Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Taw or y Pesimist.

News
Cite
Share

Taw or y Pesimist. DDYDD Gwener diweddaf, traddododd Arglwydd French araith synhwyrol a ddylai chwalu llawer ar ein pesimistiaeth ddu a'n hanobaith afresymol, a pheri inni ganfod pethau yn y goleuni priodol, a'u barnu'n deg a chywir. Yr achlysur oedd agor Bwth Shakespeare, yn perthyn i Gymdeithas Grist- nogol y Gwyr Ieuainc, a godwyd gan Mrs. Tweedie, er cof am ei mab, yr Is-gapten L. K. Tweedie, R.F.A., a laddwyd mewn brwydr lonawr diweddaf. I Y Gwragedd am dosturio- Arweinid Argl. French yn naturiol gan yr amgylchiadau i roi teyrnged o barch a chy- meradwyaeth i'r gwragedd. Ond teimlid ar unwaith fod mwy yn ei eiriau na'r cwrteis- rwyddliwnnw ahawlia amgylchiadau o'rfatfy ac By n. fwy xui moesgarwoh gw«g. Dywedodd fod yn sicr, pan gronielir popeth, y dis- gleiria gwaith gwragedd Pryd.a;.in d'r rhyfel fel un o'rtudalennau mwyafysblennydd yn ein hanes cenedlaethol. Nid gormodiaith mo hyn. Nid oes i'w cystadlu a gwragedd yn argyfwng pob croes, boed honno'n groes yr unigolyn, y teulu, yr eglwys, neu'r wlad. Ymhob cylch a gwaith, nad oes raid i ni aros i fanylu arnynt, gwna'r gwragedd eu rhan hwy yn ogoneddus, a theilyngant bob clod. Am wraig y dywedodd ein Harglwydd, Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Ac am wraig hefyd y dywedodd fwrw ohoni i'r drysorfa fwy na pliawb arall gyda'i gilydd. Nid oes neb a ddichon wneuthur ac aberthu fel gwraig. Ei haberth hi yw bywyd y byd. Ofnwn ymdrin ag aberth mamau yn y rhyfel hwn. Y mae'r maes hwn yn rhy gysegredig a thyner i ni fynd i mewn iddo. Digon i ni gyfeirio'n gynnil ato. Haedda gwragedd ein heglwysi bob cefnogaeth a chlod am eu gwaith rhagorol yn darpar dillad a chysuron o wahanol f alh au i'n milwyr, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf, pan dyr min oerni ein bechgyn dewr i'r byw yn y gwarchffosydd, sy'n ami yn garthffosydd. I Y Swyddogion am lymeitio. Cyferbyniodd Argl. French don y fyddin heddyw a'r hyn oedd flynyddau lawer yn ol, pan oedd meddwdod yn gyfiredin iawn, ac yr arhosai rhesi o droseddwyr bron yn feunyddiol tu allan i ystafelloedd y swyddogion am eu cosb. Priodolai ef absenoldeb troseddau yn y fyddin i waith cymdeithasau fel C.G.G.I. Ni fu gan Brydain Fawr erioedFyddin sobrach ac uwch ei moes na'run syddganddi heddyw. Amheus gennym a oedd byddin Cromwel yn rhagori ami. Y mae ynddi hufen cymeriad ein gwlad. A'i rhagorolion yw aelodau ein heglwysi a'n cynulleidfaoedd. Fe weddai i gondemnwyr diarbed yr eglwysi Cristnogol ymchwilio i gymeriad eu gwyr ieuainc yn y fyddin, a'i gymharu a chymeriad y milwyr hynny nad oes a fynnont a'r eglwysi acyna, os meiddiant, yn wyneb y ffeithiau, draddodi'r eglwysi i Satan. Edmygwn waith Cymdeith- as Gristnogol y Gwyr Ieuainc. Y mae ei chlod hi drwy'r gwledydd. Meibion yr eglwysi yw ei phrif arweinwyr a'i chefnogwyr. Meibion yr eglwysi yw'r llu mawr o oreuon y fyddin, a gall yr eglwysi yn gyfiawn a theg ymffrostio