Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Philip Henry, tad Mntheiv Henri. yr esboniwr enwog, ag lmral. Ere oedd caplan cyntaf y Pulstoniaid yn Northenbury. Pwy a'ipryn ? Rhyw Seisyn llogelldrom, mi wranta LLYSOEDD Y I'RIBYN.—Deil y rhain yn eu nifer, ond colJant vn en bri, Gwnend gwaith iddynt; eu hunain y maent yn awr ers tro. Ail brod yr un rhai y maent euhesgus- Odl aTri dymor, ac yn eu galw i fyny eilwaith a thrachefn, Potes eildwym yw eu hanes vn awr. Cyll ei Has bob tro, nes y mae bron a myned mor ddiflas ag yw o ddifudd. Wei wel i BRAD Y BRWS.~Gwyliwch, eillwyr, mae brad yn y brws. Cafwyd nifer o frwsis eillio yn nhref Gwmig Sam wedi eu llych wino gan anthracs. Math o Germaniaid andwyol ydynt. Daeth y Doctor Jones, ceidwad lecbyd y dref, ar eu gwarthaf, a gwnaeth hwynt yn garcharorion yn unionsyth. irtaedda gael y V.C. am hyn. Diogelwyd eillwyr lawer, ac arbedwyd ami i en rhag gwae. Mae perygl mewn seboni nid da gormod o sebon. Pan glywch seboni, gwyl- iwch yr anthracs. MYSLFlPlO'R SL-ICFR.Bit plismyn Gwrecsam yn gosod trap i ddalslackers y dref yr wythnos ddiweddaf. Gwyliwvd myned- feydd y dref nos Ian gan yr heddgeidwaid rhag i'r un gwr cymwys i ryfel ffoi. Daliwyd rhyw chwech ugain o bob math rhai di- ddrwg, rhai dnlda diwerth, ac hefyd yn eu plith rai o ragorolion eymdeithas. Mae apology yn sicr o fod yn ddyledus i'r olaf. R'lyw ddull anghallywhwni rwydo'reyfrwys. Y diniwed a ddelir fel rheol. Mae'n sport iawn i'r polis, yn excitement i'r cyhoedd ond atolwg, pa les yw ? Hefyd, gesyd argraff anffatriol ac anghywir ar y wlad. Y PI CIS YN LLE'R CLEDD.—Try am.ryw o'r milwyr yn eu holau i'w gwaith. Teflir y cledd i lawr ac ymefllr yn y picis. Gwelir fod mwy o angen y bechgyn gartref yn y lofa nag yn y rhyfel. Arwydd o ba beth ywhyn ? Nid drwg ydyw Brysied y dydd pryd y troir pob cledd yn bieis, pob gwn yn gaib, a phob bidog yn gryman- BATHODAU I GYMRY GLEW.—Mae digon o Fedals eisoes wedi disgyn i ran dewrion y Clawdd yn y rhyfel i gvchwyn Exhibition. I^id ffol o beth fai caol arddangos- fa ohonynt yn nhref Gwrecsam ar ol yr el yr ornest heibio, ynghyda darluniau'r bechgyn a'r bathodau ar eu mynwes. Nid cynt y cafodd y R. W.F. gyfleustra nag y dangososant eu metal. Nid oes guro ar Gymro ond iddo roddi ei oreu mewn peth. Fe gyfyd y Fatal- iwn Gymreig, trwy ei moos a'i grat, yr arfer o