Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Pythefnos yn Llandrindod.

I Ein G,&.Sradi ym Mancsinion.

! Basgodaid olp Wiad.

News
Cite
Share

Basgodaid olp Wiad. 0 LANNAU Y NFJDD.—Teimlir yn chwith gan lawer yny cylchoedd hyn fod y Parch. W. E. Daniels, B.A., wedi penderfynu gadael y Glannan am lan yr Afon Wysg. Derbyniodd alwad a brofodd yn ddigon effeithiol iddo deimlo ar ei galon i fwrw ei goelbren ymhlith y Saeson. Gwahoddwyd ef i weinidogaothu praidd Duw yn eglwys Em- anuel, y Maendy, Casnewydd, Mynwy. Daeth i'r dref wedi manteisio ar oreu Colegau Bala-Bangor a Cheshunt, yn ogystal a phrif- ysgol Caergrawnt, lie y graddiodd gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth. Brodor o Benboyr, Sir Gaerfyrddin, ydyw Mr. Daniel, a gedy y dref gyda dymuniadau da pawb am ei lwyddiant yn ei faes newydd.—■—Cydvm- deimlir yn fawr ar hyd y Glannau hyn a'r Parch. B. T. Jones, gweinidog parchus eglwys M.C. Bethlehem Green, Castell Nedd. Ym- restrodd dau o'i feibion yn^y Fyddin,ond y mae y naill yn glwyfedig ac yn gorwedd mewn ys- byty yn Dundee, a'r llall yn eisiau," fel na wyr y rhieni trallodedig pa un ai byw ai marw efe. Ceisiodd Mr. Jones fynd drwy'r gwas- anaeth yn y capel bore Sul diweddaf, ond cymaint oedd pwysau ei ofid fel y llethwyd ef yn llwyr gan ei deimladau, n,c y gorfu iddo roddi i fyny. Bydd yn gysur iddo ef a'i briod ddeall fod gweddto taer drostynt yn y cylch- oedd yma y dyddiau hyn.——Gerlfcaw'r glen- nydd yma ceir ysbyty lie y mae bagad o feddygon a mamaethod yn gweini'n dyner ac ewyllysgar nos a dydd ar gannoedd ohon- ynt. Yn ystod ein hymweliad sefydliad deuthom ar draws milwr ieuanc o Sais o Lerpwl, oedd yma'r orweiddiog. Mae ei fam yn weddw ac wedi claddu ei phriod yn ystod absenoldeb ei hunig fab ar faes y frwydr a phan ofynasom iddo a oedd wedi gweled ei fam oddiar ei ddychweliad o faes y gwaed, atebodd gyda dagrau yn llenwi ei lygaid nad ydoedd am ei gweled hyd nes y byddai dipyn yn well, rhag rhwygo ei theimladau. Da gonnym ei fod lawer yn well erbyn hyn, ac mewn cartref adgyfnerthiol ym Maglan, rhwng Rhyd y Brython ac Aberafon. Cynhelir gwasanaeth gan weinidogion y cylch yn eu tro bob nos Saboth, a gwerthfawrogir y gwas- anaeth yn fawr gan y clwyfedigion. Gwel- som gipolwg ar Miss Eliza Evans y dydd o'r blaen yng Nghastell Nedd. Merch hynaf yr Rybarch Ddr. Owen Evans yw hi, ac ni allwn anghofio ei hymweliad cyntaf a'n tref ,pan yn annerch y cyfarfod cenhadol a gynhel. id ynglvn ag Undeb yr Annibynwyr Cymreig rai blynyddoedd yn ol.——Mae ym mryd pobl genedlgarol y dref hon i alw cyfarfod cyhoedd- us ar fyrder i ystyried y priodoldeb o wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gastellnedd yn 1918. Gobeithio y llwyddir ei chael ar lawer cyfrif, ond yn bennaf er mwyn ennyn mwy o sêl a brwdfrydedd at Gymru a'r Gymraeg mewn cylch sydd yn prysur ymgolli yn y Saesneg. 0 bob man yn y De nid oes lie mwy cyfleus na chanolog i gynnal yr Eistedd- fod na hwn.Bu Elfed yn efengylu'n felys yng nghyfarfodydd arbennig Soar Sul a nos Lun olaf yn Awst.