Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

tin Csnsdi ym Maneeinion.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

tin Csnsdi ym Maneeinion. I r Cenhadon y Sul Nesaf. I Y METHODlSTIAID OALFIN AIDD Moss SIDE-10.30 a 6.30 G P Hughes. Morfa Nefyn PENDLKTOX—10.30, Hugh Jones, 6 R Williams HEYWOOD ST-10.30 R Williams, 6, VICTORIA PK-10.30 6, Hugh Jones FARNWORTH-IO-30 W WLloyd. 6. Q 14 Williams LEIGH—10.30 a 6 WARRINGTOU—10.30 a 6, E Humphreys, Rochdale EARXESTOWN—10.45 a 6,30, ASHTON-UNDEB-LTNE—10.45 a 6.30. D Hughes, Bootlc EGLWYS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30, G Macdonald YR ANNIBYNWYR OHORLTON RD-10.30 6.15, BOOTH ST-10.30 a 6.15, Joseph James. Llandysilio QUEERS ROAD—10.30 a 6.15, Cyfarfod Gweddi LD DUNCAN ST, SALFORD-10.30 a 6.15, J Morris HOIMNWOOD—10.30 a 6.15, Y WESLEAIP DEWI SANT-I0.30, FL, J Felix HOREB—2.30 W G Jones, 6, W Rowlands SEION-I0.30, John Felix, 6, Harold Roberta BEAULAH—2.30 a 6.30, D R Rogers OALPARIA—10.30, D R Rogers, 6, J S Williams WEASTE—10.30, Harold Roberts, 6-30, W G Jones Y BEDYDDWYR UP, MEDLOCK ST.-10.30 a 6 J H Hughes LONGSIGHT-10.30, 6 30 ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5,30 DAW DYDD 0 BRYSUR BWYSO.— Wele ysgrif amserol Gymro myfi sydd yn gyfnfol qrn gadw ei enw'n gudd, fel y caffo pawb fyfyrio ar yrhyn a ddywed yn unig Atgofir ni yn fynych gan y proffwvdi am yr hyn a ddigwydd wedi'r rhyfel. Pan adferir heddwch bydd daear newydd meddant, os nad nefoedd newydd a dangosant ddarlun gobeithiol o gyfnod pan na fydd milwriaeth yn aflonyddu ar dangnefedd byd. Nid pawb ohonom a all gredu hyn, ond y mae rhagolyg- on y presennol yn ein sicrhau y bydd bywyd a daearyddiaeth Ewrop yn wahanol iawn i'rhyn ydoedd. Nid oes gennym ni'r Cymry fawr o gariad at filwriaeth, a mawr obeithiwn na ddaw yn allu llywodraethol yn ein gwlad er ein bod heddyw yn ymfalchXo fod degau o filoedd o'n cydgenedl dan arfau. Ofnwn fod rhai yn ein gwlad yn ddigon parod i ddilyn Germani yn ei gwaethaf yn lie ei goreu, heb sylweddoligwersyr aflwydd a gynhyrchodd. Mae dydd yn dod-ni wyr neb pa bryd-pan dderfydd y rhyfel, a daw'r milwyr yn ol i'w cartrefi, ac i fywyd cymdeithasol. Sut dder- byniad a roddir iddynt gan fyd ac eglwys ? Mae pwys y cwestiwn i'w ystyried yn bennaf o safbwynt crefydd oblegid mae'r milwyr wyneb yn wyneb ag angau a thrwy ffwrneis- iau tanllyd y deuant i ddiogelwch gwelant drothwy byd arall yn nes nag erioed o'r blaen, a theimlant bresenoldeb y Duw byw yn ym- symud hyd fynwentydd o greadigaeth dyn. A dderbynia'r Eglwys y milwyr yn ol megis pe na ddigwyddodd dim anarferol ? Na ato Duw i'n syniad ddisgyn mor isel. Bydd gwaed y rhai na ddychwelant fel drychiolaeth o gyfrifoldeb na ellir ei hosgoi. Hawdd son am gyfnewidiadau ar ol y rhyfel. Ond mae yr hyn a ddigwydd yfory yn dibynnu llawer ar yr hyn a wneir heddyw. Heddyw'n unig yw eiddo pob dyn. Beth ywhanes yr Eglwys heddyw ynglyn a'r milwyr ? Chwiliwn am ateb yn hanes ei doe. Yn fuan ar ol dechreu y rhyfel, deffrodd rhai aelodau crefyddol i'w dyletswydd o ffurfio cadwyn i gysylltu'r rhai oedd yn myned i'r Fyddin a'r rhai a arhosent gartref. Bu'n llwyddiant mawr, ac y mae nifer bron ym mhob addoldy ym Manceinion, a llawer lie arall, yn cofio am y milwyr mewn gohebiaeth, neu gylchlythyrau, neu anrhegion. Pa le bynnag yr elont cedwir cysylltiad a. hwy, ac nid yw'r safleoedd a'r amgylchiadau yr oeddynt ynddynt cyn y rhyfel yn eu rhannu'n ddosbarthiadau, nac yn peri gwahaniaeth rhwng hwn