Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Cymanfa Ganu Aberystwyth.

News
Cite
Share

Cymanfa Ganu Aberystwyth. (GAw 111\. L. J. MOBBRTM, M.A., Ammm- nxyvx. ] BRAINT, biaint, Yw eael cymdeiihaa gyda'r saint, Na welodd neb erioed ei maint: Ni ddaw un haint byth iddynt hwy Y mae'r gymdeithM yma'n gref, Ond yn y nef hi fydd yn fwy. Atgof am Bereiddlais fy Mam. Pah am yr wyf yn dyfynnu'r pennill hwn wrth idanfon gair ani y Gymanfa fythgofiadwy ? Oherwydd mai anorfod yw. Yr hen alaw Braint sydd wedi bod yn fy nghlustiau ac yn glynu wrthyf ddydd a nos fyth er pan genid hi mor fendigedig gan y dyrfa i gyd nes gwneud inni deimlo ein bod wedi dianc 0 swn y boen sydd yn y byd." Y mae gan bawb oedd yn y Gymanfa ryw argraff neill- tuol ohoni, a rywfodd am, efallai, fy mod yn clyvred adlais o lais peraidd fy mam yn canu, yn nhymor mebyd dros ddeugain mlynedd yn ol, am y wledd o tywyd a thragwyddol hedd yr hen alaw dreiddiol hon sydd wedi gadael yr atgoi mwyaf melys i mi. Yn nesaf ati, y d6n sydd wedi glynu wrthyf yw Whitford anfarwol John Ambrose Lloyd, arddunol yn ei symlrwydd perffaith. Nid oeddwn erioed, cyn y Gymanfa, wedi deall dirgelwch y swyn cyfareddol sydd yn y dfin doddadwy hon. Yr oedd rhyw effaith annis- gnfiadwy yn y cord cyntaf ar y geiriau 0 lesu pwy all beidio) Dy ganmol ddydd a nos ? Ond yn y dull y mae'r cyfansoddwr meistrol- gar wedi dyblu y nodyn (y m yn solffa) yn y soprano ac alto-brzn yn groes i Reolau Cynghanedd, welwch chwi !-y mae'r gyfrin- ach. Gwnaeth Dr. David Evans i ni weld gwir ogoniant y d6n syml (nis gellir cyfnewid modyn ynddiheb eihanurddo), a gwneud i'r dorf ganu gyda grym arbennig drwy wneud riiyw fath o nyncopuiion (tor-nodiad) ar ddechreu y llinell gyntaf, y drydedd, a'r burned a'r seithfed. Yr oedd yreffaith yn ysgubol yn yr ail ran o'r d6n ar A phwy all beidio canu Am iachawdwriaeth rad, Ag sydd yn teimlo gronyn 0 rinwedd pur Dy waed ? Amhosibl yw sylwi ar ddatganiad yr holl donau. Y mae datgnniad Llanllyjni, Wydd- grug felys, Diea Irce odi dog, Llangoedmor f awr. eddog, a liu eraill, yn gwthio i'r cof. Bydd gan bawb eu hatgofion eu hunain oherwydd y dylanwadau gwahanol a gynhyrchid gan y tonau amynt. Barn y ddau Ddoctor o I Loegr. Os mai eisiau ysgrif lawn 0 ffeithiau yngtyn A', Gymanfa sydd arnoch, Mr. Gol., ni chewch higennyffi; ac efallai mai i'r fasged yr aiff y sylwadau cyffredin ac egwan hyn. Efallai y caf chwilio bai cyn y diwedd ond gwell yn gyntaf—yn ol dull swyddogion cyfrwys y Llywodraeth pan orfodirhwy i ddweyd rhyw- beth atgas—i ganmol yn gyntaf, a gadael i'r ehwerw (os bydd chwerwder) ddilyn y melys. Yn gyntaf oil, ymha wlad dan haul ond yng Ngwlad y Gan y ceid y fath ganu gan dorf enfawr heb gydgwrdd o'r blaen ? Atebodd Dr. Allen a Dr. Hadow, dau o brif gerddorion y byd. I ni y Cymry nid oedd y cynhulliad ddim ond Cymanfa Ganu (er yn un fwy ei maint na'r cyffredin) y eeid ei bath