Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Tnt llVêRPOOL OLD pOST OFPICE PLAt'1 LARGEST SELECTION -LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL
 ?j ? !j jMiMWMles?? ?a)i.
 ?j ? !j jMiMWMles?? ?a)i. Awgrym i'r Cymdeithasau. Cysgod y Gaeaf ar bob pwnc bron. GALWODD Pwyma ddiddan o'r wlad heibio'r wythnos ddiweddaf, ac ebe fo .— Ymhle y mae'r Dyn y GaeaJ hwnnw a :I fyddai gennych yn hel cydaid o destynau i'r BKYTHONT bob mis Medi gogyfer a'r Cymdeithasau Llenyddol a Diwylliadol ? "Brawd llygadog, gwreiddiol, a gwas- anaethgar iawn ydoedd hwnnw bu ei awgrymiadau yn gymorth mawr i liaws o ysgrifenyddion ac aelodau, a gwelwyd ei destynau wedi e-Li codi i lawer o raglenni draw ac yma drwy'r wlad. Os ydyw ar dir y byw, pwniwch ei benelin i hel cydaid cyffelyb at y gaeaf hwn, canys y mae ami i bwyllgor aswyddog yn crafu ei "ben wrth feddwl pa beth a geir i gael rhaglen go gyfoet.hog a theilwng a ffres." Da gennym ddweyd, Mr. Pwyma dirion, fod Vyn y Gaeaf ar dir y byw, o hyd, ond ei fod yn Jivn ac yn fwy'n ei gwman nag y byddai, ac fad yr hen ryfel atgas yma wedi ei orfodi yntau, fel pawb arall, i hel mwy ar ei damaid drad a llai ar ei destynau. Yr oedd ganddo gydaid trwm ddwy flynedd yn ol, ond chwal- odd yr Armagedon gymaint ar y byd a'i bynciau nes. nad yw y rheini'n dda i ddim at y byd sydd ohoni heddyw. A Mr. Pwyma; ar fin mynd dros y troth wy, dyma Ddyn y Gaeaf i fewn, ac yn tywallt y cydaid testynau a ganlyn ar y bwrdd, gan ofidio na chawsai fwy o hamdden a hwyl i hel rhagor a rhai gwell .— 1—SWYN EI ARDDULL YNTEU PWYS El FEDDYLIAU SYDD FWYAF ANfJEBCOR I GADW LLYFR YN FY W ? Ymbwyllwch wrth drafod hyn, a pheidiwch a. rhuthro i ddywedyd prun yn rhy fuan, canys chwi a gewch ddynion yr un mor bendant a dogmataidd dros y naill a'r llall. Dyma fyddai un o fendithion dadl fel hon y byddai raid i bwy bynnag a fyddai'n agor y pwnc, o bobtu, ddarllen rhai o'r llyfr au goreu a mwyaf clasurol, yn Saesneg yn enwedig, canys ychydig, mwyaf gresyn, sydd wedi ei sgrif- ennu arno yn Gymraef. Fe hoffawn i'n fawr fod yno'n eich clywed, eich dau. 2-AI MANTAIS I FOES A GEIR- WIREDD A HEDDWCH Y GWLEDYDD YDYW RHODDI CYMAINT 0 RAFF RHYDDID I'R WASG FELEN YM MHRYDAIN t A phwy bynnag a fo'n dadlu mai anfantais ydyw, eyflwyned nifer o awgrymiadau sut i ffrwyno a rhoddi'r feg ar y papurau hyn, sy'n ddim amgen na Ccn- hadaeth Dramor i Belsebyb bygddu ei hun. Ac os methoch a chael neb arall i gymryd ochr yr Anfantais, y mae Dyn y GaeaJ yn eithaf Sarod, ebe fo, i ddod atoch ei hun, a chodi'r Hen ar gastiau'r giwed. fc—MILWRf AETH CRYFHAU YN- TEXJ GWANYCHU'R YSMRYD HWN A WNA'R RHYFEL, PAN DERFYNO ? Fe wn i yn aithaf prun, cawswn i ddweyd fy marn 4-A OES SAIL I'R OFN MAI RWSIA A FYDD Y GALLU MAWR A GORTHRYMOL NESAF, ac ybyddpawen yr Arfch ar bob erw o dir a enillir gaaddi yn yr I Armagedon ? 5—LLE MERCH YN Y GYFUN- DREFN GYMDEITHASOL A GWEITH- FAOL WEDI PR RHYPRE DDARFOD Ai ei gwthio'n fwy i fewn a wneir, ynteu cethru arnj, a aheisio'i gwthio'n fwy allan ? 