Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Tnt LIve. R POOL t w  OFPaCE PLAQ'I OLID POST OFPICE P&AVE ?))????86BtTSMtIHW-MW&r''R'C? TELEPHONE 3075 ROVAI.
0 Lofft y Stabal.
0 Lofft y Stabal. XVII. I MISTAK GOLTGYDD,—Rydw i'n brudd iawn ¡ heiddiw. Mi faswn yn leicio taaa fodd imi ddiferu nagra'n eiriau ar y papur ma, ac i ddim ond yr hyn sy'n y nghalon i fynd iddyn nhw. Yn meddwl am Dafydd Bach rydw i 'Roeddwn i'n nabod Dafydd ers pan oedd o'n hogyn bach. Mi gollodd i dad yn ifanc iawn, a digon cyfyng fu hi ar i fam afiach i fagu Dafydd, ond drwy i diwydrwydd a'i gofal mi magodd o'n dwt a da. Fuo dim hogyn bach clysach na Dafydd Bach erioed, mi greda i. 'Roedd o a minnau'n ffrindia mawr er pan oedd o'n blentyn, ac mi ddeuda 1 ichl SUt y dechreuodd hynnu. 'Roedd i gar- fcra fo miawn bychan ar ymyl y ffordd, ac ani fyddwn i'n pasio wrth fynd a dwad i'r capal, o'r lle'r oeddwn i'n gweini'r pryd hwnnw. 'Roeddwn i wedi dysgu oddiwrth Jac Jôs i neudsylwo blant bach. Ond fedr- wn i ddim, taswn i'n treio, beidio sylwi ar Dafydd Bach. Peth glywid yn gyffredin iawn gan bobo] wrth i basio fo fydda, O'r tad ond tydi o'n hogyn bach annwll" Oedd, yn wir, yr oedd o hefyd. Ac nid rhw glws gneud oedd o chwaith. Mi welis i rai mama'n gadal i wallt i hogia dyfu'n hir, yn i- j gyrlio fo, yn rhoi oul i neud o sgleinio, ac yn shwmo'i gydyna fo a rubana. Ac ma rhai pnbol yR ffoii vir beth felly, a wyddan nhw ddim rhagor rhwng eelfyddyd a notur. Dyma'r rhai sy'n deud fod merch yn glws am fod swp a.mryliw o'r hyn ma nhw'n i alw'n het ar i phen hi 'Roedd Dafydd Bach yn lan a theidi, ond nid dyna'r f ath swyn oedd amo fo. Fedra i ddim i ddarlunio fo i chi. Ond rydw i'n i weld o, drwy nagra' 'r funud ma—gwym- ad crwn, bochgoch dau lygad mawr, glae edrychiad gwylaidd, diniwed, ond fod rhw wen serchog yn hannar ymguddio tan ei wyleidd-dra-fel blodyn clws yn nythu miawn dail. Un rheswm-a falla'r cryfa—fod Daf- ydd Bach yn fy leicio i oedd fy mod yn arfar dwad ag afal ne ddau, ar y fiordd i'r capal, iddo fo-ond byddai'r fam yn cadw'r fala neR dwad o'r capal, ac yn addo iddo fo'u cael nhw os bydda fo'n hogyn da yn y moddion. Digwyddodd i bregethwr alw i fiawn yno un tro, i mochal cawod, ar y fiordd i'r oedfa. 'Roedd y fam wedi gwiago Dafydd Bach fel pin miawn papur," ac roedd i ddwy foch o'n wridog a theg yr olwg. Crybwyllodd y fam wrth y pregethwr fod ei bachgian yn cael afal bob Sul am fod yn dda'n y capal. 'does ar hogyn bach fel hwn ddim eiaio fala. Cheifit o byth fala oyn neisiad a'r ddau sy'n tyfu ar i fooha fo," au mi dynnodd i fysedd yn dyner dros ei ruddiau, gan droi i gychwyn ymaith. Ond mi welisi ddeigryn yn llygad y fam, a cban osod cusan ar y ddau afal coch mi sibrydodd, 41 'Y mhlentyn annwl i A hogyn da iawn oedd Dafydd Bach yn y capal. 