Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

.Drwodd a Thro.

Gofid, Dyled, Gobaith.

News
Cite
Share

Gofid, Dyled, Gobaith. I I Y nail I. ar ol y llall, y dyddiau hyn, daw newyddion trist atom o'r gvflafan erch sydd draw deuant fel y cenhadon hynny at Job gynt tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth." Yn ddiau, o saHe filwrol a gwladwriaethol, y mae'n goleuo arnom gwesgir yn dynnach dynnach ar y gelyn amgylch-ogylch, a chlywir yng ngeir- iau'r rhai cymhwysaf i farnu nodyn hyderus a chalonnog, fod i ni bellach, wedi hir frwydro'n erbyn drycin, y llaw uchaf ar ein gwrthwyneb wyr. Mae'rfuddugoliaetho'ntu,ond ygost sy'n ofnadwy t rhifo'r llanciau glan, fel defaid gwirion, mud, i'rlladdfa goch." Dygir ofnadwyaeth rhyfel i'n liymyl, a gordoa cymylau uwchben aelwydydd a fu'n ddiloes. Llawer milwr ieuanc cydnerth, hoew, golygus, sydd a'i gorff lluniaidd wedi ei anffurfio am byth, neu wedi ei daro a dallineb alaethus, neu wedi ei wenwyno nes andwyo'i iechyd. Ar goll yw hanes eraill, nes y mae pryder yn llwyth trwm-lethol; parheir i obeithio, ond O mor dywyH yw Ond yn rhy fyn- ych a'r pryder a'r disgwyl ofnadwy heibio beth ddaw yn ei le ?—Galar dwys, trist, ingol, wedi'r sicrwydd i ergyd y gelyn daro bywyd y llanc, a chyrraedd hefyd galon ei anwyliaid. Dyma ddyddiau y galar, a'r wylofain, a'r ochain mawr." Torrir bywyd yn ei flagur marw ym mis Mai eu heinioes wna'r bechgyn. Ti a ddeui mewn henainl i'r bedd nid oes ond hynny i'w ddisgwyl, dyna gwrs naturiol pethau ond pan fyddo'r bywyd yn ei wanwyn, ac yn ymestyn am yr haf, mae i lwydrew gwyw gaeaf marwolaeth ddisgyn arno yn ofid blin. Pe clefyd neu haint fuasai'r achos. gallesid dygymod yn well ond hyrddir y dewrion drwy'r bwlch ym mhoethter brwydr ni suir hwy i gysgu'r hun olaf yn swn lleisiau eu mewn clydwch cartref, eithr daw y diwedd yn nhrwst erchyll yr ymladd fiyrnig ar y tir a fwydwyd gan waed- collwyd hwy yn y taro, a phle maent ? Am rai ohonynt ni wyddis pie yn yr estron wlad y gorweddant, gan na ellid rhoddi cy- maint a bedd iddynt. Neu efallai hwyrach mai i'r mor. distaw y disgynasant, a chuddir hwy gan y don fud. Dyna ben ar y bywyd ynu: y cynlluniau i gyd yn yffton, a niwl angau wedi dod dros y gobeithion ni chlywir eu llais, ac ni welir eu gwedd. Nid oes dim ffafraeth tarewir gwreng a bonedd, dysgedig ac anllythrennog, cefnog a thlawd, a gedy pob un fwlch yn rhywle ar ei ol, mewn aelwyd a chalon. Gwir na alarwn fel rhai heb obaith fe wallgofem onibai fod gennym gred yn anfarwoldeb yr enaid, ac fod tra- gwyddoldeb ar ei hyd i wastadhau'r cyfrifon"; y mae bywyd disglair a gwyn Uawer o'r rhai a gollwyd yn sicrwydd i ni eu bod dan loewach nen nid angau, er ei gryfed, gafodd y gair diweddaf ond-ie, ond I-mae hiraeth ar em calon, a galar yn aradru mynwesau ac yn rhychu wynebau. Er pob son am fuddugol- iaeth sydd i ddod-a diolch am hynny !— nid yn fuan yr iacheir y mynwesau briw, nae y cymodir a'r gadair wag. Torrir y cylymau anwylaf yn greulon sydyn, ac a'r byd yn wag mewn eiliad 11  I Clywais y dywed rhai—Duw a faddeuo iddynt, !niai mewn ysbryd rhyfelgar a sych- edig am waed yr aeth y Ilanciau,hyn i f rwyd.ro, Nage Carwyr heddwch ydynt, er y gall fod eithriadau prin. Cas yw ganddynt ryfel; ni niweidient unpeth pe medrent beidio a llenwir hwy'n ami 4 dychryn ac arswvd. Pam yr aeth ant ? O'nhachos ni yn darian. nau i gadw'r gelyn draw rhagom ni: er mwyn i ni gael rhodio'n ffri fel arfer, a medru dweyd ag ystyr newydd: "nad oes na rhuthro i mewn na myned allan na gwaedd yn ein heolydd." Daeth galwad Nehemia atynt Cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch tai." A chlod iddynt ni buont araf i'w hateb. Mae'n diddosrwydd ni mor ddinam am fod gwylwyr dyfal mewn awyr, tir, a mor, yn gofalu na ddaw pla yn agos i'n pabell, cyd ag y bo ynddynt anadl ffun i'w atal. Beth a dalwn iddynt ? Onid ydym ry barod i gwyno ar ein byd, a ninnau mewn cymaint clydwch ? Gwir fod drudaniaeth yn dir- dynnu ac os oes masnachwyr traws, annynnol ac annuwiol, yn budr-elwa ar newyn y tlawd. rho dder h wy mewn rhwymau a dyweded y Llywodraeth wrth boh un o'r hil Hands off the people's food