6-IEISTR A GWEITHIWR, CYF- ALAF A LLAFUR sut i ysgoi rhvfel car- trefol pan elo'r ddau ddosharth h wn yn frig-frig. 7-PA RYW NEWID A FYDD RAID WRTHO AR FFURF CENAD- WRI'R PULPUD PAN FO HEDDWOH WEDI GAEL El ADF&R ? 8-0 DDARLLEN YR HANES YN LLWYR, 'A OES RHYW DDEWIS MHWNG. YMDDYGIAD GENHEDL- MAWR ION EWROP AT GEN- HEDLOEDD BY CHAIN EWROP? Cym- harer Germani, yn y peth hwn, a. Rwsia, a Ffraine, a, Phrydain, set ynglyn ag iaith ac Ymreolaoth ac yn y blaen. 9—PA BETH YDOEDD Y GWIR RESWM DROS -SYMUD Y CAD- FRIDOG OWEN THOMAS 0 (JINMEL ? Ie, y gwif aehos, cofiwch, ac nid yr esgus a'r coeg-aehos a roddid yn y papurau a'r atehion yn y Senedd. 10-A1 NID GWELL FYDDAI CADW YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL AM DDIM OND DAU DDIWRNOD 0 HYN YMLAKN-—(sei dm ddiwrnod o gystadlu a thrydydd i ganu fel y gwnaed mor fendigedig yng Nghymanfa Aberystwyth)—■ er mwyn cyfarfod awgrym feddylgar Kited, sef i leoedd bychain-fel y rhain i'w chael :•—Bala, Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli, Llanrwst, Llangefni, Corwen, Rhuthin, Dinbych, Treffynnon, yr Wyddgrag, Rhos, Llanfyllin, Llanidloes, Caergybi, Amlwch, Abermaw, Harlech, Caerwys, Aberteifi, Llanbedr, Rhydaman, Groeswen, Llangeitho, Ystrad, Ystalyfera, ac yn y blaen. Mewn lleoedd fel hyn, ac nid yn y trefi mawrion, y mae'r ysbryd eistedd- fodol puraf ohonynt hwy y cyfyd mwyaf o enwogion a ehymwynaswyr y genedl a hwy, I yn anad neb, a ddylai gael yr wyl amlaf o bawb. Nid fy musnes i ydyw penderfynu'r ddadl, ond awgrymu unpeth neu ddau fel sail y drafodacth, ac i ddangos fel y gellid noson gynnes ac adeiladol wrth ddadlu dros noethi'r Eisteddfod o'i llirimmings, chwedl Mr. Lloyd George, a'i chael yn ddigon syml a gwledig ei luggage fel y gallo'r parthau mwyaf haeddol ohoni ei chael 11—CYFLBTR CYMRY FEL CENEDL I DDWYJEIT1100: Dylai rhywun galluog a chyfarwydd baratoi papur ar y testyn hwn, ahynny oherwydd hyn (Jii o'r pethau sy'n rhwym o ddigwydd ar ol y rhyfel ydyw galw mwy a mwy am ffadiii ieithoedd—ieithoedd y Cynghreiriaid tyr Allicil yn enwedig. Medr- u'r ieithoedd hynny fydd y llwybr i leoedd breision a swyddi pwysig yn y dyfodol a chan ein bod ni'r Cymry yn medru dwy iaith bod yg un bron eisys. yr ydys yn llawer eyflyniach na'r Saeson uniaith i ddysgu ieith- oedd newyddion. Er mwyn tipyn o help i ysgrKennwr y papur, gallem grybwyll y bu gan y Canon Edwards-Rees, Manchester, ysgrif nen ddwy yn Wales-cyn bod dim son am y r!iyf el-Ile y dywedai mai'r genedl gyf. lymaf o neb yn Ewrop am ddysgu ieithoedd oedd y Rwsiaid, ac mai'r ail a'r nesaf atynt oedd y Cymry. Ac ebe'r Canon Fe ddylas- em droi r dawn hwn yn fwy o fudd tymhorol inni, canys dyna ymherodraeth fawr yr India yn enghraifft. Y mae yno laweroedd o ieith. oedd o bob math yn y wlad fawr honno Prydain piau hi i gycl a ph e buasai m wy 0 blwc yn y Cymro, efe ddylasai lenwi'r ami swydd sydd yn y wlad honno fel cyfieithydd dan y Llywodraeth. Sut bynnag am hynny, dy oTnr-)aratoi'nlbechgyn erbyn y galw iydd ar hyn unwaith y cyhoeddir heddwch a gobeithio y bydd hyn o nodyn yn eodi clust y bechgyn drwy'r wlad i achub y cyfle a pheidio a. chuddio'u dawn a'u goleum dan