'Roedd rhai'n deud i fod o'n "hen ffaeiwn," fel tasa. Oormod fyddai deud ma fo oedd y mwya deallus o'r beohgyn yn y capal hwirnw, a 'doedd o ddim yn agos mor ddewr a rhai ohonyn nhw. Byddai'i adnod o'n crynnu tipin wrth iddo fo'i deud hi, ond mi fydda pawb yn ffond o'i wyleidd-dra. Pan yn yr yagol ddyddiol, mi fydda'n well gynno to ddiodda unrhw sbeit braidd na mynd i gwffio efo neb. Ond mi gollodd i dempar un- wath hefyd. Mi fydda'i fam yn dwad i ddanfon o i ymyl yr ysgol weitl ia ac un tro mi ddeudodd rhw hogyn air gwawdlyd am i fam wrtho fo. Mi lynodd y gair hwnnw ynghalon Dafydd Bach, ac ar y fiordd adref o'r ysgol mi alwodd y troseddwr i gyf ri, ac mi aeth yn sgwffwl rhwng y ddau. Yn yr ymdrech, mi ddeflrddd ysbryd cawr yn Dafydd, ac mi roes gweir reit dda i'r llall—er cymysg syndod a boddhad i'r plant erill. Pan alwyd o i gyfri gin rhwun wedi hynnu, ei apad oedd, Beth roedd o'n sbeitio mam, ynta ? Ac mi lithrodd trw bob disgyblaeth yn bus iach. YnWa. Bach i'r un lie ami y doth Dafydd i ddechra ennill i damad, aheipu i fam weddw, Roedd pawb yn ffond ohono, a doedd dim diolch iddyn nhw. Fu neb erioed mwy wyllysgar ac ufudd, diddichell a geirwir, a ohida hynnu roedd o'n dysgui waitli ar redag. Da rydw i'n cofio, ar derfyn i dymor cynta fo, wrth iddo dderbyn i gyflog, fod mistar wedi gofyn iddo, Wel, Dafydd, be wyt ti am neud efo'r arian yma ? ac iddo fynta apad yu y fan, Ond mynd a nhw i mow." Ac felly y gwnaeth. Jrfi dyfodd Dafydd Bach i fynu'n ddyn ifanc da iawn—da'i galon, da'i gymeriad, da'i waith, ac iddo enw da gin bawb—i'r dim i blesio Jac J6s, a dyna dddigon ar y pen yna. Mi ddotb yn ddyn ifanc iach a chry hefyd, er nad yn un o'r rhai tala, eto'n solat trwyddo. Mi fyddwn yn ceigio'i alw fo'n Dafydd Ty'n JL6n wrth bobol eieill, ond enw nghalon i arno fo o hyd ydi Dafydd Bach. Mi glwia ffarmwr' y bu Dafydd yn i was- anaeth yn deud am i dynerwch o. 'Roedd o'n torri eithin ar ochor clawdd, ac mi aeth y eryman trwy ganol nythiad o gywion deryn, gan ladd y fam—oedd wedi oedi yno hyd yr eitha—gyda'r cywion. Mi fu'n snwffian crio wrth weld y trychinab. A chofiwch chi ma un o erthygla ffydd Jac J6s i'w ddisgyblion oedd, am beidio tynnu nythod adar. Y babi mawr," ebra gwas arall wrth Dafydd Bach, "paid a hidio beth fydd o flaen dy gryman di os eiff o drwyddo fo." Ac roedd y ffarmwr yn deud na welodd o mo Dafydd wedi colli dempar ond y tro hwnnw, ac onibai i fod o yn y lle'rjjoedd o'n credu'n sicir y basa hi'n ddrwg rhwng y ddau was. Y llymbar creulon," ebra Dafydd, gan daflu i gryman i lawr, a chau i hun i fynu'n ddwm Ac ebe'r ffarnlwr," Mae yna fetl yn Dafydd pan fydd taro, 'does dim dowt i fod ar y matar." Ryw flwyddyn yn ol 'roedd Dafydd Bach wedi galw i ngweld i, ac mi fyddwn i'n leicio'i blagio fo, ac ynta'n leicio cael i blagio hefyd. A phan welis i o ar y buarth, mi ddeudis wrtho fo, Rwan, Dafydd, paid a dwad i'r fan yma i geisio fy rhedag i efo Mari. Os gwela i hogia hyd y fan ma'n chwara giam felly, 'does dim tryst na fydd ergyd gwn yn mynd i crombil nhw Gun, wir," ebra ynta, y peth ddyla ti neud ydicymyd gwn i amddiffyn dy Fari rhag y Giarmans." Y Giarmans? ebrwn inna, 'd daw y giwad byth i'r fan yma, Dafydd." Mi allan ddwad os na neiff rhywun i rhwystro nhw," ebra ynta, a gneud efo Mam a Mari fel y gneuthon nhw a'r Belgiaid." 