Eithr onid ydym ry chwannog i gwyno oherwydd yr annibendod a'r anhwvlustöd svdd ar bethau oherwydd galw dynion i wyneoi-i'r tAn yn ein lie ? Beth yw'n hanhwylustod ni wrth eu hart eithiau hwy ? Yn y Daily News rai dyddiau'n ol, ceid pethau byw iawn ar hyn gan swyddog o'r R.A.M.C. gofalu am y clwyfedigion a ddeuai drosodd i borthladd nelltuol yr oodd I'vo been handling badly-wounded men who have lain out untended sometimes for two or three days of blazing sunshine, on filthy, blood-stained, shell-pulverised earth, their tongues swollen and their lips caked. Never a sign of complaint, though they have known what it was to feel they would gladly give a hand or a foot for a petrol can that had half-a-pint of dirty water left in it. Another man, who spends eight hours every night in a comfortable bed and eats three or four good meals every day as a matter of course and takes a drink whenever he feels like it. going comfortably through his daily life, with his pipe and his amusements, fills the air with his com- plainings because one thing costs a penny more than it did and another thing is not so easy to get as it was because of inconvenience Inconveniences Heav- ens, what a lot they might learn from these rows of stretchers Onid cywilydd fyddai i ni gwyno ? A'n bywyd yn costio cymaint, fe ddaliwn bob anhwylustod, ac a folwp ein dewrion. Diau na bu eynifer ffrydiau o gymwynasgarwch a charedigrwydd a'r dyddiau hyn, na mwy o roddi dirWgnach ac wedi'r cwbl, cawn ni ein heddwch yn rhad i'n milwyr, a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes," y mae'n ddrud. Y mae'r wen sydd ar wyneb y gwron anafus, yn ei wisg o wlanen las, wrth dderbyn mymryn o gymwynas, yn dal can cymaint. Iiyderwn, pan ddistawo twrf yr arfau, a sain utgyrn, a glamour buddugoliaeth, na adewir i'n hamddiffynwyr glew Niiilitsgo drwy angen creulon i farw mewn tloty, yn dwyn yn eu corff nodau y brwydro drosom, ac yn dystiol- aeth mor anghofus ydym ? I III I Beth a fydd ar 01 hyn ? Pwy a wyr ? Darogenir llawer cyfnewid ymhob gwedd ar fywyd,-ai er gwell y bydd ? Ofnid, pan basiwyd Mesur Gortodaeth, y gosodem gadwyn drahaus milwriaeth am wddf y wlad, nes y deuem yn beiriant rhyfel fel Prwsia efallai, ond gwir a ddywedodd gwr o fri, mai'r ysbryd a gynhyrchoddgyfundrefn yr Almaen, ac nid y gyfundrefn yr ysbryd. Ac oni ychydig o ysbryd milwriaeth sydd yn y wlad ? Gwir yr edmygwn wroldeb, ac y cofiwn ein dyled i'r rhai a aeth allan dros- om ond prin yw'r hen deimlad o foli ac eiluno'r pailwr fel y cyfryw. Onid ein teimlad cryfaf ydyw gresyn a gofid fod galw ar y llanciau i farw, ac fod llid ac ymladd mor uchel ei ben wedi cymaint o bregethu tang- nefedd ? Heddyw wedi gwyl a defod Ugain canrif namyn un, Os yw Duw yn caru dynion, Nid yw dyn yn caru dyn. Oni allwn obeithio, ar ol y gyflafan, y bydd y gwledydd—i arfer gair sathr—wedi syrffedu ar filwriaeth ? Dyma'n prif wleidydd yn datgan, pan oedd adref rai dyddiau'n ol Rhaid i ni ei gwneud yn amhosibl i neb allu dwyn erchylltra fel hyn ar y gwledydd eto, Gadewch i ni orffen a rhyfel yn awr ac am byth." Iechyd i'w galon ? Nid yn ofer cwympa'r llanciau, os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer ac nid am byth y dioddefa'r teyrnasoedd i fywydau diniwed fynd yn aberth i raib a thrachwant dieflig uchelwyr. Gweddi'r werin ymhob gwlad ddylai fod "0 agor fy llygaid i weled ac o weled, sefyll ar ei thraed, a dweyd, yn enw'r frawdoliaeth a ddatguddiwyd gan Fab y Saer, wrth bob teyrn a thywysog traws Ni fynnwn ni mohonot i deyrnasu arnom." Mae'r dydd hwn i ddod, ac fe'i prysurir drwy'r alanas hon. (Gan gofio, diolch yn fawr i Gwili am ei anerchiad yn Undeb y Bedydd- wyr, ac am adroddiad mor 11 awn ohono yn Y BRYTHON). A thra y byddom, yng ngrym ein gwladgarwch teyrngar, yn erfyn y weddi fawr, "Duw gadwo'r Brenin," na foed i ni anghofio'r weddi fwy sydd yn emyn gogon- eddus Ebenezer Elliot (eyfleithitid Keri) Gaiff trosedd fagu trosedd, A'r cryf gryfhau o hyd ? A fynni Di i lafur Fyth gynnal gormes byd ? Na medd Dy fryniau Na Dy nef Fe gwyd yr haul, a chydag ef, Dynoliaeth gwyd a llawen lef,- j Daw gadwo'r Bguol J.D.R.

Advertising