Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BARA BRITH I

Advertising

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa I [GAN YR HUTYN.] HEN DRO.-Mae stori o bobtu'r Clawdd yma fod milwr yr wythnos o'r blaen wedi dychwelyd yn annisgwyliadwy o faes y gwaed i'w gartref, ac er ei fawr syndod cafodd fod ei wraig wedi ail briodi. Dywedodd ei wraig wrtho iddi gael gair yn gyntaf ei fod ar go 11," ac yn ddiweddarach ei fod wedi ei fa d felly teimlodd ei hun yn rhyd^, canys hyd angau y cymrodd ef. O'r goreu, meddai'r gwr cyntaf, A wyt ti yn hapus gyda'r ail ? Pan ddeallodd oddiwrthi hi nad oedd hi yn anhapus, ffarweliodd yn gyn- nes a thyner a hi a'i gartref, ac fe aeth allan— ac ni wehryd ef yno mwyach. 0 dro garw ac 0 ddyrnod drom Pwy ond milwr dur- fron a fedrai ddal ? Mae hwn yn haeddu Croes Buddug ? Y FICER YN OANU'R GLOCH.— Cychwynnodd Ficer newydd y Groesffordd (Gresjord) ar ei waith yn ei gorlan newydd nos Wener ddiweddaf, ac amlygodd hynny trwy ganu cloch yr eglwys Sylwer mai yn y nos y dechreuodd y ficer ar ei waith, ac yr oedd yn canu'r gloch nid i'r rhai oedd oddi- allan ddo d i mewn, ond i'r r' ai oedd oddimewn i'w glywed. Rhyfedd iawn. Er iddo gych- wyn yn y nos. gobeithio y tyr hi yn ddydd amo'nfuan. Efelychu ei Feistr mawr y mae mi gredaf, oblegid yn y nos y cychwynnodd yntau. Y nos y fu a'r bore a fu," etc. Bydded bore yn hanes ficeriaeth y Groes- ffordd heb yr un cwmwl arno byth. Ond dalied i ganu'r gloch na fydded i arall wneud o hyn allan yn ei le. Dylasai pob gwas fod yn medra canu ei gloch ei hun. Myn- nwch wnaud i eraill glywed. Cenwch nes gwneud i'r rhai sydd allan ddod i mewn. Hwyrach nad yw'r rhaisyddmewni ddim am eu cael atynt, ond eich busnes chwi yw eu cael i mewn. Daliwch i ganu'r gloch nes delont. Dyma fandate yrHutynichwi. Ni ddywedodd yr Archddiagonhyn wrthych, ond gresyn ei adael allan. DI STEW I ARWElNYDD Y CAN.- Distawodd yr henwr Edwart Jones, o'r Ddol, Rhostyllen, yn yr angau yr wythnos ddi- weddaf, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono yr wythnos hon. Bu'n flaenor ffydd- Ion ac arweinydd y gan yn y Cysegr yn Rhos- tyllen am tua deugain mlynedd, agwnaeth ei oreu yn ddidwrw a didal trwy'r holl amser. Ni fu ei ffyddlonach erioed. Teimlir colled mawr areiol. Yroadd parch cyffredinoliddo yn y fro, a dywedwyd pethau tyner dros ben amdano gan ei fugailhoff,—sef y 'gethwrpobl- ogaidd a hwyhog Thomas Jones. Gellir dweyd am Edward Jones wedi marw yn canu eto." CAST I O'I GYSTUDD.