'Roedd rhwbath mor seriws yn i d6n o fel y stopia i gellwair efo fo. Tyrd i'r hen Lofft. am sgwrs," ebrwn i. Yn fuan mi welis i fod Dafydd Bach yn medd- wl yr hyn oedd o'n i ddeud-o leia gyda golwg amo fo'i hun; 'Roeddwn i wedi dychryn, ac mi deimlwn fod rhw dan angerddol yn llosgi yn i galon o na fedrwn i'n y myw i ddiffodd o chwaith. Mi wela fod rhwun wedi bod yn pwnio rhwbath i dy ben di, Dafydd." Oes," ebra yntau, ma rhywun wedi pwnio peth i mhey. j, i nghalon i, ao i nghydwybod i hefyd, a fedra i na neb arall i dynnu 0 allan ar frys." Wel, bedi'r matar arnat ti, mach- gian i ? Does bosib fod ohwiw y sowldiwrs wedi dy ddal di, beth bynnag." Pam fi ? gofynnai, braidd yn chwyrn. Wel," ebrwn i, mi fyddat yn ffdl iawn i fynd rwan. 'Does run gwas ffarm o'r ardal ma, hyd y gwn i, wedi mynd, nac eisio mynd. Aros am dipin, beth bynnag." Mae aros allan o'r E.,tiwn," ebra fo. Mi fethis i gysgu am nosweithia, ac mae hi wedi dwad efo mi i un o ddau beth-naill ai mynd i'r Fyddin neu fynd i Ddimbach." Gan feddwl y baswn i'n rhoi cl6 ar ei holl ddadleuon, mi ddeudis, Mi dorri galon dy fam, os ei di." Wel," ebra fynta, rydw i wedi cymryd pob peth i'r cyfri, ac mi wn o'r gora y bydd hyn yn loes i deimlad mam, fel y bydd o i minna. Ond matar o ddyletswydd ydi o, a rhaid aberthu teimlad, ia, bywyd os bydd raid, er mwyn cydwybod. Fe barhaodd y sgwrs ynhir, ond 'doedd dim troi ar Dafydd Bach pob rheswm godwn i i fynu, roedd o'n i daro fo i lawr yn fflat. Mi ath Dafydd o'r Llofft ma'n y man; ond chyagis i fawr y noson honno. Y peth nesa glywis i oedd fod Dafydd Bach wedi muno &'r sowldiwrs a rhyfeddach na hynnu fod yr hen wraig i fam wedi dygymod a'i thrallod yn bur dda. Mi ddoth Dafydd i ngweld i droion wedyn, a'r wiag cacimwci am dano fo ac roedd o'n drychyd yn smart ddi- riwl, ac ynsymudmorhoew'igam a thasa fo'n ddyn india rybar. Mi fuo am lawer o tisoedd yn, Cinmal Pare, yn dysgu saethu Giarmans. Pan alwodd o ddwaetha, cin mynd i Ffrainc, mi gafodd groeeo mawr yn y ty ma, ac mi fynna Miss J6s, y ferch, neud tA cycenna iddo fo, ac mi ges inna ran efo nhw, tasa fatar am hynnu. A diaist i, hefyd, roedd llgada Miss ar y sowldiwr agos o hyd, ac roedd hi'n rhw glebran miawn ffordd oedd yn peri i ddyn feddwl am i meddwl hi ac mi welis wrid y fala oedd gin Dafydd pan yn blentyn yn codi i focha fo'r tro yma, ac yn i neud o'n annwl iawn yn wir. A dyma ichi biain go dda o'r hanes 'doedd dim a wnai'r tro gin Miss Jos ond cael mynd i dldanfon Dafydd beth o'r ffordd adra, yn y car bach oedd gin y teulu, efo'r esgus fod ami hi eiaio galw'n y pentra i neges. Pan glywodd hi hynnu, mi winciodd Mari ama i, ac roeddwn i'n dallt y wine yn burion. laer i ddau oedd yn y car poni. Biti na fasa ma le i titha ddwad efo ni," ebra Miss Jds wrtha i. Biti garw," ebrwn inna'n slei, ac mi chwerthoddpawb. Wei," ebrwn i, o'r diwadd, dydw i ddim yn leicio dy weld yn mynd, Dafydd Bach." Ac ebra fynta'n chwap, dan wenu, Rhaid i rhywun fynd i ymladd droli Mari." Ac ar hyn i ffwrdd ag o ac fel y gwyliwn i i gap