yn ei dewrionmoesol ac anianyddol Eto y mae ochr ddu i'r darlun. Peryglir moesau a sobrwydd ein pobl ieuainc dichlyn yn y fyddin, a hynny gan ei swyddogion. Yn ol y tystiolaethau a gyhoeddir yn y Church Times, ac a ategir mewn llawer dull a modd, y mae iaith llawer o swyddogion y fyddin, wrth eu gwyr, yn erchyll o isel a ffiaidd, y tuhwnt i ddim aglywir gan wehilion ein dinasoedd mawrion. Ac ni faidd y milwyr gwyno am yr iaith warthus hon, am y gosodir hwynt, os gwnant, dan ddisgyblaeth filwrol. Y mae llawer o'r swyddogion yn hoff o'r gyfeddach. Fel y dywedodd un cyfarwydd a'r gwersyll wrlhym, nid ydynt yn meddwi'n chwil, ond yn mwydo yn y diodydd meddwol. Gwylia rhai o'r swyddogion hyn y milwyr sobr, a chosbant hwy am y peth lleiaf. Y mae gormod o yfed heddyw yn y fyddin, a'r swyddogion, y mae lie i ofni, sy ddyfnaf yn y camwedd. Wrth gwrs, y mae llawer o ddynjon sobr ymhlith y swyddogion, ond y mae'n amheus a ydyw'rmwyafrif ohon- ynt mewn cydjrrndeimlad o gwbl a llwyr- ymwrthodiad. Y mae gormod o yfed yn eu, plith hwy a'r milwyr yn ein gwersylloedd, a thrwy hynny peryglir sobrwydd y gwfv ieuainc a fagwyd yn llwyrymwrthodwyr. Dien ias o ofo. Y mae ynom duedd naturiol i ddelfrydu'r gorffennol a diraddio'r presennol. Cyfeiriwn at ryw gyfnod o wroniaeth yn ol, a dywedwn ag ochenaid dromlwythog wrth feddwl am y presennol, Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny." Nid yw ffeithiau fodd yn y byd yn cyfiawnhau y dyb fod yr oesau a fu yn rhagori mewn arwriaeth, nac mewn un rhinwedd arall, ar yr oes hon. Gwir a ddywedodd Argl. French yr hawlia'r rhyfel hwn fwy mewn ffordd o nerf ac arwriaeth na'r un yn y gor- ffennol. Er i'r hen filwyr wneuthur yn rhag- orol, ni ddarfu iddynt erioed ragori mewn gwroniaeth ar yr hyn a welir yn y rhyfel hwn Ymaeto, priodolai Argl. French wroniaeth ein milwyr i ddylanwad y fath sefydliadau a Chymdeithas Gristnogol y Gwyr Ieuainc. Dylem ymfalchio yng ngwroldel) ein milwyr. Ni allwn yn wirmo'i sylweddoli yn ddyladwy. Nid oedd erchyllterau rhyfel yn y gorffennol yn ddim wrth y rhai presennol, eto wyneb a ein gwyr ieuainc yr erchyllterau hyn a brounau o ddur. Ac nid dewrder dall mohono. Aiff ein gwyr ieuaine allan yn erbyn y gelyn yn yr ymdeiralad eu bod yn ymhdd dros gyfiawnder, rhyddid a dynoliaeth. Fe ddywedir," ebe Argl. French, nad yw dyruon yn ofni angau yn awr fel yr arfer- ent wneutbui^ Yrwyf yn S'^dufod.pethau a ofnant lawer mwy. Y mae eri hochr ys- brydol a delfrydol wedi ei datblygu'n-gyfan- gwbl, ac y mae'r hyfdra, y dewrder a'r dycn- wch a ddangosant yn y rhyfel hwn yn eng- hraifft o hynny." Gwrthdery tystiolaeth Argl. French am ddatblygiad yr ysbrydol a'r delfrydol yng nghymeriad dynion yn erbyn llawer a ddywedir a c a ysgrifennir. Ond credwn fod y ffeithiau o du Arglwydd French ac OR ydynt, beth am y cri fod yr eglwysi a Christionogaeth yn fethiant ? Y mae dyled ein gwlad i'n heglwysi a'n sefydliadau Crist- nogol yn anfesuradwy. -0--

I Clep y Clawdd I

Advertising