Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
SALE oF Diamond Ms Sale of a Large and Varied Stock of Superb Real First- water Diamond Rings, com- prising Engagement and Dress Rings, in all conceivable styles, in half-hoop, clusters, single- stone, cross-over, and marquise settings, at 10/- in the £ less than usual prices. Inadequate space (due to the crisis) prevents detailing further bargains now in stock. Upwards of 250 Rings to select from, from £ 1/10/- to sloo. SALE PRIOE LIST POST FREE DAVIESS, 3 0 L %o 30 LOW HILL, Close to Hippodrome and Low Hill Post Office j CLOSE WED. at 1. OPEN ALL SA.T. Ladies' 18ct. Diamond Rings ".DIAMONDS.-Five-stone, lus- Usual SALE trous gems, half-hoop, Price PRICE stylish claw setting, hall   marked 13 a6'/0/- DIAMONDS.-Lustrous 5- stones, beautiful first-water  gems neat, strong claw o •» i* er setting X4 21/15/. DIAMONDS, -Very strong, gfe fashionable, large 5-stone £ claw-set Half-hoop Engage- ment Ring, rare lustre, fire, <; /.$ and beauty. £6 2, 2/12/- DIAMONDS.—Large first- water 5-stone selected gems; intense fire and beauty; heavy 18-carat gold carved claw setting c M life-long satisfaction £ 8 ;E4/12/- Ladies' A12 Diamond Half Hoop-Ring ■iLADY'S LARGE 5-STONE DIAMOND HALF-HOOP, purest white first-water gems, intense fire and bril- liancy beautifully cut stones, 18-carat carved, neat, stylish setting rar?&6/18/- bargain. »#0/»O/- 3-ST ONE, FIRST-WATER i DIAMOND HALF-HOOP, claw setting special offer.. Worth 12 gns. BEAUTIFUL DIAMOND & PLATINUM CLUSTER RING, great brilliancy.   Usual £12.. I -3-STONE DIAMOND CROSS. OVER RING, selected white gems, platinum claw setting. — Usually X14. zS6/10/. SUPERB LARGE 5-STONE DIAMOND HALF-HOOP RINGS at £7/10 1-, £9 ja5/ and £ 11 /17 /6 at specially reduced prices. Approval. Reserved free. Old rings exhanged. DAVI ES'S, 30 LOW HILL. SECOND-HAND PIANOS AT DAVIES'S 30 LOW HILL, LIVERPOOL. -0 Upwards of 25 Second-Hand Pianos for Sale at Special Cash Bargain Prices. Unsurpassed for Tone, Touch, and appearance. o A FEW BARGAINS. Davies's Price Worth £ 10/17 ROSEWOOD.-Panel 'f ront very sweet tone and light touch; good appearance. £18 £11/17 CHALLEN.—Rosewood (prize medallist); ivory keys brilliant tone res- ponsive touch £ 19 Y,14110 DUEAPER.-Solid wal- nut; full compass; fine tone and touch hand- some appearance £ 22 Tra HOPKINSON. Rose- Y,17110 wood case ivory keys full compass rich tone responsive touch £28 £18/18 LATEST MODEL.- 118/18 Walnut iron frame tri- chord full compass; loud brilliant tone perfect touch; btrgai-n 130 £19/10 BRTNSMEAD. Rose. wood very superior tone and touch, in nice con- dition elegant appear- anee bargain £ 32 124/10 COLLARD & COLL. ?24?/1'-0 ARD.-Handsome black Piano ivory keys full compass check action perfection in tone and touch bargain £ 28/10 NEUMEYER.— High- class, solid walnut over- strung piano tape check action mellow tone and perfect adjustment well- made instrument will stand the closest inspection. 