfaill yn ddeud fel na fedrwn i'n fy myw beidio meddwl am y pisin diweddaf o phwlosoffyddiaeth a ges i gynno fo. A pheth arall, syr, po fwya ydw i'n feddwl am y peth. mwya rhesymol yr ym- ddengys hynny ydi, mwya tebig i wir. Beth bynnag i chi, mi ddechreuis i feddwl am bobol o fath y rhai a grybwyllodd yr hen lane wrtha i, a sylwi ar erill agvfarfyddwn ni. Mi gafodd y byd i weddnewid i mi pan eis i i geisio profi prun ai gwir ai anwir y fam am- dano fo,—fod pob sowl o'i fiawn, ar adega, yn wallgo. dd I ddeud y gwir, rhaid imi gyfadda i-rai ddechra fy sylw efo Pero,. rhw gi sy'n y teulu ma, ac yn cael croeso ffefryn i'r ty. Pan oeddan ni ar ganol brecwast, dyna Pero'n chwrnu'n ffyrnig, ac yn rhuthro i'r pantri, ac yn gneud y twrw mwya dychrynllyd wrth dymblo llestri oedd yno. Buan iawn yr oedd Mari'r forwyn ma ar i ol o,?ac mi fu'n dda gin Pero gael dianc allan. <( Bedi'r matar ar Pero, Mari ? gofynai mistar. 0, gweld y gath ddu ddaru o ac mae o'r un fath efo hi bob amsar," ebra Mari. "Diaist i, Mari," ebra mistar, "ma gynno fo rhw gasineb at greaduriaid duon, cin wired a mod i'n y fan ma. Mao o'n hollol dawal efo'r cathod erill. Ac rydw i wedi sylwi i fod o'n ffyrnigo miawn munud pan wel o gi die, ond yn pasio own o liw arall yn ddigon didramgwydd." Ac 'roedd mistras wedi dwad i'r gegin, ac ebra hi, Neno dyn, ond ddyla chi wbod fod Pero bach bob amser yn ffreuo efo'r gath ddu. Mi wyddoch o 'r gora'i fod o 'n rhedag fel ffwl ar ol brain. Dda gynno fo ddim gweld mochyn du na dafad ddu. Dyda chi ddim yn cofio'rhen swip hwnnw, dro'n ol, ddoth at y drws ma i ofyn am ddicd o laeth, pan ar i ffordd i'r Plas ? Grym annwl! mi ddylis i basa Pero wedi ladd o." "Wel," ebra mistar, wrth f godi i fynd allan, ac yn wincio ama inna, yr unig beth elli di neud, Mari, ydi gofyn i Wil chweitchwasio'r gath ddu, neu i phaentio hi'n wyn." Gofynwch iddo fo'ch hun, mistar," ebra Mari'n chwap, achos dydi o na gwas na mistar i mi-hyd yn hyn, bath bynnag." Ac mi ges y nhiclo'n arw gin yr hyd yn hyn yna. Ond mi lewyrchodd dysgeidiaeth fy hen gyfaill ar fy meddwl i mor danbaid fel y deudis i wrth yr holl lot oedd yn y gegin, Wel, coeliwch chi fine beidio, dyinar gwir- Ma perthynas agos rhwyngon ni a chwn a chathod. Ma Pero'n wallgo pan wel o gath ddu—ne rhw greadur du. Ac rydw i'n deud wrtho chi, yn y fan yma, fod pob dyn byw yn wallgo ar adega. Dydi pawb ddim yn wallgo yn yr un ffordd a'i gilydd, ond raid dim ond craflu na welir fod tipin o ffwl yn y dyn calla." Pan oedd Mistar a ninna'r gweision ar y buarth, roedd Miatras, Miss Jos, a Mari'n sefyll yn nrws y gegin, ac medda mistras, Rei, Wil, ydi'r merchaid yn wallgo hefyd ? Roeddwn i wedi troi'n sydyn i drychyd yn ol pan glywis i mistras yn galw, ond ynrhw gerdded yn wysg y nghefn efo'r lleill o hyd. A phan oeddwn i'n dechre egluro'r peth i'r merchaid, dyna fi'n baglu'n erbyn talcian cafn moch, mi syrthis ar fy hyd i ganol o. a phan godis i roeddwn i'n fwyd moch ar hyd v nghefn. Fuo rioed y fath helynt ar y mben 1. Ond roedd Mari'r forwyn efo mi miawn munud, a welsoch chi