Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

0 Lofft y Stabal.

SASIWN BANGOR.

AR GIP. I

News
Cite
Share

AR GIP. I Ebe'r Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, wrth gyfeirio mewn ysgrif yn y l yst at ymadawiad y Cadfridog Owen Thomas o Kinmel :— Hyderwn nad ydym wedi gweled diwedd y mater hwnnw eto, ac y gofelir gan ein eydwladwr, Mr. Lloyd George, fod ym- chwiliad llawn yn cael ei wneud i'r holl "helynt. Yn sicr y mae gan Gymru fel cenedl hawl i hynyrna ar wahan i bob ystyriaeth bersonol." Ffaglodd teisi gwair Mr. Hugh Hughes, flerm Rhydorddwy Fawr, ger y Rhyl, ddydd Mercher diweddaf. Bu'r peiriannwyr yno drwy'r dydd bron cyn medru darostwng y fflamau, j Yng nghapel M.C.Twrgwyn, Bangor, ddydd Mercher diweddaf, priodid Mrs. James Rich- ards, Plas Penrhos (gweddw'r diweddar Mr. James A. Richards, Llandrindod) a Mr. Edward G. Roberts, goruchwyliwr chwareli Cilgerran, Sir Benfro, a goruchwyliwr chwar- eli yn Norway am flynyddoedd cyn hynny. Y priodasfab yn fab ieuengaf Mrs. John Roberts, Cartrefle, Pen y groes, a'i briod yn ferch ieuengaf Mr. Wm. Owen, Plas Penrhos. Y Parch. R. R. Jones, Llanallgo, a'upriododd, ac i Southport yr aethant am eu mis mel. j Y mae Mr. J. H. Eyton Jones (mab Dr. Eyton Jones, cadeirydd mainc ynadol y Rhyl) wedi cael ei godi'n 2nd Lieutenant yn y Royal Flying Corps. DJIR Cynhaliwyd gymkhana-sef cyfres o gys- tadleuaethau ar redeg mewn sachau, marchogaeth mulod, a phob math ar gampau doniol--yn Lland-Lidnt) ddydd Mercher di. weddaf, er budd yr ysbytai. Oymerid rhan gan y milwyr clwyfedig, y nyrses, ac yn y blaen ac ni chafwyd erioed fwy o hwyl a chymorth i anghofio pwys a gofid y rhyfel enbyd. r fe -< > F Y mae postfeistres un o bentrefi Sir Fflint yn cerdded dwy filltir ar bymtheg ar gyfartal- edd bob dydd i ddanfon telegrama. Cynhaliwyd arddangosfa geffylau yn Am- lwch ddydd Mercher diweddaf, dan ?Ywydd- iaeth Arglwydd Boston, a throdd yn llwydd- iant eithriadol. Mwy o bobl nag erioed, a mwy o hanner cant o entrie8. Ar ddiwedd yr arddangosfa, cynhaliwyd ffair ocsiwn er budd Cymdeithas y Groes Goch, a chaed ffrwyth rhagorol ar y gwerthu 2 -9- Gwerth ystad y diweddar Mr. E. W. Evans, Llandrillo yn Rhos, ydoedd £ 3,012. -9- Y mae'r Preifat W. T. Jones, R.W.F., Holywell Street, Fflint, a'r Preifat J. H. Jones, R.W.F. (a arferai weithio yng ngwaith haeam Summers, Shotton) wedi eu lladd yn y rhyfel. Gorwedd yn glwyfedig mewn ysbyty yn Ffrainc y mae'r Preifat Edgar Jones, Newbrighton, Bagillt. Ar ol bod yn wael ers misoedd, y mae'r Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, yn gwella, ac ar fin ail afael yn ei waith fel golyg- ydd y Tynt, organ yr Anfiibynwyr. Ddydd Gwener diweddaf, yr oc-dd Bron y Gan—cartref Mynyddog yn ei flynyddoedd olaf, a chartref Emlyn Evans wedi hynny— dan forthwyl yr arwerthwr. Mynyddog a adeiladodd y ty, a hynny mewn lie tlws a balmaidd ei awelon yn y dyffryn ffordd yr elych o Fachynlleth i Ddinas Mawddwy. Mr. Emlyn Evans a briododd weddw Myn- yddog. -9- Y mae Syr Henry Jones, Glasgow, arfer ag ymweled a'i hen ardal yn Llangemyw, ar ffriddoedd Hiraethog, bob blwyddyn ond ni fu eleni oherwydd ei brysurdeb. Y Mae y ddarlith a draddododd yn Rhydychen ar Foesoldeb a'i berthynas a'r Rhyfel newydd gael ei chyhoeddi gyda darlithiau dysgedigion ereill, yn gyfrol hardd. Efe a Syr O. M. Edwards yw'r ddau Gymro sydd yn aelodau o'r Ddirprwyaeth a benododd y Llywodraeth i edrych i fewn i weinyddiad addysg colegau Cymru. Ni allesid gwell dau, ond dylaeai fod yno fwy o Gymry, mewn ymchwiliad sydd. mor bwysig i ddyfodol addysg Cymru a chwar- ae teg i'w bechgyn a'u crefydd. Brodor o Goginan, Sir Aberteifi, yw'r Parch. Wm. Benjamin, Garth, Llangollen, sef y gweinidog M.C. a drechodd ar draethawd Athroniaeth Wm. James yn Eisteddfod Aber- ystwyth. Yn fachgen tlawd y'i ganed, a phrin ei fanteision ac yng ngrym eialluoedd cryfion, a'i ewyllys gref, ddi-ildio, y