o'n diflannu o'r golwg droa y bryn, mi ddeudis yna fy hun,— Dyna'r peth hwnnw a go,dodd yng nghalon yr hogyn yn erbyn sbeitiwr i fam, ac yn erbyn y gwas ffarm a siaradai'n greulon am dorri nyth a lladd adar—dyma'r peth hwnnw wedi codi eto'n erbyn y Caiser, ac yn mynd allan i'r Armagedon yn sowldiwr." Cin pen mis wedi i Dafydd Bach fynd i Ffrainc, dyma'r newydd yn cyrraedd i fod o wedi'i ladd Mae ma alar mawr yn y teulu yma, yn enwedig gin Mari a Miss Jds. Yn wir, ar ganol crio rydw i'n ceisio sgwennu'r llythyr yma. Mi at i weld yr hen wreigan i fam o nos yfory. Fu rioed yn ddim gwell gen i fedru credu fod Duw yn bod Rydwi i'n reit sicir na ddarfu iddo Ef ddim gadael Dafydd Bach yn unig yn rhwla rwla Ffrainc. Rhoddodd i fywyd dros i wlad, dros ddynoliaeth, dros gyfiawnder, a thros Mari a tinna-.a'i Jam 0 Dafydd Bach I I YR HEN WAS.
SASIWN BANGOR.
SASIWN BANGOR. Trem dros ei phrif bethau. IE, Sasiwn ac nid Cymdeithasfa. Gwir mai yr olaf ydyw'r term cyfundebol am yr hen wyl gysegredig, eto Sasiwn ydyw hoff enw gwerin Mon ac Arfon. I naw o bob deg o drigolion Sir Gaernarfon, tair Sasiwn y sydd, sef eiddo Pwllheli, Caernarfon a Bangor, gan mai prin ygwyr toreth y bobl mai un o bed- air Cymdeithasfa Gogledd Cymru ydyw y Sasiwn. Amlwg nad yw'r gair o darddiad Cymreig na chrefyddol, ond y mae wedi llosgi ei hun i mewn yn ddwfn i galon preswylwyr yr Eryri, rhy ddwfn i neb ei gael ef oddiyno ar chwarae bach. Y mae Sasiyn- nau Bangor wedi arfer bod yn rhai pur lewyrchus o ran rhif, nerth a dylanwad yn y gorffennol. er mai i Sasiynnau prif dref y Sir y perthyn y llawryf. Nid heb bryder yr edrychid ymlaen at yr wyl eleni. Ofnai rhai mai Sasiwn heb ei choron a fyddai am nad oedd pregethu i fod ar y cae. Nid prinder doniau, na chlaearineb calon, a barodd beidio a. mynd i'r maes y tro hwn, ond drudaniaeth a phrinder coed i wneud esgynlawr. Gobeithio mai dyma'r gwir reswm gan Fethodistiaid Bangor, er nad ydyw'r coed na llafur yn llawer uwch nag oeddynt flwyddyn yn ol. Hawdd fyddai iddynt gael pabell i gynnwys hynny a ddeuai i'r wy1. Os oedd Eisteddfod yn deilwng o babell, yn sicr yr oedd Sasiwn felly. Gwyddom i rai o brif arwyr y maes dramgwyddo, a'i bygwth hi yn hallt i bwyll- gor Bangor am roddi'r cae i fyny hyd yn oed dan gwmwl rhyfel. Ond bu hyn yn lwc i rai eraill hogi eu dawn drwy fod mwy o ofyn ar ddoniau llai i bregethu mewn capelau. Ofni yr oeddid y byddai gor-redeg o'r naill gapel i'r llall, gwrando ar y bregeth gyntaf yn Nhwr Gwyn, a dianc am yr ail bregeth i'r Tabernacl, ond bu llai o hyn nag a ofnid. leuainc agos i gyd ydyw gweinidogion eglwysi y Corff ym Mangor, a chamsynio mewn bam, yn fwy na dim arall, ydoedd newid y drefn y tro hwn. Atebodd y cynrychiolwyr i'w henwau yn bur lwyr, ac nid oedd llawer o wagleoedd yn rhestr y cyn-lywyddion. Gresyn fod y Parch. Owen Owens wedi ei luddias gan afiechyd i gymryd rhan yn y gweithrediadau. Nid yw ef byth yn codi os na bydd ganddo rhywbeth i'w ddweyd, ac nid yw'n un o'r rheini sydd yn credu nas gall neb ddweyd yn well nag ef. Diau y buasai