rioed mor fuan y clir- iodd hi bob mymryn o fwyd moch odrliwrtha i. Ar y diwadd, ebe mistar, yn gnaiaidd, Wel, Wil, ymha gyflwr y mae dyn pan fydd o'n gorfadd miawn cafn mochyn ? Mi fflachiodd llgada Mari'n y fan, ac ebra Wil, "03 oedd bai ar rywun, mistar, ar mistras roeddo, achos yhi ddarustopio Wil ari ffordd at i waith." Ac mi geisis inriaegluro i mistar ma damwain, ac nid anian, nath i mi orfadd miawn cafn moch. Beth bynnag, mi ges i fodlonrwydd i mi f'hun fod helynt Pero a'r gath'ddu'n cadamhau peth ar farn fy nghyfaill phwlosoffyddoJ-fod pob dyn hefyd yn dipin o ynfytyn, fel tasa. Pan eis i ddechra sylwi ar ddynion fum i ddim yn hir heb gael cryfach profion i mi fy hun o'r gwirionedd o wallgofrwydd cyffred- inol na dim a fedrai ctfn a chathod i roi imi. Mi fum yn watshio'r teulu ma bob un, yn bur fanwl, ond yn ddiarwybod iddyn nliw, wrth gwrs. I ddeud y gwir, syr, Mari'r forwyn ma ydi'r unig un ohonyn nhw i gyd na fedra i'n y myw gael gwall yni hi. Rydw i wedi dal ar i golwg hi, i siarad hi, i wisgiad hi, i gwaith hi, a'i holl ymddygiada 1 mhob modd, ond fedrwn i'n y myw gredu y galla hi fod yn wahanol i fel y ma hi a bod yn naturiol a gweddus. Falla, er hynnu, ma wrth ddewis gwr y gneiff hi amlygu i gwendid-fel y gnath flawar un o'i blaen hi. Ond am y gweddill o'r bobol sy ar y ffann yma—mistar, mistras, Miss J 6s, a phawb—rydw i wedi dal nhw'n deg, ac yn gwbod i sicrwydd ar ba lein y mae'i meddwl nhw'n dyrysu. Mae nhw bob un yn wallgo ar adega, ydyn wir. Ma fy mysadd i'n ysn, syr, isio rhoi disgrifiad manwl i chi ohon- yn nhw, bob yn un agun. Imi, ma gwallgof- rwydd y bobol hyn yn eglurach o lawar hag eiddo Pero. Ond y cebyst ydi na feiddia i ddim cyhoeddi fy marn, er bod ffeithia sicr o tani hi. Fedran nh w ddim dallt y gwahan- iaeth rhwng gwaith phwlosoffydd yn casglu ffeithia am ddynoliaeth a gwaith athrodwr yn rhoi enwa drwg ar bersona. Chymrwn i ddim welai" i a galw mistar a mistras yn ffyliaid ond ma gwahaniaeth rhwng hynnu a'r n6d rydw i'n ceusio nelu ato fo. Ma pobol wedi mynd yn groendena gyddeir- iog yn ddiweddar, fel ma hi'n berig bywyd i chi ddeud dim amdanyn nhw ond i brolio nhw. A does gin i ddim tryst, taswn ni'n deud y mam wrth mistar a mistras am i cyflwr nhw, ac nad ydyn nhw ddim yn gall bob amsar, na fasa nhw'n digio'n bwt, ac falla fy sacio i. Er, a deud y gwir, ma'r gofid mwya i Ini fasa gorfod gadal Mari'r forwyn ma—os basa hi'n aros ma ar f'ol i hefyd Falla bydd rhywrai'n meddwl mod i'n ymdroi efo'r pwne dan sylw ond rydw i-Dna'n teimlo fod y pwnc yn un mor bwysig fel y rhaid bod yn ara a gochelgar iawn efo fo. Hawdd y gallswn i alw mlaen lu mawr o engreifftiau i brofi gosodiad yr hen lane fy nghyfaill, ond rhaid imi gael chwaneg o amser i ddethol a disgrifio'n gynnil a didramgwydd. Cofiwch chi ma nid matar dibwys ydi haeru nad oes undyn byw ar y ddaear nad ydio'n wallgo ar ryw lein -0 HEN WAS. I
Eisteddfod Aberystwyth.I '…