ac arall. Milwr yn unig yw y Lieutenant fel y Private. Dyna un o agweddau Cristionogaeth wir- joneddol. Anfonodd un o'rmiIwyrlythyr i'r Dwyrain yn disgrifio'r brodorion yn cadw gwyl, a chyfarchent ei gilydd, meddai, gyda'r geiriau "Crist a gyfodwyd ac wrth ei ddweyd, tanient lawddrylliau i ddycbrynnu'r ysbrydion drwg. Dyna gymysgedd o bagan- iaeth a Christionogaeth wedi cydgyfarfod yn nisgynyddion Socrates ac Aristotle. Cymer- wn weithred y Dwyreiniwr yn wers, oblegid nid amhosibl i ninnau ymffrostio yn ein Crist- ionogaeth ar un Haw, ac ar y llall weithredu rhywbeth hollol wrthwynebol. Arfer y Cym- ry yw beimiadu duwioldeb oddiwrth agwedd ein haddoliad cyhoeddus, a chyfrifir pob gwaith y tuallan i'r addoliad ffurfioi yn rhyw- beth bydol a thymhorol. Fe ddichon mai hyn oedd opiniwn y Cristionogion cyntaf, am na ddeallent yr ysbrydolrwydd Dwyfol oedd yn y weitherd o estyn cwpanaid o ddwr oer i'r sychedig yr oedd ymysg y rhai anneallus hynny rai o'r diwinyddion pennaf a Christ- ionogion cydnabyddedig eu proffes. Un o'r creithiau hacraf ar Gristionogaeth terfyn y ganrif ddiweddaf oedd y diystyrwch a ddang- oswydathen wroniaid Lucknow a Cbrimea, a'r orfodaeth a fu arnynt i gardota, neu geisio noddfa yng ngweithty'r Undeb, i aros am wastadhau'r amgylchiadau. Cyn y rhyfel, nid oedd yr Eglwys ond crud i feithrin y class distinction Phariseaidd. Ymlidiwyd y tlodion o 'n haddoldai, dangoswyd nad,oedd eu heisiau ni fugeiliwyd ond y da eu hamgylch- iadau, ac ni chroesawyd ond y trwsiadus. Dyn golygus heb enaid oedd dyn mawr yr Eglwys cyn y rhyfel. Ai yr un hanes dwys fydd iddi eto ? Neu, a wnahi arwain i wneud bywyd yr arwyr ieuainc presennol yn esmwythach na bywyd yr hen arwyr, pan gyhoeddir heddweh, a phan ddechreuir anghofio beddau Ffrainc a Galipoli ? Ymhob rhan o'r deyrnas ceir y cloffion, yr anafusion, a'r deillion yn esiamplau byw o effeithiau'r rhyfel, ac ni fydd ganddynt y wisg filwrol yn hudoliaeth i ennyn ein cydymdeimlad. Diau y cant rhyw gymaint o dosturi gwladwriaethol i gynnal y corff; ond ni leiha hynny ddylet- swyddau'r eglwys igynnalonaid. Mae gan y Y.M.G.A. a'r Chureh Army gartrefi yn awr i'r milwyr, lie y cant orffwysfai gorff a meddwl,a phawb yn gytstad a chytAn. Disgwylia'r milwyr, pan dderfydd y rhyfel, weld rhywbeth tebyg gan yr eglwysi enwadol y buont yn aelodau ynddynt pob anghyfartaledd wedi difiannu, ac ymdeimlad o sylweddoliad fod garn bob dyn un enaid, a dim ond un, a hwnnw i fyw byth. Gobeithia Mr. Lloyd George y cawn weld daear newydd ar ol yr aflwydd hwn. Ni ddaw hynny'n fuan. Ond ar hyd ffordd yr eglwys y dylai ddod. Efaliai y ceir rhyfel arall cyn y cyfnocl gogoneddus. Yn sicr, ceir llawer ymladdfa gymdeithasol a gwloidyddol dost, a gorfodir i ni wynebu anfodlonrwydd a threialon cyn cyrraedd y tir addawedig. Ein cyfundrefnau crefyddol a ddylai arloesi'r tir a phalmantu'r ffordd, ac ohonynt hwy y dylai tangnefedd a chysur ddod i'r byd. Disgwylia'r milwyr gartrefi crefyddol yn yr addoldai gwahanol i'r rhai a welsant cyn y rhyfel, a chofiwn mai arwyr ydynt, yn meddu gwroldeb digonol i ofyn am yrhyn a chwenychant, ac i wrthod yrhyn a'u siomo. Deisyfant am weled cariad—cariad Crist-ar yr orsedd, oherwydd byddant wedi eu gorddigoni a chasineb. Os cyfnewidia'r Eglwys i fod yn esiampl i'r byd o'rhyn ddylai Cristionogaet.h fod, gwyn ei byd ond os parha i dramwy ar hyd yr hen lwybrau, gwae hi. Dyw dydd o brysur bwyso ar yr Eglwys cyn bo hir. --0-

If SWELL Y BEIRDD

Advertising

Glep y Clawdd