Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

tin Csnsdi ym Maneeinion.I

If SWELL Y BEIRDD

Advertising

Glep y Clawdd

News
Cite
Share

"Sam achafwydpris danga;m.p amdano. Wel, n1-d oes raid i'r wlad fod yn brn, oblegid y mae digon o fulod i'w cael ymhobman bron. -Dywedodd un o ysgrifenwyr pennaf y Daily News pa ddydd taw mulod oedd y rhan fwyaf so filwyr eiii byddin, folly rhaid i ni newid sillafiad y gair, ac o hyn allan ysgrifennwn mulwyr ac nid milwyr. Pa beth a ddywed Tecwyn am hyn ? SEREN GOMER A'R RHOS.—Gellir tybied nad oes neb yn deall y ser ond gwemi- -dogion y Rhos. Golygydd newydd Seren Gomer fydd gweinidog o'r Rhos, a'r cyn-olyg- ydd ydoedd y Parch. Wyre Lewis, sy'n awr yn y Rhos. Rhaid maes o law newld ei henw a'i galw mwyach nid Seren Gomer ond Seren y RhQs. Ni wyrodd hi ddim modfedd o'i chylch dan ofal Wyre, a gobe;hio y deil i ymddangos eto yn ei thro yn rheola"dd, dan ofal y golygydd newydd, sef y Parch. John Griffith, B.A.,B.D. Credodd rhai beirdd tu draw i Mersey mai Zeppelin oedd y seren hon, a bu cryn saethu tuag ati ond daliodd heb .syrthio er iddi gael ei tharo. Deil hi yn y ffurfafen o hyd. Nid pob enwad sydd a digon o oleuni iddynt yn llewych seren. Rhaid i rai wrth Leuad gyfan, ac eraill wrth "Haul." Ond fe wel rhai fwy yng ngoleuni Seren nag eraill yng ngoleuni Haul. Mae'n dibynnu pwy a beth ydynt. GUTTERY ETO AR Y CLAWDD. Mae'r gwr hwn yn amI gyda ni. Hoff yw o'r Clawdd, a'r Clawdd ohono yntau. Daw'r ffordd hon yn amiach na neb. Mae ganddo genadwri bob tro. Rhai pybyr yw'r Primi- tive Methodists yma. Maent yn llwyddo yn fwy na neb y dyddiau hyn yn y ffordd hon. Adeiledir capelau gwych ganddynt, a thelir amdanynt hefyd. Codant bob carreg am geiniog, ac ni esgeulusant gyfleustra. Pre- gethodd y Parch. Guttery iddynt yng Nghaer- gwrle ddydd Llun diweddaf, a thraddododd ei ddarlith ar Wedi'r Rhyfel yrhwyr. Yroeddy -cynulliadau yn ganmoladwy. Gwnaed elw da, heblaw llonni'r frawdoliaeth. RIGHT AWAY, GUARD!-Unwydgen- ethig landeg fwyn Mr. Morys, gorsaf-feistr y Berwyn, mewn gl an briodas y dydd o 'r blaen a gorsaf-feistr y Trefor, sef Mr. R. R. Jones; ac wedi gwledd lawen yn nhy tad y briodas ferch hwyliwyd i ffwrdd am fis o fel i Torquay. Maerr ddau wedi bwcio am eu bywyd. Gobeithio y bydd y line yn glir iddynt hyd ddiwedd y daith. ENGEDI, BRYMBO.-Y Sul a'r Sadwm diweddaf, cynhaliodd y lie uchod ei gyfarfod pregethu blynyddol. Y gwYr a wasanaethai eleni oedd y Parchn. W. R. Owen, B.A., Aber- gele, a Wm. Rowlands, Acrfair. Yr oedd y cynulliadau'n lluosog fel arfer, a chafwyd pregethu da ac effeitbiol. Y mae prudd-der yma oherwydd clwyfo'n arw o fab y cyn- weinidog, y Parch. Edward Roberts, yn y rhyfel. Mae teulu cymwynasgar Bryn Coch yn annwyl gan bawb, ac y mae tristwch dwfn yn yr eglwys oherwydd y tro. Gweddlir yn maes sydrad n, a h. d? b? dd -Y tro. Gweddiir yn daer ar ei ran, a disgwylir y gwellha yn fuan. Llawer sydd wedi myned o'r eglwys hon i'r maes gwaedgoch. MELYS, MOES ETO.-Caed bias ar Gymanfa Bregethu'r Gylchdaith Wesleaidd y flwyddyn hon, fel y trefnir eisoes yn awr ar gyfer y nesaf. Nidoes dim felcychwynmewn pryd. Syrthiodd llawer o bethau gyda'r ibyf el hwn,ond fe gwyd llawer o bethau hefyd. A dyma beth da odiaeth, sef Cymanfa Bre- irethu. Mawr fo ei llwyddiant eto y flwyddyn nesaf. YSFA BRIODI Y RHOS.