Eisteddfod Aberystwyth. I r 1 Beirniadaeth I TRAETHAWD 'Dylanwad Dr. T. Charles Edwards ar Addysg\a\Meddwl Cymru. 1, AR y testun uchod, dcrbyniwyd traethodau gan ymgeiswyr yn dwyn y ffugenwau can- lynol Monarddydd, Adgof, ac Un fu'n ddisgybl iddo. Darllenais y tri thraethawd gyda llawer o ddiddordeb a mwynhad. Yr oedd fy edmygedd o fy hen athro—Dr. T. Charles Edwards—yn peri fod dilyn rhawd ei fywyd ac ail Sylwi ar ei ddylanwad dyrchafol ar Addysg a Meddwl Cymru yn orchwyl prudd bleserus i mi. Yn yr ysbryd boddhaus hwn v darllenais y traethodau y tro cyntaf. Yna bu raid i mi newid i raddau fy wynebwedd tuag at' y cyfansoddiadau ac ymgymeryd a'r gwaith llai pleserus o'u beirniàduer m wyn penderfynu eu gwerth perthynasol. Fel y gellid yn naturiol ddisgwyl,y rnae 'r tri ymgeis- ydd yn cyduno yn eu mawrygiad edmygol o ddylanwad y diweddar Brifathro ar Addysg a Syniadaeth Cymru. Ond rhaid i mi ych- wanegu fod eu dull o ddangos hynny yn amrywio'n fawr. Y mae traethawd Monarddydd yn ar- ddangos llawer o graffter a nerth meddyliol. Cydolygwn yn llawn a'r oil, ymron, o'r hyn a ddywed am nodweddion a rhagoriaeth Dr. Charles Edwards fel dyn., fel y.Tolha;g, ac fei athro. Ond o'i gymharu ahawliau eglurder yn ei ymdriniad a'r testun teimlwn mai anffodus fu yn ci ddewisiad o'i gynllun i dra- fod y mater. Y mae'r defnyddiau amrwd yma, ond nid oes yn y traethawd brofion o gelf yr adeiladydd cywrain. 0 ddiffyg cyn- llun eyfaddas cawn ef yn ailadrodd yr un gosodiadau, ac yn aildeithio dros yr un llwybrau. Y mae'r cyfansoddiad 3nnhell o fod yn dyfiant naturiol fcl eiddo pren, ac yn fwy tebig i addurnwaith allanol. Ychydie- o werth i amcanion y testun yw'r Rhagair sydd yn cyfeirio at wrthryfel diweddar y Celt yn erbyn y Teuton, ac ynglyn a'r prif offerynau yn y gwrthryfel hwn," dywed yr ymgeisydd, rhoddir arbenigrwydd i weithredoedd a phersonoliaeth Dr. T. C. Edwards. Ymae y gallu wedi ei drosglwyddo o afael y Sais i ddwylaw y werin Geltaidd, ac y mae hyn i raddau mawr yn ff rwyth gwaith bywyd y prif- athraw." Ond yn nes ymlacn ar tud. 29, dywed a ganlyn Yn rheng Coleg y Brif. ysgol gwelir ysgolheigion gwyoha o brif ysgolion Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Ffrainc, a'r Almaen, yn broffeswyr ae yn ddarlithwyr sefydlog." Prawf y ffaith hon nad cywir y gosodiad blaenorol fod y prifathro yn Geltiad cul a gwrth-Deutonaidd; Wedi darllen rh annau o' r t raeth awd h wn droso dd a th ros odd teimlwn mai un o'i wendidau amlycaf yw tuedd yr awdur i wneud hacriadau heb un ymgais i'w'kprofi trwy englireifftiau o fywyd ac ysgrifeniadau yPrifathro ei hun. Er eng- hraifft, ar tud. 4, dywed Saif Dr. T. C' Edwards am feddyliau a ffeithiau, meddyl- ddrychau a dyheuadau yn hanes ei wlad." Ond niddilyniry gosodiad gan unrbyw brawf. Y frawddeg gyntaf yn adran II o'r traethawd yw yr un a ganljni Digwyddiad diddorol ynglyn ag Addysg yng Nghymru oedd gwaith y Brifysgol yn rhoddi'r gradd o D.D. i'r prif athraw argyfrif ej wasanaeth i Addysg a'i ragoriaeth fel Esboniwr y Testament Newydd." Gwneir y gosodiad yma cyn i'r ymgeisydd ddechreu ymdrin a hanes e was an aeth y prifathro i Addysg ac Esboniadaeth." Y mae gan yr awdur allu rhyfedd o arffcdus (a defnyddio'r