mewn unrhrw gwr bron o'n gwlad fechan o Fynwy i Gybi M6n. Ond i'r ddau gerddor enwog dyma'r profiad cerddorol mwyaf cofiadwy yn eU bywyd. A chofier fod Dr. Allen (gyda llaw, bu Dr. Allen yn organydd Eglwys Gad- eiriol Llanelwy tua deunaw mlynedd yn ol am dymor byr, a chefais y fralnt o'i weld yn ami dan fy nenbren yn y Rhyl) nid yn unig yn ge»ddor adnabyddue ont yjt orgaavdd Now College, Rhydychen (Coleg Tom Ellis) ac yn arweinydd y Bach Choir ardderchog sydd yn datgan gweithiau John Sebastian Bach yn Llundain. Y mae Dr. Hadow, nid yn unig yn gerddor athrylithgar, ond yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf deniadol ar lenyddiaeth Saesneg (gyda llaw eto, efe yw dilynydd y Cymro Syr Isambard Owen, prifathro prif- ysgol Bryste yn awr-yr oedd yn y Gymanfa —fel prifathro Armstrong College, New- castle-on-Tyne, ac y mae yn aelod--fel cerdd- or, fe gredir—o'r Comisiwn sydd yn ymholi i faterion Prifysgol Cymru). Y mae canmol- iaeth oddiwrth y ddeuddyn hyn yn garunol- iaeth yn wir. I Am yr Arweinydd a'r I Pedwar Cantor. Pleser yw dweyd gair am waith nnveinydd y Gymanfa. Nid oes eisieu gwenhieithio i Dr. David Evans. Gwnaeth ei waith yn chwaethus, yn urddasol ac yn feistrolgar. Ni throseddodd drwy orfodi'r dorf i wrando ar ei lais annwyl ei hun (cof tyner am Emlyn Evans, a ddefnyddiai'r frawddeg bigog) ni wnaeth ystumiau trwsgl; a dangosodd ei chwaeth drwy roddi'r lie mwyaf arbennig i'r tonau goreu. Rhyw unwaith neu ddwy—fel pan ganem yr hen Delyn Aur--daeth atgof hiraethus am wyneb (a Haw) Harry Evans a chofiais am yr ami hwyl yng Ngwyliau Harlech dan fy hen gyfaill 0. O. Roberts, o Ddolgellau, oedd yn y Gyrnanfa. Yr oedd Dr. Evans yn deall ei wa,ith yn drwyadl. Gwelais fod cyfail] i mi (" Llew enwog ac annwyl) wedi crybwyll yn Y Bkython y gellid hepgor arweinydd o gwbl yn y Gyman- fa. Na gwell yw trefn na phen-rhyddid hyd yn oed mewn Cymanfa Ganu. Am y cantorion unigol (yn y solo, y triawd a'r pedwarawd) anodd fyddai onel eu gwell. Canodd y pedwar gyda chydgordiad a chyd- ddcalltwriaeth perffaith. Peth doeth oedd canu'r hen Dtyrnasoedd ymhob un o'r cyfar- fo dydd. Ni wyddwn i h yd yr hwyr pwy o edd tri o'r cantorion unigol. Yng nghyfarfod yr hwyr cefais y fraint (yn hollol ddamweiniol) o eistedd wrth ochr Mrs. Mary Davies (ein Mus.Doc. erbyn hyn, er nad yw'r atodiad hwn yn un math o addurn iddi hi) a hi a ddywed- odd wrthyf mai Miss Morfudd Owen, Mus.Bac., "un o'r s( r mwyaf llachar sydd yn codi yn ffurfafen gerddorol Cymru," oedd y soprano. Deallais mai Mrs. Evans, gwraig yr arwein- ydd, oedd yr alto. Yn ystod y dydd bum yn siarad ddwywaith allan yn y cae a Mr. Egryn Humphreys, ac yn ei longyfarch ar ei benod- iad fel tenor yng nghor eglwys y Temple (eglwys y bargyfreithwyr) yn Llundain. Ni wyddwn hyd wedi hyn mai efe oedd y tenor. Am y bass, maddeuer i mi am ddweyd gair personol eto. Yng nghyfarfod y bore yr oeddwn yn sefyll