ieatr. Adwaenem un Cymro a gaffai gryn wythbunt yn yr wythnos yn Lerpwl fel foreign corres- pondent i un o'n cwmnlau llongau. A dim ond un enghraifft yw honno o laweroedd. Y mae'r Sais y salaf o'r un genedl yn Ewrop am ddysgu ieithoedd, a hynny am ei fod ynddo y fath ragfarn yn erbyn pob iaith ond ei iaith ei hun nes fod y gallu hwnnw wedi pylu ynddo canys caru rhywbeth yw'r ffordd gyntaf o'r un i ddysgu'r peth hwnnw. Yn awr, Cfymry mwynion, peidiwn a bod mor ddi- gynnyg, na gadael i bob ethnig a phublican fynd a'r swyddi brasaf dan ein trwynau. Os ganddynt hwy y mae'r blawd, gennym ni y mae'r epies. A pha beth ddaw o flawd byth heb hwnnw ? Fe fydd yna alw am drafael- wyr nwyddau ac athrawon colegau a chyf- ieithwyr ac yn y blaen maes o law yn medru y Rwsiaeg a'r Ffrangeg ac amrytal ieithoedd y Balkan, canys bydd ein hymwneud masnaehol a gwleidyddol a'r gwledydd hyn yn til mwy nag a fyddai, a byd newydd yn ymagor i'r mwyaf effro i'w feddiannu. Ar ol ysgrif- ennu'r paragraff hwn, gwelais Dr. Mary Will- iams, athro'r Ffrangeg yn King's College, Llundam, ar aelwyd Pedr Hir, a dywedai hi fod dysgu'r Rwsiaeg eisoes yn y Coleg hwnnw, ac fod yno fawr ddysgu ar yr Ysbaeneg hefyd, er mwyn cael Prydeiniaid yn medru'r iaith honno i fynd i Ddeheudir America, i ddiso dli'r Germaniaid sydd wedi ymwtliio i'r lie a magn masnacli mor fawr a, Sbaeniaid y Cyfandir mawr hwnnw. Ac felly, bwi'r Cymro y I cyntaf i'r felin gaiff falu. 12— YMHLE Y MAE GWENDID YN DARFOD A PHECHOD YN D?C?- I' REV? Noson athronyddol a diwinyddol fyddai hon, wrth drin pwnc. mor ddyrys. Dyma k i'r Jesiwitiaid goeg-re?yma a hoUti blew rJBYD- W YBOD. Gosodwell bwnc y Gwrthwynebwr Cydwybodol yn deg a chlir gerbron nid drwy ei faeddu a lluclno pob llysnafedd coeg- lyd ato. ond drwy ddadl foneddigaidd a theilwng o'r cannoedd rhai genuine sy'n di- oddef pethau mwy brathog na bidog er mwyn ufuddhan i'r hyn sy'n Llais y Meistr iddynt I hwy. Pwy bynnag fydd yn darllen papur ar y pwnc hwn, ei gamp fydd nithio'r wir gyd- wybod oddiwrth y gau, gan elrenmi Teimlad, Rhagogwydd (bias), Barn a Rhagfarn, ac yn y blaen, nes fod gan y cyfarfod weledigaeth weddolglirbeth ydyw'rhyn aeiiwcymdeithas mor qhb yn Gydwybocl. Bydd gan yr agorydd dipyn o gamp y noson honno. Ond beth bynnag fydd. barn y cyfarfod am y gwrtliwynebwr cydwybodol, ni fedr neb hythr gyfiawnhau'r ffordd gywilyddus o giaidd y ymddygir t-uagatynt mewn llawer gwersyl ac y mae yna Brwsiaeth mor greulon ac yscymun ym Mhrydain a dim ydd yn Berlin, yn sicr i chwi Wrth gwrs, y mae yna rai'n cymryd arnynt lechu tu ol i'w Cydwybod,— nid oes ar neb ohonom eisiau cytiawnliau y rhai hynny—dim ond gadael y cwestiwa iddynt ei setlo Ymhle y mae Cydwybod yn darfod a rhith-esgus yn dechren ? Yn nhymor hawddfyd a heddwch, yr oeddym wedi rhyw lithro i feddwl mai rhywbeth un- faint-.tatic-oe,dd Cydwybod, ac yn arwein- ydd gweddol bendant i bob dyn pa beth fyddai ei ddyletswydd ymhob rhyw dro a digwydd a'i cyfarfyddai ond na, y mae'r rhyfel yma wedi dangos mai rhywbeth hydwyth (elastic) tnhwnt ydyw, ac ago red i gael-ei hestyn i bob