4 0 f,13110 M OLIlqE TIX Walnut very sweet tone perfect touch ivory keys panel front handsome appear- ance bargain £ 21 116/10 COLLARD & COLLARD. —Walnut upright very sweet tone; responsive touch full compass 7 octaves bargain £ 25 225/10 KIRKMAN. Hand- some walnut brilliant- toned piano iron frame latest improvements in grand condition special offer X36 £ 9fi/lfi PIANO-DE-LUXE. — High-class solid walnut; Art Model, 1916; per. fection tone and touch plain treble panel front; latest improvements £ 36 -6 r NOTICE.—'Inspection invited. Any piano reserved until required. Tuning, polishing, and free delivery. DAVIESPS, 30 LOW HILL, LIVERPOOL. Telephone 716 Anfield. Close Wednesdays at 1.
o Big y -1nro*<'B Lleifiad.…
o Big y -1 nr o < 'B Lleifiad. .4 4 0 PROFFWYDPR OA EAF.—Y mae rhag- J len y Gymdeithas Genedlaethol am dymor y gaea. nesaf cysfcal a bod yn Ilawn-dim ond y eyfarfod agoriadol sydd lieb ei lwyr drefnu a dyma'r Cymry Amlwg sydd wedi addo annerch y Proff. J. Morris Jones, M.A., ar Ddewi Wyn y Parch. J. Hughes, M.A., ar, GymryW America y Proff. D. Mi all Edwards M.A., Aberhonddu, ar Grefydd Cymnt, Ddoe, i H ddyw, ar Yfory Pedr Hir, ar destyn nas gwyddis eto Miss Mary Williams, M.A., D.Litt., King's College, Llundain, ar Hen Baradwys y Celt Dyna raglen i godi blys ar bawb meddylgar a hoff o hufen llenyddiaeth. BORE SUL F W QOFIO YN LITHER- LAND.—Y mae darn mawro Fyddin Gym- reig Cinmel wedi cael ei symud i Litherland, ar odre Lerpwl yma ac yn clywed fod yno Haws o'm cydnabod, piciais yno i'w gweld, debygwn i, ddydd Tau diweddaf. Ond yr oedd Mr. W. H. Jones, B. A. (Elidir Sais) wedi cael ei anfon i'r Officers' Training Corps i'r Werddon, yng nghyftimau Cork, ermwvn cael comisiwn a dyrchafiad, y mae'n debygol. Nid oedd Mr. Tom Roberts, M.A., ei gyd- olygydd ar Yr Afr, wedi dod ac all an ar y march yr oedd y cyfeillion eraill yrholwn am- danynt. Euthum yno eilwaith ddydd Sad- wrn; ac a glywais gwyno mawr gan rai o'r Cymry, sef iddynt fethu a el-tael y parade a'r gwasanaeth Ymneilltuol y bore Sul eynt, ond y disgwylid ei gael drannoeth, gan fod y Parch Gaplan Llewelyn Lloyd (sy'n eilun gan bob milwr oGyraro) wedi dod yno ar ymweliad, ac wedi siarad a'r awdurdodau. Gwelais y Preifat ifanc Tom Woolford, Pen y Bont, Ffestiniog, ac yn edrych yn dda, er mor annhebyg ei fyd i'r aelwyd dirion Ile'i maged. Yr oedd yno fyrddaid o Gymry'n cael te, ac yn bob dosbarth a gradd o ddiwylliant. Ambell efrydydd synfyfyriol o Goleg ochr yn ochr a glowr lion llawn afiaith a chwarelwr prudd ei don. Cwynent yn fawr ar y lie rhagor Cinmel,-yn enwedig Cinmel dyddiau swyddogaeth y Cadfridog Owen Thomas Y maent yn goblyn yn erbyn i ddyn siarad Cymraeg yma," ebe un llanc," a than Hid yn ei ddau lygad wrth feddwl am Brwsiaeth mor agos gartref. Sut bynnag, bore dydd Sul diweddaf, fe gafwyd y