ryfela i dir uwch ac i awyrgylch wahano], Ofer fydd i swyddog dyngu a rhegu mwy. Gyrrir y cablwyr i'w lie eu hun." CYRDDAU PREGETFIU'R CLAWDD. —Llangollen (W.), y Parch. Christmas Anwyl (y gweinidog); Broughton (W.), y Parch. T. G. Ellis (Cerrig y drudion) a'r Parch. Meirion Davies Acrfair (W.), y Parch. W. Hawksworth (Kandsworth) Glanrafon (M.C.), y Parch. J. Lewis Jenkins, Lerpwl Pen y ffordd (M.C.), y Parch. J. Gunn, Ler- pwl Rhos (A.), y Prifathro Rees (Bangor) a'r Parch. Tegfan Davies, S. Wales. BRlW I'R HFNIAITH.Dywedir fod Bedyddwyr Cymreig y Clawdd yn myned yn Saeson rhonc. Mae achos Cymraeg y Moss yn myned yn rhannol Seisnig, os nad yn gyfangwbl. Un bregeth Gymraeg fydd, meddir, o hyn allan. Nid arwydd er da hyn. Os aiff yr heniaith allan, fe a llawer peth arall allan gyda hi, anodd eu hebcor. OROESO A FFARW EL.—Cyfarfodydd o'r math yma sydd gan y brodyr Wesleaidd yn llu y dyddiau hyn. Mynd a dod yw hanes eu gweinidogion pobl a mynd yn- ddynt yw'r Wesleaid, a hynny mewn yeh- waneg nag un y?f. Mae'r cyfarfodydd hyn yn digwydd yn Sgos iawn i'w gilydd r- nid ydynt wedi gorffen sychu eu dagrau ar ol un nad ydynt yn llawen groesawu'r Hall. Maent bron a medru, drwyarfer flynyddol, a ehrlo ag un rudd a chwerthin a'r llall, a hynny heb gellwair dim. GWR Y GLOWR DAN GLAWR.—Bu farw loan Williams, goruchwyliwr cyntaf y glowyr, yr wythnos ddiweddaf, ar ol hir nychtod. Gwr o'r Clawdd oedd efe ar y Clawdd y gahwyd ef, y bu fyw gydol ei oes, y gwasanaethodd ei frodyr ac y bu farw. Yr oedd- yn boblogaidd iawn yn ei ddydd, a gwnaeth waith canmoladwy ac ardderchog. Efe oedd blaenffrwyth gobaith y glowr ar y Clawdd. paliodcl swyddi lawer a chyfrifol, ao yr oedd perffaith ymddiried ynddo. Oafodd gladdedigaeth luosog ac anrhydeddus, ac arweiniwyd y cyfan yn ddeheig a doeth gan ei hen weinidog hoff, y Parch. W. B. Jones, Pen y cae. GOFFA. R DE WRION.—Ami yw'r pre- gethau coffa ar ol y glewion syrthiedig y dyddiau hyn. Bu gwasanaeth felly y Sul diweddat yn Engedi (M.C.), Brymbo, y Parch. R. Hughes, gweinidog dywedwyd pethau tyner iawn am y milwr, ac hefyd am chwaer ymadawedig. Achos byw iawn yw Engedi, a ba-chgen byw ei bugail. Aden gref y mawr lor a fodros y milwyr sydd eto ar y maes.
Advertising
SBND j:Stamped envelope for Advice to kJ Mrs. G. Stewart, Herbalist and Lady Specialist. Address, 9 Guinea Street, Bristol.