~Pob\ yn caru ei gilydd yn arw yw pobl y Rhos. Hwyrach mai hyn yw;r rheswm pam y maent yn byw mor agos i'w gilydd, nes bod bron ar bennau ei gilydd. Agoshant at ei gilydd yn feunyddiol, ac nid oes neb yn meddwl mwy o'i gilydd na hwynthwy. Priodwyd amryw ohonynt y dyddiau diweddaf hyn a bu'r Parchn. Wynn I Dafis, Wyre Lewis,a Mitchell, yn tynnu'r cylymau yn dyn, er eu cael m(f)r agos ag oedd bosibl at ei gilydd hynny yw, ceisio gwneud dau yn un. Nid oes mo hanner y bobl oedd yn y Rhos ers talm yma heddyw, ar gyirif hyn. Mae'r holl weinidogion yn llawenhau gweld arwyddion o'r eariad hwn,-yii un a chytfin byth y b ont. CREADURIAID I DAN.-Dywedir i dan dorri allan tua'r Clawdd y dydd o'r blaen a galwyd y Tan Frigad i'r lie i'w fygu ond' gwrthododd y bobl oedd o amgylch yllearho Haw o help i'w ddiffodd, ac felly collwyd llawer o'r eiddo yn ddiangenrhaid. Gwrth- odent am nad oedd y cyflog a gynhygid yn ddigon yn eu golwg, sef swllt yr awr. Ni chlywyd erioed, hyd y gwn, am unrhyw un ar enw o ddyn yn yngan gair am dal am ddim o'r fath o'r blaen. Dyma ysbryd annheilwng ac annynol. Dywedir i'r tan barhau am ddeu- ddydd oherwydd diffyg dynion i gynorthwyo i'w roddi allan. Ai tybed nas gellir dal y dynion hyn yn gyfrifol am y gelled yng ngolwg cyfraith ? Pe bai dyn yn gomedd gwneud a all i achub bywyd, cosbid ef. Beth am ym- ddygiadfel hwn ? Dylid eu galw i'r llys i glywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddywedyd drostynt eu hunain ac od oes reswm digonol, cosber hwynt fel gweilch. Germaniaid ynt. LLONGYFARGH YSGOL SIR GWRAIG S AM.-CyhQeddwyd rhestr o'r rhai llwydd- iannus yn Arholiad y Bwrdd Canol yr wythnos ddiweddaf, agwelirfod Ysgol Sir GwrecsatU- sef Prifysgol y Clawdd—wedi hynodi ei hun y flwyddyn hon eto am ei llwyddiant. Gwnaeth y bechgyn yn ardderchog, ond nid wyf yn sicr nad yw'r merched wedi gwneud yn ardderch- ocach. Mawr yw'r clod iddynt. Dagennym weled yr ysgol yn dal i fyny mor urddasol, ac yn ychwanegu yn ei chlod dan y meistr newydd, sef Mr. Dodd. Gw r isel ei djfem ond mawr ei fri yw ef. Nis gellir chwaitfr ganmol y brif feistres ormod, sef Miss Jones. Y mae ei holl enaid yn y gwaith sydd dan ei gofal, a gedy ei dylanwad ar genedlaethau i ddyfod. Deellir y deuir o bob cwr byd i'r Ysgol hon. Mawr ei llwyddiant. Y FELIN ADDYSG.-Troir ysgolorion ardderchog allan o'r Ysgolion Canolradd y dyddiau hyn. Rh ago rant yn yr holl bynciau bron. Gwelir bechgynnos a genethod yn cael distinctions mewn naw, deg, ac un ar ddeg o faterion ond atolwg o ba ddefnydd yw han- ner yr efrydiau hyn iddynt ? Ni welir 61 diwrnod o addysg ar y rhan fwyaf ohonynt oni osodir copy book o ,u blaenau. Mae eu hymddygiadau yn afrosgo ac anfoneddigaidd. Teimlant yn swil ac allan o le mewn cym- deithas, a thyn eu bwnglerwch wen i wyneb yn ami. Onid yw'n ddigon o'r dydd i ddechreu dysgu moesau ac ymddygiadau priodol i'r oes sy'n codi ? Eisiau gwneud dynion gwych ar gyfer y dyfodol sydd, ac nid sgolars. Dynion da yw diogelwch gwlad, ac nid dynion dysg- edig. Os gellir cyfuno, goreu oil; ond os rhaid dewis, y blaenaf amdani. PRINDER PREGETHWYR. Cwynir yn gyffredinol iawn tua'r Clawdd fod prinder pregethwyr, ac nid anaml y ceir y pulpud yn wag ar y Saboth. Tuedd hyn yw gw-neud y gwrandawyr yn ddifater -o berthynas i'r moddion, a cheir fod llaweroedd eisoes yn dechreu esgeuluso o'rherwydd. Ymae cwyn hefyd nad oes ond ychydig o fechgyn ieuainc yn myned i fewn am y weinidogaeth. Mae rbesymau digonol dros hyn, mi gredwn mae y gynhaliaeth yn druenus o anfoddhaol, ac y mae'r rhagolygon ar gyfer eu dyfodol yn dywyll ac ansicr. 0 bob prinder, prinder proffwydi yw'r peryclaf i wlad. CYFLAWNDER 0 F-TAENORIAID.- Neilltuir nifer o flaenoriaid yn gyson ymhob cyfarfod bron. Mae rhyw ofyn mawr am flaenoriaid. Oherwydd hynny, etholir nifer mewn ami i eglwys lie nad oes y deunydd cymwys i wneud un, ac nid oes iddynt f 6n na blaen. Cryfhau y mae'r pulpud o flwyddyn i flwyddyn, ond gwanha'r set fawr.