ei draethiad ar y Fugeiliaeth o werth mawr, oblegid ystyrried ef yn expert fel bugail. Yn sicr, gellir ei ystyried ef yn arweinydd, ac nid drwy wyrth ond drwy dwf naturiol. Nid oedd y rhaglen yn drwm o ran swm y gwaith, ond yr oedd ogryn bwysau o ran pwysigrwydd y gwaith. Cafodd y rhain sylw yn y cyfarfodydd y Genhadaeth Diftxnor, Dirwest, Coleg y Bala, Cynhaliaeth y Weinidogaeth, Diolchgarwch am y Cynhaeaf, ac yn arbennig Addysg Ddiwinyddol. Daeth y pwyllgor a benodwyd i edrych i mewn i fater Prifysgol Cymru a'u hadroddiad mewn fturf o dri neu bedwar o benderfyniadau Gwnaeth ysgrifennydd y pwyllgor ei ran yn dda, heb ymroddi i ddadleu dros ei benderf yn- iadau, ond i'w hegluro pah fyddai galw. Gresyn fod rhywbeth yn nhon llais rhai o'r pwyllgor, wrth godi i'w hamddiffyn, yn creu mwy neu lai o wrthwynebiad mewn eraill i'w cynhygion. Pasiwydnabo ond un Brifysgol i Gymru a Sir Fynwy, ar yregwyddor0 undeb rhwng y Colegau Cenedlaethol. Hefyd mai da fyddai i addysg y wlad fod yn gwbl rydd a di-dal. Cytunwyd hefyd fod i Ddiwinydd. iaeth, brenhines y gwyddorau, gael lie yn y Brifysgol. Nid oedd gweledigaeth glir gyda golwg ar y mater hwn. Ofnai rhai, drwy ben- derfynu fod y Brifysgol i nawddogi Diwinydd- iaeth mewn unrhyw wedd, ein bod yn cau y drwa ar Ddadgysylltiad, dros yr hyn y bu prif arwyr yr enwad yn ymladd am faith flynydd. oedd. Pwynt arall na lwyddwyd i'w wneu- thur yn eglur ydyw, beth yw'r gwahaniaeth rhwng Diwinyddiaeth fel gwyddor a Diwin. yddiaeth fel athrawiaeth. Gwyddom eu bod i'w gwahaniaethu ond nid i'w gwahanu. Em hunain, ofnwn fod gormod o frya wedi ei gymryd i wthio'r pethau hyn i bleidlais, ac mai da fyddai galw Sasiwn'yn gynarach, neu gyfarfod arbennig, i wyntyllio'r pynciau hyn. Ceisiwyd dal gafael ym mhen ffyrfa'r ffon drwy awgrymu na ddylid penodi athrawon mewn Diwinyddiaeth ond mewn undeb ag athrawon Colegau Diwinyddol y gwahanol enwadau. Hysbyswyd addewid o E6,000 i ffurfio cronfa flwydd- dal i hen weinidogion. Hawdd dweyd oddiwrth y gwr oedd yn gyfrwng yr addewid o ble y mae'r swm tywysogaidd hwn yn dod. I un teulu yng Nghymru, ysywaeth, y gellir priodoli'rfathrodd. Uno'ramodau ydyw i'r Cyfundeb gaaglu swm cyffelyb, yr hyn yn ddiau a wna, a hynny'n llawen a rhwydd at amcan mor deilwng. Gydag ysgrifennydd mor fedrus a Mr. John Owens, Caer, a thrysorydd mor drylwyr a Mr. James Venmore, Lerpwl, diau y llwydda'r mudiad. Nid yw'r manylion wedi dod allan eto, ond hyderwn na bydd yr oedran yn cael ei godi yn uehel iawn cyn y manteisia gweinidog ar y Drysorfa hon. Ymdrechodd y diweddar Barchedig Francis Jones yn galed i ddwyn hyn oddiamgylch. Dafod yrhedyn aheuodd ef yn debyg o egino a dwyn ffrywth,—ffrwyth a fydd yn sicr o lonni ami i aelwyd wedi i ddyddiau henaint a methiant oddiweddyd ffon bara'r teulu. Bydd hyn yn help o'r mwyaf i ddwyn i ben gynhaliaeth a threfn weinidogaeth. Gan gofio, dyma oedd testyn y drafodaeth i fod yng nghyfarfod y blaenor- laid, ond parodd y fath newydd cysurlawn i oedi traethiad pellach arno hyd y Gymdeith- asfa nesaf. Er