gwasanaeth Cymraeg lluosoeaf a mwyaf llwyddiannus a fu yn Litherland hyd yma,—y capel yn liawn- gynifer a dau gant a hanner o'r milwyr yn yr oedfa, sef yn Wilson's Lane, am naw ar gloch. Y Parch. James Jones, Waun Fawr, vn pre- gethu llyfr Cyrnanfa Ganu Eisteddfod Aberystwyth yn nwylo pob milwr un o'r milwyr (Mr. Eivion Jones, A.L.C.M., Llan- dudno ) wrth yr organ a'r canu dan arddeliad amlwg. A diddorol tuhwnt oedd gweld band a bwch gafr y gatrawd, sef y Royal Welsh Fusilier*, yn troedio mor benfalch o flaen y milwyr ar eu ffordd i'r addoldy. Dyma'r wttith gyntaf i ddim felly fod yngl.C-n a'r odfeuon Cymraeg yng ngwersyll Litherland. Bore Sul i'w gofio ydoedd hwn a heno (nos Fercher) y mae Cymanfa Ganu i'w chynnal mewn maqs agored (Peter's Field) gerllaw y gwersyll, am chwarter i saith a diau y bydd yno dyrfa o filwyr ac eraill yn cydganu'n Gymreig eu Was o lawlyfr Aberystwyth. Am fynnu eu pethau cu a chrefyddol y mae'r Cymry, lie bynnag y byddont. A diolch am y mynnu hwnnw. G ROE SO STANLEY ROAD.—Yr oedd odfeuon ac Ysgol Sul M.C. Stanley Road yn frith o filwyr y Sul diweddaf a'r Sul cynt. Y mae'r eglwys wedi dechreu trefnu lluniaeth i bob milwr a ddaw yno'r prynhawn, ac eisteddai tri a deugain wrth y byrddau y Sul diweddaf. Bwriedir parhau'r croeso hwn, acymae 'rbeohgyn yn fawr eu diolch am garedigrwydd mor fawr yno ac yn eglwysi eraill y cylch. BENDlTFI BANKHA LZ.—Bwriedir hef- yd ail gychwyn y Cyngherddau Croeso a gafwyd arhyd y gaeaf diweddaf bob pythef- nos yn Ysgoldy Bankhall. Ceir y cyntaf nos Sadwrn, Hydref yr 8fed. Cadeirydd y mud- iad ydyw Mr. Hugh Lloyd; yr ysgrifenyddion, Mri. D. Jones-Hughes a R. Vaughan Jones trvsorydd, Mr. R. O. Williams ac ysgrifen- nydd Pwyllgor y Chwiorydd, Miss Jennie E. Roberts. Bydd yn dda lawn g an y ryso rydd dderbyn pob rhodd, fach a mawr, a anfonir i'r London City & Midland Bank, Castle Street. A dyma ddangos mor ddygn y gweithiwyd y gaeaf diweddaf :■—Costiodd y cyngherddau a'r gwleddoedd £84, ac mor hael y cyfrannwyd, y hail] dro ar ol y Hall, nes fod y swm a dderbyniwyd o fewn dwybunt o'r swm a wanwyd. Camnus ond a olygodd lafur ac ymbii mawr i'r Trysorydd ac eraill, megis y gwelwyd yn y cyfarfod o swyddogion y mudiad a gynhaliwyd nos Wener ddiwoddaf, lie y diolchwyd yn gynnes iawn i'r holl garedigion a gynorthwyodd yr achos da. Yn y cyfarfod hwnnw hefyd, pasiwyd pleidlais ddwys o gydymdeimlad a Mr. a Mrs. Hugh Lloyd yn eu galar am eu mab, Lieut. Yale Lloyd, a gwympodd yn y rhyfel. Y mae mawr edrych ymlaen ymysg y milwyr, clwyfedig ac arall, am Gyng- I herddau a Bendith Bankhall.. Y MOTOR AMBULANCE.