Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

Advertising

Basgadaid o'r Wiai

News
Cite
Share

Basgadaid o'r Wiai OIR lIBN SIR, SEF Sf R FON. Pan ar ei gwyliau haf yn nhrigfod ei mab yn Nhre- mynfa, Llanddaniel, bu farw Mrs. Grace Davies, gynt o 11 The Willows, dinas Y BRY- THON. Iii'n f am yn Israel," a'r hynaf o'r chwiorydd. yn Nhabernacl yr Annihynwyr yno. A phwy a wyr gymaint y golled ydyw colli'r hen proxiadol a gweddigar ? Aethai pobl gartrefol Llanddaniel a hithau yn bur annwyl o'i gilydd. Bu'n byw llawer yn ei Beibl. a llawer o 'r Beibl yn ei bywyd. Cladd- wyd ym medd ei phriod yn Anoeld, a'i gweini- dog, y Parch. 0. L. Roberts, yn gwasanaethu. --Calonogol parth tynged y rhyfel oedd y llvthyr a dderbyniodd Ficer Pritchard, Amlwch, oddiwrth ei fab glew, Ma'or Prit- chard, o Affrica, yn tystio y bydd baner Pry dam yn cyhwfanu dros y wlad honno eyn i Fedi a'i djmerwch gilio. Bu i ddeufab y Barnwr Lush, Caergybi, achub bywyd tri o ymwelwyr a'r lie. Troes y bad, a thaflwyd y tri i'r mor. Ond pan baratoai'r don i gau am danvnt, achubwyd hwy. Canmolir glew- der meibion y Barnwr. Ynglyn ag ar- werthiant y Groes Goch, y dydd o'r blaen, yn Llanfaelog, aeth y deison o waith Mrs.Hnghes, Tycroes Farm, i fyny i ddeuddeg swllt ar hugain. Aeth wy i fyny i gini hefyd. Ym- welodd dros wyth gant a hanner o bobl a'r maes, a bu'r elw ymhell dros ddeucant o bunnau. Lledu a thrymhau y mae nvmwl y rhyfel dros y Sir. Dyma'r newydd i Fro Goronwy fod y Lifft. Lewis R. Williams wedi ei ladd efe'n eilfab cu i Doctor a Mrs. Jones y Gwynfryn yn fachgen addawol iawn, ac yn ddim ond tair ar hugain oed a chyn mynd ohono i'r ffryntjabrofoddei lewdertrwy achub dau rhag boddi yn afon Warwick cadd tedal am ei wrhydri. A bro Llanrhyddlad yn colli un o'i bechgyn tawelaf ac addfwynaf, sef Thomas, mab Mr. a Mrs. Thos. Jones, Ty'n- llidiard. Mab arall iddynt wedi ei glwvfo, a dau fab arall wedi ateb yr apel.— Yng NghymanfaDdirwestoi Men, agynhaliwyd yn Niwbwroh, bu dticll boeth ar genedlaetholi'r Fasnach, a'r tan Dirwestol wedi ymrannu'n ddwy fflam oddeithiol. Mynuai rhai brysuro gwaharddiad hollol mynnai eraill gerdded yn arafach a sicrhau cenedlaetholiad. Gair cryf vdoed,d hwnnW o eiddo un o leygwyr craffaf y Sir, mai gwneud cyfaddawd a'r diafol fyddai cenedlaetholi'r Fasnach. Dy- weder a fvnner, mae rhywbeth yn ei sylw. Gwlad wan ydyw honno, beth bynnag a fo'i honiadau, sydd a'i Llywodraeth wladol yn gryfach nag Eglwys y Diiw Byw ynddi_ .— Llygad Agored. CAERLLEON Fjar wel y Parch. W. S. Joizes,M A.-Ar derfyn y Cyfarfod Gweddi,nos Fawrth, Medi 5, achubwyd y cyfle i ganu'n iach a'r Parch, a Mrs. W. S. Jones, ar eu hymadawiad o'n mysg. Cymrwyd y gadair gan Mr. Thomas Hughes, a sylwodd ar y gwaith mawr a wnaeth y Parch. W. S. Jones yn ystod ei bum mlynedd yn ein plith. Dangosodd mai eglwys drom i'w bugeilio yw eglwys fel hon, mewn tref Seisnig, a chyda chynifer o rai'n mynd a dyfod ond bu Mr. Jones yn neilltuol o lwyddiannus, dangosodd ofal mawr dros y praidd, ymgeleddodd y rhai a fu ar ddisberod, a bu'n helaeth mewn hael- ioni. Dilynwyd ef gan Mr. Robert Owen, trysorydd mudiad yr Anrheg, a sylwodd yntau ar y gwaith mawr a wnaethai Mr. Jones a'r pleser mawr a gafodd wrth gydweithio ag ef ynglyn a'r Market Sale, Yna galwodd ar y ddau i dderbyn y Solid Silver Fruit Dish a roddid iddynt gan yr eglwys fel arwydd o deimladau da tuagatynt. Ar y fruit dish yr oedd yn geriiedig a ganlyn ;— Calon wrth Galon. I'r Parch, a. Mrs. W. S. Jones, M.A., oddiwrth Eglwys St. John Street, Caer- lleon, yn arwydd o'u serch a'u diolch am wasanaeth ffyddlawn, 1911-1916." Atebodd Mr. Jones yn y dull dymunol a swynol sydd yn eiddo personol iddo ef ei hun a chyda theimladau na ellir eu dangos ar bapur, diolchodd yn gynnes i'r eglwys drosto ei hunan a'i briod. Dywedai eu bod yn gwertnfawrogi y rhodd fel arwydd o deiml- adau cynnes, a dyfynnodd o Islwyn gan ddywedyd,— | fel Ton ydyw yr arwydd hon, Ton