ymysg y baswyr yn y dorf wrth ochr fy nghyfaill J. H. Davies, Cwrt Mawr-y fi a'i denodd i'r fath gwmni. Pan glywais nodau cyntaf y Bass Solo (pwy nad yw yn ei charu ?) ar Yr hwn a ferehyg ar nef y nefoedd," dywedais Yn enw popeth, ai nid Gwilym Thomas, Ynyshir, yw hwna Ni freuddwydiais fod yr henafgwr-sydd rai blyrtyddoedd dros ddeng mlynedd a thri- ugain y Salmydd—yno ond gwyddwn mai amhosibl fyddai i neb arall ganu'r alflw gyda'r fath eneiniad. Nid oeddwn wedi clywed Mr. Thomas yn canu er Eisteddfod Abertawe yn 1891 (bum mlynedd ar hugain yn ol) pan ganodd yr alaw yng nghytgan Dr. Joseph Parry, Y Pererinion, yn y cor buddugol yn y gystadleuaeth fwyaf a fu erioed rhwng corau meibion Cymru. Ni ddes, i adnabod Mr. Thomas hyd ddydd y Gymanfa. Gwnaeth y cyfeilwyr eu gwaith yn rhagorol. Yr oedd yn bleser gwrando arnynt yn chwarae'r darnau agoriadol. Os penderfynir cael Cy- manfa (a gobeithaf y gwneir; ynglyn ag Eisteddfod Birkenhead, beth feddylier am gael organ yn Ile'r piano neu'r harmonium ? A ddigia pobl Birkerd-iead wrthyf am grybwyll cynnal y Gymanfa yn St. George's Hall, Lerpwl ? Ond mwy addas yn ddiameu fydd ei chynnal ym mhabell yr Eisteddfod. Llawlyfr Aberystwyth Ei ragoriaethau, a'i ambell fefl a brych. Y mae aelodau Pwyllgor y Gymanfa yn teilyngu diolch cynnes pob Cymro am y gwas- anaeth anfesurol y maent wedi ei wneud i ganu'r cysegr yng Nghymru. Am ryw reswm dewiswyd fi ganddynt yn gyd-aelod, ond oherwydd pellter ffordd a rhesymau eraill, methais wneud dim ond danfon ambeU air byr. Llafuriasant yn galed ac yn ddifiino, ac iddynt hwy yn bennaf oil (ac i'r cadeirydd, Mr. Edwin Jones, a'r ysgrifennydd, Mr. T. Lewis Old, yn neilltuol) y mae llwyddiant mawr y Gymanfa i'w briodoli. Y mae'r casgliado'r hymnau n'r tonaii yn rhagorol ar y cyfan. Ond nid yw detholiad y tonau, ac yn neilltuol drefniad rhai o'r hen donau, yn ddifai. Pwnc dreiniog yw hwn, a rhaid ei grybwyll yn ofalus. Yr oedd gan y Pwyllgor eu hanawsterau. Amlwg yw mai drwy eu hawydd i gadw'r fantol rhwng casgliadau'r gwahanol enwadau y dewiswyd rhai trefn- iadau o'r hen donau mwyaf adnabyddus y gellid cael eu gwell mewn casgliadau eraill. (Mewn cromfachau, pam, yn enw popeth, y rhoddir Capel y Ddol J. D. Jones fel o Ryrnnau'r Eglwys ?) Y mae amryw o'r hen donau wedi eu handwyo—gellir enwi llawer un yn y detholiad hwn--drwy gael eu cynghaneddu mewn dull gwreiddiol yn lie y dull syml a naturiol sydd yn gweddu iddynt. Y mae golygwyr y gwahanol Lyfrau Tonau yn rhy ami wedi ceisio evnghaneddu rhyw hen alaw neu don mewn dull gwahano 1 i olygyddion pob casgliad blaenorol. Nid yn unig y mae'r gynghanedd wreiddiol yn ami yn hollol anghydnaws ag ansawdd yr alaw, ond ceir effeithiau erchyll-" confusion worse confounded yn wir-pan genir hen don fel Crugybar neu'r Hen Ddarbi (" asthmatic meddai cerddor enwog wrthyf yn y Gymanfa' pan genid y trefniad jerky ohoni a geir yn y

Advertising