hynny, darfu i'r blaenoriaid gynnyg at un neu ddau o bethau y tro hwn a fydd yn esgor ar ganlyniadau pwysig, megis nad yw tymor buga;liaeth i fod o dros saith mlynedd heb ail gytundeb, nad oes neb o'r gweinidogion i dynnu cyhoeddiad yn ol o dan fis o rybudd, ac fod gan le hawl i ofyn i weini- dog arall dynnu cyhoeddiad yn ol wedi tri mis o rybudd yn ffafr gweinidog newydd y daith. Dyma waith gwir ymarferol ac angen- rheidiol. Gofod a ballai i ni son am hanes yr Achos yn Arfon, ond teg ydyw dweyd fod yr adroddiad yn teilyngu sylw manwl yn wyneb cymamt o leihad yn y rhif, yn enwedig nifer yr Ysgol Sabothol. Llawenydd mawr gan y irawdol- | iaeth oedd gweled Mr. Wheldon yn bresennol yn rhai o'r eisteddiadau, ac yn edrych mor siriol, er yn analluog i gymryd unrhyw ran. I MIN Y MYNYDD. >
AR GIP. I
AR GIP. I Ebe'r Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, wrth gyfeirio mewn ysgrif yn y l yst at ymadawiad y Cadfridog Owen Thomas o Kinmel :— Hyderwn nad ydym wedi gweled diwedd y mater hwnnw eto, ac y gofelir gan ein eydwladwr, Mr. Lloyd George, fod ym- chwiliad llawn yn cael ei wneud i'r holl "helynt. Yn sicr y mae gan Gymru fel cenedl hawl i hynyrna ar wahan i bob ystyriaeth bersonol." Ffaglodd teisi gwair Mr. Hugh Hughes, flerm Rhydorddwy Fawr, ger y Rhyl, ddydd Mercher diweddaf. Bu'r peiriannwyr yno drwy'r dydd bron cyn medru darostwng y fflamau, j Yng nghapel M.C.Twrgwyn, Bangor, ddydd Mercher diweddaf, priodid Mrs. James Rich- ards, Plas Penrhos (gweddw'r diweddar Mr. James A. Richards, Llandrindod) a Mr. Edward G. Roberts, goruchwyliwr chwareli Cilgerran, Sir Benfro, a goruchwyliwr chwar- eli yn Norway am flynyddoedd cyn hynny. Y priodasfab yn fab ieuengaf Mrs. John Roberts, Cartrefle, Pen y groes, a'i briod yn ferch ieuengaf Mr. Wm. Owen, Plas Penrhos. Y Parch. R. R. Jones, Llanallgo, a'upriododd, ac i Southport yr aethant am eu mis mel. j Y mae Mr. J. H. Eyton Jones (mab Dr. Eyton Jones, cadeirydd mainc ynadol y Rhyl) wedi cael ei godi'n 2nd Lieutenant yn y Royal Flying Corps. DJIR Cynhaliwyd gymkhana-sef cyfres o gys- tadleuaethau ar redeg mewn sachau, marchogaeth mulod, a phob math ar gampau doniol--yn Lland-Lidnt) ddydd Mercher di. weddaf, er budd yr ysbytai. Oymerid rhan gan y milwyr clwyfedig, y nyrses, ac yn y blaen ac ni chafwyd erioed fwy o hwyl a chymorth i anghofio pwys a gofid y rhyfel enbyd. r fe -< > F Y mae postfeistres un o bentrefi Sir Fflint yn cerdded dwy filltir ar bymtheg ar gyfartal- edd bob dydd i ddanfon telegrama. Cynhaliwyd arddangosfa geffylau yn Am- lwch ddydd Mercher diweddaf, dan ?Ywydd- iaeth Arglwydd Boston, a throdd yn llwydd- iant eithriadol. Mwy o bobl nag erioed, a mwy o hanner cant o entrie8. Ar ddiwedd yr arddangosfa, cynhaliwyd ffair ocsiwn er budd Cymdeithas y Groes Goch, a chaed ffrwyth rhagorol ar y gwerthu 2 -9- Gwerth ystad y diweddar Mr. E. W. Evans, Llandrillo yn Rhos, ydoedd £ 3,012. -9- Y mae'r Preifat W. T. Jones, R.W.F., Holywell Street, Fflint, a'r Preifat J. H. Jones, R.W.F. (a arferai weithio yng ngwaith haeam