Basgadaid o'r Wiai
Basgadaid o'r Wiai OIR lIBN SIR, SEF Sf R FON. Pan ar ei gwyliau haf yn nhrigfod ei mab yn Nhre- mynfa, Llanddaniel, bu farw Mrs. Grace Davies, gynt o 11 The Willows, dinas Y BRY- THON. Iii'n f am yn Israel," a'r hynaf o'r chwiorydd. yn Nhabernacl yr Annihynwyr yno. A phwy a wyr gymaint y golled ydyw colli'r hen proxiadol a gweddigar ? Aethai pobl gartrefol Llanddaniel a hithau yn bur annwyl o'i gilydd. Bu'n byw llawer yn ei Beibl. a llawer o 'r Beibl yn ei bywyd. Cladd- wyd ym medd ei phriod yn Anoeld, a'i gweini- dog, y Parch. 0. L. Roberts, yn gwasanaethu. --Calonogol parth tynged y rhyfel oedd y llvthyr a dderbyniodd Ficer Pritchard, Amlwch, oddiwrth ei fab glew, Ma'or Prit- chard, o Affrica, yn tystio y bydd baner Pry dam yn cyhwfanu dros y wlad honno eyn i Fedi a'i djmerwch gilio. Bu i ddeufab y Barnwr Lush, Caergybi, achub bywyd tri o ymwelwyr a'r lie. Troes y bad, a thaflwyd y tri i'r mor. Ond pan baratoai'r don i gau am danvnt, achubwyd hwy. Canmolir glew- der meibion y Barnwr. Ynglyn ag ar- werthiant y Groes Goch, y dydd o'r blaen, yn Llanfaelog, aeth y deison o waith Mrs.Hnghes, Tycroes Farm, i fyny i ddeuddeg swllt ar hugain. Aeth wy i fyny i gini hefyd. Ym- welodd dros wyth gant a hanner o bobl a'r maes, a bu'r elw ymhell dros ddeucant o bunnau. Lledu a thrymhau y mae nvmwl y rhyfel dros y Sir. Dyma'r newydd i Fro Goronwy fod y Lifft. Lewis R. Williams wedi ei ladd efe'n eilfab cu i Doctor a Mrs. Jones y Gwynfryn yn fachgen addawol iawn, ac yn ddim ond tair ar hugain oed a chyn mynd ohono i'r ffryntjabrofoddei lewdertrwy achub dau rhag boddi yn afon Warwick cadd tedal am ei wrhydri. A bro Llanrhyddlad yn colli un o'i bechgyn tawelaf ac addfwynaf, sef Thomas, mab Mr. a Mrs. Thos. Jones, Ty'n- llidiard. Mab arall iddynt wedi ei glwvfo, a dau fab arall wedi ateb yr apel.— Yng NghymanfaDdirwestoi Men, agynhaliwyd yn Niwbwroh, bu dticll boeth ar genedlaetholi'r Fasnach, a'r tan Dirwestol wedi ymrannu'n ddwy fflam oddeithiol. Mynuai rhai brysuro gwaharddiad hollol mynnai eraill gerdded yn arafach a sicrhau cenedlaetholiad. Gair cryf vdoed,d hwnnW o eiddo un o leygwyr craffaf y Sir, mai gwneud cyfaddawd a'r diafol fyddai cenedlaetholi'r Fasnach. Dy- weder a fvnner, mae rhywbeth yn ei sylw. Gwlad wan ydyw honno, beth bynnag a fo'i honiadau, sydd a'i Llywodraeth wladol yn gryfach nag Eglwys y Diiw Byw ynddi_ .— Llygad Agored. CAERLLEON Fjar wel y Parch. W. S. Joizes,M A.-Ar derfyn y Cyfarfod Gweddi,nos Fawrth, Medi 5, achubwyd y cyfle i ganu'n iach a'r Parch, a Mrs. W. S. Jones, ar eu hymadawiad o'n mysg. Cymrwyd y gadair gan Mr. Thomas Hughes, a sylwodd ar y gwaith mawr a wnaeth y Parch. W. S. Jones yn ystod ei bum mlynedd yn ein plith. Dangosodd mai eglwys drom i'w bugeilio yw eglwys fel hon, mewn tref Seisnig, a chyda chynifer o rai'n mynd a dyfod ond bu Mr. Jones yn neilltuol o lwyddiannus, dangosodd ofal mawr dros y praidd, ymgeleddodd y rhai a fu ar ddisberod, a bu'n helaeth mewn hael- ioni. Dilynwyd ef gan Mr. Robert Owen, trysorydd mudiad yr Anrheg, a sylwodd yntau ar y gwaith mawr a wnaethai Mr. Jones a'r pleser mawr a gafodd wrth gydweithio ag ef ynglyn a'r Market Sale, Yna galwodd ar y ddau i dderbyn y Solid Silver Fruit Dish a roddid iddynt gan yr eglwys fel arwydd o deimladau da tuagatynt. Ar y fruit dish yr oedd yn geriiedig a ganlyn ;— Calon wrth Galon. I'r Parch, a. Mrs. W. S. Jones, M.A., oddiwrth Eglwys St. John