hyd fel india-rubber, yn ol gogwydd ac anian y dyn fyddo mewn congl. Ond cofiwch hyn po trymaf y stretch a roddwch chwi ami, mwyaf yn y byd fydd ei rebound hithau wrth noidio'n ol a'ch taro mor heger nes y bydd yno graith byth. Fodd bynnag, o gael y dynion iawn i'w drin.chwi ddylech gael noson fuddiol ac adeiladol tnhwnt wrth benderfynu hyd CYDWYIIOD a haw I Gwr.AT>VVi;iAETH. U—LLINDAGCJ GERMANI. Gwy- ddoch fod y Prif Weinidog B'.ughes oAwstralia! a gwleidyddion Diffyndollol eraill, yn pleidio'r syniad o wrthod masnachu'r' un gwerth grot a'r Almaen wedi y byddo'r rhyfel ar ben, ac amyraeud eu goreu glas i'w diarddel o Seiat y Teyrnasoedd. Ond tybed ai doeth hyn, heb s6n am Gristionogol ? Yn ol fy marn fach i, y mae mor greulon a dal crane ae yna dorri -ei fodiau er mwyn eu defnyddio'n abwyd i ddal pysgod eraill, fel y bydd y bechgyn craidd yma'n gwneud ar y tvaeth, ac megis y gwneu- t.hum ganwaith fy hun cyn dod i'r goleu. Nid wyf fi'n deall dim ar Ec.onomeg Wleidyddol, a diolch mai nid ar w-.vl)o ct I tonno y irt zte'm cadwedigaeth yn dibynnu; ond dyn-ia 'whwne i Os boycotiwch chwi Germani fel yna, ac v torrwch ei bodiau masnachol mor Hwyr, r'a sut yr ydych yn disgwyl iddi dalu b il y? iawn -yr in,lenin;ty-antthi,ol a ddaw iddi oddi- wrth y Pwyllgor Cydgenedlaethol a fydd yn setlo telerau'r heddwch yn y Seiat. ddiangof sydd i'w chynnal ymhen rhyw naw mis ym mharlwr y Caisar yn Berlin? Y mae yn fy mryd holi am press ticket gan Mr. Lloyd George i gael bod yn y seiat honno, a rhoi'm holl gynheddfau gweiniaid ar eu heithaf i'w dis- gritio yn Y BUYTFTOK. Y mae'r Merlyn yn gweryru dros y Stabl wrth glywed s6n am dailh mor gydnaws a'i anian. Byddai raid iddo glvido camera gydag o ar ei gefn i'r Gyn- hadledcl er m wyn cael snapshots o wrychyn dreng a gwep laes Arch Fwli'r Hyd wrth glywed ei dynged yn cael ei darlien, ac yntau'n disgyn mewn llewyg di-ddeffro i freiohiau Hindenberg. Gan mai Mr. Lloyd George fydd llywydd Seiat yr Heddwch, bydd raid iddo siarad a gosod yr achos gerbron yn y Ffranges yr wythnos honno, canys mi a wn yn dthaf da mai Victor Hugo ydyw un 0 '} hoS awduron, a'i fod yn meddwl cymaint o hwnnw yn French ag ydyw o Ceiriog yn Gymraog. Ac felly, rhwng popeth, mi wn na fyddaf ddim yn fyr o gopi'r wythnos honno. Ond gnawd i ferlyn grwydro ac felly dyma n'n dod yn ol at y pwnc o dagu Germani, ac yn eich cymell i gael dau economist eyf arwydd i nithio'r pwne, rhag ofn fod y Tariff Reformers, yn sgil easineb at Germani, yn mynd i arwain Prydain Fac- nach Rydd ar gyfeiliorn. 15—GENEDLA ETHOLPR FASNA GH FEDD WOL.—Y mae cysgod y rhyfel ar bob pwnc a grybwyllais bron, ac y mae ei gysgod yn drymach ar hwn nag odid yr un, canys yr Armagedon yma a daflodd y goleu mwyaf o ddim ar felltith y ddiod, yn wladol cystal a theuluol a phersonol. Ond pan ofynnir i ddyn yn sydyn ai gwell fyddai ei chenedl- aetholi,—sef ei rhoddi yn ei chrynswth yn nwylo'r Llywodraeth—rhyw deimlo'n sigled'g eu barn y mae cannoedd o wyr da sy'n gystal dirwestwyr a neb yn eu calonnau, ond fod y pen yn methu'n lan a chael gweledigaeth glir beth