—AT tudal 2 gwelir llun y motor ambulance, a gyflwynwyd gan Gymry Lerpwl a'r cylch i gyd-bwyllgor Cymdeithasau y Groes Goch a'r St. John of Jerusalem, at arbed ac ymgeleddu clwyf- edigion y rhyfel, ac sy bellach wrth ei gwaith da ar faes y rhyfel er Awst 22. AnfonoddMr. Robert Roberts, Y.H., trysor- ydd y mudiad, cheque am f465 i'r awdur- dodau ac y maer Twm uchod, ynghyda digon i gyfarfod y trenIiau rysylltiol, bellach wedi ei gasglu. Dymunir diolch i bawb a gyfrannodd mor barod a hael, yn enwedig i blant yr Ysgolion Sul,—:hwy, cydrhyngynt, wedi hel pedwar ugain punt Y mae Mr. David Jones (cadeirydd y Gymdeithas Gen- edlaethol), y trysorydd (Mr. Robert Roberts), a Mr. R. Vaughan Jones (yr ysgrifennydd) i'w llongyfarch yn galonnog ar ffrwyth mor gampus ar eu hymdrech ddiwyd. Daw adroddiad manwl o'r holl draul a'r cyfrannu ymhellach draw. J OEDFA BIRAETB.—Yv oedd capel Parkfield, B^kenhead, yn Ilawn nns Sul ddi weddaf, sef i dalu teyrnged i g-ifadwriaeth y diweddar Mr. Glyn Gough Williams, organydd euanc ac addawol yr eglwys a laddwyd'yn Firainc. Pregethodd y Parch. T. J. Row- lands, M.A.,B.D., Laird Street, oddiar Matt. xx, 23: Megis ua ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roddi ei eimoes yn bridwerth dros lawer." Yr oedfa yn Saesneg gan mwyaf, oblegid y llu dieithr- iaid oedd yno Miss Thomas, Willmer Road, oedd wrth yr organ, a chanwyd rhai o hoff emynau'r ymadawedig, megis Rock of Ages. Wele'n sefyll rhwng y nzyrtwydd, 0 Dduw rho im Dy hedd, a Y Cysur i gyd. A chyn diwedd yr oedfa, daeth Dr. Reynolds i mewn o Christ Church, Oxton aeth dros Funeral March a Hymn of Seraphs Guilmont, a'r Dead March in Said, a'r dyrfa'n codi ac yn aros ar eu mud sefyll. Yn y seiat ar ol, cafwyd gair gan Dr. Reynolds, yn datgan ei werthfawrogiad o athrylith a chymeriad ei ddisgybl galluog gair ar ran yr eglwys hefyd gan Mr. Owen Williams a chododd yr holl eglwys ar ei thraecl cilwaith i amlygu eu eydymdeimlad a'r rhieni a'r perthynasau galarus. CYST ODD PEDROG.—Dagennym ddy- wedyd fod y Parch. J. O. Williams (Pedrog) yn graddol gryfhau, ac fod gobaith ei weled yn cael codi rhyw gymaint o'r gwely y bu mor gystuddiol ynddo. Y mae cyfarfod yn cael ei alw yn y Common Hall, Hacking Hey, am wyth ar y gloch nos yfory (nos Wener) i gyd- ymdeimlo ag ef, ac i ddangos ein gwerthfawr- ogiad o'i wasanaeth mawr, ar hyd ei oes, i grefydd a llenyddiaeth abarddoniaeth Cymra. Y mae gwahoddiad i bawb, o bob enwad, i ddod yno, i ddangos eu cymeradwyaeth i symudiad mor wir deilwng. YroeddMeirion- fab, Maelog, Mon, wedi colli'r Drych o'r BRYTHON ers pytheinos, ac fel hyn y cwyn Am y Drych mi edrychais, -hoff wydrau A Phedrog ni welais Heddyw eto camvddais, Er cur, mai ofer y cais. R. J. LEWIS A'[ DDAU GYFAILL.— Dyma un o fechgyn glanaf a mwyaf crefyddol eglwys M.C. Edge Lane wedi ewjuipo yn y rhyfel, sef Mr. R. J. Lewis, mab hynaf Mr. a Mrs .Owen Lewis, 91 Cameron Street. Yn Y BRYTHON, Awst 10fed. gweed Ilythyr oddi. wrtho ef a'i ddau gyfaill-y diweddar Glyn Gough Williams (eglwys ParkHeld) a J. Llew- elyn Jenkins (eglwys Webster Road)—y llythjrr wedi ei ysgrifennu o Ffrainc npwydd iddynt lanio yno o Cinmel, ac yn datgan eu diolchgarwch am weddiau gartref ar eu rhan, a'u hyder