o for eich caredigrwydd llawn. Dangosodd fel yr oedd wedi gwerthfawrogi caredigrwydd yr eglwys ar hyd y blynvdd- oedd. Diolchodd am hyn, ac am ymddygiad i boneddigaidd yr eglwys ymhob amgylchiad. Rhoddodd anogaeth hefyd i'r eglwys gordded rhagddi, a dangos yr un caredigrwydd i'r gweinidog fyddai'n dilyn. Yn nesaf, caed tystiolaeth gynnes gan Mr. D. Hughes (y casglydd ynglyn a'r anrheg) am y parodrwydd mawr a ddangosodd yr aelodauwrth gyfrannu, a darllenodd amryw lythyrau oddiwrth blant yr eglwys sydd yn y ffrynt, a phob un yn dangos mor hoff oeddynt o Mr. a Mrs. Jones, a'u galar wrth glywed eu bod yn gadael Caer. Darllenodd hefyd lythyr oddiwrth Mr. Henry Jones, Albion Park, a ddangosai fel yr oedd eu gweinidog wedi bod yn gryfder i ni fel Cymry yn y ddinaa, a rhoddodd ddarnodiad hollol gywir ohono pan ddywedodd amdano yng ngeiriau'r Apostol Yn gyntaf, pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, bonedchg- aidd, hawdd ei clrin, llawn trugaredd a ffrwythau da. diduedd a diragrith a tner- fynocld ei lythyr drwy ddymuno iddynt "Hecldwch o fewn eu rhagfur, a fiyniant yn eu palasau." Siaradwyd ymhellach gan y Parch. Ivor Jones (A.), yrhwn a sylwodd mor brydferth oedd gweled gweinidog yn ymadael yn feddiannol ar serch ac anwyldeb yr eglwys i'r fath raddau. rTystiai fod holl eglwysi Cymreig y ddinas yn teimlo'n ofidus o'i golli, ac ni allai roddi darnodiad gwell o'i gymeriad na thrwy ddywedyd ei fod yn "Gristion o foneddwr." Yr oedd ei ymddygiadau yn foneddigaidd bob amser, ac wedi eu trwytho ag ysb ryd E feng y! lesu Grist. Yroeddyrun peth yn wir am Mrs. Jones, hithau bob amser yn foneddigaidd, yn rhydd ac agored a phawb, ac heb wneud gwahaniaeth i neb. Gwnaed sylwadau pellach i"r un perwyl gan y Mri. W. Davies, T. Price, E. Williams, R. Mills a Mrs. T. Hughes. Hoffem ymhelaethu, ond palla gofod. Da oedd gennym weled y Parch. Jenkyn Evans (U.), a chael gair gan- ddo yntau'n dwyn y dystiolaeth uohaf i'w waith mawr a'i scl ddiflino dros yr Achos Dirwestol, a dymunai nawdd Duwdrostynt a phob bendith i'w canlyn ar hyd eu hoes. Yn olaf, sylwodd Mr. M. Parry ar y weinidog- aeth uchel oeddym wedi fwynhau dan Mr. Jones. Gosododd safon uchel o'i flaen ar y dechreu, a chadwodd ef i fyny hyd y diwedd Ni chlywodd neb erioed ef yn siarad yn ddifudd, ond bob amser yn goeth, yn ym- arfero], ac yn cyfaddasu pethau mawr yr Efengyl i'r amserau. Dywedai ei fod yn ddilynydd gwir i'r hen broffwydi, ac fodei waith o r- golwg yn fawr iawn. Terfynwyd drwy ganu emyn, a gwed.di deimladwy ar ran yr eglwys a'r Parch, a Mrs. W. S. Jones, gan y Parch. T. Curry (W.). NEUADD YMNEILLTUOL KIN MEL. ■—Dymuna'r Pwyllgor sy'n gofalu am y Neuadd uchod wneud apel garedig at bawb sy'n caru lies ein milwyr dewr. Mae'n wybyddus fod y Neuadd bellach yn ago red, nid yn unig i foddion crefyddol—prif amcan y sefydliad-ond lief yd fel canteen, lie y darperir ymborth blastis am bris isel fel darllenfa, etc. Ceir ynddi ystafell i ddarllen ac ysgrifennu, un arall i billiards a games diniwed eraill megis draughts, etc. Treinir hefyd gyngherddau n achlysurol. Ac er galluogi'r Pwyllgor i wneud y Neuadd mor ddeniadol a chyfforddus ag sy n bosibi i'r bechgyn, apelir am roddion gwirfoddo], Byddai unrhyw offeryn cerdd, megis harmon- ium, piano, neu gramophone dda, gyda records o ansawdcl da. yn dra derbyniol. Hefyd, games o unrhyw fath, megis chess, draughts, etc. Apelir yn arbennig hefyd am lyfrau, yn neilltuol rhai Cymraeg. Mae eisoes nifer o lyfrau Saesneg wedi eu rhoddi i'r Neuadd, ond nid oes yno odid yr un llyfr Cymraeg, a gwyddis fod ymhlith y bechgyn ami un nas gall fwynhau ond. llyfr Cymraeg. Byddis hefyd yn ddiolchgar am unrhyw newyddiadur neu gylchgrawn Cymraeg neu Saesneg, Neu, os carai unrhyw un anfon ei rodd mewn arian at unrhyw bwrpas, byddai'r cyfryw yr un mor dderbyniol. Anfoner pob rhodd i'r Parch. J. H. Davies, Free Church Hall, Kinmel Park, Rhyl, ysgrifennydd y Neuadd,

Advertising