gymhariaeth werinol) i osod y cart o flaen y ceffyl. Cawn yn y traethawd lawer o sylwadau cryfion a chywir o barthed i ddylanwad syniadaeth a theithi cymeriad y prifathro. Er enghraifft, tud. 14 "Credwn nad ydym yn arfer gormodiaith wrth ddweyd fod y prifathraw Edwards, a chymeryd pob- peth arei gilydd yn nyfnder ac eangder ei ddylanwad ar dduwinyddiaeth a JIenydd- iaeth, yn un o'r dynion mwyaf a gynyrchodd Cymru yn y ganrif ddiwcddaf." Gall hyn oil fod yn wir. Ond i gario argyhoeddiad o'i wirionedd i feddwl y darllenydd dylai'r awdur ymgymeryd a'r dasg o ddadelfcnnu ac egluro rhai o lyfrau'r Prifathro, gan ddangos eu mawredd a'u gwerth. Ond yn anffodus ni wnei r un ymgais at hynny. Hyn yw gwendid amlycaf y traethawd. 0 ran iaith ac arddull nid yw'r cyfansoddiad na chywir na choeth na chwaethus. Hawdd y gellir canfod ynddo frychau a meflau lawer, e.g. Cafodd y myfyr- wyr y fraint o weled yr esboniadaeth yn tyfu yn ci ddwylaw." Y mae gwylcidd-dra a pharch ym mhresenoldeb gwirionedd ysbrydol wedi myned ynllaw yn llaw." Clywsom un Pcdagog plwyf unwaith." Os digwyddai fod yn fwy tawel nag arfer, ni byddai yn dweyd pethau nad allasai neb eu dweyd ond perchen athrylith gref." Anaf arall ar ei arddull yw ei ddefnyddiad mynych o eiriau ac ymadroddion Saesneg pan y gellid yn hawdd amlygu'r ystyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft Dynion epoch-making- y rhai sydd yn creu cyfnodau." Yr insight yn troi yn foresight." Beth pe gallasai rhywun fwrw ei horoscope." Yr oedd y prif athro yn man of affairs.' Ar ol gwneud y dyfyniad a dangos ei fearing ar adnod ei destun." Yn ychwanegol rhydd yr, ymgeisydd i ni rai dyfyniadau lied feithion o'r Saesneg heb un ymgais i'w eyfieithu. Yn rhyfedd iawn, dyry i ni adnod o Esaia yn Saesneg, ac nid yn Gymraeg, heb unrhyw reswm am hynny. Oherwydd y diffygion a enwyd nis gallwn osod traethawd Monarddydd yn uchel yn y gystadleuaeth, er ei fod, fel yr addefwn, yn cynnwys llawer o sylwadau rhagorol a gwir werthfawr. Adgof.-Mae gan Adgof draethawd maith iawn. Rehnnir ef i saith o benodau yn dilyn ei gilydd, yn weddol naturiol, ac yn rhoddi mantais i'r ymgeisydd sylwi ar holl arweddion bywyd arnlochrog y prifathro. Yn y bennod gyntaf, dyry i ni hanes llawn a thra diddorol am ddechreuad a chynnydd addysg elfennol, clasurol ac uwchraddol yng Nghymru, hyd at y eyfnod yr agorwyd Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Wedi hynny, dengys yn fanwl y rhan amIwg gymerodd T. C. Edwards yn nygiad ymlaen y Coleg i'w sefyUfa o lwydd diamheuol. Yn yr ail bennod, ymdrinia a dylanwad y prifathro ar y myiyrwyr. Cyfeir 1 ia at ysylw a dalai, a'r pwysigrwydd a gysyllt- ai ameithrin ym meddyliau yr efrydwyr hoff- ter at y prydferth, yn y celf a-Li cain, mewn llen- yddiaeth, ac mewn cymeriad moesol da. Cywir, fel y gwyr llawer, yw y cyfeiriad at ei garedigrwydd i efrydwyr tlawd eu li amgylch iadau ynglyn a'r cyf nod yma cawsai'r prif- athrol weledigaeth mwy eglur na'r enwad- garwyr gorselog o barthed i wir berthynas y Colegau Diwinyddol i Cl-tolog au y Brifysgol; y