i'w ddywedyd na'i sgrifenhu ar y pwnc. Y mae'n harweinwyr yn rhanedig, a rhai'n dywedyd dim. Ond ni waeth heb a phlannu y pen yn y tywod fel yr estrys rhag gweld y broblem yna y mae hi o hyd a rhaid ei hwynebu, yn hwyr neu'n hwyrach. Gwelwn fod rhai o'r cyfundebau crefyddol Cymreig wrthi'n penodi eu gwyr amlycaf i drafod y pwnc a cheisio gwelecligaeth a chyd ddeall arno. Nid oes ar neb ohonom eisiau bod a dim rhan yn y Fasnach Felltigaid nac oes, nac eisiau ychwaith golli'r cyfle, os gellir fodd yn y byd, i'w hysigo a'i chael o grafangau'r bob! sy'n tomennu'r fath olud materol o eneidiau anfarwol. Pe gellid ei phrynnu yny fath fodd ag a barai ei diddymu, prynner hi yfory nesaf ond os mai rhyw Jack Lantera i'n hudo i gors ddiwaelod ydyw'r demtasiwn hudolus hon, wel, byddwn ofalus,a chyfrifwn fyrddiwn cyn llamu iddi. Y mae Mr. Lloyd George a dirwestwyr eraill yn aelodau o'r Weinyddiaeth hon ond bwriwch fod Gwein. yddiaeth arall, lai Dirwestol ei hanian, yn dod i awdurdod ar ei hoi, sut y byddai hi wedyn, ys gwn i ? Bydd y trethi'n drymion tuhwnt ar ol y rhyfel ac oni fyddai'n demtasiwn go flysig i'r Llywodraeth dapio'r cyllid a geid oddiwrth y diodydd i ysgafnu peth ar y rheini, er mwyn cadw'r bobl ynddiddig ? Hvnsvdd Sicr tod y dynion a'r ewmiiiau biau'r Fasnach yn ei dwyn ymlaen yn awr er mwyn ei helaethu ac yn berffaith ddibris o'r felltith foesol a thymhorol a barant i'w gwlad ond bryd y Llywodraeth ddylai fod ei dwyn ymlaen er mwyn ei graddol gyfyngu. Rhaid gofalu am ddadlu hon heb gethru ar ein gilydd, na galw'r sawl a wahaniaetho mewn barn oddiwrthym ni yn fradwr i'r achos. canys pan ddelo sel eirias i fewn drwy ddrws y ffrynt, y perygl ydyw i foneddig- eiddrwydd a chrefydd orfod dianc allan drwy ddrws y cefn. 16-A YDYW CYMRU'N ADD FED I GANU 0 UN LLYFR, SEF LLYFR HYMN A U GENEDLAETHOL ? Y mao gwyrHetaf amwyaf ehangfryd Cymru'n taeru ei bod hi cododd un ohonynt-y Parch. Tecwyn Evan. -y peth i'rgwynt yn Eistedd- fod Aberystwyth ac wrth glywed "y fath ganu eneiniedig o'r un llyfr y dycld Gwener hwnnw, Beth sydd i'n hatal rhag canu fel hyn o'r un llyfr gydol y Hwyddyn ? ebe fo A l Debyg iawn ebe'r dyrfa cltwe mil ar ei ol. Ond dan hudlath ei hyotledd ef y dywod- ent hynny. Fa beth a ddywedent ar ol mynd adref, a phawb i 'w gapel a'i lyfr nnnwyl ei hun, dyna'r pwnc i Ac os un Llyfr Hymnau, pam nad un Athrofa Ddiwinyddol hefyd, ermwyn i hen ddelfryd Dr. Thomas Charles Eldwards gaal ei sylweddoli ? Gyda, Haw, cyn gadael y pwnc hwn, pwy ydyw'r gwr y cyfeirir a,to mor cryptic, yn Y G,Aeuad yr wythnos ddi- weddai Y mae si ar led fodgweinidog ac ysgolhaig "v Beiblaidd adnabyddus yn myned i ddangos, mewn ffordd ymarferol, cyn bo hir, ei fod yn credu yn uniad yr enwad- au." 17—GENEDLA ETHOLPR TIR A'R MWNGLODDIAU A'R PFYRDD lIAE. .4 RN: fe gewch chwi weld y bydd y pwnc hwn yn hawlio sylw'r Senedd ar derfyn y rhyfel 18—EfN CREFYDD A'N COLEGAU. —Gwvddoch fod Dir|irwyaeth Frenhinol wrthi'n dechreu chwilio i fewn i gyfundrefn addysg golegol Cyn-tru ac er fod gwyr profedig yn y cylchoedd yn gwybod yn eithaf beth ydywgwirgyfiwr