Summers, Shotton) wedi eu lladd yn y rhyfel. Gorwedd yn glwyfedig mewn ysbyty yn Ffrainc y mae'r Preifat Edgar Jones, Newbrighton, Bagillt. Ar ol bod yn wael ers misoedd, y mae'r Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, yn gwella, ac ar fin ail afael yn ei waith fel golyg- ydd y Tynt, organ yr Anfiibynwyr. Ddydd Gwener diweddaf, yr oc-dd Bron y Gan—cartref Mynyddog yn ei flynyddoedd olaf, a chartref Emlyn Evans wedi hynny— dan forthwyl yr arwerthwr. Mynyddog a adeiladodd y ty, a hynny mewn lie tlws a balmaidd ei awelon yn y dyffryn ffordd yr elych o Fachynlleth i Ddinas Mawddwy. Mr. Emlyn Evans a briododd weddw Myn- yddog. -9- Y mae Syr Henry Jones, Glasgow, arfer ag ymweled a'i hen ardal yn Llangemyw, ar ffriddoedd Hiraethog, bob blwyddyn ond ni fu eleni oherwydd ei brysurdeb. Y Mae y ddarlith a draddododd yn Rhydychen ar Foesoldeb a'i berthynas a'r Rhyfel newydd gael ei chyhoeddi gyda darlithiau dysgedigion ereill, yn gyfrol hardd. Efe a Syr O. M. Edwards yw'r ddau Gymro sydd yn aelodau o'r Ddirprwyaeth a benododd y Llywodraeth i edrych i fewn i weinyddiad addysg colegau Cymru. Ni allesid gwell dau, ond dylaeai fod yno fwy o Gymry, mewn ymchwiliad sydd. mor bwysig i ddyfodol addysg Cymru a chwar- ae teg i'w bechgyn a'u crefydd. Brodor o Goginan, Sir Aberteifi, yw'r Parch. Wm. Benjamin, Garth, Llangollen, sef y gweinidog M.C. a drechodd ar draethawd Athroniaeth Wm. James yn Eisteddfod Aber- ystwyth. Yn fachgen tlawd y'i ganed, a phrin ei fanteision ac yng ngrym eialluoedd cryfion, a'i ewyllys gref, ddi-ildio, y dringodd, ac nid yn sgil moddion ac athrofa. + Ymhlith y rhai a wrandawai ar Mabon, A.S. yn pregethu'r dydd o'r blaen, yn addoldy'r Annibynwyr yn Llandrindod, ce id Dr. Camp- bell Morgan, y Prifathro Forsyth, a mawrion hyglod eraill. + Daeth y newydd trist i'r Parch. J. Ernest Jones, Wolverhampton, fod ei fab, y Corp, K. Jones, wedi ei ladd yn Ffrainc. + Natur bonclustio pawb ar dde ac ar mwy sydd yn adolygiad Mr. O. O. Roberts, Dol- gellau, yn y Cymro, ar Eisteddfod Aberys- wyth ond nid oes amheuaeth nad yw'n hollol gywir pan wrthdystia'n erbyn y cam a wnaed yng nghystadleuaeth yr unawd tenor. O'r tri a ddaeth i'r llwyfan, canodd y ddau gyntaf (Mr. Evan Lewis, Banger, yn un o'r ddau) yn gampus a gorffenedig, ond i'r trydydd—milwr o'r De mewn dillad khaki—■ y dyfarnwyd y wobr. Y wisg a gafodd y wobr," ebe cyfaill o gerddor pan glywodd ddyfamiad Dr. Allen. Pob parch iddo, ond nid oedd canu'r milwr, ar wahan i'w wisg, o fewn milltiroedd i swyn ac arddull gain y ddau arall. + Treble your output," ebe un o fuchod Mr. E. S. Morris, Ty newydd, Llansilin, wrth ddod a thri llo llyfndew i'r byd yr wythnos ddiweddaf. + Clwyfwyd y 2nd Lieut. Llewelyn Shank. land, 19th Batt. Bantams, Cymreig, yn bur ddwys yn ei arddwm chwith yn yr ymladd yn Ffrainc, Awst 23ain, ac mewn ysbyty yn y wlad honno y mae. Efe'n fab y Parch. T. Shankland, llyfrgellydd Oymreig Prifysgol. Bangor, ac un o ymchwilwyr hanesyddol a jlenyddol craffaf Cymru, Bydd yn dda gan ei llu cydnabod yn Nant- lIe a