Street, Caer- lleon, yn arwydd o'u serch a'u diolch am wasanaeth ffyddlawn, 1911-1916." Atebodd Mr. Jones yn y dull dymunol a swynol sydd yn eiddo personol iddo ef ei hun a chyda theimladau na ellir eu dangos ar bapur, diolchodd yn gynnes i'r eglwys drosto ei hunan a'i briod. Dywedai eu bod yn gwertnfawrogi y rhodd fel arwydd o deiml- adau cynnes, a dyfynnodd o Islwyn gan ddywedyd,— | fel Ton ydyw yr arwydd hon, Ton o for eich caredigrwydd llawn. Dangosodd fel yr oedd wedi gwerthfawrogi caredigrwydd yr eglwys ar hyd y blynvdd- oedd. Diolchodd am hyn, ac am ymddygiad i boneddigaidd yr eglwys ymhob amgylchiad. Rhoddodd anogaeth hefyd i'r eglwys gordded rhagddi, a dangos yr un caredigrwydd i'r gweinidog fyddai'n dilyn. Yn nesaf, caed tystiolaeth gynnes gan Mr. D. Hughes (y casglydd ynglyn a'r anrheg) am y parodrwydd mawr a ddangosodd yr aelodauwrth gyfrannu, a darllenodd amryw lythyrau oddiwrth blant yr eglwys sydd yn y ffrynt, a phob un yn dangos mor hoff oeddynt o Mr. a Mrs. Jones, a'u galar wrth glywed eu bod yn gadael Caer. Darllenodd hefyd lythyr oddiwrth Mr. Henry Jones, Albion Park, a ddangosai fel yr oedd eu gweinidog wedi bod yn gryfder i ni fel Cymry yn y ddinaa, a rhoddodd ddarnodiad hollol gywir ohono pan ddywedodd amdano yng ngeiriau'r Apostol Yn gyntaf, pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, bonedchg- aidd, hawdd ei clrin, llawn trugaredd a ffrwythau da. diduedd a diragrith a tner- fynocld ei lythyr drwy ddymuno iddynt "Hecldwch o fewn eu rhagfur, a fiyniant yn eu palasau." Siaradwyd ymhellach gan y Parch. Ivor Jones (A.), yrhwn a sylwodd mor brydferth oedd gweled gweinidog yn ymadael yn feddiannol ar serch ac anwyldeb yr eglwys i'r fath raddau. rTystiai fod holl eglwysi Cymreig y ddinas yn teimlo'n ofidus o'i golli, ac ni allai roddi darnodiad gwell o'i gymeriad na thrwy ddywedyd ei fod yn "Gristion o foneddwr." Yr oedd ei ymddygiadau yn foneddigaidd bob amser, ac wedi eu trwytho ag ysb ryd E feng y! lesu Grist. Yroeddyrun peth yn wir am Mrs. Jones, hithau bob amser yn foneddigaidd, yn rhydd ac agored a phawb, ac heb wneud gwahaniaeth i neb. Gwnaed sylwadau pellach i"r un perwyl gan y Mri. W. Davies, T. Price, E. Williams, R. Mills a Mrs. T. Hughes. Hoffem ymhelaethu, ond palla gofod. Da oedd gennym weled y Parch. Jenkyn Evans (U.), a chael gair gan- ddo yntau'n dwyn y dystiolaeth uohaf i'w waith mawr a'i scl ddiflino dros yr Achos Dirwestol, a dymunai nawdd Duwdrostynt a phob bendith i'w canlyn ar hyd eu hoes. Yn olaf, sylwodd Mr. M. Parry ar y weinidog- aeth uchel oeddym wedi fwynhau dan Mr. Jones. Gosododd safon uchel o'i flaen ar y dechreu, a chadwodd ef i fyny hyd y diwedd Ni chlywodd neb erioed ef yn siarad yn ddifudd, ond bob amser yn goeth, yn ym- arfero], ac yn cyfaddasu pethau mawr yr Efengyl i'r amserau. Dywedai ei fod yn ddilynydd gwir i'r hen broffwydi, ac fodei waith o r- golwg yn fawr iawn. Terfynwyd drwy ganu emyn, a gwed.di deimladwy ar ran yr eglwys a'r Parch, a Mrs. W. S. Jones, gan y Parch. T. Curry (W.). NEUADD YMNEILLTUOL KIN MEL. ■—Dymuna'r Pwyllgor sy'n gofalu am y Neuadd uchod wneud apel garedig at bawb sy'n caru lies ein milwyr dewr. Mae'n wybyddus fod y Neuadd bellach yn ago red, nid yn unig i foddion crefyddol—prif amcan y sefydliad-ond lief yd fel canteen, lie y darperir ymborth blastis am bris isel fel darllenfa, etc. Ceir ynddi ystafell i ddarllen ac ysgrifennu, un arall i billiards a