pethau, ychydig rhagor a ddylent a wyr y werin, a rhy ychydig o lawer yw'r diddordeb a deimlant mewn Dirprwy- aeth sydd a'i gwaith mor bwysig i grefydd a. gyria beehgyn Cymru. yn y dyfodoL Clywais Broffeswrun o'r colegau yn dweyd pethau difrifol iawn, dair wythnos yn ol, am sut yr oedd pethau yno mor ddigydymdeimlad ag iaith a lleayddiaeth ac asbri grefyddol Cymru yr oedd yr holl athrawon bron, ae fol y min- gament mor dosturiol wrth edrych i lawr ar bethau annwyl gan y Cymry. Y mae corff llywodraethol y colegau hyn o'i le, ebe fo.; Saeson cyfoethog a wladychant yngNgliymru, etholir y rhai hynny arno drwyddynt hwy yr etholir y proffeswyr ac y mae y rhai hynny mor anwybodus o anian a theithi meddwl y Cymro, ae mor oer a philistaidd eu hagwedd at yr hyn a ystyriwn ni yn bethau anhebcor i'n bywyd fel cenecll, nes fod holl awyrgylch y lie yn farwol i grefydd a hunanbarch y Cymro. Dyma'r gwir mewn gair fod llawer o rieni Cymru, wrth weld eu bechgyn yn cychwyn am y Coleg, yn arswydo rhag iddo golli ei grefydd yno. Fe ddylasai rhywun, cyfarwydd a phethau o'rtufewn, droi allan i ddeffro'r wlad gwr bwy gilydd" drwy osod y ffeithiau ger- bron, a hynny cyn i Ddirprwyaebh Haldane a'i wyth neu naw cymdeithion orffen gwran- do'r tystion a llunio'u hadroddiad. Dylai pob Cymdeithas Genedlaethol a phob Cym- deithas Lenyddol, perthynol i Lan a Chapel drafod y cwestiwn hwn, a gohebu a rhywun tua llygad y ffynnon am y ffeithiau. Nid yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae'r Twrch Trwyth yn unig, eithr yn ein Colegau a'n Prifysgol hefyd, a V.C. i bwy bynnag a fedro'i ladd ef a'i lydnod. Ond y mae cyfaill mil mwy cyfarwydd na mi wedi addo ysgrifennu ar Grefydd Cymru a'i Cholegau. ac felly fe dawaf ac a gadwaf le i ragor o swp testynau Dyn y Gaeaf ymhen rhifyn neu ddan eto. Llygad y Wawr, J.H.J. I
0 LANNAU TAF. I
0 LANNAU TAF. I MYND yn ddigon hwylus y mae pethau Y ffordd yma. Nid oes brinder arian ar Y gweithwyr. Pobl y pres sefydlog yw'r unig rai a all gwyno ysgolfeistri a phregethwyr, er enghraifft. Gydahwy ymae amI ymdrech ddirgel i gael deupen y llinyn ynghyd. Nid y llafurwr tlawd," ond yr athro neu'r efengylydd druan, sydd y dyddiau hyn yn gorfod "Rhoi angen un rhwng y naw." Hyderwn.fod y mwyaf doeth a darbodus o'r gweith wyr yn paratoi erbyn y dyddiau gwaeth sydd yn rhwym o fod ar eu cyfer wedi y "tyr heddwch allan." Amhosibl yw i'r dinistr ofnadwy ar fywyd ae eiddo sydd yn mynd ymlaen ers dros ddwy flynedd beidio d chreu newyn ac eisiau rywbryd rywie mwyaf y llanw, mwyaf y trai. Nid yw Cyrn reigiaeth yn uchel iawn ei phen yma. Troi glo a haeam yn awr yw busnes Glannau Taf. Whai is the use of it ?