-Berityn. O'R HEN SIR, SEF SIR FON. Collwyd wyneb a llais a gwasanaeth y gwr da, y Parch. Maelor Hughes, Llangefni, a fu'n gymaint addurn i'r dreflan, a pharoted ei gymwynas am deirblwydd ei drigias vno. Efe'n un o oleuadau'r Wesloaid, ac yn mudo i godi ei babell yn Abergele. A'r Parch. L. Edwards i'w ddilyn. He yd cyll cykhdaith AberfTraw a Maelog wasanaeth a sirioldeb Mr. Roberts efe'n wr byw, a byw iawn er gwaethaf ei nychtod ac ar ei ol bydd llai o heulwen ym mro Rhosneigr. Efe am y teir- blwydd nesaf yn bugeilio yn Hen Golwyn.- Ni cheid ym Mon neb cadamach a mwy bren- hinol ei osgedd na Mr. Richard Hughes, Tre'r gof uchaf, Cemaes, a roed dan y briddell yng ngwydd torf fawr y dydd o'r blaen. Buan y'i gostyngwyd. Efe'n amaethwr mawr, ac wedi bod mewn amryw leoedd yn amaethu. Ystyrrid of yn un o'r beirdd naturiolaf, ac a adweinid fel Rhisiart y Groes. Ac ni cheir can ddoniolach na'i eiddo ar Golygfa o ben mynydd y Wylfa," a welir yng nghyfrol hynafiaethol Huwco Men. Weslead mawr, a swcwr i'r achos. Ynddo collwyd un o feibion y cewri. Saboth i'w gadw mewn eof cysegredig oedd y Saboth y bu'r Parch. D. R.Owen, CefnMawr, gweinidog hyawdl Seion yno, yn bedyddio rhai ieuainc yn y mor ym Mhontripont, yng ngwydd torf anferth ei maint a golygfa darawiadol a thoddedig oedd gweled un gwr ieuanc analluog yn cael ei helpu i'r dwr arlwybr ufudd-dod i'w Geidwad gan ddau, ac un arall yn dal ei fagl. -Yng nghwrdd ooffa arwyr y Rhyfel ym Mhenuel (B.), Llangefni, dywedodd y Parch. Smyrna Jones (A.), fod dwy ffordd i ddiben- nu'r Armagedon hon, un trwy i bob gwerinwr o fewn yr oed milwrol omedd ymuno, a'r ffordd arall trwy wneud i ffwrdd â phob teym coronog. Y mae brenin Lloegr yn ddyn caredig iawn," ebai. Ydyw, ond dylid cofio ei fod o'r un stoc a'r Caisar." A dyna edrych yr oedd llawer wyneb, a synnu yr oedd llawer llygad. Beth bynnag am ei opiniwn, edmygwn onestrvlydd Mr. Jones, a'i lewder yn rhoi datgamad o'i gred ar adeg y myn pawb fod mor debyg i'w gilydd. Bu 1 reithior y pi wyf chwyrnu dipyn yn ei bregeth y Saboth. Cwrdd arbennig fu yn Libanus (M.C.), Llanfechell, i sefydlu'r Parch. Theophilus Lewis, gynt o Eglwys y Gwynfryn. Yr yswain Edward Jones o Benrhos yn y gadair. Caed gair gan amryw weinidogion, yn eu mysg gan y cyn-weinidog, y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Birken. head a'r Parchn. W. J. Williams, Llanfair P.G.; W. P. Owen, Garreglefn O. G. Griffith, Dolwyddelen W. P. Thomas (B.), Cemaes a Llewelyn Jennan (A.), etc. A'r cwbl yn rhoi gair uchel iddo, ac yn barod i ddweyd 0 ardderchocaf Theophilus." Bu cyng- erdd uchelradd yng Nghemaes y nos o'r blaen yn y Village Rall, er budd y Groes Goch. Amryw yn canw, ac yn eu mysg Mrs. Wynn Davies y Rhos caed elw o ddeuddeg punt. •—Llygad Agored. CYMRODORION COLWYN BAY.