am gael dychwelyd gartref wedi buddugoliaethu ar y gelyn. Bellach, wele ddau o'r tri—Glyn Williams a Lewis—wedi eu lladd, a'r trydydd, Jenkins, yn gorwedd yn dost ei glwytau yn un o ysbytai Llundain. Yr oedd y tri yn ymyl ei gilydd ddydd yr ymladd. Yr un shell a'u tarawodd ill tri. Lladdwyd Glyn druan yn y fan bu Lewis iarw o'i glwyfau yn Ffrainc ymhen y tridiau ac wele Jenkins, fel y dywedwyd eisoes, yn fyw ond yn glwyfedig iawn. Yr oedd R. J. Lewis yn llanc gwir grefyddol; byth yn absennol o foddion gras, ac yn gymeriad boneddigaidd, hawddgar, a diamheuol ei grefydd. Y mae'r eydymdeimlad dwysaf a'i rieni yn en profedigaeth lem.—Wedi sgrifennu yr uchod, dyma hyn i law oddiwrth M.J. Bu'r ymadawedig yn gyson yn y moddion, ac yr oedd yn aelod selog o Demi Gwalia. Cyn ymuno, yr oedd yng ngwasanaeth Mri. Sheil & Co., cotton merchants, mewn gofal o adran. ac yn hynod boblogaidd ymysg ei gyd- weithwyr. Ar ol ymuno, yn Kinmel y bu'n cael ei baratoi ac oddiyno yr aeth allan i'r Cyfandir, Gorff. 14 diweddaf. Yroedd tua 23 mlwyddjoedd yn llanc hardd ei fuchedd ac er maint temtasiynau'r ddinas, ni lychwinodd ei hun tra y bu yma. Mae i'r teulu gydym- deimlad llwyraf yn awr eu profedigaeth chwerw. Ar ddiwedd oedfa'r hwyr, yn Edge Lane, cafwyd gair o cleimlad yr eglwys yn y lie gan Mr. R. O. Williams, yr hwn a svlwodd ar wahanol agweddau carictor y cyfaill ieuanc. Hysbyswyd hefyd y cynhelir gwasanaeth coffa, yr wythnos nesaf. Mae i'r teulu fab arall wedi ymuno a'r fyddin Driver Owen Lewis, West Lane D.A.C., Farnborough. Disgwylir ef adref yr wythnos hon. Heddyw (dydd Mercher) cynhelir cymanfa flynyddol Undeb Dirwest a Phurdeb Cyfarfod Misol Sir Fflint, yng nghapel St. John Street. Caer. Yrhainsyddigymrydrhan: yParch. Edward Lloyd (Maes glas), J. Glyn Davies (Rossett), Joseph Jenkins (Ffestiniog), T. M. Charles (Waverton). G. Parry Williams, M.A. (Wyddgmg), Mr. C. L. Williams, C.S. (Sych- tyn),Mr. John Owen (Caer), Mrs. J. Efor Jones (Coed Talon), Miss M. Lloyd Jones (Mynydd Isaf), Mr. H. T. Roberts (Tre- dynnon), Miss Nest Davies, Mr. Michael Lewis (Mynydd Isaf), Mr. Henry Powell, Y.H, (Fflint), a Mri I. C. Roberts (yr ysgrifennydd). A dyma rai o'r materion Y Cyfleusterau presennol i sobreiddio'r wlad To- morrow's Nation (Yr Oes a Ddel) a Llwyr Waharddiad i Gymru." Tarawyd y Parch. David Jones, Edge Lane, yn wael bore dydd Sul diweddaf, yn Llvslew, Mon, lie yr oedd ef a'r teulu yn aros am eu holidays. Y llewydd diweddaf ydyw ei fod yn well a thaer ddymunir iddo adferiad bultn. Nid oes neb o fugeiliaid y cylch yn fwy cymeradwy yn ei waith. Y mae ei hi cydnabod ac edmygwyr- yn cydymdeirrilo' a Mr. Thos. Jones., Ducie Street, yn ei hir wendid. Efe'n godwr y gan yn eglwys David Street, am flynyddoedd pan yn ei iechyd, ac yn enghraifft o'r urdd werth- fawr a phwysig honno ar ei goreu. Dyma deimlad Gwilym Deudraeth am yr eos bach," sef plentyn Mr. O. Williams, un