Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

 ?j ? !j jMiMWMles?? ?a)i.

0 LANNAU TAF. I

News
Cite
Share

0 LANNAU TAF. I MYND yn ddigon hwylus y mae pethau Y ffordd yma. Nid oes brinder arian ar Y gweithwyr. Pobl y pres sefydlog yw'r unig rai a all gwyno ysgolfeistri a phregethwyr, er enghraifft. Gydahwy ymae amI ymdrech ddirgel i gael deupen y llinyn ynghyd. Nid y llafurwr tlawd," ond yr athro neu'r efengylydd druan, sydd y dyddiau hyn yn gorfod "Rhoi angen un rhwng y naw." Hyderwn.fod y mwyaf doeth a darbodus o'r gweith wyr yn paratoi erbyn y dyddiau gwaeth sydd yn rhwym o fod ar eu cyfer wedi y "tyr heddwch allan." Amhosibl yw i'r dinistr ofnadwy ar fywyd ae eiddo sydd yn mynd ymlaen ers dros ddwy flynedd beidio d chreu newyn ac eisiau rywbryd rywie mwyaf y llanw, mwyaf y trai. Nid yw Cyrn reigiaeth yn uchel iawn ei phen yma. Troi glo a haeam yn awr yw busnes Glannau Taf. Whai is the use of it ?— dyna'r cwestiwn a o fynnir yn barhaus pan yn sdn am yr hen iaith. Ewch allan i'r heol a gwelwch hi yn trcngu. ar y palm ant, a chlywch ei bloesgni olaf yn llaid y gwter. Yr wyf yn digwydd byw mown lie yr ymfudodd llawer o chwarelwyr y Gogledd iddo flynyddoedd y streic ac ambell dro tybiaf fy mod ar y stryd yn Ffestiniog. Ond y mae eu plant yn troi'n Saeson dan eu dwylo-effaith yr ysgol a'r stryd, ao esgeulustra eu rhieni. Digrif i'r eithaf clywed y Gogleddwyr hyn yn siarad eu Saesneg gyddfol a bratiog a'u hepil anghym- reig. Mae ymdrech wedi ei gwneud drwy'r blynyddoedd i ddysgu'r heniaith yn yr ysgol- ion, ond methaf weld nemor o ffrwyth syl- weddol i'r llafur. Yn anffodus, drygir aehos y Gymraeg yn ami gan ei cheraint goreu hawliant ormod i'w gwlad a'u llên. 0 ba ddefaydd haeru fod gennym well nofelwyr na Scott, a gwell beirdd na Shakespeare ? Pe toaem yn gallu perswadio pob Cymro fod peth yn ein llenyddiaeth y byddai yn resyn mawr ei golli pe baem yn medru gwneud llenydd- iaeth syml a gwerinol Cymm yn ris i'r plentyn ddringo i rywbeth uwch a gwell, cyraeddasem nod uchaf ein cenedlaetholdeb. Mae hen Gymry Merthyr yn graddol ddiflannu, llenorion hen ffasiwn fel Nathan Dyfed a Gwernyfed, ac ysgolorion fel Llyw- arch Reynolds, gwr teilwng o'i restru gyda Thomas Stephens, awdur Literature of the Kymry. Eto mae rhai o'r hen ysgol yn aros, fel Ieuan Dyfed, sydd o hyd yn gwyntyllu'r cynhyrchion barddol yng ngholofn Gymreig y Merthyr Express a loan Bydir (J. B. Lewis) yr hwn, ac efe'n tynnu'n gyflym am ei 80oed, sydd wedi cyhoeddi cyfrol fechan o farddon- iaeth, Awelon o Faes yr Aweriau. Mae beirdd yr Eisteddfod a'r cyfnodolion yn cyflym ym- ddieithrio oddiwrth y werin ni ddarllena'r bobl mo'u hawdlau gor-gelfydd a'u telynegion cyfrin-dywyll. Ond dyma lyfr a ddarllenir gyda bias gan y glowr wrth y tftn, gan yr amaethwr gwledig ar ei aelwyd hirnos gaeaf, a chan wyr mwy dysgedig yn eu myfyr-gell- oedd. Wrth gwrs, nid oes ynddo ddim hanfodol wreiddiol nac aruchel iawn ond y mae popeth yma yn true to nature. Gaf fi ddyfynnu pennill neu ddau-?- CIVI"- y Byd. Mae rhai yn dweyd mai crwn yw'r byd-. Yn wir, 'rwyf bron ac amau, Oherwydd hyn, yr wyf o hyd Yn taro wrth ryw gongiau Ond hyn a ddysgaf yn ddiffael, Tra'n teithio ar ei lwybrau Daw'r clwyfau dyfnaf wyf yn gael Trwy'r rhai a garaf oreu. Naturiol a hollol wir, onite ? Eto, wrth feddwl am yr hen amser yn y wlad Fe gadwodd nhaid ei ddannedd Bron i gyd, Yn iachus am gan mlynedd, Bron i gyd Yn awyr iach Sir Benfro, A'r bwydydd pur oedd yno, Naturiol, hawdd eu treulio, Gwyn ei fyd. Lie brat i ddyn heneiddio, Gwyn ei fyd. Gael b clan, Dyna'r bwyd, A sopas cryf a bwdran, Dyna'r bwyd Y llaeth heb ei andwyo, Yn bur feI c'ai ei odro, Cael hwn ac uwd i ginio, Dyna'r bwyd, Neu gawl cig moch Sir Benfro, Dyna'r bwyd. le, dyna'r bwyd—syml, cartrefol, blasus-un y gall y bobl gyffredin yn hawdd ei gymryd a'i dreulio nid estron-betliau'r beirdd newydd- af, neu hen-bethau wedi llwydo yn y Canol Oesoedd, fel y cawn gan ysgol arall o feirdd. Rhaid codi'r mensher yn raddol iawn i'r werin. Os caf groeso gennych, hyderaf eto, o bryd i bryd, draethu ychydig yn syml ac yn gar- trefol, ar rai o'r digwyddiadau neu'r amgylch- iadau a ddont i fy sylw ar Lannau Taf. S. [Croeso ? cewch A dowch bob Wythnos, os galloch,—Y GOLJ. o

YSMFELL Y BEIRDD

Advertising