- Dyma gopi o raglen gaeaf y Gymdeithas hon i law. Dyma'i phobl :—Llywydd, Syr J. Herbert Boberts, Bar., A.S. Is-lywyddion, y Pafch. T. Llechid Jones, David Lewis, Ysw., Y.H., Simon Williams, Ysw., D. O. Williams, Yaw., T. R. Davies, Ysw., T. R. Lewis, Ysw. Pwyllgor Gweifchiol Cadeirydd, y Parch. W. E. Jones (Fenllyn) Is-Gadeirydd, W. O. Jones, Ysw. Trysorydd, Simon Williams, Ysw.; Ysgrifennydd, Mr. J. H. Roberts, B.A. Mrs. J. R. Jones, Mrs. Simon Williams, Miss Ceridwen Gruffydd, Miss M. Williams, y Parch. Ezra Jones, y Parch. Wm. Williams, Mri. J. T. Davies, Morris Ellis, John Jone, (Fern Road), Moses E. Morris, T. R. Roberts, (Asaph), Edward Williams. Cofrestrydd Mr. J. R. Jones. A dyma'r darlithiau :— Morgan John Rhys, y Parch. T. Shankland, Bangor Olion Bywyd Ooedwigawl y Brython- iaid, y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Gwilym Hiraetlwg, Mrs. Simon Williams; Pobl y Ty Newydd, y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon leuan Glan Geirionydd, Mr. T. R. Roberts (Ascsph) 1rem ar Fywyd Crefyddol a Chymdeithasol Cymru yn y 18fed ganrif, y Parch. Rhys Jones, Llangollen Arabedd Awen Hiraethog, y Parch. Wm. Williams Anthropos (testun i'w gyhoeddi) Morgan Llwyd o Wynedd, Mr. J. H. Roberts, B.A. MR. T. W. JONES, Y.H., Y PEN. RRY N.- Yn y BRYTHON diweddaf gwelsom nodiad ar farwolaeth y gwr boneddigaidd uchod. BRCdor o Gyffylliog ydoedd. Daeth i'r Penrhyn lawer o flynyddoedd yn ol i fas. nachu, a gwnaeth faanach helaeth ohoni hyd y dirwasgiad ar y fasnach lechi a phopeth arall. Heblaw ei fod yn siopwr siriol, wyneb-agored, yr oedd yn feddyg da i ddyn ac anifail, a rhoddid pwys ar ei gynghorion. Yr oedd Manchester House yn gartref i gerddorion bob amser. Yno y gwelsom David Jenkins y- tro cyntaf ac o law Mr. Jones y derbyniodd ef yr englyn Saesneg i'r Mul, a ymddangosodd yn Y Cerddor, dan olygiad Mr. Jenkins :— So well he'll sing a solo,—in the field, With a full crescendo Rolling, in ending, you know, A tender Rallentando. Byddai'n hoff iawn o redeg ambell fore i weithty Huw Williams i gael ymgom a Dewi Hafesp a'r ychydig frawdoliaeth a heliai yno yn eu mysg Mr. Morgan y person,-critig Dewi ar ambell air fel celain. Yr oedd Dewi wedi gwneud dwy linell fel hyn :— Ow caled dodi celain Y wyryf i le mor fain. Heblaw fod y Ilinell olaf yn gloff, ni fynnai Mr. Morgan y gair celain am weddillion merch ieuanc ac er i Dewi ddadleu fod R. ap Gwilym yn ei ddefnyddio ar ol ei eneth fach ni ysgogai'r hen gritig ehwaethus. Yr oedd Mr. Jones yn Rhyddfrydwr o'r hen stamp a thebygol mai drwyddo ef y cafwyd Mr. Gee, Dinbych, i'r Penrhyn gynt, pan gaed y ddwyblaid ddig yn un." Meddyliodd plaid Morgan Lloyd fod Mr. Gee wedi dod yno i bleidio Robertson, a bwriadasent derfysgu'r cwrdd, ond cariodd yr areithiwr mawr bawb a phopeth o'i flaen, a chollodd y pleidiau olwg ar eu duwiau,—Mr. Gee oedd pwnc y siarad drannoeth. Yr oedd T.W. yn ddisgybl neu yn cyd.efrydu a'r enwog J. D. Jones o Ruthin, am yr hwn y dygai feddwl uchel. Melys fo htan fy hen gyfaill annwyl. Rhodd encore i ddoniau cu—yr awdur Efrydodd heb ballu Rhuthin ei fawr Athen fu,- Nawdd ei gynnydd a'i ganu. Coleddai'r cloiau addien,—pytiau da Up-to-date yr Awen Dan ei olwg di-niwlen Ni feiddiai llwch faeddu llên. GWILYM DEUDRAETH I

Coleg y Gogledd, Bangor I

Advertising