mannau eraill glywed fod y gantores swynol, Mrs. Henderson-New York bellach ers blynyddoedd-yn gwella'n rhagorol o'i gwaeledd. f- Dyma lun Ap Madoc—y bardd a'r cerddor a'r Eisteddfodwr-sydd wedi marw yn Chicago, Awst 12, mewn ysbyty Brodor o Faesteg, Deheudir Cymru, ydoedd ac yn bur hysbys ddau tu'r Werydd. Ym: fudodd i Utica yn 1H64, a bu yno tua deng mlynedd arhugain. Oddiyno aeth i (Thicago, yn athro cerddorol ac yn godwr y gan yn egIwys Seisnig y (.'ymro enwog, Dr. Jenkin Lloyd Jones. Ysgrifennodd eiriau i lawer o gerddoriaeth hwn ac arall beimiadai yn Eisteddfodau mwyaf y Gorllewin a deuai ar ggawt ddarlithio a chanu i'r Hen Wlad ambell dro. -<>- Fel hyn y canodd Job i'r newid ar yr amser Ow sioc gorfodi'r clotiau—heddyw oil I ddweyd anwireddau lor, a wyt ti'n caniatau I gelwydd ddala golau ? Y mate unig f ab y Pan h. Phillip Jones, Llan deilo, wedi cael ei glwyfo'n dost yn Ffrainc,  Dyna briodas ddiddorol oedd yn addoldy M.C. y Trinity, Abertawe, y dydd o'r blaen, sef priodas Mr. Sam Jenkins, y Welsh Sankey," fel y'i gelwid byth ar ol Diwygiad 1904-5, & Nurse M. J. Jones, merch y Parch. David Jones, Creunant. Brodor o Lanelli ydyw Mr. Jenkins, a chanwr o'r mwynaf, a chan o sirioldeb dros ei wyneb hyd yn oed pan fo'i enau'n berffaith ddistaw. Ysgrifennydd Grosvenor Hut y Y.M.C.A., Llundain, ydyw ar hyn o bryd, ac yn un o ysbytai'r Brif. dinae yr oedd y Gymraes fwyn a gafodd i'w fynwes. Dyma rai o fechgyn y Rhyl sydd wedi eu lladd yn y rhyfel: Privates Wm. Wright, 41 Abbey Street; Peter Williams, 30 Yale Road, yn 31ain oed, ac a edy weddw a dau • blant; David Trehearn, mab Mr. W. T. Treheam, Princes Street. f Y Parchn. J. H. Williams, Porthmadog, a W. M. Jones, Llansantffraid, oedd yn cadw cyfarfod pregethu eglwys Beula, Caernarfon, yr wythnoe ddiweddaf, sef corlan Anthropos, golygydd Trysorfa'r Plant. Yr oedd Lieut. Jack—a gollodd ei fywyd ddydd Gwener diweddaf wrth esgyn mewn aeroplan-yn unig fab Mr. a Mrs. Jack, Plae, Maenan, ger Llanrwst. Nid oedd ond un ar hugain oed.  Y mae Lieut. (,b apman--proffeswr Athron- iaeth ym Mhrifysgol Bangor—yn gwella'n foddhaol o'r ddamwain a'i cyfarfu ar ei motor- cycle ddydd Sadwrn diweddaf. -0- Yn Llanrwat, ddydd Sadwrn diweddaf, anfonwyd Annie Leiser—Cymraes sydd a'i I gwr Germanaidd dan do caethiwed—i fis o garchar am godi helynt yn y tloty. Ac yno 'I y mae hi a'i phlant er pan chwalwyd eu haelwyd.
Advertising
SEND Stamped envelope for Advice to Mie. G. Stewart, Herbalist and Lady- Specialist. Address, 9 Guinea Street, Bristol, Bootle Auction Rooms, 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE, W. H. Butterfield & Co. holda Weekly Sale at their Rooms every Friday Ev»ning, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kind bought for prompt eash. Telephone 1299 Bootle. Eisteddfod Genedlaethol ——— 1917 i'w chynnal yn BIRKENHEAD. Rhestry Testynau YN AWR YN BAROD. l'w eael gan y Llyfrwerthwyr nen oddiwrth y Cyhoeddwyr. Pris 6ch. Drwy'r Post 7ic. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, l Swyddfalr 66 Brython,"