— dyna'r cwestiwn a o fynnir yn barhaus pan yn sdn am yr hen iaith. Ewch allan i'r heol a gwelwch hi yn trcngu. ar y palm ant, a chlywch ei bloesgni olaf yn llaid y gwter. Yr wyf yn digwydd byw mown lie yr ymfudodd llawer o chwarelwyr y Gogledd iddo flynyddoedd y streic ac ambell dro tybiaf fy mod ar y stryd yn Ffestiniog. Ond y mae eu plant yn troi'n Saeson dan eu dwylo-effaith yr ysgol a'r stryd, ao esgeulustra eu rhieni. Digrif i'r eithaf clywed y Gogleddwyr hyn yn siarad eu Saesneg gyddfol a bratiog a'u hepil anghym- reig. Mae ymdrech wedi ei gwneud drwy'r blynyddoedd i ddysgu'r heniaith yn yr ysgol- ion, ond methaf weld nemor o ffrwyth syl- weddol i'r llafur. Yn anffodus, drygir aehos y Gymraeg yn ami gan ei cheraint goreu hawliant ormod i'w gwlad a'u llên. 0 ba ddefaydd haeru fod gennym well nofelwyr na Scott, a gwell beirdd na Shakespeare ? Pe toaem yn gallu perswadio pob Cymro fod peth yn ein llenyddiaeth y byddai yn resyn mawr ei golli pe baem yn medru gwneud llenydd- iaeth syml a gwerinol Cymm yn ris i'r plentyn ddringo i rywbeth uwch a gwell, cyraeddasem nod uchaf ein cenedlaetholdeb. Mae hen Gymry Merthyr yn graddol ddiflannu, llenorion hen ffasiwn fel Nathan Dyfed a Gwernyfed, ac ysgolorion fel Llyw- arch Reynolds, gwr teilwng o'i restru gyda Thomas Stephens, awdur Literature of the Kymry. Eto mae rhai o'r hen ysgol yn aros, fel Ieuan Dyfed, sydd o hyd yn gwyntyllu'r cynhyrchion barddol yng ngholofn Gymreig y Merthyr Express a loan Bydir (J. B. Lewis) yr hwn, ac efe'n tynnu'n gyflym am ei 80oed, sydd wedi cyhoeddi cyfrol fechan o farddon- iaeth, Awelon o Faes yr Aweriau. Mae beirdd yr Eisteddfod a'r cyfnodolion yn cyflym ym- ddieithrio oddiwrth y werin ni ddarllena'r bobl mo'u hawdlau gor-gelfydd a'u telynegion cyfrin-dywyll. Ond dyma lyfr a ddarllenir gyda bias gan y glowr wrth y tftn, gan yr amaethwr gwledig ar ei aelwyd hirnos gaeaf, a chan wyr mwy dysgedig yn eu myfyr-gell- oedd. Wrth gwrs, nid oes ynddo ddim hanfodol wreiddiol nac aruchel iawn ond y mae popeth yma yn true to nature. Gaf fi ddyfynnu pennill neu ddau-?- CIVI"- y Byd. Mae rhai yn dweyd mai crwn yw'r byd-. Yn wir, 'rwyf bron ac amau, Oherwydd hyn, yr wyf o hyd Yn taro wrth ryw gongiau Ond hyn a ddysgaf yn ddiffael, Tra'n teithio ar ei lwybrau Daw'r clwyfau dyfnaf wyf yn gael Trwy'r rhai a garaf oreu. Naturiol a hollol wir, onite ? Eto, wrth feddwl am yr hen amser yn y wlad Fe gadwodd nhaid ei ddannedd Bron i gyd, Yn iachus am gan mlynedd, Bron i gyd Yn awyr iach Sir Benfro, A'r bwydydd pur oedd yno, Naturiol, hawdd eu treulio, Gwyn ei fyd. Lie brat i ddyn heneiddio, Gwyn ei fyd. Gael b clan, Dyna'r bwyd, A sopas cryf a bwdran, Dyna'r bwyd Y llaeth heb ei andwyo, Yn bur feI c'ai ei odro, Cael hwn ac uwd i ginio, Dyna'r bwyd, Neu gawl cig moch Sir Benfro, Dyna'r bwyd. le, dyna'r bwyd—syml, cartrefol, blasus-un y gall y bobl gyffredin yn hawdd ei gymryd a'i dreulio nid estron-betliau'r beirdd newydd- af, neu hen-bethau wedi llwydo yn y Canol Oesoedd, fel y cawn gan ysgol arall o feirdd. Rhaid codi'r mensher yn raddol iawn i'r werin. Os caf groeso gennych, hyderaf eto, o bryd i bryd, draethu ychydig yn syml ac yn gar- trefol, ar rai o'r digwyddiadau neu'r amgylch- iadau a ddont i fy sylw ar Lannau Taf. S. [Croeso ? cewch A dowch bob Wythnos, os galloch,—Y GOLJ. o
YSMFELL Y BEIRDD