dringodd, ac nid yn sgil moddion ac athrofa. + Ymhlith y rhai a wrandawai ar Mabon, A.S. yn pregethu'r dydd o'r blaen, yn addoldy'r Annibynwyr yn Llandrindod, ce id Dr. Camp- bell Morgan, y Prifathro Forsyth, a mawrion hyglod eraill. + Daeth y newydd trist i'r Parch. J. Ernest Jones, Wolverhampton, fod ei fab, y Corp, K. Jones, wedi ei ladd yn Ffrainc. + Natur bonclustio pawb ar dde ac ar mwy sydd yn adolygiad Mr. O. O. Roberts, Dol- gellau, yn y Cymro, ar Eisteddfod Aberys- wyth ond nid oes amheuaeth nad yw'n hollol gywir pan wrthdystia'n erbyn y cam a wnaed yng nghystadleuaeth yr unawd tenor. O'r tri a ddaeth i'r llwyfan, canodd y ddau gyntaf (Mr. Evan Lewis, Banger, yn un o'r ddau) yn gampus a gorffenedig, ond i'r trydydd—milwr o'r De mewn dillad khaki—■ y dyfarnwyd y wobr. Y wisg a gafodd y wobr," ebe cyfaill o gerddor pan glywodd ddyfamiad Dr. Allen. Pob parch iddo, ond nid oedd canu'r milwr, ar wahan i'w wisg, o fewn milltiroedd i swyn ac arddull gain y ddau arall. + Treble your output," ebe un o fuchod Mr. E. S. Morris, Ty newydd, Llansilin, wrth ddod a thri llo llyfndew i'r byd yr wythnos ddiweddaf. + Clwyfwyd y 2nd Lieut. Llewelyn Shank. land, 19th Batt. Bantams, Cymreig, yn bur ddwys yn ei arddwm chwith yn yr ymladd yn Ffrainc, Awst 23ain, ac mewn ysbyty yn y wlad honno y mae. Efe'n fab y Parch. T. Shankland, llyfrgellydd Oymreig Prifysgol. Bangor, ac un o ymchwilwyr hanesyddol a jlenyddol craffaf Cymru, Bydd yn dda gan ei llu cydnabod yn Nant- lIe a mannau eraill glywed fod y gantores swynol, Mrs. Henderson-New York bellach ers blynyddoedd-yn gwella'n rhagorol o'i gwaeledd. f- Dyma lun Ap Madoc—y bardd a'r cerddor a'r Eisteddfodwr-sydd wedi marw yn Chicago, Awst 12, mewn ysbyty Brodor o Faesteg, Deheudir Cymru, ydoedd ac yn bur hysbys ddau tu'r Werydd. Ym: fudodd i Utica yn 1H64, a bu yno tua deng mlynedd arhugain. Oddiyno aeth i (Thicago, yn athro cerddorol ac yn godwr y gan yn egIwys Seisnig y (.'ymro enwog, Dr. Jenkin Lloyd Jones. Ysgrifennodd eiriau i lawer o gerddoriaeth hwn ac arall beimiadai yn Eisteddfodau mwyaf y Gorllewin a deuai ar ggawt ddarlithio a chanu i'r Hen Wlad ambell dro. -<>- Fel hyn y canodd Job i'r newid ar yr amser Ow sioc gorfodi'r clotiau—heddyw oil I ddweyd anwireddau lor, a wyt ti'n caniatau I gelwydd ddala golau ? Y mate unig f ab y Pan h. Phillip Jones, Llan deilo, wedi cael ei glwyfo'n dost yn Ffrainc,  Dyna briodas ddiddorol oedd yn addoldy M.C. y Trinity, Abertawe, y dydd o'r blaen, sef priodas Mr. Sam Jenkins, y Welsh Sankey," fel y'i gelwid byth ar ol Diwygiad 1904-5, & Nurse M. J. Jones, merch y Parch. David Jones, Creunant. Brodor o Lanelli ydyw Mr. Jenkins, a chanwr o'r mwynaf, a chan o sirioldeb dros ei wyneb hyd yn oed pan fo'i enau'n berffaith ddistaw. Ysgrifennydd Grosvenor Hut y Y.M.C.A., Llundain, ydyw ar hyn o bryd, ac yn un o ysbytai'r Brif. dinae yr oedd y Gymraes fwyn a gafodd i'w fynwes. Dyma rai o fechgyn y Rhyl sydd wedi eu lladd yn y rhyfel: Privates Wm. Wright, 41 Abbey Street; Peter Williams, 30 Yale Road, yn 31ain oed, ac a edy weddw a dau • blant; David Trehearn, mab Mr. W. T. Treheam, Princes Street. f Y Parchn. J. H. Williams, Porthmadog, a W. M. Jones, Llansantffraid, oedd yn cadw cyfarfod pregethu eglwys Beula, Caernarfon, yr wythnoe ddiweddaf, sef corlan Anthropos, golygydd Trysorfa'r Plant. Yr oedd Lieut. Jack—a gollodd ei fywyd ddydd Gwener diweddaf wrth esgyn mewn aeroplan-yn unig fab Mr. a Mrs. Jack, Plae, Maenan, ger Llanrwst. Nid oedd ond un ar hugain oed.  Y mae Lieut. (,b apman--proffeswr Athron- iaeth ym Mhrifysgol Bangor—yn gwella'n foddhaol o'r ddamwain a'i cyfarfu ar ei motor- cycle ddydd Sadwrn diweddaf. -0- Yn Llanrwat, ddydd Sadwrn diweddaf, anfonwyd Annie Leiser—Cymraes sydd a'i I gwr Germanaidd dan do caethiwed—i fis o garchar am godi helynt yn y tloty. Ac yno 'I y mae hi a'i phlant er pan chwalwyd eu haelwyd.

Advertising