Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BARA BRITH I

News
Cite
Share

BARA BRITH I Bob yn Dafell. I Gskmak, o'r enw Saphir Lehmann, oedd un o'r teilwriaid a weithiai ar yr un bwrdd a Daniel Owen yn yr Wyddgrug a phan aeth yr Ellmyn cnodiog ati i ganu can Gemianaidd, ac y crygodd o ddiffyg nwen a llais, dyma'r eoglyn Saesneg a wnaeth awdur Rhys Lewis iddo ;—■ Yeur muse is"n<?t amusing,—Saphir, Can't suffer such singing ;| The next song you try to sing We trust will be more interesting. A dyma fel y disgrifia'r Llyfrbryf (Isaac Foulkes) deiliwr arall oedd ar fwrdd gweithty Daniel Owen i- Hwyrach mai'r mwyaf ffrwt a diddan ar y bwrdd oedd ET.LIS WILLIAMS. Er wedi ei eni, druan, yn anafus, ei ddau droed yn glwpa, efe oadd y llonnaf o'rholl frawdoliaeth ond pan tan y felan,' chwedl yntau. Gwyddai ei gydweithwyr yn dda mai'r dull goreu i'w ysqwyd o'i drymder fyddai ei ffoli hefo rhyw Iyiw digrif neu hanes ambell dro trwstan, nes y chwarddai ei bruddglwyf yn lan i ffwrdd. Methodist ydoedd, ac eisteddai yn sêt ganu y Capel Mawr, gan ganu digon o fas gyda'i lais cryf i'rhollgynulleidfa. Nid oedd yr un wobr am adrodd yn holl gyfarfodydd cystadleuol y dref nac am filltiroedd o gwmpas yn ddiogel os rhoddai Ellis ei fryd ar ei hennill. Ni chur- wyd mohono erioed ar adrodd ac araith fyr- fyfyr. Yr wyf yn cofio galw un tro gyda Daniel Owen, ac ebe fe, Wyddoch chwi pwy oedden nhw'n gladdu y diwmod a'r diwmod ? Ellis Williams. 'Rydech chi 'n coflo Elis ? Un digri a diddig tros ben oedd o. 'Rydw i'n cofio un tro smala iawn fu rhyngo fo a finne, pan oedden ni'n dau yn gweithio gydag Angel Jones es talwm. Bore ddydd Llun oedd hi, a roeddwn i'r cynta i'r siop er mwyn gorften rhyw ddilledyn neu'igilydd, a'r oynta yno wodyn oedd Elis, tan y felan yn drwm, fel yr oedd yn hawdd gweled. Syt rwyt ti heddyw, Daniel ?' gofynnai, tan dynnu ochenaid hir. Symol,' meddwn innau, sut yr wytjiti ?' 'Ddim hanner iawn; out of sjrti altogether, wyddost.' 1 Wel,' meddwn wrtho, tan edrych yn sobor, taet ti yn mynd yn sal, wyddost, mae gen ti ddau glwb iawn i fynd amyn nhw.' Am eiliad, edrychai'r gwr prudd mewn petruster;) ond ei natur dda a orfu a'r eiliad nesaf yr oedd yn ymdreiglo hyd y bwrdd o'r naill ffit o chwerthin i'r llall, a'r felan wedi 11 wye ddiflannu.' Eto, am Huw y tramp Ond er mor gastiog oedd Huw, yr oedd rhai ar fwrdd Angel Jones a allent edrych tros ei ysgwydd ynt au. Un diwrnod, yr oedd arno eisiau clem ar ei esgid, a gofynnodd i'w gydweithwyr os oedd cobler da a rhesymol yn agos. Gwelodd foulkes ei gyfle mewn munud, ac ebe fe yn bur ddiniwed, Evan Don-yn ymyl, crydd rhesymoliawnydilmr. Don.' Llysenw ar hen fanhgen digrif o'r enw Evan Jones oedd Don, ac ai yn gynddeiriog'o'i gof wrth glywed yr enw. Curodd Huw y drws, a gofynnodd os dyna d £ Mr. Don ? Ii\' le,' ebe Ifan, yn gwta, he wedyn.? Rowch chi glem ar yr esgid yma, Mr. Dori ? Mi ro glem ar dy geg di yn gynta,' ebe'r cobleryn brochus, a chyda'r gair anelodd ddau neu dri o breniau traed at y truan dychrynedig, yrhwn a ddiangodd am ei fywyd, ac a gyrhaeddodd y deilwrfa cyn wyoned a'r galchen, a'i wynt yn ei ddwm, gan ddweyd ei helynt a'u sicrhau y rhaid fod Mr. Don wedijdyrysu. Edrychodd Foulkes a'i gydfradwyr yn rhith-dosturiol arno, ac yr oedd dau neu dri ohonynt yn cofio y byddai Mr. Don ar adegau braidd yn 4 ddiarfch.' Fuasai Huw yn ei fyw yn deall y mater; ac ymhen ychydig, darfu'r job, ac aeth yn mlaen ar y dramp, ac ni wybu byth nad Evan Don oedd gwir enw'r dyn a fu'n ceisio clemio ei benglog." I

Advertising

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

IFfetan y Gol.I

Advertising

Advertising