Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

1W GOSTEG.

DYDDXKDX-JR. I

Cflioeddwyr y Cymod I

ICAPEL M.C. RAKE LANE, I NEW…

fin Cmril ym Manceinion,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

fin Cmril ym Manceinion, Ceohaden y Sul Nesaf. I Y METHOD1STIAID OALFIN AIDD Moss SIDE-10,30 a 6.30 J Lloyd Jones. Cefu mawr PENDLETON—10.30, ,6 HEYWOOD ST-10.30 R E Jones, 6, VICTORIA PK—10.30 6. R E .Tones FARNWORTH -10-30 a 6. E T Hughes, Formby LEIGH-IO.30 a 8 WARRINGTON-IO.30 a 6, Robert Williams, Pendleton EARLESTOWN-10.45 a 5,30, iSHTON-TTNDER-LYNE—10.45 a 6.30. EGLWYS UNDEBOL ECCLES—11 a 6.30, Cyfarfod Gweddi I- YR ANNIBYNWYR OHORLTON RD—10.30 M Llewelyn, 6.15, BOOTH ST—10.30 6.15, M Llewelyn QUEEN'S ROAD-10.31) a 6.15, J Morris LD DUNCAN ST, SALFORD-10.30 a 6.15, HOLUNWOOD—10.30 a 6.15, Y WESLEAID DEWI SANT—10.30, J 8 Williams, 6, J T Ellis HOREB—10.30 J T Ellis, 6, J D Owen SElov-10.30, John Felix, 6, D R Rogers BEAULAH—2.30. J D Owen, 8.30, J S Williams CALFARIA—10.30, 6, G Tibbott WBASTB—10.30, D R Rogers, 6-30, J Felix Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30 a 6 J H Hughes LONGSIGHT—10.30, 8 30 ROBIN'S LANE, BUTTON-10.30 A 5..10 flELPU'R CLWYFEDIG.-Yr oedd y cyngerdd a gynhaliwyd yn Ysgoldy Capel Pendleton nos Fercher yr wythnos ddiweddaf yn cael ei enwi yn Khaki Concert, am mai ,vn cae l ei enw i CôrMoibi(mmilwyry R.W..F. sydd yn Beaton Park oedd yn gwasanaethu. Milvvyr elwyf- edig ydynt, brodorion o amrywiol fannau, a thuagat gynorthwyo'r clwyfedigion y ceis- iwyd cael elw trwy'r cyngerdd. Yr oedd y canu'n wir dda, a'r gynulleidfa'n llenwi pob cwr o'r ystafell. Arweiniwyd gan y Preifat Gwilym Williams, a gwych oedd lleisiau'r cantorion. Newidiwyd ychydig ar y rhaglen oherwydd fod rhai o'r milwyr wedi cael eu hanfon ymaith, a dyna anhawstar mawr y C6r. Canodd y C6r yr Anthem Genedlaethol, yn cael eu harwain gan Sergt. Thorpe. Mountain Lovers gan Corp. Jenkins. Cor- awd, Sailors' Chorus, gan y C6r. Deuawd, Excelsior, Thorpe a G. Williams. Y Telynor yn marw a Jini Jones, gan y C6r, ynghyda'r Crusaders yn ddilynol. Caed pedair Musical Monologue yn rhagorol gan Sergt. Hughes. Canodd Jenkins deirgwaith, a Gwilym Will- iams deirgwaith. Terfymvyd gyda Hen Wlad fy Nhadau a Gorl save the King. Methodd y milwr oedd i gyfeilio fod yno, a gwasanaeth- wyd yn gampus a dirybudd gan Morfydd Williams, merch Mr. Owen Williams, Pendle- ton. Y cadeirydd oedd Capten E. Wyn Roberts, a thraddododd araith lawn o hiw- mor. Mae ef yn llwyddiannus iawn fel caplan, ac yn gallu ennill edmygedd r milwyr. Mae'n wr corffol, golygus, tnhwnt i fwyafrif llawer catrawd. Diolchwyd i'r gwasanaeth. wyr yn y cyngerdd gan y Parchn. Robert Williams, J. Morris (Salford), a Mr. D. Lloyd Roberts, Moss Side. EBYRTH Y RHYFEL. — Bylchwyd eglwys Victoria Park trwy golli un o'i haelod- au ieuanc, a laddwyd yn Ffrainc, Awst 20. Brodor o Lanynys, Dyffryn Clwyd, ydoedd, ac y mae ei fam weddw mewn dwys alar a hiraeth ar ei ol. Datganwyd gofid yr eglwys, a chydymdeimlad a'i fam. Gweddw arall y cydymdeimlwn a hi yw Mrs. Edwards, priod y diweddar Mr. Richard Edwards, Pendleton, a brawd Mr. John Edwards, Dolgellau. Collodd hi ei mab ieuengaf. Yntau'n aberth y rhyfel, ac wedi cael bedd yn naear Ffrainc. David Morris hefyd a gwympodd yn y brwydro diweddar. Pan oedd yn y dref hon, bu'n aelod o eglwys y Wesleaid yn Gore Street. Er ei fod wedi ymadael oddiyma ers tro i Birmingham, mae cof llawer yn y Gylchdaith yn fyw iawn amdano, oblegid llanc amddifad hawddgar oedd. Mae nifer eraill o amryw eglwysi yn y dref wedi eu clwyfo, ac y mae Harold Hughes Ar Goll ers wythnos an. Mae atgno pryder llethol yn y gair ar goll," ond pery gobaith ynglyn ag ef i ddisgwyl hyd yn oed o wersylloedd y carcharor'on. O'R YSGOL SUL FB FFOSYDD.—■ Clywais y dyddiau diweddaf fod James Williams, mab Mr. Ebenezer Williams, Victoria Park, newydd groesi gydag adran o'r Manchester Regiment i Ffrainc. Efe oedd eyn-ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul y Methodistiaid, a gweinyddodd y swydd am bedair blynodd a hanner. Gyda Haw, Mr. Owen Williams, Pendleton, yw llywydd yr Undeb yn bresennol. Dewiswyd ef yn lie Mr. Robert Williams, Victoria Park, ar ei ymadawiad o'r dref. CLOD 1 GYMTtO.—Chwaraewyd y Ddrama fach Gymreig, Ble ma fe ? yn y Gaiety Theatre yr wythnos ddiweddaf. Cyfleithodd yr awdur (Mr. D. T. Davies) hi i'r Saesneg, ond' cadwodd y bywyd Cymreig ynddi i berffeithrwydd, a chafodd y derbyniad mwyaf ffafriol oedd fodd. Cynhyrchodd ddistawrwydd llethol yn y gynulleidfa, ac wylai m.eibion a merched wrth wrando. Rhoed cymeradwyaeth wresog i'r awdur. -j £ DECHREXJ DIOLOR.-T Wesleaid yw'r rhai cyutaf yma bob blwyddyu i ddiolch am y cynhaeaf. Y Sul nesaf cynhaliant eu cyfar- fod yn Gore Street y Parch. J. Felix yn pregethu y bore, a'r Parch. J. Ellis Williams nawn a hwyr. Mr. Williams yw dilynydd y Parch. D. R. Rogers, M.A., sydd newydd symud i Benisa'rwaen, Arfon. Brodor o Ddinas Mawddwy yw Mr. Williams, ond o Lundain y daeth yma. TEJIJWNG O'eR (SW/ZIF.—Daeth i law ysgrif helaeth ynglyn a'r hyn a wna'r eglwysi yn awr yn eu perthynas a'r aeloaau sydd ar hyn o bryd yn filwyr, ac hefyd ymdrinia a dyletswydd bendant yr egiwysi at y dynion hyn pan ddont yn ol o 'r rhyfel. Ysgrifennwyd hon gan Gymro selog yn ein mysg, a deimla gyfrifoldebyr achos i'r byw. Ceisiaf le iddi yn un o'r rhifynnau nesaf.

! Ffetan y Gol. I

Heddyw'r Bore I

Family Notices

Advertising