cyntaf i gyfyngu eu sylw at ddiwinyddiaeth gan adael i'r Colegau Cenedlaethol y gwaith o baratoi'r efrydwyr trwy addysg glasurol ac athronyddol, ar gyfer y cwrs diwinyddol. Yna cerdd yr ymgeisydd rhagddo ij ddangos ymdrech y prifathro i unoli bywyd y genedl Gymreig. Dengys fod eangder ei gyd- ymdeimlad a'i ryddid oddiwrth bob culni a rhagfam enwadol yn ei gymhwyso i wneud hyn 0 wasanaeth tra angenrheidiol. Yn y cyfeiriad yma yr oedd y prifathro yn weled- ydd ac yn broffwyd gwirioneddol. Dadleuai dros un Coleg Diwinyddol i'r holl enwadau fel un o amodau sylweddoli'r syniad am Un Eglwysi Rydd Unedig. Yn y bedwaredd bennod, ymdrinia a'i ddylanwad fel diwinydd gyda chyfeiriad at ei Ddarlith Davies 11 ar y Duw-ddyn." Yny penodau dilynol cawn ganddo ymdriniad arno fel esboniwr ac fel pregethwr. Gorffennir y traethawd maith a diddorol hwn gyda nodi'r dylanwadau a fu'n ffurfio ei gyrneriad, a'r rhai trwy hynny gyfrif- ant am ei ddylanwad pell-gyrhaeddol yntau ar fywyd a meddwl ein cenedl. 0 ran cynllun ymae, vnfvmarni. vn rhaeori llawer a,r eiddo Monarddydd. Ar lawer golwg, y mae hwn yn draethawd gwir alluog. 0 ran ei gynnwys y mae'n hawlio canmoliaeth uchel. Ond prin iawn y mae gwisg lenyddol y gwaith yn deil- wng o'r corff o syniadaeth gref sydd yn ei nod- weddu. Yn sicr, nid oes yma yr uniad cym- harus rhwng y ffurf a'r mater sydd yn amod celfwaith prydferth. Ar adegau, ymddengys Adgof fel pe'n esgeulus a diofal iawn am gein- der a choethder llenyddol. Er enghraifft Ond er rhagored yr ysgolion hyn ychydig oedd yn eu mynychu ag eithrio plant y ben- defigaeth." Dyma yn yr un frawddeg ddau wall pwysig. Prin y disgwylid hyn mewn traethawd mor alluog. Eto, Carodd Griff- ith Jones ei genedl yn angherddol wedi dysgu cynnifer a 150,000 i ddarllen, a gadawodd £ 7,000 i gario y gwaith yn ei flaen." Eto I/ofrai'r delfryd hv;n o fewn uchelgais y genedl o ddyddiau Llywelyn hyd ddyddiau Syr Huw Owen." Syrthia i'r brofedigaeth o geisio Cymreigio geiriau Saesneg pan y gellid cael geiriau Cymraeg da i amlygu'r syniad; e.g., dwyn bywyd y gorffennol i fario ar fywyd presennol y genedl ond phauperisiai ef neb "I gasglu y remnant megis Ni pherthynai i Adda ac Efa ond posibilrwydd moesoldeb -,potential beings oeddynt"; "gosododd diwinyddiaetli ar front bywyd y genedl "nid pechod yn yr abstract ond pechod yn y concrete oedd nod ei saethau ef dysgai fod yn rhaid vitalisio gwirioneddau." Dyna rai o'r anafau llen- yddol sydd yn hacru wyneb y cyfansoddiad. Yn sicr dylasai'r ymgeisydd fod wedi gofalu am wisg ragorach i'w syniadau. Cydolygaf yn hollol a'r awdiirpan'yn ymdrin A,dylan-.vad y prifathro fel diwinydd ar feddwl Cymru. Cyfeiria at ei lyfr at y Duw-ddyn fel prawf. Ond yn sicr buasai'r prawf yn fwy boddhaol pe buasai'r ymgeisydd wedi dadansoddi'r llyfr neu roddi brasluno'i gynnwys. Yn llehynny ymfoddlona yn ormodol ar dystiolaeth eraill amdano. Amheuwn gywirdeb y sylw ddar- fod i'r prifathro ddwyn y wedd ddalblygol i athrawiaeth yr Ymgnawdoliad i sylw'r genedl." Ai nid oedd meddwl yr ymgeisydd yn hepian pan yn gwneud y