Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

m GOSTEG. I

DYDDIADUR. 1

I C yhoeddwyr y CymodI Y Saboth…

CAPEL M.O. RAKE LANE,I . NEW…

Heddyw'r Bore set bore dydd…

News
Cite
Share

Heddyw'r Bore set bore dydd Mercher. RIWMJNIJ'N DOD IIR .-IDwr- I Newydd a yrrodd ias 0 galondid drwy Brydain a'r gwledydd cyfeillgar ydoedd y gair ewyddogol a ddaeth ddydd Llun diweddaf fod Riwmania, ar ol hir bryderu ac ymbwyllo, wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria a Hungari, ac felly wedi bwrw ei hun a'i had- noddau pwysig o du'r Cynghreiriaid. Bydd hyn yn dro mawr ar yr olwyn, ac yn brysuriad ar derfyn y gyflafan hir sydd yn gwaedu Ewrop ers cyd. Ystyr gyntaf a phwysicaf ei phenderfyniad ydyw hyn Fod Rwimania wedi dod i gredu'n bendant bellach mai colli y mae Germani a'i chynorthwywyr; ac mai gweU iddi hithau-er nad oedd raid.iddi o ran dim sydd a wnelo hi'n uniongyrchol S'r cweryl— ydoedd taro gyaa'r enillwyr, a chael rhyddhad a thegwch i filiynau o'i phobl sydd yn gruddfan dan iau caethiwed yn y gwledydd cyfiniól dan lywodraeth yr Awstriad a'r Magyar. Dywed y papurau i gynrychiolydd Germani wylo'n hidl pan hyabysodd Brenin Riwmania ef am ei ddi- ofryd ond bydd raid i Berlin a Germani i gyd wylo dagrau halltach maes o law. Y mae Byddin Riw- mania'n dri chwarter miliwn o rifedi; yn ffres ac awchus i brofi bias rliyfel a thebyg ydyw y bydd cwrs y brwydro yn ystod y tair wythnos neu'r mis nesaf yn argoel o'r dymchwel a'r datod mawr sydd i ddod. Ddiwrnod neu ddau cyn hynny y daethai'r newydd fod yr Eidal wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Germani; a diau fod yna gysylltiad agos a dealledig rhwng y ddau gyhoeddiad, canys y mae yna gryn berthynas gwaed ac iaith rhwng y Cenhedloedd Llad- inaidd hyn Ai gilydd. Diolch am weled y wawr yn dechreu torri, a thipyn o leeni gobaith yn dpd i ysgafnu'r cochni gwaedlyd sydd wedi Uethu yebryd Ewrop ere dwy flynedd. Tybed nad ydyw'r Kaiser a'i Iys, er uched eu hysbryd,yn gweled Cyfiawnder Tragwyddol yn dechreu yagrifennu Mene Tecel ar bared eu balchter ? Rhaid eu bod. A phwy a ciddigeddai wrthynt ?

| Ein GonedI ym ManceinionI

Advertising

Ffetan y Gol.:

Advertising

BEDYDDWYR CYMRU.