o Eosiaid telyngar Mdn':—■ Hyd i'r llwch, cyn ei dair llawn,—chwa Eich eos bach rhadlawn [wywodd Llesteiriwyd y llais tiriawn- Ni chadd nos i'w chwyddo 'n iawn. Ac ebe'r bardd, wrth ddwys sbio ar y dail yn disgyn :— Wedi haf a'i fwyn dyflant-dail y coed Wyla'u cerdd mewn gwywiant Dan ias Medi symudant I wely'r ewm lawer cant. Wodi haf a'i fwyn dyfiant-dail y coed Wyla u cerdd mewn gwywiant; Ac oer Hydref hwy grwydrant I ofyn bedd mewn dwfn bant. Bu Mr. W. A. Lloyd (Ghn Alwen), 4 Font- hill Road, Kirkdale, farw bore heddyw (dydd Mercher) yn ddwy ar bymtheg a thrigain oed —77, a chleddir ddydd Sadwrn nesaf. Yr oedd yn ddiacon yn eglwys Great Mersey Street ers deugain mlynedd wedi bod yn gadeirydd Cyfarfod Chwarter Annibynwyr Lerpwl a Manchester yn llywydd Cymanfa Undeb Ygsolion y cylch; ac yn henafgwr selog dros ddirwest a phopeth a hyrwyddai'r j Achos Goreu. Daw gair helaethach amdano 1 gyda hanes yr angladd vn ein rhifyn nesaf. Y PREIFAT R. WOODWARD, mab y di- weddar Mr. Daniel a Mrs. Woodward, 42 Geraint Street.—Dyma'r cyntaf o fechgyn eglwys Mynydd Seion i gwympo ar faes y rhyfel. Derbyniwyd y newydd prudd gan ei fam weddw oedd wedi bod am rai wythnosau mewn pryder meddwl amdano. 0'1' diwedd, cafodd sicrwydd gan y War Office ei fod wedi ei ladd Gorffennaf 1, yn bedair arhugain oed. Aeth y cyfaill allan i Ffrainc gyda'r Pals. Yr oedd yn gymeriad prydferth iawn, ac un o 'r rhinweddau mwyaf prydferth ynddo oedd ei ofal mawr am ei fam weddw, bob ainser yn barod i'w helpu, ac ni fynnai ar un cyfrif ei gweled mewn eisiau heb fod bob amser yn barod i fynd yn fyr ei hun. Yr oedd ynuno dri o foibion yn y Fyddin, ac mae'r pedwervdd yn 11 jd debyg o gael ei alw'n fuan. Nawdd y Nefoedd a fyddo dros eu mam. Cynhelir oedfa goffa jTffi Mynydd Seion, Medi 24, pryd y pregethir gan y Parch. Edward Davies, a nhenir anthem gan y Cor. Da gennym ddeall an lwyddiant Miss May Evans, Glenart, Upton Road, Birkenhead, ac Eluned Roberts, Deane Road, Fairfield, Liverpool, yn ennill Junior Certificate y Central Welsh Board, Addysgwyd y ddwy yn Rhutliyn.R.J,G. ODDIWRTH DELLU GWILYM J. PRITOHAKD —SYR, Teimlaf yn wir ddiolchgar i chwi am, gyhoeddi llythyr y Parch. R. O. Evans Neath, a ymddangosodd yn Y BRYTHON yr wythnos ddiweddaf. Bu'n foddion inni dder- byn Telyn y Cysegr, y llyfr a gollwyd gan ein hannwyl fab yn "'rhywle yn Ffrainc." Yr wyf yn cymryd y cyfle presennol i ddiolch i Mr. Evans am yr hyn a wnaeth, a'i garedig- rwydd yn anfon y llyfryn bychan yn ol i ni. Un o fechgyn eglwys M.C. Chatham Street vw Gwilym, a ymunodd a'r Fyddin, Tachwodd 1915. Mae ar hyn o bryd yn un 0 ysbytai Ffrainc. Bydd yn dda gan gyfeillion a chyd- nabod wybod ei fod yn gwella. Cafodd y llyfr yn aurheg gan y cymwynaswr ffyddlon, y Parch. John Evans, Beacon field Street, ar ei ymadawiad i Blac kpool. Mae'r Parch. R., O. Evans, Neath, yn.nai i'r Parch. Dr. Owen Evans.—Yr eiddoch yn gywir, o, y w i r, JOHN S. PRITCHARD. 