sylw canlynol "I'r prifatbraw brenin-feddwl yr Apostol (yn yr Epistol at y Corinthiaid) oeddCyfamod, ac yng ngoleuni'r gwirionedd hwn yr edrych efe ar holl wirioneddau yr Efengyl. Gwyr y cyfarwydd fod hyn yn hollol groes i sylw pen- dant o eiddo'r prifathro yn ei Ragair i'w esboniad. Dyma ei eiriau "The conception of a mystical union between Christ and the believer, as it is the pivot of the apostle's entire theology, so it is the key to the intrica- cies of this epistle." Yn syn,- ni sonia'r un o'r ymgeiswyr yn bend ant am yr elfen o gyfrin- edd a nodweddai fywyd a syniadaeth ddiwin- yddol y prifathro. Fel hyn, Ueiheir gwerth y traethawd rhagorol hwn gan ryw ddiofalwch esgeulus a brychau llenyddol y gellid gyda gofal yn hawdd eu hosgoi. Un fxCn (-Idisgybl iddo.-O ran cynllun nid oes lawer o wahaniaefch rhwng y traethawd hwn ac eiddo Adgof. Yn y bennod gyntaf rhydd i ni hanes tyfiant graddol darpariadau addysgol Cymru. Gwneir hyn ganddo gyda medr un sydd yn hollol gyfarwydd a'r maes. Yn yr ail bennod cawn ganddo fraslun o hanes gyrfa addysg T. C. Edwards, a'r camrau gymerodd Addysg Cymru tra yr oedd ei yn ymbaratoi at gyfer gwaith ei fywyd. Yn y drydedd bennod olrheinir dylanwad T. C. Edwards yn y cymeriad o Brifath ro Coleg Aberystwyth. Ei brofiad yno yn dangos iddo yr angen am berffeithio cynlluniau Addysg Cymru trwy sefydlu Ysgolion Canolraddol a Phrifysgol i uno'r oil. Yn y penodau dilynol ymdrinir a dylanwad y prifathro ar feddwl Cymru,yn addysgol, yn foesol ac yn ddiwin- yddol. Ond prin y gall y braslun anghyfiawn uchod gyflwyno un syniad, heb son am syniad cyflawn a chywir, am nodwedd yr ymdriniad a'r cwestiynau y cyfeirir atynt. Y mae gwy- bodaeth gyffredinol yr awdur o hanes foreuol a diweddar Cymru yn tailwg yn ei ddull meistrolgar a threfnus o ymdrin a holl ar- weddion y testun. Nodweddir ei arddullgan swyn sydd yn hud-ddenu'r darllenydd i ddarllen rhagddo gyda mwynh ad dibaid. Fel dernyn o lenyddiaeth mewn Cymraeg priod- ddulliol anodd ei ganmol yn ormodol. Fel crynbodeb o Hanes Addysg yng Nghymru o'r oesau boreuaf hyd ein dyddiau-ni anodd cael ei ragorach. Ac fel teymged o barch i ysgolheigdod, llafur a chymeriad y prifathro y mae yn gwbl rydd oddiwrth yr ormodiaith sydd yn fwy o anf antais nag o- fantais i'r un a orfolir. Yn ei fam o barthed i'r rhan a chwareuodd y prifathro ynglyn ag addysg Cymru a'i ddylanwad dyrchafol ar feddwl ei oes y mae'r ymgeisydd hwn yn fwy cymesur ac addfed na'r un o'i gydymgeiswyr. Y mae traethawd Adgof yn dwyn profion o wybod- aeth eang a llawer o nerth 1 eddyliol. Yn ei gyfeiriad at rai o nodweddion meddwl a chymeriad y prifathro, megis ei hoffter o'r I prydferth mewn celf a llenyddiaeth a'i awydd am argraffu pwysigrwydd hyn ar feddyliau'r myfyrwyr, y mae'n rhagori ar eiddo Un fu'n ddisgybl iddo; ond fel cyfanwaith celfydd V mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt Pe'n edrych yn unig ar gynnwys y ddau, fel hanes addysg Cymru, nid yw'rgwahaniaeth yn rhyw lawer ond fel llenyddiaeth y mae'r pellter rhyngddynt yn ddirfawr. Wedi darllen ae ailddarllen y tri thraethawdgaJluog anfonwyd i'r gystadleuaeth, nid wyf yn petruso datgan fy mam initi eiddo Un fu'n ddisgybl iddo yw'r goreu, a'i fod yn llawn deilwng o'r wobr. D. ADAMS.
