Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

1W GOSTEG.

DYDDXKDX-JR. I

Cflioeddwyr y Cymod I

ICAPEL M.C. RAKE LANE, I NEW…

fin Cmril ym Manceinion,

! Ffetan y Gol. I

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. I C (fid feu b fc sf u t'jc r it Ffdct mai dyma'r gair sydd ar ei gettau:— NITHIO'R GAU A NYTHU'I\ GWIR. Alltud Llengar San Fransisco. I At Olyygdd Y BUYTH^N I ANNWYL GYFAILL,—Mae'm calon heddyw yn Aberystwyth, yn dychmygu ynwyf fy hun y wledd y mae Cymru yn ei gael, yn gwra.ndo ar Lloyd George, am mai efe yw y prif atynfa- heddyw. Gresyn i mi fethu ei glywed pan yna ddwy flynedd yn ol. Yr wyf yn anfon heddyw bapur, pro. G., ac hefyd un araU i'r Parch. H. H. Hughes, Princes Road (ei gefn- der) a thipyn o hanes ymwetiad Chas. Evan Hughes a'n gororau. Bydd yn San Francisco yforv, y nos, a bydd yn Oakland trannoeth, yn ein hauditorium newydd, a ddeil ddeng mil. Derbynia groeso mawr ymhob man. Mae iddo enw mawr. PanoeddynLlywodraethwr Talaith New York, chwaloddhojl wfr y graft, ac mae'r gwleidyddion ei ofn. Ei gyd- ymgeisvdd y pryd hynny ar yr ochr Dde- mocrataidd oedd perchennog rhes o bapurau o New York, Chicago, San Francisco, a Los Angeles. Hearst yw ei enw, ac yn awr o'i blaid gymaint all, er mvvyn euro Wilson am ei bolisi yn Mexico, am ei fod yn berchen- nog miloedd Inwer o aceri yno. Dyma'r dyn a yraffrostiodd trwy'r byd ei fod yn erbvn diod ymhob fodd,—na fyddai iddo" dderbyn hysbysiadau i'w bapurau mwy ond pan ddechreuwyd ei boycotio, tynnodd yn ol trwy ddweyd nad oedd yn erbyn ewrw a gwinoedd ysgeifn, ae yn awr yn cyhoeddi hysbysiadau y bragdai. Ond yn ethohadau Tachwedd nesaf yr ydym am wneud Cali- flornia yn sych. Mac Washington ac Oregon felly eisoes, ac y mae ymgais calcd i'w cael felly yma. Ond at hyn yr oeddwn yn eyfeir- io 'does fawr o goel nac ymddibyniad i'w rhoi ar yr hyn a wna nac a ddywed ef ond y mae yma unfrydedd mawr i Hughes, ymhob cwr o'r wlad.- 3140 Ellis Street, RICHARD JONES So Berkley, Calif., Awst 17, 1916. Tenoi-iaid Aberystwyth. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Cyfeirir'yn y rhifyn diweddaf o'ch nowyddiadur poblogaidd at adolygiad Mr. 0. O. Roberts, Dolgellau. ar Eisteddfod Aberystwyth. Iechyd i'w galon am ei wrol- deb yn traethu ei farn mor ddifloesgni o blaid cyfiawnder. Nid oeddwn, yn bresennol ddydd Mercher, ond y diwrnod canlynol cefais y fraint o ymddiddan a rhai o'n cerddorion blaenaf a'u barn unfryd hwy oedd y dylasai y wobr am yr unawd Tenor fod wedi clod i'r Gogledd. Os caniatewch i'r llinellau hyn ymddangos, diau y ceir beimiadaeth Dr. Allen gan rai o'ch darllenwyr. Os oedd ad- roddiad y Cambrian News yn gywir, nid oedd y dyfamiad yn gyson o lawer a'r sylwadau a roddwyd gan y Dr. ar y gystadleuaeth. Ond fy amcan pennaf yn ysgrifennu yw gofyn pa hyd y goddefireatron i fod yn brif feimiad yn ein Gwyl Genedlaethol, ac fel y cyfryw yn datgan barn ar unawd Gymraeg pan yn gadael beirniaid eraill llawn mor alluog, ie, llawer m wy fully (o gymaint a'u bod yn hyddysg yn y ddwy iaith) i ofalu am y rhan ragbaratoawl yn unig ? Goddefwch i mi, fel dilynydd yr Eisteddfod ers dros ugain mlynedd, ddweyd, a hynny'n ddibetrus, cyhyd ag y goddefir y cyfryw bethau afresym- 01, na ellir disgwyl gwir dalent i ddod i'r golwg.— GOGLEDDWR Mair Clwyd. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Mewn rhifyn diweddar o'r BRYTHON yinholwyd am helynt Mair Clwyd gan Ddar- llenwr Cyson. Gan fy mol yn ei hadnabod yn dda, llawen gennyf ei hysbysu ei fcod yn fyw ac yn sionc, 'er amled ei dyddiau. Ganedig yw, fel y maentumia ef, o Ddyffryn Clwyd, ac yn y dyddiau gynt un o swynion y Dyffryn oedd hi, sef y pryd.hynny, Miss Mary Ann Puleston, Plas Newydd. Gwnaeth enw iddi ei hun yn ieuanc fel prydyddes wych y hi oedd y fuddugol yn Eisteddfod fawr Dinbych yn 1 fiO ar y gàn 0 reu l'r Fetch Rinweddol. A ganlyn oedd dyfarniad y beirniaid, sef Eben Fardd, Emrys, a Dewi Wyn o Esyllt, ar ei chytansoddiad buddugol Can dlos wedi ei gwisgo yn arddunol a symledd a choebhder. Datblyga ynddi lawer o geiniona rhagoriaeth y Ferch Rinweddol.' Oddiar lawer o ystyr- iaethau yr ydym yn unfryd yn dyfamu y wobr iddi-sef Miss Puleston (Moir Clwyd). Yn yr Eisteddfod hon hefyd yr urddwyd hi, pan yn eneth ieuanc lygatddu, bump at I hugain oed, gan yr Archdderwydd Clwyd- fardd, yn cael ei gynorthwyo gan Emrys. Yr I un adeg yr urddwyd hefyd Glan Alnn, Derfel, T..Ffraid, Gwilym Cowlyd, ac enwogion eraill. Cyfansoddodd amryw o bethau ac enillodd lawer tro mewn eisteddfodau. Cv- hoeddwyd rhai o'i chynhyrchion, ond nid wyf yn gwybod fod casgliad ohonynt yn llyfryn. Chwaer ydyw i'r diweddar Syr John H. Puleston, Barwnig, Llundain. Priododd a'r diweddar Henadur Evan Jones, Y.H., B'ala, ac y mae iddynt bump o blant yn fyw, mewn sefyllfaoedd amlwg, se! yw y rhai hynny y Parch. John Puleston Jones, M.A., Pwll- heli, un o ysgolheigion ac un o bregethwyr pennaf Cymru Robert Lloyd Jones, Civil Engineer, Fairbourne ac Aylesbury, yr hwn sydd newydd ei benodi'n Inspector of Aero- nautics dan Lywodraeth Prydain Fawr; hefyd Henry Puleston Jones, arolygydd y Banc (N. & S. Wales), Ffestiniog. Mae iddynt ddwy ferch, yr hynaf yn briod a'r Parch. Ward Williams, Gwrecsam, a'r Ilall yn wraig i Mr. Thos. G. Roberts, M.A., The Welsh Education Department, Whitehall, Llundain. Ym Mhlas Bodrenig, ger y Bala, y trig Mair Clwyd yn awr, ymhlith y grugos, y grugieir a'r creigiau.Mae Barddoniaeth wedi rhoi lIe i Lysieuaeth yn ei bryd ers tro, a'r rhedyn wedi diorseddu'r Awen Wir. Ganddi hi, yn ddiau, y mae'r casgliad rhyfeddaf o lysiau a rhedyn-ddail ac o lyfrau ar y cyfryw, o neb yng Nghymru. Y mae yn awr wedi croesi ei phedwar ugain mlwydd, ond yn fyw i bob symndiad o bwys mewn byd ac eglwys. Hi hefyd yw Esgob yr Arennig." Mae ei chronglwyd glyd yn ddrws agored i fforddol- ion byd, a mawr yw'r croeso. Hyderaf y bydd hyn yn rhyw gymaint o help i'r Dar- llenwr Cyson gan DDARLLENWR CYSON ARALL Fflint a Callestr* I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Wythnos yr Eisteddfod. yn Aber. ystwyth, sylwais fod enwau gwahanol siroedd Cymru ar y Cerrig Gorsedd; ac ar y garreg a gynrychiolai Fflint, bu'n syn gennyf weled yr enw Fflint, am y rheswm fy mod wedi clywed laweroedd o weithiau mai'r enw Cymraeg am Fflint yw Callestr, Cnrwllyn fawr wybod i sicrwydd beth yw'r enw cywir. Bum mewn ymddiddan a hen gyfaill y lletywn gydag ef, a dywedai ef fod yna gryn dipyn o siarad a dadleu peth ar y mater yn y pwyllgor. Bu'r cyfaill hwnnw mor garedig a fy introducio i r hynaws a charedig sydd yn brif swyddog heddwch tref Aberystwyth, ac yn frodor o Sir Fflint, ac mai dyna'r enw, ond ei fod yn llygriad o'r Lladin, er amser arhosiad y Rhufeiniaid yn y wlad hon. Yr oedd y bonecldwr caredig yn rhoddi amiyw enghreifft- iau o enwau yn Sir Fflint sydd wedi aros yn y Sir honno a'u gwraidd yn y Lladin. Hoffwn yn fawr gael eglurhad ar yr enw Fflint, os bydd rhywun o ddarllenwyr Y BRYTHON mor ga-reclir 17 Ash Street, J, E. LISTER I Harpurhey, Manchester.

Heddyw'r Bore I

Family Notices

Advertising