YSMFELL Y BEIRDD f "'ÙhiOD «l)ter 6' r golom hon iw oyf- p R DRoy2l7 Prescot Road, Liverpool ORIAUR NOS. DTAKWYEOD yr a heibio—y nos Dros ddyn iach pan gysgo Ond rhydd pob a,wr drymfawr dro Yn nos poen sy heb li-tino.-PFDRO(J. DEDFRYD Y CLEDD." NOOAU v sy nad oes hedd.—drwy g'wilydd Dirgelir tangnefedd Cloi dan rwd wnawn y cledd, A cholli blwcli ei allwedcl.—IsirnoN. YR ALLWEDD. RHOI dan gudd, a datgnddio—liyn yw'r oil Wna'r allwedd bach cryno Ceir rhan glir o'r cywrain glo, Yn adenydd amdano.—BAKLWVDON", CADEIRFAHDD 1916. UKR wr y Gadair Arlan,ijon Elis,- Niwliodd ar y cyfan Yn haul dy gerdd—loewgerdd lan, I Dwr yr Abad eirian.-CY.TIT. FY MRAWD, Pie. Hugh Owen, o'r Fyddin Gymreig, a ladd- ivyd yn Ffraine, Gorffcnnaj 20, 1916. MAE'r cymylau yn ddu, a'r nos yn ddiffawd, A'r newydd yn chwerw am danat, fy mrawd Mae'r groes yn un arw, a'r ysgwydd yn wan, A'r baich am fy nilyn drwy'r byd i bob man. Myn atgof a hiraeth fy llethu yn llwyr, A dirif yw'r dagrau o fore hyd hwyr Yn hedd yr hen aelwyd nid oeddym ond dau, A dwy galon ysgafn yn eydlawenhau. Tan flodau y fynwent y gorffwys fy nhad A mam, o ryferthwy dinistriol y gad Mor ddwys yw'r unigedd fy mrawd, hebot ti. Una meiys IyCiCi cwraa y nu araii i'r ilr. Tan ergyd y gelyn, fy mrawd, cefaist fedd, A chefnaist am hyth ar y tryhlith dihedd Dychmygaf dy weled a'th lygaid yn fflam, Yn syrthio dros henwlad dy dad a dy fam. Fy mrawd, gwelaist f i-wydrau aneirif, agwaed Dy frodyr yn ffrydio o amgylch tan draed Mi wn iti syrthio dros ryddid i fyw Tan faner cyfiawnder, yn enw dy Dduw. P Bob tro'n dy lythyrau yr oeddyt yn s6n Am gael dyfod adref, ac adref i F6n, Ond 0 'r oedd y gelyn yn onnod ei frad I ti gael dychwelyd, fy mrawd, i'th hen wlad t Mae atgof yn siarad o hyd yn fy mron, Ac hiraeth yn codi yn don ar ol ton Amdanat, fy mrawd, ac 0 fel mae'r gainc Mor lleddf am dy golli, Yn rhywle yn Ffraine. Fy mrawd, 0 mi garwn gofleidio y fan Agorwyd i ddodi dy hoff farwol ran Ni raid im esbonio na chodi fy nghri Fod beddrod y milwr yn agos i mi. Yr oeddyt yn wrol, yn gryf a difraw, Yn lion mewn cymdeithas, yn dyner dy law Yr oeddyt mor ddidwyll a blodau y ddol, 0 na chawn dy weled yn dyfod yn 01.. Mae Angeu yn brysur a'i bladur yn goeh, Y rhyfel yn greulon a'i fegnyl yn groch Taqgnefeddyn, 18el ei ben yn y byd, Ona hiraeth yn gryfach na phopeth o hyd I: rhy wle yn Ffraine bed fy meddwl yn hir, Mae'n fan cysegrQdig fy nghalon yn wir Pie bynnag mae'th feddrod, fy mrawd, dod y Nef Ei haden garedig yn llawn trosto ef. Mor ddrud yw dy aberth, mor arw y loes, Mor oleu y Bywyd tros ysgwydd y Groes Galeted y brwydro, fy mrawd, yn y ffos, Mi wn iti dderbyn y Crist yn y nos. Hun bellach, fy mrawd, yn y rhywle pell," Ni gawn gwrdd cyn bo hir gyda'r glannau gwell Bydd utgorn Tangnefedd yn galw pob gwlad I undeb a Chariad tragwyddol y Tad Bodffordd, Mon JOHN OWEN.
Advertising
tF EVERY WOMAN SJMOTII-D send a stamps for our 33 page Illustrated Pook a containing val liable information how all Irregularities and Suppressions may be entirely avoided or remarad by simple means. Recommended by eminent Physicaa*, as the only gaf-, Sure and Qenuiae Keifiedy. Nevor f *i( Thousands of Tsstimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD! Dataiua Lall. LONDON