Advertising
TeNp&oae Riynjlli? a«6aJiSuia»dl88i ROBERT ROBERTS 11STATS AQSNT, aa Netfeerfield Road Souih, Has Property to Let III vadoul parte of t¡, owv. Mortf get arranged. Voinationsmad, 205 Established 1884. 'Phone 114072cotle, 1547 WOOSNA,M ROBERTS.! F.A.I., Ettate Agent, & Bootle Estate Off ice,, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, (2 doors from Bedford Road) Telegrams WOOSNAM. BooTtJt. Telephone No. 790S. J. LEWIS JONES, ■STATis. AGBNT VALUBR, 60 Victoria St.. Liverpool., Properties carefully managed. Beets P"ky,- aonally collected. Forehasen and Sales > gotlated. Mortgages arranged and Ia«firc»«!i- effected. THOMAS JONESJ FglBTATB AGISTS VALUERS. ISMILDINCS. 67 Eord Street, LiTerpo#!# Telephone No. -18fJ8 Ba&k. £ J Properiiea Bought &ad 961d. Mc»g&$ £ r, arranged. Talnationa made. Beats co!leetii| TIB. SI 7 Amnwm. AnuADiumaxiD !2. Stephen Roberts & Son, MMTATM AQMNTM TALUMRM 137 Evertonpoad.jlLiverpool Propert es carefully managed. Rente g<n aonally Coilected. Purchases and idfcafs negotiated. Mortgagee arranged and X* ourerect sfSrcted. nenryiiljones ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool FFBBI BAVK ".1& 0. jones miliums,M.i., IMTATE AGENT h VALUKR, 11 Boundary Pla ce, Moss Sil-I Liverpool. Eat. 1885. Telephone I 567 Royat felepbcffitt 8586 Bank JONES & HUGI-IES ESSAIM OFFICE, 13 Whitechapei. Liverpoul FREEHOLD LAND FOR SALB* Advances Made. R. E. HUGHES, Bstate Agent, Surveyor 49 Valuefl-t Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.-SO B'head. Has Houses to Let and for Sale In various parim, of the Town and out districts. Also Land to be, Bold for Building purposes. AdMMee? Made te Sold for Bufldin Lg. laid 00t. Dente?colleoudmd Property carefully managed. ANWTD, PESWCHft INFLUENZA—Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinrawdd gyfnewidioF fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadi. Y mae'r hen feddyginiaeth "DAVIES'S COUOE MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwertb- fawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, ym fely., yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. II. 11l. a u. 911 (postage, 3^.)-HUGH DAVID, Chemist, Machynlleth SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.-Dynayrhyn, y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groea afiach, ysfa, pimplet, toriad allan, scurvy, doluriau pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botelaid o Sarzine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 23. gd. y botel, neu gyda 3J. at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchennog- HUGH DAVILIS, Chemist, Machynlleth. Y mae PEIRIANNAU GWAU ROSANo NAU yn foddion hapusmydd a bywoliaeth i filoedd o deuluoedd. Ceir y Dall, y Cloff, ac eraill ymysg ein cwsineriaid. Rhestr ac hjrfforddiant yn rhad. Sefydlwyd 1871—> W. Griffiths, 30 Queen Street, Neath.