games diniwed eraill megis draughts, etc. Treinir hefyd gyngherddau n achlysurol. Ac er galluogi'r Pwyllgor i wneud y Neuadd mor ddeniadol a chyfforddus ag sy n bosibi i'r bechgyn, apelir am roddion gwirfoddo], Byddai unrhyw offeryn cerdd, megis harmon- ium, piano, neu gramophone dda, gyda records o ansawdcl da. yn dra derbyniol. Hefyd, games o unrhyw fath, megis chess, draughts, etc. Apelir yn arbennig hefyd am lyfrau, yn neilltuol rhai Cymraeg. Mae eisoes nifer o lyfrau Saesneg wedi eu rhoddi i'r Neuadd, ond nid oes yno odid yr un llyfr Cymraeg, a gwyddis fod ymhlith y bechgyn ami un nas gall fwynhau ond. llyfr Cymraeg. Byddis hefyd yn ddiolchgar am unrhyw newyddiadur neu gylchgrawn Cymraeg neu Saesneg, Neu, os carai unrhyw un anfon ei rodd mewn arian at unrhyw bwrpas, byddai'r cyfryw yr un mor dderbyniol. Anfoner pob rhodd i'r Parch. J. H. Davies, Free Church Hall, Kinmel Park, Rhyl, ysgrifennydd y Neuadd,
Advertising
Madame Annie Leigh — receives Pupils Voice Production, Singing, Pianoforte. 123 BELMONT ROAD and CITY STUDIO. I Madame Annie Leigh's Ladies' Choir. Good voices wanted. Rehearsals Crane's, Han- over Street. Full particulars, 123 Belmont Rd., Liverpool. BARGAINS Are to be secured at our Depot where We are seUing cycles at pre-war prices. Ladies high grade Cv? w'Jh Dunlop Tyres, Metal gear case, 3 coil SS saddle, EnameHed black and lined in two co^lonri Pre- war Price S7/19/8 Ca?h, N- 12 payments of 14/8. Rudge Whitworth, Bold Straet.1L va?po ol For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 118 G 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. ø 0 a I) Telephone 2137 Royal. Telophone-Anfield. 809. < U55 KENSINGTON.1 LIVERPOOL. R. W. EVANS, FUNERAL DIRECTOR' All Orders personally attended to throughout. I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool, TELEPRONE-261 BOOTLE, TELEPHONE-51; AN FIELD. J. T. JONES, f unerol Undertaker, EVERTON, 40 Aubrey Street, ? J??. A ?? i?, andSgBrec%Roa LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Why go to Town ? When the 113 Ir 1 Shorthand & Typewriting ACADEMY, 4 TRINITY ROAD, give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Office Routine equal to any City School. No Failures. Day and Evening Classes. Apply Principal. BARGAINS.—Underwoods, Remingtons, Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Em. pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from 12 new condition, See the REX R,23 worth for 12 guineas. -LONGMORE, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. COOKi TOWNSUEND Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats, 14/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits, 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. For Baths, LavatoriesClosets, Brass Fittings Lead Pipes, etc., apply to- JAMES CHEW <S CO., Plumbers' Merchants & Brassfounders, Tel. No. 58 & 601PARADISE STREE r, Bank 3402. LIVERPOOLI Manufacturers of Copper Cylinders, Boilers, and Gas Washing Boilers. DIM TALU Y-MLAKW LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddlataw bach), mewn symian bach neu taw (heb fod llal na [10) AR ADDAWEB T BENTHYCIWR BI HU. SEFYDLWYD ERS 46 ML YNEDD. aoyn awr yn rhol £ 88,000 TN FENTHYG BOB BLWYDDYS Am dafien a thelerau ymofynner a George Payne a'i Feib., S Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool, PAINLESS DENTISTRY. J. P. LAMPiOUGH'S (Son of the late J. Lamplough, for many years la the Dental Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hours-10 ajn. to 8-30 p.m. Consultation free. Tel. 245 Anfleld. BARDDON1AETH GORONWY OWEN. Chweched Argraffiad. Gyda Bywgraffiad gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, la. Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. Tel"pboDIJI Ibyaj 1111 lNjtablisb4dl864 ROBERT ROBERTS mtATm AGIINT, II Neiherfield Road South Haa Property lo Let I. Tarloat parte ef the owe. Mortgaf m arrsraged. V aiu.o.. mi\ Itstablished 1884. 205 Established 1884. 'Phone 1140 bootie ¡547 WOOSNAM ROBERTS. Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY aOAD, BOOTLB (2 door8 from Bedford Road) Telegrams WoosN.&m. BOOTLIT. Telephone No. 7909. J. LEWISJONES, ESTAT. AQSNf & VALUER. 60 Victoria St., EiverpooL Properties carefully managed. Rsatg pwt, goaRjJy oollecied. Parchamm and Seiss m* íiotfaèd. Mortgage! arrastgedi sasa aSeoted. THOMAS a JONES, IIISTATIF AGSKTS VALLIARS, isviiiTMiaT mwiumimm, if Eord Street, EiverpooL. Talepboae No. —1868 Bank. Pfopertlet Boogfei aad Sold. MOí."I"I. asraaged. Valur-tionornads. Reais colleetodii Tioib. SI ? Stephen Roberts & SOl, ISTATA AOMNTM A VALUSMB, 137 Everton Road, Liverpool Properttes carefully managed. Baats ffcr- sonally Collected. Purchases &ad hiu negotiated. Mor%ag94f arranged sad m. aaranoea affected. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool, fni 'BASX, 4e, U. JONtral"w'"ILLIAMa', F.A.I., mTATM AGENT & 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. got. 1885, Telephone t 561 Royal lJ:d,pho. 8586 Ba ak JONES O HUGHES, MSSASE OFFICE, 13 Whltechapelj Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALB. Advances Made. R. E. HUGHEb, Estate Agent, Surveyor a Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone IS' 0.-56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts. Also Land to fes Sold for Building purposes. Advances made Builders. Bøtates laid out. Rents Collected,? Property carefully managed. v ?c v?t ? '?Es'' ass LADIES BLANCH4RD PillS AM Nariv)t!M fat .U tncgn?iMM, &e, they .pee4n taofd Mtt? and 8nH M! to Wkviato aU mSe?am. Sney supersede p?aoyMytt, Pit OoeMt, B!ttetAD? Aw ??t?C/M??'S an the best of all Pill for Won sold in box", im, by BooM' BTM*h*l, TAT&aB's BrMthM. and all Chemists, c? post'frw, Umt B?M. LESLIE MATYN. LN. ChemMta.? {).?<L?.,LM? ANWYD, PESWCH, INFLUENZA—Mae j rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis. Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, DiflEyg AnadS. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwertb~ fawr?gi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, ya felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. iid. a u. 94 (postage, 3^.)-HUGH DAVIXS, Chemist, Machynlleth SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.-Dyna yr hya y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groea afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluraaa pendduynod, etc., yn, tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botclaid o Sarzine Blood Mixture gan ? druggist nesaf atoch, 2s. 9d. y botel, neu gyda 340 at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y percheanog— HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Sales by auction on owners' premises. £i:: I' GREETHAM & SON (Est. 1848). t Auctioneers, 27 Newington, Liverpool; 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road, Lis car. Tel. 646 Royal.