-Felly y gwna Mr. Pywel, Gwrecsam. Daliwyd ef eto yn ddisyf yd gan ei hen aeth, ond nid hir y bu cyn ,castio ei gystudd, a llawenydd i bawb yw ei weled o amgylch eto yn edrych mor braff a diderc. Gwr sydd yn byw llawer iawn, ac i bwrpas, bob dydd, yw Mr. Pywel, ac ol ei law ar bob symudiad da o bwys ym mhobman. Tirf y byddo ac yn hir y bo. %P0LLVR FRWYDR GARTR.Ef. MRe ymddygiad y Llywodraeth at rai o'r gomedd- wyr cydwyhodol yn warth i wareiddiad heb s6n arc Gristionogaeth. Yr ydys drwy hyn yn gwneud ein goreu i golli'r frwydr gartref pan y mae'r bechgyn dewr yn y glaiffos yn aberthu eu bywydau trosom er ei hennill. Yr ydyrn wedi colli'r frwydr eisoes mewn ystyr jocsol trwy ein hymddygiad gwallgof a chreulon tuag at y rhai hynny-sydd yn credu yn gydwybodol yn walianol. Ein bychander ni yw hyn, ac fe'i cyfrifir ef yn bechod i'n herbyn. Dywedir fod amryw o Gymry, a rhai ohonynt yn bregethwyr,dan benyd-wasanaeth mewn carcharau ar hyn o bryd, ac awl un olionyntofro'rC]awdd. Maegwaeedhydyn oed ein milwyr ar y maes yn berwi yn erbyn y fath ymddygiad tuag atynt. Bydd raid cael brwydrfawr eto yn erbyn hyn, i ryddhau cyd- wybod oddiwrt-h hualau mor annynol. Paham y rhaid i ni buteinio'nhachosion cywir fel hyn yn wastadol ? Rhaid fod eglwys y Duw byw mewn trymgwsg 1 ganiatau peth o'r fath. Ymddeffrown AETH DDOFN W.J.-Un o annwyl- ddynion y dref ydyw Cownsilor W. J. Will- iams, y Sentral Stors ae y mae calon yr ardal yn llifo mewn cydymdeimlad pur agef yn ei fawr dristweh, yr hwn sydd wedi ei oddiweddyd mor ddisyfyd. Syrthiodd ei annwyl fab, y Lifftenant Arthur Owen, yn ei ymgyrch dros y gwir ar ran ei wlad. Ni bu bachgen cleniach erioed na thad caredicach, ac y mae'r gond yn chwerw o'r cyfrif. Cyd- efrydydd ag Arthur Owen a fa yn gweini arno yn ei ingoedd olaf, ac a ysgrifennodd y llythyr tyneraf i'r tad druan. Sythiodd fel dowrddyn, a oheir man fechan ei fedd tu cefn i'r rhengoedd yn ysbrydiaeth i'w gyd- fihvyr sydd eto yn aros i wneud eu goreu tros eu gwlad. Tawel hiln i ti, fab hynaws, ac ymdaweled dy galon, dad trist, a'th deulu briw, yn yr Arglwydd dy Dduw. Y CYNGHORAWN YMGECRU. —Mae Cyngor Plwyf Bryn Baw wedi codi'i wrychyn tuag at Gyngor y District. Mae hi'n mynd yn dipyn o helynt. Rawllais ac nid hawl law sydd gan y Cyngor Plwyf. Gan y District y mae'r f6t ar benodi cynghorwr newydd. Camsynied oedd gofyn i'r Cyngor Plwyf am ei lais. Onibai am hyn ni byddai ymwylltio. Protestia y Cyngor Plwyf, ond mwy na hyn ni all. Anffortunus yw i ddim gyfodi rhwng y Cynghorau a'i gwna'n anodd iddynt gyd- weithio. Cynghorau i gydweithio ydynt, ac nid i withweithio. Mae gwr tawel, pwyllog, doeth, a heddychol, wrth y llyw ar y Cyngor Plwyf, ac fe leddfa hynny bethau yn rhy- feddol. Mawr yw dylanwad cadeirydd da. YN FYW ER DWEYD El LADD.