Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

m GOSTEG. I

DYDDIADUR. 1

I C yhoeddwyr y CymodI Y Saboth…

CAPEL M.O. RAKE LANE,I . NEW…

Heddyw'r Bore set bore dydd…

| Ein GonedI ym ManceinionI

Advertising

Ffetan y Gol.:

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Am Mair Clwyd. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYI SVB,—A fydd i un o ddarllen wyr rich" papur clodwiw roddi i mi ar dudalennau'r BKYTHON ychydig a hanes awdures yn dwyn yr enw Mair- Clwyd ? Crcdaf mai un o Ddyffryn Clwyd yw hi yn enedigol. Deuthum ar draws darn o'i gwaith pryd- yddol mewn ben lyfryn. Beth yw ei hanes ? Rhywun. os. byddweh mor garedig.—Ydwvf, yr eiddoch, DARLLENYDD CYSON GweJedigaeth Cymro Ystwyth. .I-t Olygydd Y BRYTHON SYR, -A mi yn rhodio ymhlith cerrig yr Orsedd ar Gastell Aberystwyth tuag un ar ddeg ar gloch bore dydd lau, Awst 17, mi welwn ddalen o bapur yn hofran yn y gwynt. Pigais hi i fyny, ac amlwg mai anerchiad un o'r beirdda fwricdid ei thraddodi oddiar yr Orsedd ydyw. Ni chlywais hi; a gresyn fai ei cholli; felly dyma ANNWYL ARCHDDERWYDD,—Fy mraint fawr 3: ydyw siarad am ennyd fer ar Ddacaryddiaeth y wlad dirion a welwch o'ch cwmpas y bore hyfrvd hwn. I'r gogledd, sylwch ar drumiau cuchiog Gwynedd yn eu gogoniant yn y n wl, ac ar Leyn, sef trwyn tir Eifionydd, yn rhedeg i'r mor. Acw, wele fynyddoedd hardd Meirionydd—cartref y llewod, Tegid a Meirion -ac odditanynt dyma fil bryniau Maldwyn a Chered- igion,—cartref merched prydweddol a dynion hirben. I'r De, wele wyneb hardd Dyfed yn gwenu arnom, a deigryn yn ei lygad wrth yshio ar fwthyn gwag yn Llangranog ac atgof yn ei galon am y Fodrwy Briodasol.' Yn union o'n bIacn, heibio'r ty y ganwyd R. S. Hughes ynddo; ac annedd Ivon a masnachty Pencerdd Ceredigion, wele ddyffryn enwog y Rheidol yn ymagor-man geni'r cerddor leuan Gwyllt a'r athronydd Lewis Edwards a'r ysgolhaig John. Rhys, a man bedd Lewis Moras Mon a Dafydd ap Gwilym a llu o enwogion eraill. Wrth gefn y dref, ar fryn Grogythan, dacw'r Llyfrgell Genedlaethol Gymreig, sef cofgolofn Syr John Williams. Ar ein llaw aswy, dyma Goleg Aberystwyth, un o blant yr Eisteddfod- a'r darlun rhyfedd acw a welwch ar ei dalcen. Eis- tcddwn y dydd o'r blaen gan syllu arno, a gofynnai gwraig i mi Darlun o bwy ydi'r dyn acw ar fur y Coleg ? .Pan ddywedais nas gwyddwn, Un hyll iawn ydi o,' meddai. le, go hyll wir,' ebe finne. Ac meddai drachefn, Mae'n siwr mai pictiwr ydi o naill ai o'r Prifathro neu o'r Registrar.' Ni ddisgyn- nodd gair o'm gwefus yn ateb iddi,—ond meddyliais am y cam a wnai a J.H.D., ac yntau eto yn wr sengl. Credaf yn gywir mai dyma'r Orsedd oreu a welais erioed ar gyfer yr Eisteddfod. Mae pob un o'r cerrig wedi ei hanfon un obob sir yng Nghymru gan gared- igion yr Eisteddfod, a gadewir hwy yn eu He oesau'r ddaear. Yn eu hymyl, dyma flynnon yr hen Gastell, lie y byddai'r Norman yn cael dwr te ac yn golchi ei ddillad, a lie yn awr y ceir diod i'r beirdd. Tucefn i mi, dyma ddarn o fur lie y cyhoeddVyd Eisteddfod 1865, ac ar ben hwn y safai Cranogwen wrth dderbyn ei gwobr am ei chen i'r Fodrwy bu farw bythefnoR yn ol, yn ddibriod, Ond mae'r amser i mi siarad ar ben,-eto llawenhaf fod gorsedd yr hen Eisteddfod annwyl yn fwy gogoneddus heddyw nag erioed, a hynny yngbanol adfeilion muriau Castell a godwyd gan drais i lcthu ysbryd ac iaith ein [hen genedl; heddyw'r bore wele'r Eisteddfod a'r Coleg a'r Llyfrgell Genedlaethol a'r Gymanfa yn arwydd bywyd newydd annherfynol ynom pan nad yw brad Norman a dichell Sais ond breuddwyclion oesau. pelJ. Yr eiddoch yn bur, CYMRO YSTWYTH

Advertising

BEDYDDWYR CYMRU.