30 Cairns Street, Liverpool, Medi 12, 1916. Y Preifat Tom Parry,B.A.,y bardd cadeiriol o Benrhos llugwy (sydd yn aros yn Litherland) a bregethai yn York Hall nos Fawrth ddi. weddaf. Caed cynhulliad da, a phreo-eth hyawdl, yn gafael yn y gwrandawr, yn llawn o ysbryd. Ei destyn oedd y berth yn llosgi heb ei difa ysbryd cenedlaethol newydd yn cael ei eni o drallod cenedl a geidw ei golwg ar Dduw a'i hymddiried ynddo. YN Y CYFARFOD MISOL.—Medi 6.—Cyd- ymdeimlwyd a. rhai mewn profedigaeth y nifer mor luosog fel y pasiwyd i ofyn i'r Parnhn. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a It. W. Roberts, B.A.,B.D., gynorthwyo'r ysgrifen. nydd i anfon atynt yn eu plith yr oedd y Parch. D. Jones yn wael, a'r Parch. S. G. Evans,B.A., wedi colli ei chwaer.- Y Parch James Jones (Waunfawr) yn datgan profiad o'r pleser a gawsai gyda'r milwyr yn Lither- land, yn dwyn tystiolaeth uchel i gymeriad y bechgyn, ac yn diolch i'r eglwysi am eu car. edigrwydd iddynt. Y Parch. E. J. Evans, yn dwyn yr un dystiolaeth i glwyfedigion yr ysbytai.-Adroddiad o Gymdeithasfa Ban- gor hysbysodd y Parch. 7-. J. Rowlands, M.A..B.D., fod £6,000 wedi eu haddo ar y telerau fod y Cyfundeb yn codi f6,000 arall at Gronfa i gynorthwyo gweinidogion hen a methedig. Cais o Sunderland am ychwan- eg o flaenoriaid penodwyd y Parch. R. Parry Jones a brawd o flaenor i'w cynorthwyo. Y Parch. J. fl. Morris yn dwyn sylw at y Genhadaeth Dramor y Cyfeisteddfod wedi cwtogi'r treuliau fl,200 y flwyddyn, ac eto yn teimlo pryder rhag i'r gwaith gael ei lesteirio oherwydd prinder arian. Rhoddodd ifigyrau yn dangos y cynnydd mawr oedd gyda'J] gwaith. Cyfeiriodd liefyd at haelioni Mri. vVm. a James Venmore a Mr. John Edwards. Y Parch. John Owen ar y Cyfarfod Diolch am y Cynhaeaf. Hwn yn sefydliad hCn na Methodistiaeth bu llawer adeg dywyll yn hanes yr Eglwys,ond y mae'r Cyfarfod Diolch- garwch wedi ei gynnal yn ddifwlch. Ni fu gennym erioed fwy o rwymau i ddiolch nag eleni pan y mae gwledydd cyfain wedi eu hanrheithio, prin y mae ein gwlad ni wedi ei chyffwrdd. Fe gafwyd adfywiad crefyddol mewn ami i Gyfariod Diolch am y Cynliaeaf. Mae arnom ninnau angen ein deffro. A ydyw ein gweddiau ni yn ddigon byw t Mewn trefn iddynt fod felly, rhaid i ni ddar. llen llawer ar Air Duw. Ein tuedd ni ydyw darllen yr hyn y mae Ileiaf o Dduw a mwyaf o ddyn ynddynt. Ai onid oes perygl i'n gweddiau ni fod yn rhy faith ? Ai onid mantais i'r Cyfarfod Gweddi fyddai i bedwar neu bump gymoyd rhan ynddo ? A ydynt yn ddigon cryno ? Mewn llawer o dai yn yr Wyddgrug yr oedd ar gerdyn syniad y Parch. Roger Edwards am yrhyn ddylai gweddi fod 1 Diolch am a fu ymostwng am y sydd ac ymddiried am a ddaw Mae bechgyn ein heglwysi yn cael profiadau tanllyd ar faes y rhyfel. A fydd yr eglwysi yn ddigon cynnes i'w derbyn yn ol ? Efailal y daw rhai ohon- ynt yn ol wedi caledu a fydd ein dwylon ddigoa tyner i'w trin ?