— Llawenydd mawr y sydd oherwydd deall fod Lifftenant Lawson, Brymbo, yn fyw. Daeth gair o'r maes ei fod wedi ei ladd, ond camfam oedd hynny, trwy drugaredd. Mae'r Lifften- ant yn ysbyty Manceinion dan wellhad. Diddan yw tone y teulu. GWEINI DOG OFFA" AR Y CLAWDD.—Bu awdur medras y nofel hys- bys, Gweinidog Offa, sef y Parch. H. Piers Roberts, Biwmaris, ar y Clawdd y Sul o'r blaen yn rhoi tro am ei hen gorlan ac yn mynegi iddynt Nefol fraint Calf aria fryn." Da gan y defaid oedd gweld a chlywed eu hen fujgail unwaith eto. Nid yw wedi celli dim o'i ddawn ar lan y m6r. Disgwylir iddo osod ei bin eto ar bapur, gan roddi inni lyfryn arall o fath y llall s da odiaeth oedd h w vv. MALUmO'R CLAWDD. — Disgynnodd cenllif 0 shrapnel a shot o fagnelau'r gelyn ar y Clawdd yma yr wythnos ddiweddaf, Llan- wyd tai lawer & thristweh du, a galar. Mae'r gelyn fel ers tro yn gwneud am y Clawdd. Mae'r ardaloedd hyn mor anrheithiedig bron a Belgium waedfriw. Mae yn half mast ar ysbrydoedd llaweroedd, ond nid ydym yn digalonni. "Amddiffynfa i ni yw Duw Jacob." i m" ROYAL WELSH I GrD."Byrdwn can yw'r uchod a plywais ei datgan yn sweet odiaeth gan denor dan gamp o'r Traws. Dardanelles, mi dybiaf, y gelwir y gan, ac y mae mynd ami o't chanu'n iawn fel y medr y gw r nchod. Nis gallwn feddwl am ddim arall ond y geiriau Royal Welsh i gyd wrth ganfod yr holl anrhydedd sydd wedi disgyn i ran y R.W.F. Mae'r Groes a'r Fedal Filwrol wedi disgyn i ran ami un ohonynt. Rhoer iddynt dair hwchw uchel—Hip, hip, hwrê m PREGETHU MEWN KHA KL.Bf.,ch gyn Ilwydwisg dan faner eu gwlad oedd ym mhulpudau'r Methodistiaid yng Nghoed Poeth y Sul diweddat. Gorffwysant ar hyn o bryd yng ngwersyll Croesoswallt, ond caw- sant ollyngdod am y Sul i bregethu'r Cymod yng Nghoed Poeth. Pregethodd y naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg. Beth a ddy- wedasai'r Hen Fethodistiaid am hyn ? Y OAr; CYNT.—Y mae llawer o sen am gau cynt wedi bod yn ddiweddar ym mhrifdre y brag, sef tref Gwraig Sam, ond nid oes rhyw lawer wedi dod o hynny. Yr ennill mwyaf sydd ar nos Sadwrn, pryd y byddis yn cau am hanner awr wedi naw. Bydd hyn yn gaffael- iadmawr i baratoi argyfer y Saboth. A chof. iwell chwi, fechgyn y cownters, fe'ch disgwylir yn awr yn Nh £ 'r Arglwydd ar fore Sul, a bendith amoch POBL Y DWR.—Lie rhyfedd yw Bryn Baw. Mae yno waith glo a gwaith dur; gwaith tan a gwaith dwr. Eto ni fu yr un lie erioed a chymaint o angen y ddau olaf arno, o ran pryd a gwedd. Cyfarfu pobl y dwr yn nhy'r ddiod y dydd o'r blaen. Eisiau troi'r ddiod yn ddwr y sydd, ac nid y dwr yn ddiod, Profodd y pwyllgor eu bod yn talu i yfed d* r, yr oedd yr ennill am y flwyddyn tros fil o bunnau. Cofier mai yfed dwr sydd yn cyfoethogi, ac yfed diod gref yn tlodi.

IFfetan y Gol.I

Advertising

Advertising